Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Nia Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorwyr Ceris Jones, Gareth
Lewis a Sian Maehrlein am eu hanallu i fynychu'r cyfarfod am eu bod ar
ddyletswyddau eraill y Cyngor. Ymddiheurodd James Starbuck, Cyfarwyddwr
Corfforaethol am ei anallu i fynychu'r cyfarfod. |
|
Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Gwnaeth y
Cynghorydd Gareth Davies ddatgan buddiant personol mewn perthynas ag eitem 5. |
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Llongyfarchodd
Brychan Hopkins, sy'n cynrychioli Tîm Rygbi Coleg Llanymddyfri ar ennill tlws
dan 18 Ysgolion Cymru, a dymunodd yn dda iddo yng Nghystadleuaeth Ysgolion y
Byd yn Abu Dhabi. Llongyfarchodd
Phil Kloer a Lisa Gosling
hefyd ar eu penodiadau parhaol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. |
|
Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2024 Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion cyfarfodydd y Cyngor
a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2024, ar yr amod y cadarnheir bod y Cynghorydd
Endaf Edwards yn bresennol. Materion yn
codi Nid oedd unrhyw
faterion yn codi. |
|
Cyflwyniad gan y Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Cofnodion: Croesawodd
Cadeirydd y Cyngor Roger Thomas, y Prif Swyddog Tân, Sarah Mansbridge,
Swyddog Adran 151, a'r Cynghorydd Gwynfor Thomas, Cadeirydd Awdurdod Tân
Canolbarth a Gorllewin Cymru i'r cyfarfod. Rhoddodd Roger
Thomas a Sarah Mansfield drosolwg o'r sefyllfa
bresennol mewn perthynas â'r gwasanaeth a staffio, cynllunio cyllidebau, rheoli
risgiau cymunedol, gwariant cyfalaf a phrosiectau hirdymor, diwylliant
sefydliadol, hyfforddiant a diogelu, pwysau ar-alwad a’r newid yn yr hinsawdd. Nodwyd ganddynt y
byddai proses ymgynghori yn cael ei chynnal yn gynnar yn y flwyddyn nesaf mewn
perthynas â darpariaeth y gwasanaeth a'r prosiectau hirdymor. Nododd Sarah Mansbridge fod Fframwaith Cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn
ei gwneud yn ofynnol i’r Gwasanaeth Tân ac Achub sicrhau yswiriant cynhwysfawr,
wrth fod yn ddarbodus o ran pennu’r gyllideb. Nododd fod y dyfarniadau cyflog
a'r codiadau i gyfraniadau Yswiriant Gwladol y tu hwnt i'w rheolaeth, a bod y
gwasanaeth yn ystyried arbedion cyffredinol o ran costau eiddo, rheoli swyddi
gwag, digideiddio cyrsiau hyfforddi ac adolygiad o offer, fflyd ac eiddo er
mwyn gwrthbwyso rhan o’r costau ychwanegol. Nodwyd bod y man
cychwyn ar gyfer yr ardoll wedi'i bennu ar 3.9%, fodd bynnag, oherwydd y pwysau
ychwanegol o ran costau, rhagwelwyd y byddai'r ardoll ar gyfer ardal Ceredigion
oddeutu 7.3%, gan ystyried cyflwyno set ddata poblogaeth ddiwygiedig. Diolchodd y
Cynghorydd Bryan Davies i'r Swyddogion am eu cyflwyniad, gan nodi y byddai hwn
yn gyfnod eithriadol o heriol i'r holl wasanaethau. Cadarnhaodd Sarah Mansbridge y byddai cyllid ar gyfer y codiad mewn
cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cael ei ddosbarthu drwy’r Awdurdodau Lleol,
felly roedd hwn wedi’i gynnwys yn yr ardoll, fodd bynnag, pe bai taliad yn cael
ei wneud yn uniongyrchol i’r Gwasanaeth Tân ac Achub, byddai hwn yn cael ei
ad-dalu i Gyngor Sir Ceredigion. Ategodd y
Cynghorwyr Rhodri Evans, Marc Davies, Gareth Davies, Gwyn Wigley Evans, Gareth
Lloyd, Euros Davies a Wyn Evans y gwerthfawrogiad i’r Gwasanaeth Tân ac Achub. Gofynnodd y
Cynghorydd Shelley Childs a oedd unrhyw ddeialog gyda'r Awdurdod Lleol o ran
problemau parcio diweddar a oedd wedi achosi rhwystr i'r gwasanaethau brys.
