Agenda a Chofnodion

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

a)    Ymddiheurodd y Cynghorydd Rhodri Evans am ei anallu i fynychu'r cyfarfod gan ei fod ar ddyletswyddau eraill y Cyngor;

b)    Ymddiheurodd y Cynghorwyr Steve Davies ac Amanda Edwards am eu hanallu i fynychu'r cyfarfod.

 

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

a)    Datgelodd Cadeirydd y Cyngor fuddiant personol ar ran yr holl Gynghorwyr mewn perthynas ag eitem 8 isod;

b)    Datgelodd y Cynghorydd Chris James fuddiant personol mewn perthynas â phob eitem yn ymwneud â thrafnidiaeth.

3.

Materion Personol

Cofnodion:

a)    Diolchodd y Cynghorydd Ifan Davies i Ifan Meredith, Cadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion ac Aled Lewis, Aelod Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig dros Geredigion am eu cyflwyniad i'r Aelodau cyn cyfarfod y Cyngor;

b)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Ifan Davies swyddogion newydd eu penodi Ffermwyr Ifanc Ceredigion:

·       Brenhines y Sir: Sioned Davies, CFfI Llanwenog

·       Ffermwr Ifanc y Flwyddyn: Dewi Davies, CFfI Llanddeiniol

·       Dirprwyon: Gwenyth Richards, CFfI Pontsiân, Angharad Evans, CFfI Mydroilyn, Angharad Davies, CFfI Trisant, ac Alaw Mair, CFfI Felin-fach

·       Aelod Hŷn: Endaf Griffiths, CFfI Pontisan

·       Aelod Iau: Sion Evans, CFfI Felin-fach

c)    Cydymdeimlodd y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans â theulu Mary Blodwen Morgan, Llanrhystud a fu farw yn ddiweddar.

4.

Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2023 a 9 Mawrth 2023 pdf eicon PDF 204 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau Cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2023 a 9 Mawrth 2023 fel rhai cywir.  Nid oedd dim materion sy’n codi.

5.

Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd dan Reol 10.1 Rheolau Gweithdrefn y Cyngor pdf eicon PDF 191 KB

Cynigydd:              Cynghorydd Meirion Davies

Eilydd:                   Cynghorydd Paul Hinge

 

Noda’r Cyngor:

O ystyried yr argyfwng sy'n wynebu'r rhwydwaith bysiau gwledig yng Ngheredigion a Chymru wledig, mae Cyngor Ceredigion yn annog Llywodraeth Cymru i sefydlu tasglu trafnidiaeth wledig er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn ar frys.

 

Rydym yn cydnabod nad yw trigolion ac ymwelwyr wedi dychwelyd i drafnidiaeth gyhoeddus ar ôl Covid, yn y niferoedd y byddem yn ei ddisgwyl. Fodd bynnag, o ganlyniad i dynnu llawer o lwybrau bysiau gwledig yn ôl oherwydd fforddiadwyedd, mae ein cymunedau'n cael eu hynysu’n gynyddol rhag cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus a chymdeithasu gyda ffrindiau a theulu.

 

Mae tynnu llawer o lwybrau bysiau gwledig yn gwaethygu tlodi gwledig lle mae'r effaith i'w deimlo fwyaf mawr. Mae gan oedolion sy'n agored i niwed, gan gynnwys pobl hŷn, a'r rhai sydd heb drafnidiaeth yr hawl i gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yn eu cymunedau.

 

Mae Cyngor Ceredigion yn cefnogi ffocws Llywodraeth Cymru ar fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Eto, drwy ofyn i drigolion symud o geir i drafnidiaeth gyhoeddus, mae angen buddsoddi a'r cymhorthdal cysylltiedig ar gyfer isadeiledd trafnidiaeth wledig.

 

Rhaid i drafnidiaeth wledig gael ei drin yn gyfartal â'n trefi a'n dinasoedd mwy os ydym am fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd o ddifri, ac atal cymunedau gwledig rhag cael eu hynysu ymhellach.

 

Felly, mae'r Cyngor yn nodi:

1.    Bod Cyngor Ceredigion yn gofyn i Lywodraeth Cymru gydnabod bod angen buddsoddi mewn trafnidiaeth mewn cymunedau gwledig, a’i sybsideiddio yn unol â hynny.

