Agenda a chofnodion drafft

Cyngor - Dydd Iau, 18fed Gorffennaf, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Nia Jones 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Gareth Davies, Meirion Davies, Wyn Evans, Keith Henson, Paul Hinge, Ceris Jones a Sian Maehrlein am eu hanallu i fynychu’r cyfarfod.

Ymddiheurodd James Starbuck am ei anallu i fynychu’r cyfarfod

2.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

 

3.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Estynnodd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Keith Evans ei gydymdeimlad â’r Cynghorydd Bryan Davies ar ei brofedigaeth yn ddiweddar, a hefyd estynnodd gydymdeimlad â pherthnasau Charles Arch a Huw Tudor, dau o selogion Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru.

 

Estynnodd y Cynghorydd Keith Evans ei longyfarchiadau i’r canlynol:

a)              Josh Hathaway ar ennill ei gap cyntaf i dîm Rygbi Cymru;

b)              Stevie Williams ar gymryd rhan yn ei Tour de France cyntaf, a dymunodd yn dda i Stevie Williams a Josh Tarling yn y Gemau Olympaidd, gan nodi digwyddiad Gwobrau Chwaraeon a gynhaliwyd yn Siambr y Cyngor yn ddiweddar a oedd yn cydnabod holl lwyddiannau chwaraeon y sir;

c)              Hafwen Clarke, a oedd y cyntaf i gyflwyno gan ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain ym Mhalas Buckingham yn ddiweddar;

d)              Jane Aaron, Anna ap Robert, Elgan Philip Davies ac Owenna Davies ar gael eu hurddo i’r Wisg Werdd yr Orsedd;

e)              Mared Emyr Pugh-Evans ar gael ei dewis yn Delynores y Brenin;

f)               Dr Hannah Mary Dee, John Richard Farler Fletcher a Sally McInness ar dderbyn anrhydedd yr MBE; Carys Davies, Dawn Marie Davies, Robert Davies a Katherine Ann Hughes ar dderbyn anrhydedd y BEM; Roger Simon Thomas ar dderbyn Medal y Brenin i’r Gwasanaeth Tân; a’r Athro Elizabeth Treasure ar dderbyn anrhydedd y CBE yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin;

g)              Clwb Ffermwyr Ifan Tregaron ar gynnal Rali lwyddiannus yn ddiweddar, gan nodi taw Ceredigion yw sir nawdd Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru eleni. Estynodd ei longyfarchiadau yn ogystal i’r cynghorydd Wyn Evans ar gynnal digwyddiad glaswellt a thail cynaliadwy i godi arian;

h)              Margaret Hewitt ar ddathlu ei phenblwydd yn 103 oed;

i)                Clwb Pêl-droed Felinfach ar gynnal twrnament diweddar ac am ennill cwpan Dai Dynamo.

4.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2024 a Cyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 17 Mai 2024 pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau Cofnodion y Cyngor a gynhaliwyd ar 21 Mawrth a chofnodion Cyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 17 Mai 2024 fel rhai cywir.

 

Materion yn codi

Nid oedd unrhyw fater yn codi.

 

5.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Gwasanaethau Democrataidd ar Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd 2023-24 pdf eicon PDF 68 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd a’r Aelod o’r Cabinet dros y Gwasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth, gyflwyno’r adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod gofyniad statudol ar y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i gyflwyno adroddiad i'r Cyngor o leiaf bob blwyddyn. Mae gofyn i’r Adroddiad dynnu sylw at y gwaith a wneir gan y Pwyllgor, dangos sut mae'r Pwyllgor wedi gwneud gwahaniaeth a hybu gwelliant parhaus ymhlith y Cynghorwyr. Diolchodd i'r Cynghorydd Elizabeth Evans, Cadeirydd y Pwyllgor a'r Cynghorydd Gareth Lloyd, yr Is-gadeirydd am eu gwaith a'u hymrwymiad i'r pwyllgor hwn.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Elizabeth Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, ddiolch i'r Swyddogion, i’r Is-Gadeirydd ac i Aelodau'r Pwyllgor am eu cefnogaeth, ac o ganlyniad i newid yn yr aelodaeth, diolchodd i'r Cynghorydd Caryl Roberts am ei chyfraniad yn ystod y flwyddyn. Croesawodd y Cynghorydd Eryl Evans fel Aelod newydd o'r pwyllgor.  Tynnodd sylw at y gwaith a wnaed yn ystod y 12 mis diwethaf, gan gynnwys y cynllun peilot ar gyfer cyfarfodydd o bell, dogfennau cyfarwyddyd, arolygon a hyfforddiant a gwahoddodd yr Aelodau i gysylltu â hi os oedd angen hyfforddiant neu gymorth ychwanegol arnynt. Ategwyd hyn gan y Cynghorydd Gareth Lloyd a'r Cynghorydd Bryan Davies.

