Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonau a Moeseg - Dydd Mercher, 19eg Mai, 2021 10.00 am

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd Ms Carol Edwards am nad oedd modd iddi fod yn y cyfarfod.

Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad â Rif Winfield ar ei brofedigaeth yn ddiweddar.

 

 

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Dim.

3.

Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Moeseg a Safonau a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2020 pdf eicon PDF 288 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2020 yn gywir.

 

4.

Materion yn Codi

Cofnodion:

Dim.

5.

Adran 62-63 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 pdf eicon PDF 249 KB

Cofnodion:

          Rhoddwyd ystyriaeth i Adran 62 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 - Dyletswyddau arweinwyr grwpiau gwleidyddol mewn perthynas â safonau ymddygiad. Adroddwyd bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gosod dyletswyddau newydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol a phwyllgorau safonau.

 

          O ran dyletswyddau arweinwyr grwpiau gwleidyddol mewn perthynas â safonau ymddygiad, mae Adran 52A o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn datgan bod yn rhaid i arweinydd grŵp gwleidyddol sy'n cynnwys aelodau o gyngor sir yng Nghymru gymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau'r grŵp; a rhaid iddo gydweithredu â phwyllgor safonau'r cyngor.

 

          Yn adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (swyddogaethau pwyllgorau safonau), mae gan bwyllgor safonau cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru hefyd y swyddogaethau penodol canlynol—

          (a) monitro cydymffurfiaeth arweinwyr grwpiau gwleidyddol ar y cyngor â'u dyletswyddau o dan adran 52A(1),

          (b) cynghori, hyfforddi neu drefnu i hyfforddi arweinwyr grwpiau gwleidyddol ar y cyngor ynghylch materion sy'n ymwneud â'r dyletswyddau hynny.

 

          Mae adran 63 yn gosod y gofynion ar gyfer adroddiad blynyddol y pwyllgor safonau. Yn ogystal â disgrifio sut y cyflawnwyd swyddogaethau'r pwyllgor, mae’n rhaid i'r adroddiad hefyd gynnwys yr hyn a wnaed i gyflawni'r swyddogaethau cyffredinol a phenodol a roddwyd i'r pwyllgor gan adran 54 neu 56. Mae’n rhaid i adroddiad blynyddol gan bwyllgor safonau cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru gynnwys asesiad y pwyllgor o’r graddau y mae arweinwyr grwpiau gwleidyddol ar y cyngor wedi cydymffurfio â'u dyletswyddau o dan adran 52A(1). Gall yr adroddiad blynyddol hefyd gynnwys argymhellion i'r awdurdod ynghylch unrhyw fater y mae gan y pwyllgor swyddogaethau mewn perthynas ag ef.

 

          Nodwyd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi llunio canllaw-reoliadau ar y mater hwn eto ac y byddai angen trafodaeth ar wahân ynglŷn â monitro cydymffurfiaeth.

          Nodwyd hefyd nad oedd "camau rhesymol" wedi'u diffinio.

          Ar hyn o bryd, gwahoddir arweinwyr gwleidyddol Cyngor Sir Ceredigion i'r Pwyllgor Moeseg a Safonau bob blwyddyn i drafod sut mae hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel ymhlith Aelodau Cyngor Sir Ceredigion.

 

          Cytunwyd i nodi’r dyletswyddau newydd ac i’w hadolygu pan ddaw canllawiau pellach i law, gydag argymhelliad i gwrdd ag arweinwyr y grwpiau o leiaf bob blwyddyn.

 

6.

Trafod dulliau o hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau o Gyngor Sir Ceredigion gydag arweinwyr y pleidiau

Cofnodion:

Diolchodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Ellen ap Gwynn (Arweinydd y Cyngor ac Arweinydd Grŵp Plaid Cymru), y Cynghorydd Ceredig Davies (Arweinydd Grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol a’r wrthblaid) a’r Cynghorydd Dafydd Edwards (Arweinydd y Grŵp Annibynnol) am ddod i’r cyfarfod i gyfnewid safbwyntiau ynghylch hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel yng Ngheredigion.

