Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Nia Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorwyr Catrin M S Davies, Ifan Davies,
Keith Henson, Carol Roberts ac Alun Williams am eu hanallu i fynychu'r
cyfarfod am eu bod ar ddyletswyddau eraill y Cyngor. Ymddiheurodd y Cynghorydd Ceris Jones am ei hanallu i
fynychu'r cyfarfod. Ymddiheurodd James Starbuck, Cyfarwyddwr Corfforaethol am ei anallu i fynychu'r
cyfarfod. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Diolchodd y Cynghorydd Keith Evans i staff, gwasanaethau
brys, Aelodau a gwirfoddolwyr y Cyngor am eu hymateb i'r storm ddiweddar. Llongyfarchodd Cylch Meithrin Pont Steffan yn dilyn agoriad swyddogol ar 9 Hydref. Diolchodd hefyd i bawb a fu'n ynghlwm â nawdd Ceredigion i
Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn ystod 2024, gan longyfarch yr enillwyr
canlynol yn y Ffair Aeaf ddiweddar: a) Myrddin James a'r teulu o Langeitho ar ennill y
bencampwriaeth a'r gilwobr am y mochyn gorau, a'r pâr gorau; b) Gwyn a Linda Davies o Landdewi Brefi ar gyrraedd y
rowndiau terfynol mewn pedwar o gategorïau defaid North Country Cheviot; c) Beryl Evans o Langeitho ar ei llwyddiant yn yr adran
grefftau; d) Rebecca James, Cadeirydd CFfI Llanddewi, ar ennill y
categori cynhyrchydd moch cyffredinol; e) Alaw Freeman, ar ennill categori tywysydd ifanc gyda defaid Llanwennog. |
|
Datganiad o Dderbyn Swydd ac Ymrwymiad i gadw at y Cod Ymddygiad gan y Cynghorydd Gareth Lewis Cofnodion: Gwnaeth Elin Prysor, Swyddog Monitro’r Cyngor annerch y Cyngor ar y gofynion statudol i bob Aelod wneud Datganiad Derbyn ac ymgymryd i gydymffurfio â’r Cod Ymddygiad, gan gadarnhau bod y Cynghorydd Gareth Lewis wrth wneud ei Ddatganiad Derbyn Swydd statudol, wedi derbyn hyfforddiant cynhwysfawr ar God Ymddygiad y Cyngor ar 21 Hydref 2024. Mae hyn er mwyn iddo gyflawni ei swyddogaethau gyda dealltwriaeth o Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus, ei ddyletswyddau a'i gyfrifoldebau o dan y Cod, a hefyd y canlyniadau ar gyfer methu â gwneud hynny. Derbyniodd y Cynghorydd Gareth Lewis ar lafar ei Ddatganiad Derbyn Swydd ac i gydymffurfio â'r Cod Ymddygiad a lofnodwyd ganddo yn flaenorol a'i wrthlofnodi gan y Swyddog Priodol. |
|
Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd 24 Hydref 2024 a 14 Tachwedd 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion cyfarfodydd y Cyngor a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2024, a
14 Tachwedd 2024 fel rhai cywir. Materion yn codi
Gofynnodd y Cynghorydd
Gareth Davies a dderbyniwyd ymateb
gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â'r Rhybudd o Gynnig
a gyflwynwyd yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2024. Cadarnhawyd nad oedd unrhyw
ymateb wedi'i dderbyn hyd yma. |
|
I ystyried Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2023-24 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux, yr Aelod Cabinet dros Bartneriaethau, Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd yr adroddiad i'r Cyngor gan nodi bod Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnal adolygiad o effeithiolrwydd eu fframwaith llywodraethu o leiaf bob blwyddyn, gan gynnwys eu systemau rheolaeth fewnol, ac y mae'n rhaid eu dogfennu mewn Datganiad Llywodraethu Blynyddol a'i gyhoeddi fel rhan o Ddatganiad Cyfrifon Blynyddol y Cyngor.
Nododd fod y Datganiad Llywodraethu Blynyddol wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei gyfarfod a gynhaliwyd yn gynharach, ac nad oedd unrhyw sylwadau wedi’u derbyn.
Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD yn unfrydol gymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2023-24. |
|
I dderbyn adroddiad Archwiliad Cyfrifon Archwilio Cymru ar Ddatganiad Cyfrifon 2023-24 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Jason Blewitt o Archwilio Cymru yr Adroddiad ar Ddatganiad Cyfrifon y Cyngor ar gyfer 2023/24, gan nodi bod yr archwiliad bellach wedi'i gwblhau a'u bwriad yw cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar gyfrif y flwyddyn yn dilyn penderfyniad y Cyngor, ac ar ôl derbyn y llythyr o gynrychiolaeth.
Nododd fod y cyfrifon wedi'u cyflwyno gan Gyngor Sir Ceredigion yn unol â'r dyddiad cau a bennwyd, nad yw pob Cyngor wedi ei gyflawni, ac nad oes unrhyw wallau heb eu cywiro gan fod unrhyw gamddatganiadau wedi'u diwygio yn ystod yr adolygiad ac nad ydynt yn cael unrhyw effaith gyffredinol ar y datganiad terfynol. Cyfeiriodd hefyd at addasiadau cyfrifyddu yn ymwneud â phensiynau sy'n deillio o ganllawiau diwygiedig a gyhoeddwyd ar ôl i'r cyfrifon gael eu cynhyrchu sy'n effeithio ar nifer o Awdurdodau Lleol eraill, a chynnwys Hafan y Waun ar y gofrestr asedau.
Cadarnhaodd nad oedd unrhyw faterion sylweddol, fodd bynnag, nododd fod adroddiad Archwilio Cymru wedi amlygu rhai materion mewn perthynas â sicrhau ansawdd a thrywydd archwilio ym maes Prisio Asedau y cyfrifon, gan gydnabod bod nifer fawr o gofnodion asedau. |
|
Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio i gyflwyno'n ffurfiol sylwadau'r Pwyllgor hwnnw ar yr adroddiad Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd
Elizabeth Evans, Aelod o'r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio adborth ar ran Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, gan nad oedd
y Cadeirydd na’r Is-gadeirydd yn medru
bod yn bresennol yn y cyfarfod oherwydd
ymrwymiadau blaenorol. Nododd fod trosolwg manwl wedi'i gyflwyno, gyda chyfle i adolygu a thrafod yr archwiliad cyfrifon, a bod y Pwyllgor yn falch o dderbyn adroddiad diamod gan Archwilio Cymru. Nododd hefyd fod y cyfrifon wedi cael eu cyflwyno a'u harchwilio yn gynharach na'r flwyddyn flaenorol a llongyfarchodd y Prif Swyddog Cyllid a'i staff am y cynnydd rhagorol a wnaed, gan nodi'r berthynas ragorol, deialog agored ac ymgysylltu da gydag Archwilio Cymru. |
|
I gadarnhau Datganiad Cyfrifon 2023-24 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Gareth Davies, yr Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cyllid a Caffael
yr adroddiad i'r Cyngor gan nodi ei fod yn falch o dderbyn adroddiad diamod, a bod
y cyfrifon wedi'u cyflwyno i Archwilio Cymru ar 28 Mehefin 2024.