 

Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y Cyngor.

6.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol, y Gyfraith a Llywodraethu ar Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llwyodraethu ac Archwilio 2023-24 pdf eicon PDF 80 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod o’r Cabinet dros Bartneriaethau, Tai, y Gwasanaeth Cyfreithiol, Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd gyflwyno’r adroddiad i’r Cyngor gan nodi ei bod hi’n bwysig bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cael ei ddwyn i gyfrif ar y graddau y mae wedi cyflawni ei bwrpas.  Roedd hyn yn cynnwys a oedd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi cyflawni ei gylch gorchwyl cytunedig, mabwysiadu’r arferion a argymhellwyd, asesu ei effeithiolrwydd ei hun, asesu ei anghenion hyfforddi, asesu effaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar lywodraethu, risg a rheolaeth o fewn yr Awdurdod. Nododd fod yr adroddiad  yn tynnu sylw at y gwaith a wnaed yn ystod y flwyddyn gan ddangos sut mae wedi gwneud gwahaniaeth, nodi’r flaenraglen waith ar gyfer y flwyddyn i ddod, a hunanasesu a rhoi sicrwydd. 

 

Hefyd nododd Mr Alan Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, fod y flaenraglen waith yn eglur ac yn werthfawr a bod sylw penodol wedi'i roi i'r fformat. Gwnaeth annog mwy o bwyslais ar adroddiadau sy'n hyrwyddo camau gweithredu ac yn cynnig gwell dealltwriaeth o'r canlyniadau.  Nododd fod yr adran Gyllid wedi perfformio'n eithriadol o dda mewn amgylchiadau anodd iawn, a bod llywodraethu a rheoli risg hefyd wedi datblygu'n llwyddiannus. Diolchodd i'r Swyddog Monitro a'i thîm am eu gwaith a'u cefnogaeth yn ystod y flwyddyn.

 

Ategwyd hyn gan yr Arweinydd a diolchodd yntau i Mr Alan Davies, yr Aelodau Lleyg a’r Cynghorwyr sy’n adolygu gwaith y Cyngor yn flynyddol.

 

Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y Cyngor.

 

7.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol, yr Economi ac Adfywio ar Aelodaeth y panel grantiau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur pdf eicon PDF 82 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor, gyflwyno’r adroddiad ar ran y Cynghorydd Keith Henson gan nodi bod gofyn i’r Cyngor sefydlu panel grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i gyflawni'r swyddogaeth o asesu ceisiadau grant i'r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru gyda'r nod o fynd i'r afael â'r Argyfwng Byd Natur. Rhoddodd amlinelliad o’r cylch gorchwyl gan nodi y dylai'r panel gynnwys rhwng 5 a 9 aelod, gan gynnwys y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd a gan sicrhau cydbwysedd rhesymol rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol; buddiannau amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd; a buddiannau’r sawl sy’n derbyn y grant. Nododd hefyd fod cyhoeddusrwydd eang yn cael ei roi i'r broses benodi drwy rwydweithiau’r Bartneriaeth Natur Lleol.

 

          Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

 

a)       Cadarnhau penodiad yr Aelod â chyfrifoldeb am Bartneriaeth Natur

Ceredigion a Hyrwyddwr Bioamrywiaeth, sef y Cynghorydd Keith Henson ar hyn o bryd, yn Gadeirydd panel grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur;

b)       Cadarnhau penodiad yr Aelodau canlynol i'r panel grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Sector Cyhoeddus

CSC - Cyng Keith Henson – Hyrwyddwr Bioamrywiaeth (Cadeirydd)

CSC – Lindsay Hackett, Hwylusydd Cymunedol – Diddordebau cymdeithasol / diwylliannol

CNC – Becky Wright neu ddirprwy – Buddiannau amgylcheddol

Sector Preifat

Merched y Berllan - Joey Hughes – Buddiannau amgylcheddol ac economaidd

Sector Gwirfoddol

Cadwch Gymru'n Daclus - Mair Davies – Diddordebau amgylcheddol a chymdeithasol / diwylliannol

Rhieni am Ddyfodol – Alastair Lovell – Buddiannau amgylcheddol ac economaidd

 

8.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Ysgolion a Diwylliant ar benodi Aelodau i'r Panel Apeliadau Trafnidiaeth Ysgol pdf eicon PDF 102 KB

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod o’r Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, gyflwyno’r adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod Panel Apeliadau Cludiant Addysg Cyngor Sir Ceredigion yn banel anstatudol a sefydlwyd i alluogi rhieni i apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch cymhwysedd eu plentyn i gael cludiant i ysgol benodol, ac unrhyw benderfyniad dilynol i wrthod darparu cludiant i'w plant o'r cartref i'r ysgol.