 

Nodwyd bod Aelodau sy'n dychwelyd ac Aelodau newydd yn cael hyfforddiant ac arweiniad ynghylch y cod ymddygiad, yn enwedig mewn perthynas â phwyllgorau lled-ddeddfwriaethol megis cynllunio a thrwyddedu, i sicrhau bod yr aelodau'n deall y gofynion cyfreithiol. Nodwyd hefyd fod Aelodau'n cael eu llywio gan ddisgwyliadau’r pleidiau gwleidyddol, yn cael eu monitro gan y cyhoedd a chan Gyfansoddiad y Cyngor, a bod y cyfarfodydd grŵp rheolaidd yn fforwm pwysig ar gyfer trafod unrhyw broblemau sy’n codi.

 

Cafwyd trafodaeth am fetio enwebeion cyn eu dewis, a'r angen ar i Arweinwyr friffio darpar ymgeiswyr ynglŷn â'r hyn a ddisgwylir ganddynt o ran safonau.  Nodwyd bod y Comisiwn Etholiadol yn darparu canllawiau a bod gwybodaeth ar gael i ddarpar ymgeiswyr.  Nodwyd bod diffyg eglurder ar hyn o bryd o ran sut olwg fydd ar yr arweiniad i aelodau annibynnol, ac mai'r gobaith oedd y byddai canllawiau Llywodraeth Cymru yn egluro hyn.

 

Hefyd roedd y Cadeirydd wedi atgoffa Arweinwyr y grwpiau o'r weithdrefn o ran rhoi gollyngiad, gan fod materion Cod Ymddygiad yn fynych yn ymwneud â hyn. Nododd rôl arweinwyr grwpiau wrth ymwneud â'u haelodau i sicrhau cydymffurfiaeth â'r cod ymddygiad.  Nodwyd nad oedd dim anhawster gyda'r ffurflen gais bresennol.

 

Cytunwyd y byddai canllawiau'n cael eu darparu o ran sut mae arweinwyr grwpiau yn riportio ac yn dangos cydymffurfiaeth â'r gofyniad i gymryd camau rhesymol i hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau'r grŵp. Felly hefyd o ran cydweithredu â Phwyllgor Safonau'r Cyngor.

 

Pwysleisiodd Arweinydd y Cyngor mor bwysig yw gwaith y Pwyllgor o ran hybu safonau ymddygiad a diolchodd i aelodau'r Pwyllgor am eu gwaith.

 

Hysbysodd y Cynghorydd Odwyn Davies fod angen iddo adael y cyfarfod ar y pwynt hwn a chamodd John Weston i lawr i sicrhau cworwm.

 

 

7a

Ystyried ceisiadau am ollyngiadau gan y Cynghorwyr canlynol:- Cyngh Rowland Rees-Evans - Cyngor Sir Ceredigion pdf eicon PDF 341 KB

Cofnodion:

Cafwyd cais am ollyngiad, dyddiedig 27 Mawrth 2021, oddi wrth y Cynghorydd Rowland Rees-Evans am fod gan etholwr gais cynllunio a fydd o bosib yn gorfod mynd gerbron y Pwyllgor Rheoli Datblygu.

 

Yr oedd yn adnabod yr ymgeisydd yn bersonol, ac roedd yr ymgeisydd yn aelod o Glwb Golff Penrhos lle mae’r Cynghorydd Rowland Rees-Evans yn Gyfarwyddwr. Hefyd mae’n adnabod rhieni’r etholwr, sy’n rhedeg garej yn lleol.

 

Dywedodd ni fyddai ar ei ennill o gwbl yn sgil y cais ond y byddai’n dymuno cael y cyfle i gynrychioli’r etholwr gerbron y Pwyllgor Rheoli Datblygu, os bydd y cais yn cyrraedd yno.

 

Roedd y Cynghorydd Rees-Evans yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno’i gais ac atebodd gwestiynau am ei gais.

 

Gofynnwyd i’r Cynghorydd Rees-Evans adael y cyfarfod fideo er mwyn i’r Pwyllgor ystyried ei gais.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Rees-Evans siarad ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn gyfryw fel na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal; (rheoliad 2 (d) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Caniatawyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

 

Ar y pwynt hwn gadawodd John Weston y cyfarfod ac er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth o ran cworwm. Gwirfoddolodd y Cynghorydd Julian Evans i gamu i lawr o’r cyfarfod ac ni chymerodd ragor o ran yn y cyfarfod hyd nes i John Weston ddychwelyd ‒ parhaodd fel sylwedydd yn unig

8.

