Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Nia Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a Materion Personol Cofnodion: Ymddiheuriadau a)
Ymddiheurodd
y Cynghorwyr Euros Davies a Gwyn James am nad oeddent yn gallu mynychu'r
cyfarfod; b)
Ymddiheurodd
Eifion Evans, Prif Weithredwr am nad oedd yn gallu mynychu'r cyfarfod; c)
Ymddiheurodd
Elen James, Russell Hughes-Pickering, Elin Prysor ac Alun Williams, Swyddogion
Arweiniol Corfforaethol am nad oeddent yn gallu mynychu'r cyfarfod; d)
Ymddiheurodd
Mr Ben Lake, yr Aelod Seneddol am nad oedd yn gallu mynychu'r cyfarfod. Materion Personol a)
Estynnodd
y Cadeirydd ei gydymdeimlad i Eifion Evans, Prif Weithredwr ar ei brofedigaeth
ddiweddar. b)
Diolchodd
y Cadeirydd, ar ran y Cynghorydd Euros Davies, i Meinir Ebbsworth, Swyddog
Arweiniol Corfforaethol Ysgolion a Diwylliant am ei chyfraniad i'r gwasanaeth a
dymuno'n dda iddi yn ei rôl newydd. |
|
Anerchiad gan y Cynghorydd Ifan Davies ynglŷn â’i flwyddyn fel Cadeirydd y Cyngor Cofnodion: Nododd y Cynghorydd Ifan
Davies ei bod yn bleser annerch y cyfarfod am y tro olaf fel Cadeirydd Cyngor
Sir Ceredigion. Myfyriodd ar
weithgareddau'r flwyddyn ddiwethaf gan nodi ei bod wedi bod yn anrhydedd cael
bod yn rhan ohono. Ystyriodd golled
drist y diweddar Hag Harris, ffrind a chyd-gynghorydd y bu ei gyfraniad yn
sylweddol, a diolchodd i'r Parchedig Aled Lewis, Caplan y Cyngor am ei
gefnogaeth a'i eiriau pwrpasol. Nododd y Cynghorydd Ifan Davies fod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn llawn iawn. Nododd mai uchafbwynt ei flwyddyn heb os oedd yr Eisteddfod Genedlaethol, oedd yn dangos y 'Cardis' ar eu gorau, yn ogystal â mynychu Rali Bae Ceredigion. Nododd ei bod hi wedi bod yn flwyddyn hanesyddol gyda marwolaeth y Frenhines Elizabeth II, a Coroni'r Brenin Charles III, a braint oedd cael cynrychioli Ceredigion mewn gwasanaethau yn Llandaff ac yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Diolchodd i'r holl ffrindiau a chyfeillion a wnaeth yn ystod y flwyddyn, a diolchodd i'r Cynghorydd Maldwyn Lewis a'i gymar y Parchedig Carys Ann am eu cefnogaeth a'u cyfeillgarwch gan ddymuno’n dda iddyn am y flwyddyn i ddod. Diolchodd i'r Prif Weithredwr, Swyddogion a'r holl staff am eu gwaith, y Grŵp Annibynnol am eu cyfeillgarwch a'u cefnogaeth ac i'r holl Gynghorwyr am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad, ac i'r Cynghorydd Bryan Davies a'i wraig am eu cwmni a'u cyfeillgarwch. |
|
Gwerthfawrogiad y Cyngor am wasanaeth y Cadeirydd yn ystod Blwyddyn Ddinesig 2022/23 I’w gynnig gan y Cynghorydd Rhodri Evans Cofnodion: Talodd y Cynghorydd Rhodri Evans deyrnged i'r Cadeirydd, y Cynghorydd Ifan Davies am ei waith caled yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Nododd fod y Cynghorydd Ifan Davies wedi teithio ar hyd a lled Cymru a thu hwnt, gan gynrychioli'r Cyngor mewn amryw o ddigwyddiadau a'i fod wedi bod yn llysgennad ardderchog i Geredigion. Nododd ei fod yn gwneud ei waith gydag urddas ac effeithlonrwydd, gan gadw trefn ardderchog, a sicrhau bod pawb yn cael cyfle i siarad. Nododd ei bod hi wedi bod yn flwyddyn bwysig, a bydd yr atgofion yn aros gydag ef a'i Gonsort, Iona am byth. |
|
Ethol y Cynghorydd Maldwyn Lewis yn Gadeirydd y Cyngor am y Flwyddyn Fwrdeistrefol ddilynol I’w
gynnig gan y Cynghorydd Bryan Davies I’w eilio gan y Cynghorydd
Gareth Davies Cofnodion: Cynigiwyd gan y Cynghorydd Bryan Davies ac fe'i eiliwyd gan y Cynghorydd Gareth Davies, a PHENDERFYNWYD yn unfrydol i ethol y Cynghorydd Maldwyn Lewis yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer y flwyddyn fwrdeisdrefol ddilynol, 2023-24. |
|
Datganiad o Dderbyn y Swydd gan y Cadeirydd newydd Cofnodion: Cyflwynwyd Cadwyn o’r Swydd i'r Cadeirydd newydd
ei ethol a gwnaeth ei ddatganiad o dderbyn swydd. Cyflwynwyd Arwydd o'r Swyddfa
i Gonsort y Cadeirydd Mrs
Carys Ann. |
|