 

Nododd fod Cyfansoddiad Cyngor Sir Ceredigion ar hyn o bryd yn cyfarwyddo cynrychiolaeth o bedwar Cynghorydd gwleidyddol gytbwys gan y Cyngor ar y Panel Apeliadau Cludiant Ysgolion. Yn ogystal, bod ‘Polisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol’ Cyngor Sir Ceredigion, a gymeradwywyd gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 18 Mai 2021, yn nodi hefyd y dylai’r panel apêl gynnwys pedwar Cynghorydd.  Cynigiwyd diwygio'r Cyfansoddiad i nodi 9 Aelod gwleidyddol gytbwys ar sail rota, gyda phum Aelod yn mynychu pob cyfarfod Panel gan nad yw nifer sefydlog llai o Aelodau yn caniatáu ystyried gwrthdaro buddiannau posibl, nac unrhyw fuddiannau a ddatgenir gan yr Aelodau hynny. Hefyd bod Cadeirydd yn cael ei enwebu a'i benodi fesul cyfarfod o blith y Panel o bum aelod.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

a)             Cadarnhau'r newid i Gyfansoddiad y Cyngor o 4 Aelod i 9 Aelod ar sail rota (5 fesul cyfarfod Panel gyda chydbwysedd gwleidyddol);

b)             Penodi'r aelodau canlynol yn aelodau o'r Panel Apeliadau Cludiant Ysgol:

• Shelley Childs;

• Caryl Roberts;

• Eryl Evans;

• Maldwyn Lewis;

• Amanda Edwards;

• Gareth Lloyd;

• Wyn Evans;

• Paul Hinge;

• Raymond Evans.

9.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Ysgolion a Diwylliant ar benodi Aelodau i'r Panel Apeliadau Trafnidiaeth Ysgol pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod o’r Cabinet dros Bartneriaethau, Tai, y Gwasanaeth Cyfreithiol, Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd gyflwyno’r adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod  cyfarfodydd o Weithgor Trawsbleidiol y Cyfansoddiad wedi’u cynnal ar 14 Tachwedd 2023 a 9 Ebrill 2024. Yn ystod y cyfarfodydd hynny cafodd y newidiadau a gyflwynwyd yn yr adroddiad hwn eu hystyried a’u cymeradwyo. Adran 4 Dogfen D – Rheolau Gweithdrefn y Cabinet – (Atodiad 5).  Fe’u hystyriwyd yn ogystal gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 31 Mai 2024.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad o Ran 2 Erthygl 7 a oedd yn ymwneud â phwerau mewn argyfwng – penderfyniadau brys. Nododd y Cynghorydd Elizabeth Evans fod aelodau'r Gweithgor Trawsbleidiol yn ogystal â’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wedi ystyried y diwygiadau drafft ac wedi gwneud argymhellion er eglurder.  Nododd y Cynghorydd Bryan Davies fod Arweinwyr y Grwpiau wedi cael gwahoddiad hefyd i roi eu mewnbwn.  Nododd y Swyddog Monitro fod nifer o aelodau eisoes wedi rhoi eu barn a bod y rhain wedi'u hadlewyrchu yn y ddogfen, a oedd yn cynnwys cyfeiriad at y Grŵp Aur/ Gold Command er mwyn egluro bod proses gwneud penderfyniadau strategol y Cabinet ar wahân i'r hyn a geir yn y Ddeddf sy'n cynnwys rhoi cychwyn ar y Grŵp Aur.  Pe byddai'n cael ei weithredu, nododd Cadeirydd y Cyngor y byddai'n drefniant dros dro ac mai'r gobaith oedd na fyddai amgylchiadau o'r fath yn codi.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

a)             Awdurdodi’r newidiadau i’r Cyfansoddiad (Atodiadau 1-9);

b)             Awdurdodi’r Swyddog Monitro i ddiweddaru Cyfansoddiad y Cyngor i

adlewyrchu’r newidiadau uchod.