Cynghorydd Mark Strong - Cyngor Sir Ceredigion pdf eicon PDF 691 KB

Cofnodion:

Cafwyd cais am ollyngiad, dyddiedig 8 Mai 2021, oddi wrth y Cynghorydd Mark Strong. Yr oedd wedi cyflwyno cais i’w alluogi i drafod a phleidleisio ar yr ardal sy’n cael ei hadnabod fel Cae Brynhyfryd a garejys Brynymôr. Dywedodd y Cynghorydd Strong fod ei wraig yn rhentu tir ar gyfer garej yn ardal garejys Brynymôr ond bod Cae Brynhyfryd a garejys Brynymôr wastad wedi cael eu trin ar wahân yn sgil y mynediad atynt a’r tirwedd lleol. Saif y garejys mewn ardal sydd wedi’i chloddio gan adael craig o 10 i 20 o fetrau. Mae darn o dir llawn tyfiant ac eithin rhwng y graig a chae pori Brynhyfryd sy’n golygu nad oes modd cyrraedd at y cae yn hawdd o’r garejys.

 

Roedd y Cynghorydd Strong yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno’i gais ac atebodd gwestiynau am ei gais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Strong fod yr Adran Ystadau wedi dynodi y dylid cyfuno’r ddwy ardal yn un darn o dir o dan gynllun datblygu lleol a hynny i’w ddefnyddio naill ai ar gyfer ynni adnewyddadwy neu ar gyfer tai.

 

Nododd fod Cae Brynhyfryd yn arwain i fynedfa Parc Natur Penglais a’i fod yn aelod gwirfoddol o fwrdd y Parc yn rhinwedd ei swydd fel Cynghorydd ar Gyngor Sir Ceredigion.  Nododd ei fod wedi cyflwyno sylwadau o'r blaen ar ran Parc Natur Penglais a hynny o blaid cynnwys Cae Brynhyfryd fel rhan o’r parc at ddibenion hamdden. Nododd hefyd, pe bai’r cynlluniau yn mynd yn eu blaen, y gallai effeithio ar oddeutu 100 o gartrefi, a mwy o bosib os oes angen mynediad drwy Ffordd Trefor, Ffordd y Bryn ac ardal Penygraig. Roedd y Cynghorydd Mark Strong yn pryderu y gallai gael ei atal rhag siarad neu bleidleisio ar faterion sy’n ymwneud â Chae Brynhyfryd yn sgil y ffaith bod ei wraig yn rhentu un o garejys Brynymor.

 

Gofynnwyd i’r Cynghorydd Strong adael y cyfarfod fideo er mwyn i’r Pwyllgor ystyried ei gais.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Strong siarad a phleidleisio ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn gyfryw fel na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal; hefyd mae’r buddiant yn gyffredin i’r aelod a chyfran fawr o’r cyhoedd (rheoliad 2 (d) ac (e) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Caniatawyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

 

9.

Cynghorydd Mark Strong - Cyngor Tref Aberystwyth pdf eicon PDF 690 KB

Cofnodion:

Cafwyd cais am ollyngiad, dyddiedig 8 Mai 2021, oddi wrth y Cynghorydd Mark Strong. Yr oedd wedi cyflwyno ail gopi o’r cais a gyflwynwyd parthed Cyngor Sir Ceredigion, y tro hwn mewn perthynas â Chyngor Tref Aberystwyth.

 

PENDERFYNWYD rhoi gollyngiad i’r Cynghorydd Strong siarad a phleidleisio ar y sail bod natur buddiant yr aelod yn gyfryw fel na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal; hefyd mae’r buddiant yn gyffredin i’r aelod a chyfran fawr o’r cyhoedd (rheoliad 2 (d) ac (e) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001). Caniatawyd y gollyngiad am gyfnod o 12 mis.

 

10.

Recriwtio Aelodau Annibynnol- diweddariad pdf eicon PDF 105 KB

Cofnodion:

   Rhoddwyd ystyriaeth i’r Adroddiad oedd yn nodi’r diweddaraf am Recriwtio Aelodau Annibynnol. Nodwyd, fel y gwyddai’r Aelodau, fod y Cadeirydd presennol, Mr Hywel Wyn Jones, a Mr Rif Winfield wedi cael eu penodi yn y lle cyntaf ar 27/9/2011 a’u hail-benodi ar 27/9/2017. Daw eu tymor yn y swyddi hyn i ben ar 26/9/2021. Nid yw’r aelodau hyn yn gymwys bellach i gael eu hail-benodi.

