Agenda a Chofnodion

Cyngor - Dydd Iau, 24ain Hydref, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Nia Jones 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Euros Davies, Rhodri Davies, Elaine Evans, Ceris Jones, Gareth Lewis a Mark Strong am eu hanallu i fynychu’r cyfarfod.

 

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

 

3.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Keith Evans, Cadeirydd y Cyngor gydymdeimlo â’r Cynghorydd Mark Strong ar ei brofedigaeth yn ddiweddar, gan hefyd gydymdeimlo â pherthnasau Tudor Evans ar eu colled yn ddiweddar gan ddiolch i’r gwasanaethau brys a staff Cyngor Sir Ceredigion am eu hymateb prydlon yn dilyn y gwrthdrawiad trenau yn ddiweddar ger Llanbrynmair.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Keith Evans y canlynol:

a)  Gareth Lewis ar gael ei ethol yn Gynghorydd ar gyfer Ward Tirymynach;

b)  Steffan Lloyd o Dalgarreg ar ennill y fedal aur yn y gemau Olympaidd fel peilot i James Ball yn y prawf amser tendem 100m Adran B i ddynion;

c)   Yr Athro Philip Kloer ar ei benodiad fel Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda;

d)  Grŵp Chwarae Dwyieithog Aberporth ar ennill Gwobr Blynyddoedd Cynnar Cymru yn y categori “Y Byd tu Allan”;

e)  Gŵyl Grefftau Cymru a gynhaliwyd yng Nghastell Aberteifi yn ddiweddar wnaeth ddenu dros 3500 o ymwelwyr;

f)   Fferm Cefngwyn Hall, ger Llanon ar ennill gwobr genedlaethol am eu gwartheg South Devon;

g)  Peg Jones ar ddathlu ei phen-blwydd yn 103oed;

h)  Mair Jones ar ddathlu ei phen-blwydd yn 100 oed;

i)   Owen Jac Roberts, Reuben Lerwill a Leia Vobe ar gael eu dewis i gynrychioli tîm gymnasteg Cyngor yng nghystadleuaeth Cwpan Ffrainc mewn Tymblo;

j)   Pamela Worrall ar gael ei dewis i gynrychioli Cymru yn Nhîm Pysgota’r Glannau a gynhelir yn Sbaen mis nesaf, a’r Cynghorydd Carl Worrall ar gael ei ddewis fel Rheolwr Tîm Merched Cymru o ran Pysgota Môr;

k)  Cyngor Sir Ceredigion ar fod yn aelod o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar;

l)   Clybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion ar gynnal Eisteddfod Lwyddiannus iawn ym Mhontrhydfendigaid.

4.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 19 Medi 2024 pdf eicon PDF 89 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion y Cyngor a gynhaliwyd ar 19 Medi 2024 fel rhai cywir

 

Materion yn codi

Nid oedd unrhyw faterion yn codi

5.

Rhybydd o Gynnig pdf eicon PDF 53 KB

Cofnodion:

Cynigydd: Cyng. Gareth Davies

Eilydd: Cyng. Caryl Roberts

 

Mae’r Cyngor yn nodi:

Rhybudd Gynnig i gyfarfod Cyngor Sir Ceredigion Ddydd Iau, 24ain Hydref, 2024. 

Annog y Canghellor i roi ariannu cynghorau lleol yn ôl ar sylfaen gadarn 

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn llongyfarch y Gwir Anrhydeddus Rachel Reeves AS fel y fenyw gyntaf i'w phenodi'n Ganghellor y Trysorlys yn Llywodraeth y DU. 

Gallwn gydymdeimlo â hi ar ymgymryd â'r rôl heriol hon, fel cynghorau lleol sydd wedi gorfod ymdopi â chyfran anghymesur o doriadau gwariant yn ystod 14 mlynedd o lymder didostur gan y Llywodraeth Geidwadol. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn unig, o’i gymharu â deng mlynedd yn ôl, oherwydd diffyg cyllido cronig gan y llywodraeth, bellach £70m ar ein colled mewn termau real.  

Mae hwn yn gyfnod pryderus iawn i bob cyngor a'u staff, gyda llawer bellach ar ymyl trychineb ariannol. Mae Ysgrifennydd Cyffredinol UNSAIN, Christina McAnea, wedi rhybuddio bod "gwasanaethau hanfodol di-ri a llawer iawn o swyddi hanfodol mewn perygl, gyda chanlyniadau echrydus i gymunedau ledled Prydain."  

Rydym yn annog y Canghellor yng nghyllideb arfaethedig yr Hydref i roi cyllido llywodraeth leol yn ôl ar sylfaen gynaliadwy, trwy ddefnyddio'r £10b sydd ar gael oherwydd penderfyniad Banc Lloegr i arafu cyflymder ei raglen dynhau meintiol. 

Mae angen cyllid refeniw ychwanegol ar frys (drwy Fformiwla Barnett i Gymru) ar gyfer gwasanaethau hanfodol fel: 

Gofal Cymdeithasol – ar gyfer poblogaeth sy'n cynnwys canran gynyddol o bobl hŷn sydd angen gofal preswyl a chymunedol. 

Gwasanaethau Plant – sy’n wynebu galw digynsail a phwysau ariannol difrifol. 

Ysgolion – sy’n ei chael hi'n anodd, neu’n methu byw o fewn cyllidebau penodedig, gan effeithio ar lefelau staffio a darpariaeth cwricwlwm. 

Priffyrdd – mae’r dirywiad yn dilyn degawd o doriadau o flwyddyn i flwyddyn mewn cyllidebau cynnal a chadw a gwelir canlyniad hyn yn y nifer cynyddol o dyllau ar ein ffyrdd. 

Diwylliant a Hamdden – mae’r diffyg ariannu yn peryglu dyfodol casgliadau amgueddfeydd a llyfrgelloedd cyhoeddus gan golli ein treftadaeth. 

Rydym yn annog y Canghellor i ddarparu ar gyfer pwysau chwyddiant ar gyllidebau llywodraeth leol, ac i sicrhau y dylai cytundebau cyflog sy'n cael eu gosod yn ganolog gael eu hariannu'n llawn gan lywodraeth ganolog. 

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Gareth Davies y rhybudd o gynnig, a gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Caryl Roberts.

 

Bu i’r Cynghorydd  Elizabeth Evans argymell gwelliant i’r cynnig, i ddileu dechrau’r frawddeg gyntaf yr ail baragraff a rhoi’r canlynol yn ei le:

 

Mae Llywodraeth Leol wedi derbyn cyfran anghymesur o doriadau ers llymder didostur.

 

Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Rhodri Evans. Fodd bynnag yn dilyn pleidlais ni gymeradwywyd y gwelliant a argymhellwyd.

 

Yn dilyn pleidlais bellach ar yr hysbysiad gwreiddiol o’r Rhybudd o Gynnig PENDERFYNWYD cytuno i’r cynnig fel y’i cyflwynwyd. 

6.

Ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael a'r Swyddog Adran 151 ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig pdf eicon PDF 72 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gareth Davies, Aelod Cabinet Cyllid a Gwasanaethau Caffael adroddiad i’r Cyngor yn nodi fod Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor wedi cael ei ystyried gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 23 Medi a’r Cabinet ar 1 Hydref.  Nodwyd ganddo fod Aelodau hefyd wedi derbyn gwybodaeth fanwl ar y mater yn ystod gweithdy’r Gyllideb yn gynt yn yr wythnos.

 

Nodwyd fod y Strategaeth yn gosod 4 Amcan Lles Corfforaethol clir, ac y mae blaenoriaethau amrywiol a chanlyniadau disgwyliadwy yn sail i hyn.  Y nod oedd ddarparu adnoddau a fframwaith ariannol fydd yn sicrhau y fellir cyn belled a phosib sicrhau y cyflawnir y canlyniadau yma yn ogystal â sicrhau y gellir gosod cyllideb gytbwys yn flynyddol.  Roedd yn bwysig sicrhau hefyd fod Aelodau yn ymwybodol o’r heriau a risgiau ariannol.

 

Cyfeiriodd at yr arian cyhoeddus cyfyngedig, yn ogystal â’r blaenoriaethau allweddol o’r Strategaeth Gorfforaethol a gyflawnwyd eisoes, gan gynnwys Ysgol Dyffryn Aeron, y Cynllun Tai Cymunedol newydd, y Canolfan Llesiant yn Llanbedr Pont Steffan ac adeiladu Cynllun Amddiffyn yr Arfordir yn Aberaeron. Nodwyd ganddo hefyd fod gan Gyngor Sir Ceredigion hanes da o osod a chyflawni cyllideb gytbwys a bod Archwilio Cymru wedi nodi archwiliad diamod blwyddyn ar ôl blwyddyn er y diffyg yn yr arian a dderbynnir.

 

Nodwyd gan y Cynghorydd Gareth Davies fod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig wedi ei fodelu ar gynnydd o 0.5% yn yr arian a dderbynnir o Lywodraeth Cymru o 2025/26 ymlaen, gan ddarparu diffyg dangosol yn y gyllideb ar gyfer 2025/26, 2026/27 a 2027/28, ac amcangyfrif blynyddol, misol ac wythnosol ar gyfer Treth y Cyngor Band D yng Ngheredigion yn seiliedig ar gynnydd Treth y Cyngor o 1%, 5%, 10%, 12% a 14%.

 

Gofynnodd Aelodau a oedd y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn rhag benderfynu’r gyllideb a’r argymhellion o ran arbedion yn y blynyddoedd i ddod. Cadarnhawyd taw nod y strategaeth oedd amlygu’r heriau oedd yn ein wynebu, a darparu fframwaith ar gyfer trafodaeth yn y dyfodol; fodd bynnag ni wneir unrhyw benderfyniadau ar y gyllideb nag argymhellion o ran arbedion yn ystod y cyfarfod hwn.

 

Nodwyd fod yr adroddiad o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn argymell i’r Cabinet a’r Cyngor gymeradwyo’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a ddiweddarwyd.

7.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol yr Economi ac Adfywio ar ddiweddariad i aelodaeth y panel grantiau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur pdf eicon PDF 81 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet Priffyrdd, Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon gyflwyno adroddiad i’r Cyngor yn nodi fod y Cyngor wedi cymeradwyo penodi aelodau i’r panel grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ei gyfarfod ar 18 Gorffennaf 2024.  Dywedodd fod y Cylch Gorchwyl yn nodi y dylai’r Panel gynnwys rhwng 5 a 9 aelod a oedd yn cynnwys Cadeirydd ac Is-gadeirydd.

 

Nodwyd ganddo ers gweithredu fod un aelod allanol wedi ymddeol fodd bynnag roedd Chris Worker wedi cytuno i ymuno â’r panel, yn cynrychioli buddiannau amgylcheddol, gwirfoddol, cymdeithasol a diwylliannol.  Argymhellwyd i fwrw ymlaen ag aelodaeth gyfredol y Panel ac ychwanegu enw Chris Worker, tra’n chwilio am gynrychiolydd ychwanegol i ymuno â’r grŵp.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD awdurdodi’r apwyntiad ac i nodi’r diweddariad i Gylch Gorchwyl y panel.

8.

Apwyntio Eiriolwr y Lluoedd Arfog

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Keith Evans, Cadeirydd y Cyngor dalu teyrnged i’r Cynghorydd Paul Hinge am ei ymrwymiad i’w rôl fel Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog gan ofyn am enwebiadau i barhau â’r gwaith.

 

Mi wnaeth y Cynghorydd Rhodri Evans enwebu’r Cynghorydd Gwyn James fel yr Hyrwyddwr Lluoedd Arfog gan ddarparu trosolwg o’u wasanaeth yn yr RAF.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Elizabeth Evans.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD apwyntio’r Cynghorydd Gwyn James yn Eiriolwr y Lluoedd Arfog, cyngor Sir Ceredigion.