Cyswllt: Nia Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Fe wnaeth y Cynghorydd Rhodri
Evans ymddiheurio am ei anallu i fynychu'r cyfarfod
oherwydd ei fod ar ddyletswyddau eraill y Cyngor. |
|
Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: a) Datganodd y Cynghorydd Endaf Edwards ddiddordeb personol mewn perthynas â eitem 6 isod; b) Datganodd y Cynghorwyr Bryan Davies, Euros
Davies, Geraint Hughes a Chris James ddiddordeb personol a rhagfarnol
mewn perthynas â eitem 10 isod, gan adael y cyfarfod yn ystod yr eitem hon; c) Datganodd Eifion Evans, Prif Weithredwr
fuddiant personol a rhagfarnol mewn perthynas â eitem
10 isod, yn unol â'r Cod Ymddygiad ar gyfer Llywodraeth Leol ac fe adawodd y
cyfarfod yn ystod yr eitem hon; d) Datganodd y Cynghorwyr Euros Davies,
Gareth Davies, Endaf Edwards, Elizabeth Evans, Keith Henson, Geraint
Hughes, Chris James, Gwyn James, John
Roberts a Matthew Vaux ddiddordeb personol a rhagfarnol
mewn perthynas â eitem 11 isod, gan adael y cyfarfod yn ystod yr eitem hon; e) Datganodd Eifion Evans, Prif Weithredwr, diddordeb personol a rhagfarnol ar ran yr holl Uwch Swyddogion a oedd yn bresennol mewn perthynas â eitem 11 isod, yn unol â'r Cod Ymddygiad ar gyfer Llywodraeth Leol. Fe wnaeth yr aelodau hynny o staff adael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth. Arhosodd Angharad Rees, Swyddog AD, y swyddog cofnodion a'r cyfieithydd yn y cyfarfod yn ystod trafodaethau. |
|
Materion Personol Cofnodion: a) Llongyfarchodd y Cynghorydd Keith Evans Nancy
Davies ar ddathlu ei phen-blwydd yn 100 oed; b)
Llongyfarchodd y Cynghorydd Wyn Evans
Jessica, Charlotte ac Emily Smith-Jones o Aberaeron ar ganu gyda Rhys Meirion
ar raglen 'Canu Gyda Fy Arwr' ar S4C. c) Llongyfarchodd
y Cynghorydd Maldwyn Lewis Huw Thomas o Bontsian ar
dderbyn cydnabyddiaeth am ei waith gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda; ch)
Llongyfarchodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis Llinos Davies o Ffostrasol ar ennill gwobr am Ragoriaeth mewn
Nyrsio 2022; e)
Estynnodd y Cynghorydd Caryl Roberts ei
chydymdeimlad â theulu Kevin Jenkins, a fu'n ffigwr hynod arwyddocaol yn
hyfforddi'r timau pêl-droed ieuenctid a merched ym Mhenrhyncoch; f)
Llongyfarchodd y Cynghorydd Ifan Davies Glwb Ffermwyr Ifanc Llanwennog
ar eu llwyddiant yn y gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus. |
|
Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2022 Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion cyfarfodydd y Cyngor a gynhaliwyd ar 15
Rhagfyr 2022 fel rhai cywir. |
|
Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2021/22 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nododd fod mân ddiwygiadau wedi'u gwneud i
Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol 2021/22 gan
gyfeirio at ddiwygio dyddiadau; cynnwys adolygiad hunan-asesu Cod Rheoli
Ariannol CIPFA; sylwadau a dyddiadau wedi'u diweddaru ar gyfer Adroddiad
Cynnydd Archwilio Mewnol ac Adroddiad Blynyddol a mân wallau teipograffigol wedi'u cywiro. Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD
cymeradwyo'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2021/22 |
|