 

Ar 10 Rhagfyr 2020 penderfynodd y Cyngor gymeradwyo:

a)    y swydd ddisgrifiad, manyleb y person a’r meini prawf ar gyfer penodi aelodau annibynnol; a b) Aelodaeth y Panel Dethol.

Nodwyd bod y Panel Dethol wedi’i gynnal ar 26 Mawrth 2021 a’r cyfweliadau wedi’u cynnal ar 15 Ebrill 2021. 

Y ddau ymgeisydd llwyddiannus oedd:

·         Caryl Davies;

·         Alan Davies.

Cynigiwyd bod y penodiadau hyn am dymor o chwe blynedd o 27 Medi 2021 ymlaen.

 

CYTUNWYD bod y Pwyllgor Moeseg a Safonau yn argymell fod y Cyngor, ar 17 Mehefin 2021, yn:

(i)    Cymeradwyo penodi’r ddau aelod annibynnol canlynol i’r Pwyllgor Moeseg a Safonau:

·         Caryl Davies;

·         Alan Davies.

o 27 Medi 2021 hyd 26 Medi 2027

 

Dychwelodd John Weston i’r cyfarfod ar y pwynt hwn ac roedd modd i Julian Evans ailymuno hefyd.

 

 

 

11.

Materion y Cod Ymddygiad-Diweddariad ar erthyglau'r wasg pdf eicon PDF 298 KB

Cofnodion:

          Cyflwynodd y Swyddog Monitro y diweddaraf o ran erthyglau yn y wasg, er gwybodaeth.

 

          CYTUNWYD i nodi’r materion a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

12.

Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021 pdf eicon PDF 159 KB

Cofnodion:

          Rhoddwyd ystyriaeth i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021. Nodwyd bod Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021 yn cyflwyno nifer o ddarpariaethau mewn perthynas â’r gwaith cyffredinol o weinyddu a llywodraethu’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig a sefydlwyd o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Daeth y darpariaethau hynny i rym ar 1 Ebrill 2021.

 

          Y bwriad cyffredinol wrth sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig oedd y bydd Cydbwyllgor Corfforedig yn cael ei drin fel rhan o'r 'teulu llywodraeth leol' neu fel aelod ohono ac y bydd i raddau helaeth yn ddarostyngedig i'r un pwerau a dyletswyddau ag awdurdodau lleol, neu bwerau a dyletswyddau tebyg i awdurdodau lleol, yn y ffordd y byddant yn gweithredu ac yn cael eu llywodraethu. Mae'r rheoliadau cyffredinol yn gosod y gofynion a’r fframwaith deddfwriaethol angenrheidiol ar gyfer gweinyddu a llywodraethu Cyd-bwyllgor Corfforedig yn effeithiol.

 

          Mae'r rheoliadau cyffredinol yn ceisio sicrhau, fel rhan o'r defnydd ehangach o fframwaith moesegol llywodraeth leol, bod aelodau, cyfranogwyr cyfetholedig a chyflogeion Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn ddarostyngedig i safonau ymddygiad priodol.

 

          Bydd y darpariaethau yn y rheoliadau cyffredinol hyn yn sicrhau bod cod ymddygiad yr awdurdod perthnasol yn cael ei gymhwyso i aelodau a chyfranogwyr cyfetholedig Cyd-bwyllgor Corfforedig. Hynny yw, bydd cod ymddygiad yr awdurdod perthnasol y daw'r aelod neu'r cyfranogwr cyfetholedig ohono yn gymwys. Mae hyn yn cynnwys ei gwneud yn ofynnol iddynt gofrestru unrhyw fuddiannau personol sydd ganddynt ym musnes y Cyd-bwyllgor Corfforedig yng nghofrestr fuddiant eu hawdurdod perthnasol.

 

          CYTUNWYD i nodi cynnwys perthnasol Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021 parthed safonau ymddygiad.

 

13.

Diweddariad ynghylch materion Panel Dyfarnu Cymru pdf eicon PDF 660 KB

Cofnodion:

Nodwyd y byddai’r Swyddog Monitro yn parhau i ddarparu’r wybodaeth hon i arweinwyr y grwpiau er mwyn iddynt ei dosbarthu i aelodau.