2.    Bod trafnidiaeth gyhoeddus mewn cymunedau gwledig fel y rhai yng Ngheredigion, sydd wedi cael eu heffeithio'n andwyol gan danariannu trafnidiaeth gyhoeddus gan Lywodraeth Cymru, yn gofyn am gydraddoldeb mynediad tebyg i gymunedau mwy.

3.    Bod tasglu trafnidiaeth wledig yn cael ei sefydlu ar unwaith gan Lywodraeth Cymru ac ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol fel Cyngor Ceredigion, i fynd i'r afael â mater trafnidiaeth wledig.

 

 

Cofnodion:

Cynigydd:     Y Cynghorydd Meirion Davies

Eilydd: Y Cynghorydd Paul Hinge

 

O ystyried yr argyfwng sy'n wynebu'r rhwydwaith bysiau gwledig yng Ngheredigion a Chymru wledig, mae Cyngor Ceredigion yn annog Llywodraeth Cymru i sefydlu tasglu trafnidiaeth wledig er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn ar frys.

Rydym yn cydnabod nad yw trigolion ac ymwelwyr wedi dychwelyd i drafnidiaeth gyhoeddus ar ôl Covid, yn y niferoedd y byddem yn eu disgwyl.  Fodd bynnag, o ganlyniad i ddileu llawer o lwybrau bysiau gwledig oherwydd fforddiadwyedd, mae ein cymunedau'n cael eu hynysu’n gynyddol rhag cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus a chymdeithasu gyda ffrindiau a theulu.

Mae dileu llawer o lwybrau bysiau gwledig yn gwaethygu tlodi gwledig lle y teimlir yr effaith fwyaf. Mae gan oedolion sy'n agored i niwed, gan gynnwys pobl hŷn, a'r rheini sydd heb drafnidiaeth yr hawl i gael gafael ar drafnidiaeth gyhoeddus yn eu cymunedau.

Mae Cyngor Ceredigion yn cefnogi ffocws Llywodraeth Cymru ar fynd i'r afael ag argyfwng yr hinsawdd.  Ac eto, drwy ofyn i drigolion symud o geir i drafnidiaeth gyhoeddus, mae angen buddsoddi a'r cymhorthdal cysylltiedig ar gyfer isadeiledd trafnidiaeth wledig.

Rhaid i drafnidiaeth wledig fod yn gyfartal â'n trefi a'n dinasoedd mwy os ydym am fynd i'r afael ag argyfwng yr hinsawdd o ddifrif, ac atal cymunedau gwledig rhag cael eu hynysu ymhellach.

Felly, mae'r Cyngor yn nodi:

1.   Bod Cyngor Ceredigion yn gofyn i Lywodraeth Cymru gydnabod bod angen buddsoddi mewn trafnidiaeth mewn cymunedau gwledig, a’i sybsideiddio yn unol â hynny.

2.   Bod trafnidiaeth gyhoeddus mewn cymunedau gwledig fel y rhai yng Ngheredigion, sydd wedi’u heffeithio'n andwyol gan danariannu trafnidiaeth gyhoeddus gan Lywodraeth Cymru, yn gofyn am fynediad cyfartal i gymunedau mwy.

3.   Bod tasglu trafnidiaeth wledig yn cael ei sefydlu ar unwaith gan Lywodraeth Cymru ac ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol fel Cyngor Ceredigion, i fynd i'r afael â mater trafnidiaeth wledig.

 

Amlinellodd y Cynghorydd Meirion Davies y sefyllfa ar hyn o bryd gan nodi bod trigolion yn cael eu hynysu gan ddiffyg trafnidiaeth gyhoeddus ac yn methu mynychu apwyntiadau meddygol, siopa a bancio, a bod ganddo bryderon ynglŷn â lles ac iechyd y trigolion hyn.  Roedd yr argyfwng costau byw yn golygu nad oedd pawb yn gallu fforddio rhedeg car, a bod colli gwasanaeth bws dydd Sadwrn a lleihad i wasanaethau eraill yn cael effaith ar ieuenctid ei ward ef a wardiau eraill.  Nododd y dylai Llywodraeth Cymru ariannu gwasanaethau trafnidiaeth oherwydd yr effaith ar y rheini sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, ac yn unol â'u pwyslais ar yr amgylchedd.  Nododd ei bryder bod y cynllun Brys ar gyfer y sector Bysiau ar fin dod i ben, a fydd yn cael mwy o effaith ar y rheini sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, a bod Ben Lake AS, Elin Jones AS a Jane Dodds AS i gyd wedi nodi eu cefnogaeth iddo barhau.

 

Canmolodd y Cynghorydd Paul Hinge y Cynghorydd Meirion Davies am ei esboniad o bwysigrwydd trafnidiaeth i Geredigion, a adlewyrchwyd hefyd yn y cyflwyniad gan gynrychiolwyr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adroddiad gan y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Y Gyfraith a Llywodraethu a Swyddog Monitro ar y Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft 2022-23 a Chod Llywodraethu Corfforaethol Lleol 2023-24 pdf eicon PDF 120 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod y Cabinet dros Bartneriaethau, Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd amlinelliad o’r adroddiad i’r Cyngor gan nodi y cafodd dogfen y Fframwaith Llywodraethu ei hadolygu mewn gweithdy a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2022 i ystyried unrhyw dystiolaeth wedi’i diweddaru ac i ystyried camau gweithredu a nodwyd yn flaenorol.  Cafodd y ddogfen ei hystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn eu cyfarfodydd dyddiedig 17 Ionawr 2023 a 9 Mawrth 2023, a chytunwyd i argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft.

 

Yn ogystal, adolygodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio God Llywodraethu Corfforaethol Lleol 2023-24 yn ei gyfarfod dyddiedig 17 Ionawr 2023 a chytunwyd i argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo Cod Llywodraethu Corfforaethol Lleol 2023-24.

 

Sicrhaodd y Cynghorydd Elizabeth Evans fel Aelod o'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ei chydweithwyr bod y pwyllgor yn mynd drwy hyn yn fanwl, a diolchodd i'r Swyddogion am eu cyfraniadau i'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol a dywedodd fod y gweithdai'n werth chweil.

 

Nododd y Cyngor gynnwys Dogfen Fframwaith Llywodraethu 2022-23 ac yn dilyn pleidlais PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft 2022-23 a Chod Llywodraethu Corfforaethol Lleol 2023-24.

7.

Adroddiad gan y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ar Gynllun Llesiant Lleol Ceredigion 2023-2028 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd Llesiant ar gyrff penodol i weithredu ar y cyd i baratoi a chyhoeddi asesiad o gyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardal, a pharatoi a chyhoeddi Cynllun Llesiant Lleol sy'n amlinellu amcanion lleol a'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd i'w cyflawni.

 

Nododd fod ymgynghoriad ar Gynllun Llesiant Lleol drafft Ceredigion 2023-28 wedi’i gynnal rhwng mis Hydref 2022 a mis Ionawr 2023, a’i fod wedi’i ystyried gan y Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu yn ei gyfarfod ar 23 Tachwedd 2022.  Roedd adborth o’r ymgynghoriad cyhoeddus yn dangos bod y Cynllun wedi cael croeso da, gydag argymhellion wedi’u cynnwys yn y Cynllun Llesiant Lleol terfynol cyn belled ag y bo modd.  Yn dilyn diwygiadau i’r cynllun, fe’i cyflwynwyd i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ei gyfarfod ar 6 Mawrth 2023 ac fe’i hystyriwyd gan y Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu ar 22 Mawrth 2023 cyn ei gyflwyno i’r Cabinet ar 4 Ebrill 2023.

 

Gofynnodd yr aelodau am yr ystyriaethau tymor hir ar gyfer y cynllun, a chadarnhawyd bod pob maes yn cael ei ystyried yn y tymor hir yn ogystal â'r tymor byr.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion 2023-28.

8.

Adroddiad gan y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd ar Restr Cydnabyddiaeth Ariannol i'r Aelodau ar gyfer 2023/24 pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi’i gyhoeddi ym mis Chwefror 2023 ac wedi’i ystyried gan bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfarfod ar 24 Mawrth 2023. 

 

Rhoddodd amlinelliad o'r cydnabyddiaethau ariannol, gan bwysleisio bod angen cydnabyddiaeth ariannol digonol er mwyn denu cynrychiolaeth eang o bobl, gan atgoffa'r aelodau o'r cymorth sydd ar gael ar gyfer cost gofal, a'r gwasanaeth cwnsela sydd ar gael.

 

Nododd y Cynghorydd Elizabeth Evans, Cadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd fod y Pwyllgor wedi ystyried yr adroddiad yn ei gyfarfod dyddiedig 24 Mawrth 2023 ac wedi penderfynu argymell i'r Cyngor gymeradwyo cynnwys yr adroddiad.  Nododd ei siom fodd bynnag fod y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi methu â chydnabod bod cynghorwyr yn gweithio mwy na'r hyn sy'n cyfateb i 3 diwrnod yr wythnos, a bod angen annog yr angen i ddenu aelodaeth fwy amrywiol.

 

Gofynnodd yr Aelodau am yr opsiwn i optio allan o gymryd y codiad mewn cyflog, a chadarnhawyd y byddai angen iddynt gyflwyno cais ysgrifenedig i'r Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Gwasanaethau Democrataidd.

 

Nododd y Cynghorydd Bryan Davies fod nifer y Cynghorwyr wedi gostwng o 42 i 38, a oedd yn achosi problemau o ran penodi aelodau i bwyllgorau ac yn rhoi mwy o bwysau ar Aelodau o ran amser, a chyfrifoldebau ychwanegol, yn ychwanegol at eu rolau ar gyrff allanol.

 

Nododd y Cynghorydd Gareth Davies, o ran cyllideb y Cyngor, fod cyflogau Aelodau yn cyfrif am lai na 0.5% o’r gyllideb gyffredinol.

 

PENDERFYNODD y Cyngor nodi’r canlynol:

1.     Talu’r Cyflogau Sylfaenol a’r Uwch Gyflogau yn unol â’r hyn a bennwyd gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, fel y nodir yn Atodlen 1, Atodiad A;

2.     Talu’r Cyflogau Dinesig sy’n daladwy i Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyngor, fel y nodir yn Atodlen 1, Atodiad A;

3.     Y Rhestr sy’n dangos y taliadau eraill, fel y nodir yn Atodlen 1;

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo’r canlynol:

1.     Parhau â’r arfer presennol o beidio â thalu costau teithio wrth gyflawni dyletswyddau yn yr etholaeth;

2.     Cymeradwyo bod y lwfansau teithio, cynhaliaeth, llety dros nos a pharcio ceir yn 2023/24 parhau ar yr un lefelau ag yr oeddent yn 2022/23;

3.     Parhau â’r cynllun lwfans misol y gellir optio i mewn iddo gydag uchafswm o £10 i dalu am gostau ffôn, band eang a phostio;

4.     Adlewyrchu talu’r lwfans hwn yn y Datganiad Taliadau blynyddol a wneir i Aelodau;

5.     Talu ffioedd i Aelodau Cyfetholedig yn amodol ar uchafswm cyfwerth â 10 diwrnod llawn ar gyfer pob pwyllgor y cafodd unigolyn ei gyfethol iddo ar sail taliad hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn;

6.     Parhau i gyhoeddi cyfanswm y swm a ad-dalwyd gan yr awdurdod yn ystod y flwyddyn heb ei bennu’n benodol i unrhyw Aelod a enwyd o ran y costau gofal a ad-dalwyd;

7.     Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol i’r Aelodau ar gyfer 2023-2024, yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

Adroddiad gan y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd ar Arolwg Aelodau mewn perthynas i Amseru Cyfarfodydd y Cyngor a'i Bwyllgorau pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod canllawiau statudol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnal arolwg mewn perthynas â’r amseroedd a’r cyfnodau y cynhelir cyfarfodydd gan ystyried anghenion ac amgylchiadau pob Aelod. 

 

Nododd fod 25 o Aelodau wedi ymateb i’r arolwg, a bod canfyddiadau’r arolwg wedi’u hystyried gan Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfarfod ar 24 Mawrth 2023. Nododd fod yr ymatebion yn cynnwys cyfrifoldebau megis plant a chyfrifoldebau gofalu a hunangyflogaeth yn ogystal ag amseroedd teithio.

 

Nododd y Cynghorydd Elizabeth Evans, Cadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd fod y Pwyllgor wedi ystyried yr adroddiad yn ei gyfarfod dyddiedig 24 Mawrth 2023 ac wedi argymell fod amser cychwyn o 10am i bob pwyllgor, ac y byddai cynnal cyfarfodydd y prynhawn am 1.30pm yn caniatáu gwell cyfleoedd i aelodau ymuno â'r cyfarfodydd.

 

Nododd y Cynghorydd Bryan Davies nad oedd cyfarfodydd trwy’r dydd yn caniatáu digon o amser i fynd i’r dref am ginio, a gofynnodd a ellid darparu peiriant gwerthu ym Mhenmorfa.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo’r canlynol:

1.    Cynhelir cyfarfodydd yn bennaf ar ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau;

2.    Bod holl gyfarfodydd y Cyngor a'r Pwyllgorau yn dechrau am 10.00am;

3.    Bod cyfarfodydd prynhawn, gweithdai a digwyddiadau hyfforddi yn dechrau am 1.30pm.

10.

Adroddiad gan y Prif Weithredwr a Swyddog Cofrestru Etholiadol a Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd ar Adolygiad o Gymunedau a Threfniadau Etholiadol - Polisi Maint y Cyngor pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Eifion Evans, Prif Weithredwr a Swyddog Cofrestru Etholiadol a Swyddog Canlyniadau Cyngor Sir Ceredigion yr adroddiad i'r Cyngor gan nodi bod y Grŵp Trawsbleidiol a sefydlwyd i adolygu'r Cymunedau a Threfniadau Etholiadol wedi cyfarfod i ystyried Polisi Maint Cyngor.  Rhennir y polisi gyda Chomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor.

 

Amlinellodd y gofyniad cyfreithiol i gynnal adolygiad, fel y dywedwyd wrth y Cyngor ym mis Mawrth 2023 a nododd yr angen am fwy o gysondeb o ran Cynghorau Tref a Chymuned ar draws y Sir. Roedd y Grŵp Trawsbleidiol felly wedi ystyried model trefol a gwledig ar gyfer y ‘Polisi Maint Cyngor’ – dull trefol a gwledig o weithredu, gan gydnabod y gwahaniaethau yn nifer yr etholwyr.

 

Rhoddwyd eglurhad ynghylch y gwahaniaeth rhwng wardiau cymunedol, a fyddai â dim llai na 400 o etholwyr; a chyngor cymuned, y mae rhai ohonynt yn cynnwys nifer o wardiau cymunedol, a fyddai gyda'i gilydd yn cynnwys dim llai na chyfanswm o 800 o etholwyr.

 

Yn ogystal, lle bo modd, byddai'r wardiau cymunedol yn cael eu dileu a byddai cynrychiolaeth cynghorwyr yn seiliedig ar ardal gyfan y cyngor cymuned. Byddai'r praesept a gesglir o'r wardiau cymunedol yn dal i fod ar gael iddynt at ddibenion dyrannu'r cyllid o'r praesept.

 

Pwysleisiodd mai nod Polisi Maint y Cyngor oedd rhoi paramedrau i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gyflwyno cynigion i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai hon yn broses 15-18 mis ac y byddai'r penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y Cyngor ac nid gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.

 

Yn dilyn trafodaeth a phleidlais, PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo Polisi Maint y Cyngor fel y'i cyflwynir yn Atodiad A yr adroddiad.

 

11.

Adroddiad gan y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd ar Newidiadau i Aelodaeth y Cyngor Iechyd Cymunedol pdf eicon PDF 96 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod y Cyngor Iechyd Cymuned wedi’i ddisodli gan ‘Llais’ ar 3 Ebrill 2023.  O ganlyniad i'r newidiadau i'r Cyngor Iechyd Cymuned, mae aelodaeth y corff allanol hwn sy’n cynrychioli Cynghorwyr wedi dod i ben, a bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor os bydd angen cynrychiolaeth bellach.

 

Talodd y Cynghorydd Elizabeth Evans, a oedd yn gyn-Gadeirydd y Cyngor Iechyd Cymuned deyrnged i’r gwaith gwirfoddol a wnaed gan yr Aelodau, yn enwedig yn ystod COVID, gan orfodi Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i roi i-Pads mewn Wardiau, a sicrhau bod gan Ysbyty Bronglais wasanaethau cyfartal o gymharu ag ysbytai Glangwili ac ysbytai mwy eraill.  Nododd bwysigrwydd sicrhau bod llais y claf yn cael ei glywed, yn enwedig mewn ardal wledig.  Nododd fod ‘Llais’ wedi gofyn i aelodau blaenorol y Cyngor Iechyd Cymuned gyflwyno ffurflen gais mewn perthynas â ‘Llais’. 

 

Talodd y Cynghorwyr Keith Evans, Paul Hinge ac Alun Williams, hefyd yn gyn-Aelodau o’r Cyngor Iechyd Cymuned, deyrnged i’r gwaith a wnaed gan y Cyngor Iechyd Cymuned, a nododd y Cynghorydd Alun Williams bwysigrwydd eu gwaith yn sicrhau bod uwch Swyddogion y Bwrdd Iechyd yn cael eu dwyn i gyfrif.   Nododd fod gan ‘Llais’ gylch gorchwyl llawer ehangach sy’n cynnwys gofal cymdeithasol, a allai achosi achos o wrthdaro buddiannau os yw Cynghorwyr yn gysylltiedig.

 

Nododd y Cynghorydd Bryan Davies y byddai angen i Aelodaeth ‘Llais’ gael ei chadarnhau gan y Cyngor.

 

PENDERFYNODD y Cyngor nodi bod Aelodaeth y Cyngor Iechyd Cymuned wedi dod i ben ar 2 Ebrill 2023.

12.

Adroddiad gan y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Y Gyfraith a Llywodraethu ar Enwebu Ymddiriedolwr i'r elusen a adnabyddir fel Parc Coffa Llandysul pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod y Cabinet dros Bartneriaethau, Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod y Comisiwn Elusennau wedi gwneud Cynllun mewn perthynas â’r elusen a elwir yn Barc Coffa Llandysul ym 1997 sy’n amlinellu Pwyllgor Rheoli sy'n cynnwys aelod o Gyngor Sir Ceredigion.  Nododd fod y Cynghorydd Keith Evans wedi bod yn mynychu'r cyfarfodydd fel Aelod Lleol, fodd bynnag nid oedd Swyddogion wedi gallu dod o hyd i benderfyniad yn penodi aelod yn ffurfiol i gynrychioli Cyngor Sir Ceredigion.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Gareth Lloyd fod y Cynghorydd Keith Evans yn cael ei enwebu fel Ymddiriedolwr, fel yr Aelod Lleol ar gyfer De Llandysul ac argymhellodd fod y cofnodion yn dangos bod yr Aelod lleol yn cael ei bennu fel y cynrychiolydd er mwyn osgoi'r angen i adolygu hyn bob tro.

 

Yn dilyn pleidlais PENDERFYNODD y Cyngor enwebu’r Cynghorydd ar gyfer ward De Llandysul i eistedd fel yr Ymddiriedolwr yn cynrychioli Cyngor Sir Ceredigion, ar Bwyllgor Rheoli Parc Coffa Llandysul (y deiliad ar hyn o bryd yw’r Cynghorydd Keith Evans).

 

13.

Aelodaeth y Cyngor i Bwyllgorau'r Cyngor am y Flwyddyn Fwrdeistrefol i ddod pdf eicon PDF 104 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau Aelodaeth Pwyllgorau’r Cyngor fel y’i cyflwynwyd yn y cyfarfod.

 

14.

Ethol darpar Gadeirydd y Cyngor ar gyfer 2023/24 i’w sefydlu yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor i’w gynnal am 2.00pm ddydd Gwener, 19 Mai 2023

Cofnodion:

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Davies ac eiliwyd gan y Cynghorydd Gareth Davies bod y Cynghorydd Maldwyn Lewis yn cael ei ethol yn Gadeirydd y Cyngor am y flwyddyn fwrdeistrefol i ddod, 2023/24.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i ethol y Cynghorydd Maldwyn Lewis yn Gadeirydd etholedig y Cyngor ar gyfer 2023/24 i’w sefydlu yn y Cyfarfod Blynyddol a gynhelir am 2.00pm ddydd Gwener 19eg Mai 2023.

15.

Ethol darpar Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer 2023/24 i’w sefydlu yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor i’w gynnal am 2.00pm ddydd Gwener, 19 Mai 2023

Cofnodion:

Cynigiodd y Cynghorydd Gareth Lloyd ac eiliwyd gan y Cynghorydd Euros Davies bod y Cynghorydd Keith Evans yn cael ei ethol yn Is-gadeirydd y Cyngor am y flwyddyn fwrdeistrefol i ddod, 2023/24.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i ethol y Cynghorydd Keith Evans yn Is-gadeirydd etholedig y Cyngor ar gyfer 2023/24 i’w sefydlu yn y Cyfarfod Blynyddol a gynhelir am 2.00pm ddydd Gwener 19eg Mai 2023.

 

16.

Hysbysu'r Cyngor o'r sawl sydd wedi'u penodi'n Swyddogion Arweiniol Corfforaethol dros dro

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth adroddiad yr eitem atodol ar yr agenda i'r Cyngor.  Nododd mai secondiadau yw'r rolau hyn yn hytrach na phenodiadau parhaol, felly cynhaliwyd cyfweliadau gan bwyllgor recriwtio yn cynnwys Arweinwyr Grwpiau.

 

Penderfynodd y Pwyllgor y dylid penodi Mrs Elen James yn Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Dysgu Gydol Oes (a’r Prif Swyddog Addysg) ar sail secondiad dwy flynedd i gychwyn cyn gynted â phosibl ar ôl 15fed Mai 2023 ar gyflog o £85,381, y trydydd pwynt cynyddrannol ar raddfa gyflog A2 y Swyddog Arweiniol Corfforaethol; a phenodi Mr Clive Williams yn Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Ysgolion (a’r Dirprwy Brif Swyddog Addysg) ar sail secondiad dwy flynedd i gychwyn ar 15fed Mai 2023, neu cyn gynted â phosibl wedi hynny ar gyflog o £80,275, y 4ydd pwynt cynyddrannol ar raddfa gyflog A1 y Swyddog Arweiniol Corfforaethol (codiadau cyflog yn yr arfaeth).  Nododd y Cynghorydd Bryan Davies eu bod wedi gofyn am gymeradwyaeth Corff Llywodraethu’r Ysgol Gymraeg cyn cyhoeddi'r adroddiad.

 

Gwnaeth gydnabod cyfraniad Meinir Ebsworth, y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar hyn o bryd ar gyfer Ysgolion a Diwylliant a dymunodd yn dda iddi yn ei rôl newydd. 

 

Nododd y Cynghorydd Bryan Davies hefyd estyniad i gyflogi Ms Audrey Somerton-Edwards ar sail asiantaeth fel y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Dros Dro: Porth Cynnal a Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol am gyfnod o 6 mis ar y mwyaf.  Nododd fod y broses recriwtio i benodi Swyddog parhaol wedi cychwyn ac y bydd Pwyllgor Llunio Rhestr Fer a chyfarfod Arbennig o’r Cyngor yn cael eu galw ynghyd maes o law.

 

PENDERFYNODD y Cyngor:

 

a)    nodi penodiad y canlynol:

     Mrs Elen James fel Swyddog Arweiniol Corfforaethol dros dro: Dysgu Gydol Oes am gyfnod o 2 flynedd ar y mwyaf, i gychwyn cyn gynted â phosibl ar ôl 15fed Mai 2023, yn dilyn penodi rhywun i gymryd ei swydd bresennol; ar gyflog o £85,381 (y trydydd pwynt cynyddrannol ar raddfa gyflog A2 y Swyddog Arweiniol Corfforaethol).

     Mr Clive Williams fel Swyddog Arweiniol Corfforaethol dros dro: Ysgolion am uchafswm cyfnod o 2 flynedd, o 15fed Mai, neu cyn gynted â phosibl wedi hynny, ar gyflog o £80,275 (y pedwerydd pwynt cynyddrannol ar raddfa gyflog A1 y Swyddog Arweiniol Corfforaethol).

b) nodi’r estyniad i gyflogi gwasanaethau Ms Audrey Somerton-Edwards fel Swyddog Arweiniol Corfforaethol Dros Dro - Porth Cynnal a Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar sail asiantaeth am uchafswm o 6 mis pellach, o 18fed Ebrill 2023.