Adroddiad ISA260 Archwilio Cymru ar Ddatganiad Cyfrifon 2021/22 Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd Jason Blewitt ac Eleanor Ansell o Archwilio Cymru i'r cyfarfod. Cyflwynodd Jason Blewitt Adroddiad ISA260 mewn perthynas â Datganiad Cyfrifon y Cyngor ar gyfer 2021/22, gan nodi nad oes unrhyw faterion arwyddocaol yn deillio o'r archwiliad. Nodwyd bod y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r adroddiadau wedi newid o 30 Tachwedd 2022 i 31 Ionawr 2023 oherwydd materion cenedlaethol a bod Ceredigion wedi cydymffurfio â'r holl ofynion mewn perthynas â hyn. Cadarnhaodd Archwilio Cymru mai eu bwriad oedd cyhoeddi barn archwilio diamod ar gyfrif y flwyddyn. Nododd aelodau eu pryder bod yr adroddiad yn nodi rhai materion yn ymwneud ag asedau'r Cyngor. Cadarnhaodd Alan Davies, Cadeirydd Llywodraethu ac Archwilio bod y mater hwn yn cael sylw ar hyn o bryd gan Swyddogion ar y cyd â'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Diolchodd y Cynghorydd Gareth Davies, i'r Gwasanaeth Cyllid am gynhyrchu cyfrifon mor rhagorol, gan nodi bod y farn ddiamod a roddwyd gan Archwiliad Cymru yn dyst i'r ffaith fod y taflenni balans a'r cyfrifon wedi'u rheoli mewn modd cyfrifol iawn. Nododd hefyd ei fod wedi cael sicrwydd bod cynllun gweithredu yn ei le a fydd yn sicrhau bod y materion a godwyd ynghylch prisio asedau yn cael eu cyflawni mewn modd amserol, a bod mesurau yn eu lle i sicrhau na fydd hwn yn broblem y flwyddyn nesaf. Llongyfarchodd Steve Johnson, sef y Swyddog S151 ar y pryd yn ystod 2021/22, Duncan Hall a Justin Davies am eu gwaith. |
|
Sylwadau Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar yr adroddiad Cofnodion: |
|
Datganiad Cyfrifon 2021/22 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Diolchodd y Cynghorydd Bryan Davies i'r staff am
eu diwydrwydd a'u gwaith caled, yn wedi gweithio ochr yn ochr â'r Aelodau gan
darparu gweithdai hyfforddiant cyllideb.
Nododd Aelodau yn ogystal bod staff wedi prosesu taliadau grant dros
£14m yn ystod yr un adeg er mwyn sicrhau cynaliadwyedd yr economi yn ystod y
cyfnod hwnnw. Diolchodd Eifion Evans, y Prif Weithredwr i bawb
am eu sylwadau cadarnhaol, a diolchodd i'r Swyddogion a Rheolwyr ar draws pob
Gwasanaeth y Cyngor am reoli eu cyllidebau yn dynn a chyda gofal gwych. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD
cymeradwyo Datganiad Cyfrifon y Cyngor a
Datganiad Cyfrifon Awdurdod Harbwr Ceredigion ar gyfer 2021/22. |
|
Cofnodion: Yn dilyn
pleidlais, PENDERFYNWYD: 1. Nodi gwneud Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth
Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2023; 2. Mabwysiadu darpariaethau Rheoliadau’r
Gofynion Rhagnodedig (2013) fel Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor y Cyngor yn
2023/24, yn amodol ar y disgresiwn lleol y mae’r Cyngor yn gallu ei arfer, fel
y nodir isod:
i. Parhau â’r gostyngiad o 100% uwchben y £10 statudol sy’n
cael ei diystyru o safbwynt Pensiynau Anabledd Rhyfel, Pensiwn Rhyfel Gwragedd
Gweddw a Phensiwn Rhyfel Gwŷr Gweddw, ar gyfer pensiynwyr a phobl oedran
gweithio sy’n hawlio.
ii. Peidio ag ymestyn y cyfnodau talu estynedig ar gyfer
pensiynwyr a phobl o oedran gweithio sy’n hawlio y tu hwnt i’r pedair wythnos
safonol a nodir ar hyn o bryd yn y Cynllun Rhagnodedig.
iii. Peidio ag ymestyn y cyfnod ôl-ddyddio ar gyfer pensiynwyr
a phobl o oedran gweithio sy’n hawlio y tu hwnt i’r tri mis safonol a nodir yn
y Cynllun Rhagnodedig. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7. Pwerau Ymchwilio y Cyngor 2000 (RIPA) Yn dilyn y cyfarfod
hwn, mae'r diwygiadau canlynol wedi'u gwneud i'r Weithdrefn ar gyfer Cymhwyso
Awdurdodiad Gwyliadwriaeth Cyfarwyddiadol: - Gallu ychwanegol i Awdurdodi Swyddogion
ddirprwyo dros ei gilydd lle nad yw'r Swyddog Awdurdodi ar gyfer y gwasanaeth
perthnasol ar gael a gall yr oedi a achosir gyfaddawdu'r ymchwiliad; - Ychwanegodd y dylai'r Swyddog Awdurdodi
ystyried cais am awdurdodiad gwyliadwriaeth wedi'i gyfarwyddo o fewn 10 diwrnod
gwaith o dderbyn y cais. Diolchodd y Cynghorydd
Keith Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu i Elin Prysor a'i thîm am Aelodau blaenllaw
drwy'r broses, ac fe gadarnhaodd fod y Pwyllgor Craffu o blaid y gwelliannau
arfaethedig. Yn dilyn pleidlais ,
PENDERFYNWYD: a) Cymeradwyo’r newidiadau a wnaed
i Ddogfennau’r Cyngor RIPA RHAN 11 Gwyliadwriaeth
Gyfeiriedig, Ffynonellau Cuddwybodaeth ddynol a
Dogfen Gweithdrefnau a Pholisi Corfforaethol Dada Cyfathrebu (‘Polisi RIPA’)
ynghlwm yn Atodiad 1 fe y’u
cyflwynwyd i’r Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu ar 23/11/22; a b) Chymeradwyo’r ddau newid
pellach a nodwyd yn yr adroddiad yma i’r Weithdrefn Cyflwyno cais Awdurdod
Gwyliadwriaeth Gyfeiriedig ym mholisi RIPA (tudalennau 27 a 28 Atodiad 1). |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet ar faterion Partneriaethau, Tai,
Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu'r Cyhoedd yr adroddiad, gan nodi, yn dilyn
proses recriwtio, bod Gail Storr wedi cael ei dewis yn Aelod Annibynnol / Lleyg i'r Pwyllgor Moeseg a
Safonau. Nodwyd, yn amodol
ar gymeradwyaeth gan y Cyngor, y byddai'r aelod lleyg newydd yn cael ei phenodi
am un tymor o 6 mlynedd, gydag opsiwn i ailbenodi am ail dymor o 4 blynedd, hyd
at ddim mwy na dau dymor gweinyddol olynol gan gynnwys y tymor presennol (hyd
at 10 mlynedd, hyd at 29 Gorffennaf 2032). Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD cymeradwyo penodi Gail Storr yn Aelod Annibynnol / Lleyg i'r Pwyllgor Moeseg a Safonau o 30 Gorffennaf 2023 hyd at 29 Gorffennaf 2029. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Nododd fod cynydd o 5%
i'r holl bwyntiau a lwfansau ar raddfa statudol eisoes wedi'u gweithredu, ac y
bydd staff rhan-amser ar daliad Cyfrifoldeb Addysgu a Dysgu (CAD1 a CAD2) yn
derbyn taliad llawn amser lle gellir cyflawni dyletswyddau llawn y lwfans ofewn
yr oriau gwaith arferol. Hefyd, o
ganlyniad i'r ddau ŵyl banc ychwanegol yn
ystod 2022/23 rhaid i athrawon fod ar
gael i weithio 193 o ddiwrnodau yn ystod blwyddyn academaidd 2022/23. Yn olaf, cadarnhaodd fod ymgynghori wedi digwydd
gyda'r Undebau Llafur a bod eu hymrwymiad yn hynod o bwysig o ran cyflwyno'r
adroddiad hwn. Yn dilyn
pleidlais, PENDERFYNWYD cymeradwyo: a) Polisi Cyflogau enghreifftiol
Athrawon 2022/23 a’i gymeradwyo i’r Cyrff Llywodraethu er mwyn ei fabwysiadu yn
ysgolion Ceredigion. b)
Polisi Cyflogau enghreifftiol Athrawon Digyswllt 2022/23 ar gyfer
athrawon a gyflogir yn ganolog. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau
Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth yr adroddiad i'r
pwyllgor. Nododd fod adrannau 2.4 a 2.5 yn ymwneud â gwerthuso swyddi,
gan esbonio y byddai unrhyw ddyrchafiad i grŵp penodol o staff, yn cael
effaith ar y garfan gyfan o staff. Nododd fod cynnydd mewn cyflog a gytunwyd yn
genedlaethol ar gyfer staff NJC, Prif Weithredwr a Phrif Swyddogion 2022/23 o
£1,925 sy’n cyfateb gyda oddeutu 10% i'r rhai sydd ar y cyflogau isaf wedi’i
ychwanegu at bob gwynt graddfa cyflog ac wedi’i ôl-ddyddio i 1 Ebrill 2022; bod
y raddfa gyflog pwynt 1 NJC i'w ddileu o 1 Ebrill 2023; bod y cytundeb cyflog
cenedlaethol i staff Soulbury heb
ei gytuno eto ond y bydd yn cael eu ôl-ddyddio i 1 Medi 2022 ar ôl ei gyhoeddi;
ac y bydd 1 diwrnod ychwanegol o wyliau yn cael ei ychwanegu at delerau ac
amodau staff ar delerau NJC a Soulbury o 1 Ebrill 2023. Yn dilyn
pleidlais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Polisi Tâl ar gyfer 2023/24. |