         

          CYTUNWYD i nodi’r canlynol ‒

(i)        Adroddiad dyddiedig 23 Rhagfyr 2020 ar benderfyniad y Tribiwnlys Achos i wahardd y Cynghorydd Kevin O’Neill, sydd ar Gyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful, am gyfnod o saith mis neu, os yw’n gyfnod byrrach, am weddill ei dymor yn y swydd;

(ii)       adroddiad dyddiedig 12 Ionawr 2021 ar benderfyniad y Tribiwnlys Achos i wahardd y Cynghorydd Baguley, cyn-gynghorydd cymuned ar Gyngor Cymuned Sili a Larnog, am 15 mis. Tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd y cynghorydd wedi gwneud hyfforddiant, ac at baragraff 3.2.4 a allai fod yn ddefnyddiol o ran hyfforddiant yn y dyfodol.

14.

Y diweddaraf am fater yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus - Ymgynghoriad ar y Canllawiau diwygiedig ar gyfer y Cod Ymddygiad pdf eicon PDF 835 KB

Cofnodion:

Nodwyd bod Coflyfr 24 wedi'i gyhoeddi ar ôl cyhoeddi’r adroddiadau ar gyfer yr agenda ac y byddai'n cael ei gynnwys yn yr agenda nesaf.  Defnyddir yr adroddiadau at ddibenion hyfforddiant.

 

          CYTUNWYD i nodi'r sefyllfa bresennol mewn perthynas â'r Canllawiau diwygiedig ar gyfer y Cod Ymddygiad, ac ein bod yn disgwyl y Canllawiau terfynol. 

15.

Adroddiad Blynyddol 2020/21 y Pwyllgor Moeseg a Safonau pdf eicon PDF 840 KB

Cofnodion:

          Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am baratoi Adroddiad Blynyddol 2020/21.   

 

          Cytunodd y Pwyllgor i gymeradwyo Adroddiad Blynyddol drafft y Pwyllgor Moeseg a Safonau, 2020/21 er mwyn ei gyflwyno i'r Cyngor ar 17/6/21.

 

16.

Hyfforddiant

Cofnodion:

          Rhoddwyd gwybod y bydd y Cadeirydd yn hyfforddi Aelodau Cyngor Cymuned Llanwenog ar 8 Mehefin 2021. Hefyd darperir hyfforddiant gan y Swyddog Monitro ar 27 Medi 2021 ar gyfer aelodau newydd y Pwyllgor Moeseg a Safonau. Ar ôl etholiadau mis Mai 2022 darperir hyfforddiant hefyd i Aelodau newydd ynghyd â hyfforddiant gloywi ar gyfer yr Aelodau sy'n dychwelyd. 

          Rhoddir ystyriaeth i hyfforddiant o bell yn y dyfodol.

 

          Rhoddodd Hywel Wyn Jones ei gefnogaeth i hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg yn y dyfodol.

 

17.

Blaenraglen Waith Moeseg a Safonau 2021/22 pdf eicon PDF 151 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Flaenraglen Waith y Pwyllgor Moeseg a Safonau 2021/22. Ar ôl trafod, CYTUNWYD ar y canlynol:

1) bod Blaenraglen Waith yn eitem sefydlog ar bob un o agendâu'r Pwyllgor, ac

2) adolygu a diweddaru’r Flaenraglen Waith ddrafft fel ei bod yn cynnwys eitemau safonol, gan ei bod yn ddogfen fyw a ddiweddarir yn ôl y gofyn.

 

18.

Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor pdf eicon PDF 321 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r Adroddiad am benodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd i’r Pwyllgor. CYTUNWYD ar y canlynol:

1)  penodi Caroline White yn Gadeirydd y Pwyllgor a bod y swydd honno’n dod i rym ar 20 Mai 2021 ac yn para am ei chyfnod yn y swydd hyd 30 Gorffennaf 2023;

2)    penodi John Weston yn Is-gadeirydd y Pwyllgor gan gyd-redeg â chyfnod y Cadeirydd yn y swydd, hyd 30 Gorffennaf 2023.

 

Cyflwynir adroddiad i’r Cyngor ar 17 Mehefin i gymeradwyo’r penodiadau hyn.

 

19.

Ystyried unrhyw gais arall am ollyngiad a dderbyniwyd ers cyhoeddi'r agenda

Cofnodion:

None.

20.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

Os nad oes dim mater sylweddol i’w ystyried yn y cyfarfod ar 9 Gorffennaf 2021, cynigir gohirio’r cyfarfod hwnnw.

 

Mynegodd Caroline White, ar ran y Pwyllgor, werthfawrogiad o gyfraniad Hywel Wyn Jones a Rif Winfield i’r Pwyllgor Moeseg a Safonau dros y blynyddoedd.