Diolchodd i'r Swyddog Adran 151 a'i dîm am eu gwaith. Nododd ei fod
hefyd yn falch o gadarnhau bod y gorwariant ar ddiwedd y flwyddyn wedi'i
leihau'n sylweddol o'r ffigwr o £2.9 miliwn a ragwelwyd ar ddiwedd y chwarter
cyntaf i £10 mil erbyn diwedd y flwyddyn ariannol a diolchodd i'r Grŵp
Arweinyddiaeth a'r Swyddogion am eu gwaith caled i gyflawni'r arbedion hyn. Darparodd
drosolwg hefyd o'r sefyllfa mewn perthynas â Balansau
a Chronfeydd Wrth Gefn Cyffredinol y Cyngor, a nododd y prosiectau cyfalaf
sylweddol sy'n cael eu cyflawni gan gynnwys cynllun amddiffyn arfordirol
Aberaeron ac Ysgol Dyffryn Aeron. Diolchodd i
Archwilio Cymru am eu hadroddiad diamod, gan nodi bod nifer o gynghorau yng
Nghymru yn methu â chyrraedd y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eu cyfrifon, a'i
bod yn ganmoliaethus bod Cyngor Sir Ceredigion wedi cyflawni hyn. Ategwyd hyn gan y
Cynghorwyr Rhodri Evans, Maldwyn Lewis, Bryan Davies, Wyn Thomas a Wyn Evans. Gofynnodd yr
Aelodau a oedd yr arbedion a wnaed wedi effeithio ar wasanaethau a ddarparwyd
i'r trigolion, ac am sicrwydd y byddent yn rhan o bob trafodaeth sy’n ymwneud
ag arbedion cyllidebol yn y dyfodol. Cadarnhaodd Arweinydd y Cyngor, y
Cynghorydd Bryan Davies y bydd gweithdai'r gyllideb i'r Aelodau yn mynd i'r
afael â materion o'r fath. Yn dilyn
trafodaeth, PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo Datganiad Cyfrifon y
Cyngor a Datganiad Cyfrifon yr Harbyrau. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, yr Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth yr adroddiad a Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i'r Cyngor, gan nodi bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a chan y Cabinet.
Nododd fod y Cyngor wedi derbyn 300 o ganmoliaethau, 314 o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a 228 o gwynion, ac roedd 84 ohonynt wedi mynd y neu blaen i gam dau. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau'r adroddiad i'r Cyngor gan nodi bod y Cynghorydd Gareth Lewis wedi cael ei enwebu fel Llywodraethwr Awdurdod Lleol ar gais Ysgol Gynradd Gymunedol Rhydypennau.
PENDERFYNWYD cadarnhau enwebiad y Cynghorydd Gareth Lewis fel Llywodraethwr Awdurdod Lleol Ysgol Gynradd Gymunedol Rhydypennau. |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau Aelodaeth Pwyllgorau'r Cyngor fel y'u cyflwynwyd
yn y cyfarfod. |
|
I gadarnhau'r apwyntiadau canlynol Cydbwyllgor Corfforaethol: is-Bwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio · Cynghorydd Rhodri Evans yn lle’r Cynghorydd Gareth Lloyd Grŵp Gweithredol Trawsbleidiol y Cyfansoddiad · Cynghorydd John Roberts Grŵp Trawsbleidiol Adolygu’r Ffiniau · Cynghorydd John Roberts Grŵp Premiymau Treth y Cyngor ar Ail Gartrefi a
Chartrefi Gwag Hirdymor · Cynghorydd Raymond Evans Cydbwyllgor Craffu Canolbarth Cymru ar gyfer Iechyd a
Gofal · Cynghorydd Sian Maehrlein Pwyllgor Cyswllt Rheilffordd Aberystwyth-Amwythig · Cynghorydd Gareth Lewis Panel Maethu · Cynghorydd Amanda Edwards yn lle’r Cynghorydd Alun Williams Cyd-bwyllgor y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol
(dirprwy aelod) · Cynghorydd Amanda Edwards Cofnodion: PENDERFYNWYD penodi Aelodau i'r rolau
canlynol: Cydbwyllgor Corfforaethol: is-Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio · Cynghorydd Rhodri Evans yn lle’r Cynghorydd Gareth Lloyd Grŵp Gweithredol Trawsbleidiol y Cyfansoddiad · Cynghorydd John Roberts Grŵp Trawsbleidiol Adolygu’r Ffiniau · Cynghorydd John Roberts Grŵp Premiymau Treth y Cyngor ar Ail Gartrefi a Chartrefi Gwag Hirdymor · Cynghorydd Raymond Evans Cydbwyllgor Craffu Canolbarth Cymru ar gyfer Iechyd a Gofal · Cynghorydd Sian Maehrlein Pwyllgor Cyswllt Rheilffordd Aberystwyth-Amwythig · Cynghorydd Gareth Lewis Panel Maethu · Cynghorydd Amanda Edwards yn lle’r Cynghorydd Alun Williams Cyd-bwyllgor y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (dirprwy aelod) · Cynghorydd Amanda Edwards |