Cadarnhaodd Roger Thomas fod deialog reolaidd o ran cau ffyrdd a bod gan
Aelodau rôl sylweddol i’w chwarae o ran gwreiddio arferion da yn eu cymunedau
hefyd. Gofynnodd y
Cynghorydd Euros Davies am drydaneiddio cerbydau’r
fflyd, a chadarnhawyd bod yr holl beiriannau nad ydynt yn rhai rheng flaen
wedi'u newid i gerbydau trydan, a'u bod wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru o
ran seilwaith gwefru, fodd bynnag, mae cost peiriannau tân trydan yn afresymol,
a'u bod yn ystyried modelau amgen o gynnal y gwasanaethau, yn enwedig mewn
ardaloedd gwledig. Gofynnodd y
Cynghorydd Wyn Evans a oedd y gwasanaethau wedi'u peryglu o ganlyniad i'r storm
ddiweddar gyda'r toriadau o ran trydan a ffonau. Cadarnhaodd Roger Thomas
fod y Gwasanaeth Tân ac Achub ar y rhestr flaenoriaethol, fodd bynnag, bydd
angen mynd i'r afael â thynnu gwifrau copr o systemau ffôn. |
|
I ystyried y rhybudd o gynnig canlynol a gyflwynwyd yn unol â Rheol 10.1 o Reolau a Gweithdrefnau'r Cyngor Rhybudd Cynnig: Mae Ystad y Goron yn berchen ar 65% o welyau afon
a thraethau Cymru a mwy na 50,000 o diroedd - gwerth dros £603m. Mae'r elw o'r
rhain yn mynd i Stad
y Goron - i ariannu'r Teulu Brenhinol ac i Drysorlys y Deyrnas
Gyfunol. Y mae Ystad y Goron wedi gwneud elw
di-gynsail gan gyhoeddi £658.1 miliwn yn fwy na'r
llynedd - sef cyfanswm o £1.1 biliwn o elw net. Yn 2023 mi gynhyrchodd y rhan o Ystad y Goron sydd wedi ei ddatganoli
i Lywodraeth yr Alban
£103.6 miliwn i goffrau cyhoeddus yr Alban. Mewn arolwg barn diweddar gan YouGov dwedodd 58% o'r rhai a holwyd eu bod yn cefnogi datganoli Stad y Goron i Gymru. 0herwydd hyn mae
Cyngor Sir Ceredigion yn datgan
ein bod yn credu y dylai'r cyfrifoldeb dros Stad y Goron gael ei ddatganoli i
Lywodraeth Cymru. Dylai unrhyw
elw a gynhyrchir gan Stad y Goron, yma ar diroedd,
glannau môr a gwelyau afonydd Cymru, aros yng Nghymru, er budd ein trigolion
a'n cymunedau. Mae cyfrifoldeb dros Stad y Goron eisoes wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Yr Alban a mae'n rhaid i'r un peth ddigwydd yng Nghymru fel bod yr elw o'n hadnoddau naturiol yn cael eu buddsoddi er mwyn lles pobol Cymru. Mae'r Cyngor yn nodi bod pwysau ariannol difrifol ar yr Awdurdod hwn fel awdurdodau ar draws Cymru ac amcangyfrifir y galli Cymru elwa o tua £5om y flwyddyn o ddatganoli Ystad y Goron. Gofynnwn felly bod Stad y Goron yn cael ei ddatganoli
i Lywodraeth Cymru, yn unol a'r
Alban fel mai NI yng Nghymru, ac yn ein tro
- ni yng Ngheredigion - sy'n cael y budd o'n
hadnoddau naturiol. Gofynnwn i
Brif Weinidog Cymru bwyso ar Brif
Weinidog y Deyrnas Gyfunol i ddatganoli
Ystad y Goron i Gymru ac
i wneud hyn
ar fyrder. Gofynnwn i Brif Weinidog y Deyrnas Gyfunol fynd ati yn ddiymdroi i ddatganoli Ystad y Goron i Gymru. Yn Cynnig: Catrin M 5 Davies Yn Eilio: Alun Williams Cofnodion: Cynigydd:
Cynghorydd Catrin M S Davies Eilydd:
Cynghorydd Alun Williams Mae Ystâd y
Goron yn berchen ar 65% o welyau afon a thraethau Cymru a mwy na 50,000 o
diroedd - gwerth dros £603m. Mae'r elw o'r rhain yn mynd i Stad y Goron - i
ariannu'r Teulu Brenhinol ac i Drysorlys y Deyrnas Gyfunol. Y mae Ystâd y Goron
wedi gwneud elw digynsail gan gyhoeddi £658.1 2 miliwn yn fwy na'r llynedd -
sef cyfanswm o £1.1 biliwn o elw net. Yn 2023 mi gynhyrchodd y rhan o Ystâd y
Goron sydd wedi ei ddatganoli i Lywodraeth yr Alban £103.6 miliwn i goffrau
cyhoeddus yr Alban. Mewn arolwg
barn diweddar gan YouGov dwedodd 58% o'r rhai a
holwyd eu bod yn cefnogi datganoli Stad y Goron i Gymru. 0herwydd hyn
mae Cyngor Sir Ceredigion yn datgan ein bod yn credu y dylai'r cyfrifoldeb dros
Stad y Goron gael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Dylai unrhyw elw a
gynhyrchir gan Stad y Goron, yma ar diroedd, glannau môr a gwelyau afonydd
Cymru, aros yng Nghymru, er budd ein trigolion a'n cymunedau. Mae
cyfrifoldeb dros Stad y Goron eisoes wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Yr Alban
ac mae'n rhaid i'r un peth ddigwydd yng Nghymru fel bod yr elw o'n hadnoddau
naturiol yn cael eu buddsoddi er mwyn lles pobol Cymru. Mae'r Cyngor
yn nodi bod pwysau ariannol difrifol ar yr Awdurdod hwn fel awdurdodau ar draws
Cymru ac amcangyfrifir y galli Cymru elwa o tua £50m y flwyddyn o ddatganoli
Ystâd y Goron. Gofynnwn felly
bod Stad y Goron yn cael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru, yn unol â'r Alban
fel mai NI yng Nghymru, ac yn ein tro - ni yng Ngheredigion - sy'n cael y budd
o'n hadnoddau naturiol. Gofynnwn i
Brif Weinidog Cymru bwyso ar Brif Weinidog y Deyrnas Gyfunol i ddatganoli Ystâd
y Goron i Gymru ac i wneud hyn ar fyrder. Gofynnwn i Brif Weinidog y Deyrnas
Gyfunol fynd ati yn ddiymdroi i ddatganoli Ystâd y Goron i Gymru. Rhoddodd y
Cynghorydd Catrin M S Davies amlinelliad o'r Hysbysiad uchod o Gynnig, gan
nodi'r angen am system decach i Gymru a Cheredigion. Nododd y Cynghorydd Alun
Williams yr annhegwch sylfaenol o ran sut mae Cymru'n cael ei hariannu gan
gynnwys fformiwla Barnett, cyllid i Gymru o brosiect
HS2 ac Ystâd y Goron. Nododd, os caiff ei gymeradwyo, mai Cyngor Sir Ceredigion
fyddai'r seithfed Cyngor yng Nghymru i gefnogi'r cynnig hwn. Nododd
fod hyn yn arbennig o berthnasol i Geredigion gyda morlinau a gwelyau’r môr
allan i 12 milltir fôr wedi’u cynnwys yn Ystâd y Goron, gyda Cheredigion â 60
milltir o arfordir. Cyfeiriodd hefyd at ddyraniad heriol y gyllideb, yn
enwedig ar gyfer awdurdodau gwledig, a'r elw a gynhyrchwyd gan yr Alban lle'r
oedd Ystâd y Goron wedi'i datganoli yn 2017. Gofynnodd yr aelodau a oedd Ystâd y Goron wedi cyfrannu tuag at gost cynlluniau amddiffyn yr arfordir yng Ngheredigion, a chadarnhawyd nad oedd wedi. Gofynnodd yr aelodau hefyd a fyddai cost cynnal yr ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Alun Williams yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi mai’r Awdurdod Lleol
yw’r rhiant corfforaethol arweiniol bob amser a bod disgwyl iddo hyrwyddo
hawliau’r plant a’r bobl ifanc hyn yn llwyr. Nododd fod Grŵp Rhianta Corfforaethol Ceredigion wedi cytuno i fabwysiadu'r
Siarter Rhianta Corfforaethol yn ffurfiol yn ei
gyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2024, a'i bod hefyd wedi'i hargymell ar
gyfer ei chymeradwyo gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach a chan
y Cabinet yn ei gyfarfod yn dwyn dyddiad 3 Rhagfyr 2024. Yn dilyn
pleidlais, PENDERFYNWYD i’r Cyngor fabwysiadu’r Siarter Rhianta Corfforaethol. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod y Cabinet dros Bartneriaethau, Tai, Cyfreithiol
a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod y
diwygiadau arfaethedig wedi’u hystyried yn fanwl gan Weithgor y Cyfansoddiad yn
ei gyfarfod yn dwyn dyddiad 5 Tachwedd 2024. Yn dilyn
pleidlais, PENDERFYNWYD: 1. Cymeradwyo'r
newidiadau i'r Cyfansoddiad (Atodiad 1-6); 2. Awdurdodi'r
Swyddog Monitro i ddiweddaru Cyfansoddiad y Cyngor i adlewyrchu'r newidiadau
uchod. |