Lleoliad: Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron ac o bell trwy fideo gynhadledda
Cyswllt: Nia Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y
Cynghorydd Rhodri Evans a Matthew Vaux am eu hanallu i fynychu'r cyfarfod
oherwydd eu bod ar ddyletswyddau eraill y Cyngor. |
|
Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatgeliadau o ddiddordeb. |
|
Materion Personol Cofnodion: Dim. |
|
EITEM EITHRIEDIG Nid yw’r adroddiad (Papur B) ar yr eitem isod ar
gael i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i
diffiniwyd ym mharagraff 12 a 13 o ran 4 o atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at
Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr
eitem hon yn breifat, yn unol ag Adran 100B(2) y Ddeddf ac ar ôl cynnal prawf
budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd a’r wasg eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y
drafodaeth honno. Wrth ddelio â’r eitem hyn, gofynnir i’r Aelodau
ystyried a ydynt am gau’r cyhoedd a’r wasg allan o’r Cyfarfod. Cofnodion: Nid yw'r adroddiad sy'n ymwneud ag eitem 5 ar yr agenda, Atodiad B, i'w
gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym
mharagraff 12 ac 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel
y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at wybodaeth) (Amrywio)
(Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor, ar ôl cymhwyso'r Prawf Budd y Cyhoedd, yn
penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, bydd y cyhoedd a'r wasg yn cael eu
heithrio o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath, yn unol ag Adran 100B(2)
o'r Ddeddf. Wrth ddelio â’r eitem hyn, gofynnir i’r Aelodau ystyried a ydynt am gau’r cyhoedd a’r wasg allan o’r Cyfarfod. PENDERFYNWYD eithrio'r
cyhoedd a’r wasg yn ystod ar ystyriaeth o eitem 5 isod ar y sail bod y cais yn
cynnwys gwybodaeth bersonol na ddylid, ar sail ystyriaeth, ei datgelu i'r
cyhoedd a'r wasg. Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai'r gweddarlledu
yn cael ei atal yn ystod eitem 5 isod. |
|
Cofnodion: Derbyniodd y Cyngor gyflwyniad ac ymateb i
gwestiynau a osodwyd i’r ymgeisydd ar y rhestr fer i benodi i swydd wag Swyddog Arweiniol
Corfforaethol: Porth Cynnal (sydd hefyd yn
gweithredu fel Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor). Cafwyd
adborth hefyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Rhestrau Fer, y Cynghorydd Bryan Davies;
Y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet dros Lesiant Gydol Oes a'r Prif
Weithredwr. Yn dilyn pleidlais PENDERFYNWYD cynnig
y swydd i Ms Audrey Somerton-Edwards. Ystyriwyd y cyflog a
fyddai'n cael ei gynnig. Cynigiwyd ac eiliwyd y dylid cynnig y swydd ar y
pedwerydd pwynt cynyddrannol ar raddfa gyflog A2 y Swyddog Arweiniol
Corfforaethol (£90,164)
ynghyd a phwynt ategu grym y farchnad (£7,336) sy’n gyfanswm o £97,500. Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD cynnig y swydd ar gyflog o £97,500, y pedwerydd
pwynt cynyddrannol ar raddfa gyflog A2 y Swyddog Arweiniol Corfforaethol
(£90,164), ynghyd a phwynt ategu grym y farchnad o £7,336, sy’n gyfanswm o
£97,500. Derbyniodd Ms Audrey
Somerton-Edwards y cynnig o swydd, y swydd ar gyflog o £97,500 sydd
ar bedwerydd pwynt cynyddrannol graddfa gyflog A2 y Swyddog Arweiniol Corfforaethol, ynghyd a phwynt
ategu grym y farchnad; i gychwyn ar 1 Ionawr 2024, neu cyn gynted â phosibl
wedi hynny. Yna gwahoddwyd y cyhoedd a'r wasg i ddod i
mewn i'r cyfarfod. Cadarnhaodd y Cadeirydd fod Ms Audrey Somerton-Edwards wedi cael cynnig a derbyn y swydd gan ddechrau ar y pedwerydd pwynt cynyddrannol ar raddfa gyflog A2 y Swyddog Arweiniol Corfforaethol, ynghyd a phwynt ategu grym y farchnad; i gychwyn ar 1 Ionawr 2024, neu cyn gynted â phosibl wedi hynny. |