Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Nia Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorwyr Ceris Jones a Gareth
Lewis am eu hanallu i fynychu’r cyfarfod. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Ni ddatgelwyd
unrhyw fuddiannau. |
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Keith Evans, Cadeirydd y Cyngor, longyfarch: a) Ceri Jones o Lanon ar
ennill Pencampwriaeth Hare and Hound Ieuenctid Cymru 2024; b) Ella Williams o Lanon
ar ennill Pencampwriaeth Pistolau Ysgolion Cymru 2024; c) Clwb Ffermwyr Ifanc Llangwyryfon ar ennill
Gwobr Genedlaethol Ysbryd Cymunedol; ch) Mike Davies, Arweinydd
Gwaith Priffyrdd, Cyngor Sir Ceredigion, ar gael ei ddewis i gynrychioli Cymru
yn y categori Vet 55 yn rasys Traws Gwlad Meistri Prydain ac Iwerddon; a hefyd d) Clybiau Ffermwyr Ifanc
Ceredigion ar ennill Eisteddfod CFfI Cymru. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gwnaeth y
Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor a'r Aelod o’r Cabinet dros
Wasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth,
gyflwyno’r adroddiad i'r Cyngor gan roi braslun o’r opsiynau, y weithdrefn a'r
ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch a ddylid mabwysiadu system
bleidleisio Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau Cyngor Sir
Ceredigion o hyn ymlaen. Nodwyd y canlynol
gan Aelodau’r Cyngor: - Y
byddai’r diwygiad yn y system bleidleisio yn para mewn grym am ddau etholiad yn
olynol; - Yr
effaith ar wardiau gwledig a fyddai'n cwmpasu ardal ddaearyddol fawr o gymharu
â’r wardiau trefol; -
Pryderon y gallai wardiau mwy o faint sydd â 3 - 6 Aelod effeithio ar y cyswllt
lleol rhwng Aelodau a’r trigolion; - Llai o
dra-arglwyddiaethu gan un blaid, a mwy o gonsensws gwleidyddol a chydweithio; - Y
byddai trigolion yn mynd at yr Aelod mwyaf effeithiol a diwyd yn y ward; - Bod
67% o'r rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad o blaid system Pleidlais Sengl
Drosglwyddadwy, a bod 80% o'r bobl iau wedi dangos awydd am newid; - Y
gallai system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy leihau nifer y seddi
diwrthwynebiad; - Y
byddai gan Gyngor Sir Ceredigion system wahanol i weddill Cymru gan fod y
system wedi ei gwrthod gan bob awdurdod arall yng Nghymru, tra bod Aelodau
eraill o'r farn y byddai hyn yn gosod Ceredigion fel awdurdod arloesol; - Y
gost ychwanegol, nad yw’n hysbys, o weithredu system Pleidlais Sengl
Drosglwyddadwy ar adeg pan fo arian yn brin; -
Ansicrwydd ynghylch ffiniau arfaethedig y wardiau ac anfodlonrwydd gan lawer yn
dilyn adolygiad o’r Cynghorau Tref a Chymuned; - Bod
Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy yn ffordd fwy teg a chynrychioliadol sy'n cynnig
dewis rhwng pleidiau ac ymgeiswyr; - Bod
system bresennol y Cyntaf i'r Felin yn golygu bod yr ymgeisydd sydd â mwyafrif
y pleidleisiau yn cael ei ethol, yn hytrach na'r Aelodau a ddaeth yn ail a
thrydydd yn y canlyniad; - Y
byddai’r gwahaniaeth yn y canlyniadau - rhwng y ddwy system - yn fach yng
Ngheredigion, sef oddeutu 4%; - Y
gallai mwy o ymgeiswyr ystyried rhoi eu henw gerbron mewn system lle ceir Ward
aml-Aelod; - Bod
system y Cyntaf i'r Felin yn golygu bod dewis yr etholwyr yn cael ei nacáu pan
fydd eu dewis cyntaf yn colli; fodd bynnag, mae system y Bleidlais Sengl
Drosglwyddadwy yn cynnig lle i fod yn fwy cynrychioladol o ddewis y trigolion. Cynigiodd y
Cynghorydd Keith Henson y dylai’r bleidlais fod yn Bleidlais Gofrestredig.
Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Alun Williams a chytunwyd yn unfrydol. Cafwyd Pleidlais
Gofrestredig yn unol â Rheol 14.5, Rheolau Gweithdrefn y Cyngor yng
Nghyfansoddiad y Cyngor ar yr argymhelliad fod y Cyngor yn penderfynu p’un ai i
fabwysiadu’r system bleidleisio Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy neu peidio ar
gyfer etholiadau Cyngor Sir Ceredigion o hyn ymlaen. O blaid: Cynghorwyr Shelley Childs, Bryan Davies, Catrin M S Davies, Clive Davies, Gareth Davies, Endaf Edwards, Elaine Evans, Elizabeth Evans, Keith Henson, Hugh Hughes, Sian Maehrlein, Ann Bowen Morgan, Caryl Roberts, Mark ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |