Agenda a Chofnodion

Cyngor - Dydd Iau, 21ain Mawrth, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Dim

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

a)      Datgelodd Cadeirydd y Cyngor fuddiant personol ar ran yr holl Gynghorwyr mewn perthynas ag eitem 6 isod. Cytunodd y Cynghorwyr;

b)      Datgelodd y Cynghorwyr Maldwyn Lewis, Euros Davies, Gareth Davies, Endaf Edwards, Elaine Evans, Wyn Evans, Keith Henson, Paul Hinge a Gwyn James fuddiant personol a rhagfarnol mewn perthynas ag eitem 7 isod gan adael y cyfarfod yn ystod y trafodaethau;

c)      Datgelodd y Cynghorydd Caryl Roberts fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 10;

d)      Datganodd y Prif Weithredwr, ar ran yr holl Uwch Swyddogion a oedd yn bresennol, fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chofnod 7 isod, yn unol â’r Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol. Gadawodd yr aelodau hynny o staff y cyfarfod yn ystod y trafodaethau. Arhosodd Liz Merriman, Rheolwr Corfforaethol Pobl a Threfniadaeth, y swyddog a oedd yn cymryd cofnodion, a’r cyfieithydd yn y cyfarfod yn ystod y trafodaethau.

 

3.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Maldwyn Lewis, Cadeirydd y Cyngor, estyn cydymdeimlad ar ran y Cyngor i deuluoedd a ffrindiau Callum Wright a Llŷr Davies ar eu profedigaeth ddiweddar.

 

Estynnodd gydymdeimlad hefyd i deulu’r Parch Goronwy Evans, Llambed, ar eu profedigaeth ddiweddar.

 

Gwnaeth y Cyngor gynnal munud o dawelwch.

 

Llongyfarchodd y Cadeirydd Vaughan Gething wedi iddo gael ei benodi fel Prif Weinidog Cymru, ac estynnwyd ei ddymuniadau gorau at Mark Drakeford yn dilyn 5 mlynedd yn y swydd.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Bryan Davies ategu sylwadau’r Cadeirydd mewn perthynas â Vaughan Gething a’i benodiad diweddar fel Prif Weinidog Cymru, gan nodi y byddai’n ei wahodd i ymweld â Cheredigion yn y dyfodol agos.

 

Gwnaeth longyfarch Prifysgol Aberystwyth ar ennill y 'Rhyngol' am y tro cyntaf mewn 9 blynedd, a dymunodd yn dda i Jeremy Turner, Arad Goch ar ei ymddeoliad.

 

Gwnaeth y Cadeirydd hefyd longyfarch Deian Gwynne a Steffan Jones ar ennill eu cap rygbi cyntaf dros dîm dan 18 Cymru, gan guro’r Alban o 43 pwynt i 10 yn ystod eu gêm gyntaf, cyn teithio i Iwerddon ac ennill eto o 27 pwynt i 19.

 

Gwnaeth longyfarch Clwb Ffermwyr Ifanc Felinfach ar ennill cystadleuaeth Drama Cymru; Bleddyn Thomas ar gael ei enwebu fel yr actor gorau yn yr adran Gymraeg; Gwern Thomas o Felinfach ar gael ei enwebu fel ‘Ffermwr Ifanc’, Mared Lloyd Jones o Landdewi fel Brenhines a’i dirprwyon, Meleri Morgan o Langeitho, Mared Jones o Felinfach, Angharad Davies o Benparc a Carys Morris o Landdeiniol.

 

Gwnaeth hefyd longyfarch Josh a Finn Tarling a fydd yn cynrychioli Prydain ar y 7fed Ebrill yn y ras undydd o fri o Baris i Roubaix, ac fe wnaeth hefyd longyfarch Ysgol Bro Pedr ac Ysgol Bro Teifi a fu’n cymryd rhan mewn twrnamaint rygbi diweddar yn Stadiwm y Principality ac i Ysgol Bro Teifi ar ennill y digwyddiad.

 

Gwnaeth y Cynghorydd ymddiheuro am iaith anweddus a ddefnyddiwyd mewn cyfarfod blaenorol o’r Cyngor gan nodi y byddai’n fwy gofalus yn y dyfodol.

 

 

4.

Cofnodion Cyfarfodydd y Cyngor a gynhaliwyd ar 6 Chwefror 2024 a 29 Chwefror 2024 pdf eicon PDF 73 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau Cofnodion cyfarfodydd y Cyngor a gynhaliwyd ar 6 Chwefror 2024 a 29 Chwefror 2024 fel rhai cywir, yn amodod ar gywiro dyddiad yn y fersiwn Gymraeg i gyfarfod 29 Chwefror i ddarllen 29 Chwefror yn hytrach na 29 Mawrth 2024.

 

Materion yn codi

Nid oedd unrhyw faterion yn codi.

 

5.

Adroddiad y Swyddog Arweinol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd ar y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy pdf eicon PDF 106 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Pobl a Threfniadaeth yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi fod holl Gynghorwyr Cymru ar hyn o bryd yn cael eu hethol trwy ddefnyddio’r system fwyafrifol syml, sy’n cael ei adnabod yn fwy cyffredin fel y System Bleidleisio Cyntaf i’r Felin sydd hefyd yn fecanwaith gyfredol sy’n cael ei ddefnyddio gan Llywodraeth Cymru a’r DU. Fe nododd, os bydd y Cyngor yn pleidleisio i newid i’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy, y byddai angen ymgynghoriad cyhoeddus a phleilais i ddilyn gyda chefnogaeth 2 allan o 3 yr Aelodau. Fe nododd y byddai newid y mecanwaith bleidleisio yn effeithio ardaloedd gwledig yn fwy nag ardaloedd sydd â phoblogaeth uwch gan y byddai pob ward yn cael eu cynrychioli gan rhwng 3 i 6 Aelod yr un, ac na fyddai cyfyngiad ar glwstwr o gynrychiolwyr mewn un ardal fechan o ward fwy.

 

Nododd sawl Aelod na fyddai’n addas i 38 Cynghorwr benderfynu ar newidiadau o raddfa fawr heb ymgynghori â thrigolion. Nodwyd nad refferendwm fyddai hwn, ond mae ganddynt ofyniad democrataidd i ymgynghori. Gwnaeth yr Aelodau hefyd uwcholeuo eu pryderon mewn perthynas â chynnal ymgynghoriad cyn i’r wybodaeth fod ar gael ar yr effaith y gallai hyn ei gael ar Ffiniau Wardiau sydd eisoes wedi cael llawer o newidiadau arwyddocaol; byddai goblygiadau ariannol newid y system bleidleisio yn cwympo ar drethdalwyr Ceredigion gan na fyddai’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru; byddai amseriad yr ymgynghoriad yn cyd-redeg gydag ymgynghoriadau eraill ynghylch arbedion i’r gyllideb, a’r effaith y gallai hyn ei gael ar adnoddau ac amser Swyddogion.

 

Nododd y Cynghorydd Alun Williams bod y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy yn cael ei hystyried yn system decach, gan nodi bod gan y Ceidwadwyr 16% yn fwy o seddi na phleidleisiau yn San Steffan er na enillwyd y mwyafrif o bleidleisiau, a bod gan y Blaid Lafur 10% mwy o seddi na phleidleisiau o fewn Llywodraeth Cymru. Nododd bod y gwahaniaethau rhwng pleidleisiau a seddi yng Ngheredigion yn yr etholiad diwethaf dan system bleidleisio Y Cyntaf I’r Felin yn llai na 4% ar gyfer pob grŵp. Felly, daeth i’r casgliad nad oes unrhyw anghyfiawnder etholiadol y mae angen ei gywiro; er hyn, mae nifer o drigolion wedi dangos diddordeb mawr yn y mater, ac er gwaethaf y pryderon trefniadaeth a gweithredol na ellir eu gwadu, nododd y byddai’n briodol ymgynghori â’r trigolion hyn beth bynnag fo’r canlyniad.

 

Yn dilyn trafodaeth a phleidlais, PENDERFYNWYD cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar newid posibl i'r system bleidleisio ar gyfer etholiadau'r Cyngor Sir, sef ei newid i'r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy.

6.

Adroddiad y Swyddog Arweinol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd ar Restr Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau 2024/25 pdf eicon PDF 170 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Pobl a Threfniadaeth yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod y penderfyniadau ynghylch tâl aelodau yn cael eu gwneud gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol , nad yw o fewn rheolaeth y Cyngor ac y dylai unrhyw Aelod sy'n dymuno ildio'i dâl gysylltu yn ysgrifenedig â'r Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd.

 

Ategwyd hyn gan y Cynghorydd Gareth Lloyd, a nododd y Cynghorydd Elizabeth Evans fod y tâl yn cael ei dalu ar 3 diwrnod yr wythnos, a bod yr holl weithgareddau ychwanegol a digwyddiadau cymunedol yn cael eu mynychu yn ystod amser hamdden yr Aelodau. 

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo’r canlynol:

1. Parhau â’r arfer presennol o beidio â thalu costau teithio wrth gyflawni dyletswyddau yn yr etholaeth;

2. Cymeradwyo bod y lwfansau teithio, cynhaliaeth, llety dros nos a pharcio ceir yn 2024/25 yn parhau ar yr un lefelau ag yr oeddent yn 2023/24;

3. Parhau â’r cynllun lwfans misol y gellir optio i mewn iddo gydag uchafswm o £10 i dalu am gostau ffôn, band eang a phostio;

4. Adlewyrchu talu’r lwfans hwn yn y Datganiad Taliadau blynyddol a wneir i Aelodau;

5. Talu ffioedd i Aelodau Cyfetholedig yn amodol ar uchafswm cyfwerth â 10 diwrnod llawn ar gyfer pob pwyllgor y cafodd unigolyn ei gyfethol iddo ar sail taliad hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn;

6. Parhau i gyhoeddi cyfanswm y swm a ad-dalwyd gan yr awdurdod yn ystod y flwyddyn heb ei bennu’n benodol i unrhyw Aelod a enwyd o ran y costau gofal a ad-dalwyd;

7. Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol i’r Aelodau ar gyfer 2024/2025, yn amodol ar gynnwys unrhyw newidiadau y penderfyna’r Cyngor arnynt yn y cyfarfod hwn; ac

8. Awdurdodi’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd i gynnwys unrhyw newidiadau cyn cyhoeddi’r ddogfen ar ôl y Cyfarfod Blynyddol sydd i’w gynnal ar 17 Mai 2024.

7.

Adroddiad gan y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Pobl a Threfniadaeth ar y Polisi Cyflogau ar gyfer 2024/25 pdf eicon PDF 85 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gadawodd y Cynghorwyr Maldwyn Lewis, Euros Davies, Gareth Davies, Endaf Edwards, Elaine Evans, Wyn Evans, Keith Henson, Paul Hinge a Gwyn James a’r holl Uwch Swyddogion y cyfarfod yn ystod y trafodaethau.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Pobl a Threfniadaeth yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi yn unol â Deddf Lleoliaeth 2011, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gymeradwyo Polisi Tâl y Cyngor ar gyfer pob blwyddyn ariannol i'w gyhoeddi erbyn 31 Mawrth. 

 

Tynnodd Liz Merriman, Rheolwr Corfforaethol, Pobl a Threfniadaeth sylw hefyd at y ffaith bod y cymal ailgyflogaeth yn berthnasol i'r holl staff, nid dim ond staff addysgu.

 

Yn dily pleidlais, PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo Polisi Tâl Ceredigion ar gyfer 2024/2025.

8.

Adroddiad y Swyddog Arweinol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd ar ar we-ddarlledu cyfarfodydd pwyllgorau ychwanegol pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Pobl a Threfniadaeth yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod Cyngor Sir Ceredigion ar hyn o bryd yn darlledu mwy na gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 o ran darlledu trafodion yng nghyfarfodydd y Cyngor.  Fodd bynnag, roedd Aelodau'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wedi gofyn am ystyried ymestyn y ddarpariaeth hon i gynnwys cyfarfodydd pwyllgor ychwanegol. 

 

Fe nododd bod papur trafod wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor yn ystod y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2024. Ystyriwyd y gofynion ychwanegol y byddai hyn yn ei olygu i Swyddogion y Gwasanaethau Democrataidd, ac ystyriwyd hefyd yr adborth a dderbyniwyd wrth Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru a argymhellodd i’r Swyddog Monitro neu’r Dirprwy i fod yn bresennol yn yr holl gyfarfodydd sy’n cael eu darlledu. Ystyriwyd hefyd gallu’r Swyddog Monitro a’r Dirprwy i fynychu’r cyfarfodydd. Oherwydd hyn, argymhellwyd gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd bod y ddarpariaeth yn ehangu i gynnwys cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu o fis Mai 2024, ac i ystyried ehangu’r ddarpariaeth i gynnwys y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu pan fydd y capasiti yn caniatáu iddynt wneud hynny. Nododd hefyd bod y Cyngor dan bwysau gan Archwilio Cymru i ymestyn y ddarpariaeth hon.