Anerchiad gan Gadeirydd y Cyngor, Y Cynghorydd Maldwyn Lewis Cofnodion: Diolchodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis i'r Cynghorydd Bryan Davies a'r Cynghorydd Gareth Davies am eu geiriau caredig a diolchodd i'w gyd-gynghorwyr am ymddiried ynddo fel Cadeirydd ar gyfer y flwyddyn fwrdeisdrefol ddilynol. Diolchodd i'r Cynghorydd Ifan Davies am ei waith yn ystod y flwyddyn flaenorol, gan nodi y bu’n anrhydedd iddo fod yn Is-Gadeirydd iddo. |
|
Ethol y Cynghorydd Keith Evans yn Is-gadeirydd y Cyngor am y Flwyddyn Fwrdeistrefol ddilynol I’w
gynnig gan y Cynghorydd Gareth Lloyd I’w eilio gan y Cynghorydd
Ifan Davies Cofnodion: Cynigiwyd gan y Cynghorydd Gareth Lloyd a'i eilio gan y Cynghorydd Ifan
Davies a PHENDERFYNWYD yn unfrydol i ethol y Cynghorydd Keith Evans yn
Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer y flwyddyn fwrdeisdrefol
ddilynol, 2023-24. |
|
Datganiad o Dderbyn y Swydd gan yr Is-gadeirydd newydd Cofnodion: Cyflwynwyd yr Arwydd o Swydd i'r Is-gadeirydd newydd a gwnaeth ddatganiad o dderbyn swydd. Cyflwynwyd Arwydd o’r Swydd i Gonsort yr Is-Gadeirydd, Mrs Eirlys Evans. |
|
Caplan y Cadeirydd Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi penodiad y Parchedig Carys Ann fel
Caplan y Cadeirydd ar gyfer y flwyddyn fwrdeisdrefol
ddilynol, 2023-24. |
|
Anerchiad gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies Cofnodion: Llongyfarchodd y Cynghorydd Bryan Davies y Cynghorwyr Maldwyn Lewis a Keith
Evans ar gael eu hethol yn Gadeirydd ac Is-gadeirydd yn y drefn honno ac
estynnodd ei ddymuniadau gorau i'r Parchedig Carys Ann fel Consort a Chaplan
i'r Cadeirydd. Talodd yr Arweinydd
deyrnged hefyd i'r Cynghorydd Ifan Davies am ei wasanaethau yn ystod ei
flwyddyn fel Cadeirydd. Anerchodd yr Arweinydd y Cyngor ar y prif faterion a oedd wedi effeithio ar
y Cyngor yn ystod y flwyddyn flaenorol, gan fyfyrio ar newidiadau yn dilyn y weinyddiaeth
newydd yn 2022 a'u rhaglen gynefino i'w cynorthwyo i ddod yn arbenigwyr mewn
ystod eang o feysydd. Nododd y bu’n flwyddyn eithriadol o brysur, gydag Eisteddfod hynod
lwyddiannus a Rali Bae Ceredigion sy'n rhoi llwyfan i Geredigion hyrwyddo'r ardal
a'i heconomi, sy'n flaenoriaeth yn y Strategaeth Gorfforaethol. Nododd fod y Cyngor wedi cytuno’r Strategaeth
ym mis Gorffennaf, sef dogfen allweddol sy’n amlinellu'r hyn rydym yn anelu i’w
gyflawni yn ystod 5 mlynedd y weinyddiaeth.
Nododd fod gosod y gyllideb ar gyfer 2023-24 wedi bod yn heriol, fodd
bynnag, roedd yn ddiolchgar o dderbyn cefnogaeth o bob rhan o'r Cyngor yn dilyn
craffu manwl gan y pwyllgorau perthnasol. Nododd
fod disgyblion yn parhau i gyflawni canlyniadau TGAU a Safon Uwch da, sy’n uwch
na'r cyfartaleddau cenedlaethol, ac ni adnabu unrhyw feysydd o ddiffyg
cydymffurfio yn Adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru a oedd yn ystyried y model Llesiant Gydol Oes. Yn ystod y
flwyddyn ddiwethaf, cymeradwyodd y Cabinet Gynllun Strategol y Gymraeg mewn
Addysg 2022-2032 a chroesawodd Ceredigion Baton y Frenhines cyn Gemau'r
Gymanwlad yr haf diwethaf. Cyflwynwyd
Prydau Ysgol am Ddim i bob disgybl o'r dosbarth derbyn i Flwyddyn 4 yn gynt nac amserlen Llywodraeth
Cymru, ac agorwyd caeau pob tywydd 3G yn ddiweddar yn Synod Inn
ac Aberteifi gydag un arall i'w agor yn Llambed, yn ogystal â'r Ganolfan
Llesiant. Nododd yr Arweinydd y bu’n fraint cwrdd â busnesau ledled y Sir sydd wedi
buddsoddi neu dderbyn grantiau sy'n darparu cyfleoedd i bobl ifanc yng
Ngheredigion. Mae cynllun Arfor 2 hefyd wedi'i lansio, ac mae Bargen Twf Canolbarth
Cymru yn parhau i ddatblygu. Nododd fod
cyfran fawr o'i waith yn ymwneud â lobïo Gweinidogion Llywodraeth Cymru a
Llywodraeth y DU, a bod y cydweithrediad gyda Elin Jones, Aelod o'r Senedd a
Ben Lake, Aelod Seneddol wedi bod yn offeryn effeithiol i ddatrys rhai o'r
materion sy'n wynebu Ceredigion. Diolchodd i Aelodau'r Cabinet am eu cefnogaeth, a holl Aelodau'r Cyngor am eu cydweithrediad. Diolchodd i Swyddogion am eu gwaith diflino yn cefnogi swyddogaethau Trosolwg a Chraffu'r Cyngor a Phwyllgorau, ac am eu cydweithrediad effeithiol ag Aelodau. |
|
Aelodaeth Pwyllgorau 2023-24 PDF 104 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau Aelodaeth Pwyllgorau'r Cyngor fel y'u
cyflwynwyd yn y cyfarfod. |