 

Nododd y Cynghorydd Elizabeth Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd y bu trafodaeth hir gan Aelodau'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, ac er bod awydd i weld yr holl gyfarfodydd yn cael eu darlledu y byddai'n amhosibl o ran capasiti'r Swyddogion.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNODD  y Cyngor gymeradwyo bod y ddarpariaeth ar gyfer darlledu cyfarfodydd yn cael ei hymestyn i gynnwys y Pwyllgor Rheoli Datblygu o fis Mai 2024.

 

9.

Adroddiad y Swyddog Arweinol Corfforaethol: Y Gyfraith a Llywodraethu a Swyddog Monitro ar y Fframwaith Llywodraethu pdf eicon PDF 75 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet dros Bartneriaethau, Tai, y Gyfraith a Llywodraethu yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi, yn dilyn adolygiad o ddogfennau llywodraethu'r Cyngor, y cytunwyd y byddai Fframwaith Llywodraethu yn cael ei greu i weithredu fel dogfen gyffredinol  sy'n cwmpasu trefniadau llywodraethu'r Cyngor ac i gymryd lle'r Cod Lleol cyfredol ar gyfer Llywodraethu Corfforaethol.

 

Fe nododd fod y Fframwaith Llywodraethu drafft yn dangos

y trefniadau sydd yn eu lle i sicrhau bod y canlyniadau arfaethedig ar gyfer pob rhanddeiliad yn cael eu diffinio a'u cyflawni, gan sicrhau hefyd bod y Cyngor bob amser yn gweithredu er budd y cyhoedd.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo’r Fframwaith Llywodraethu fel yr amlinellwyd yn Atodiad 1 o’r adroddiad.

10.

Adroddiad y Swyddog Arweinol Corfforaethol: Y Gyfraith a Llywodraethu i gadarnhau apwyntiad Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet dros Bartneriaethau, Tai, y Gyfraith a Llywodraethu yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi fod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi cymeradwyo ail-benodi Alan Davies yn Gadeirydd, ac Andrew Blackmore yn Is-Gadeirydd o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am gyfnod o ddwy flynedd o 17 Mai 2024 i 17 Mai 2026.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bryan Davies os byddai’r penodiadau hyn yn medru bod yn benagored. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro bod penodiadau am gyfnod o 6 blynedd yn gyntaf, gyda’r opsiwn i ymestyn am gyfnod pellach o 5 mlynedd. Mae penodiad y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn cael eu hadolygu bob dwy flynedd gyda chyfle i Aelod arall gamu i’r rôl neu i’w ymestyn.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo penodi Alan Davies yn Gadeirydd, ac Andrew Blackmore yn Is-Gadeirydd o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am gyfnod o ddwy flynedd o 17 Mai 2024 i 17 Mai 2026.

 

11.

Ethol darpar Gadeirydd y Cyngor ar gyfer 2024/25 i'w sefydlu yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhelir am 2.00 p.m. ddydd Gwener, 17 Mai 2024

Cofnodion:

Cynigiodd y Cynghorydd Gareth Lloyd ac eiliwyd gan y Cynghorydd Rhodri Evans bod y Cynghorydd Keith Evans yn cael ei ethol yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer y flwyddyn Gyngor nesaf.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol bod y Cynghorydd Keith Evans yn cael ei ethol yn Gadeirydd Etholedig y Cyngor ar gyfer 2024/25 i’w sefydlu yn y Cyfarfod Blynyddol a gynhelir am 2.00pm ar ddydd Gwener 17 Mai 2024.

12.

Ethol darpar Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25 i'w sefydlu yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhelir am 2.00 p.m. ddydd Gwener, 17 Mai 2024

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unfrydol bod y Cynghorydd Ann Bowen Morgan yn cael ei hethol yn Is-gadeirydd Etholedig y Cyngor ar gyfer 2024/25 i’w sefydlu yn y Cyfarfod Blynyddol a gynhelir am 2.00pm ar ddydd Gwener 17 Mai 2024.