Cyswllt: Nia Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorwyr Euros Davies, Marc
Davies, Steve Davies, Paul Hinge a Mark Strong am eu hanallu i fynychu'r
cyfarfod. |
|
Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Nid oedd dim datganiadau o fuddiant personol na buddiant
sy'n rhagfarnu. |
|
Materion Personol Cofnodion: a) Dymunodd y Cynghorydd Ifan Davies, Cadeirydd y Cyngor
yn dda i Mr Geraint Evans, Pennaeth Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Ceredigion ar ei
ymddeoliad yn dilyn 26 mlynedd o wasanaeth; b) Diolchodd y Cynghorydd Ifan Davies i’r holl
staff sy’n gweithio ddydd a nos i sicrhau bod ffyrdd yn cael eu graeanu, staff
swyddfeydd, a staff sydd wedi bod yn mynd allan ym mhob tywydd i roi cymorth i
drigolion Ceredigion; c) Llongyfarchodd y Cynghorydd Ann Bowen Morgan Brifysgol
Cymru, y Drindod Dewi Sant ar y gyngerdd a gynhaliwyd ym mis Tachwedd i ddathlu
200 mlynedd ar gampws Llanbedr Pont Steffan. d) Llongyfarchodd y Cynghorydd Ann Bowen Morgan
ddisgyblion a staff Ysgol Bro Pedr ar ei pherfformiad gwych o ‘Grease’; e) Llongyfarchodd y Cynghorydd Ceris Jones Megan Teleri
Davies ar ennill Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn Cyfadran De-ddwyrain Cymru yr RCGP,
gan gael y sgôr uchaf am ei phortffolio ar Brosiectau Meddygon Teulu a Llwybr
Cleifion; f) Llongyfarchodd y Cynghorydd Ceris Jones Michael
Morgans ar gael Gwobr Gymunedol oddi wrth Gyngor Cymuned Llanfihangel Ystrad am
ei waith gwirfoddol diflino yn ei gymuned; g) Gofynnodd y
Cynghorydd Elizabeth Evans i bawb lenwi holiadur cleifion Cyngor Iechyd Cymuned
Hywel Dda, er mwyn bwydo’r ymchwiliad cenedlaethol i’r ymateb i Covid-19; h) Llongyfarchodd
y Cynghorydd Keith Evans y Cynghorydd Rhodri Evans ar ei benodiad i Fwrdd
Iechyd Prifysgol Hywel Dda. |
|
Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd 24 Tachwedd 2022 PDF 83 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion cyfarfodydd y Cyngor a
gynhaliwyd ar 24ain Tachwedd 2022 fel rhai cywir. |
|
Penodi Aelod i Gyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda PDF 99 KB Cofnodion: Nododd y Cynghorydd Ifan Davies, Cadeirydd y Cyngor fod y
Cynghorwyr Elizabeth Evans, Amanda Edwards ac Wyn Evans wedi eu penodi i Gyngor
Iechyd Cymuned Hywel Dda 20 Mai 2022. Roedd y Cynghorydd Wyn Evans wedi gofyn
am gael tynnu'n ôl o Gyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda, felly gofynnwyd i'r
Cyngor enwebu Aelod arall i ymgymryd â'r rôl hon. Enwebodd y Cynghorydd Elizabeth Evans y Cynghorydd Elaine
Evans, a eiliwyd gan y Cynghorydd Bryan Davies. Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD yn unfrydol
penodi’r Cynghorydd Elaine Evans i gynrychioli Cyngor Sir Ceredigion ar Gyngor
Iechyd Cymuned Hywel Dda. |
|
Penodi'r Cynghorydd Rhodri Evans i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda PDF 104 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nododd y Cynghorydd Ifan Davies, Cadeirydd y Cyngor fod y
Cyngor wedi enwebu 2 gynrychiolydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac yn
dilyn proses ddethol, cafodd y Cynghorydd Rhodri Evans gadarnhad o’i benodiad
gan Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i wasanaethu
fel Aelod Annibynnol am gyfnod o 4 blynedd. Nododd Eifion Evans, Prif Weithredwr, pa mor bwysig yw hi
i Geredigion gael llais ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a llongyfarchodd ef
ar ei benodiad. Ategwyd hyn gan y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y
Cyngor. Diolchodd y Cynghorydd Rhodri Evans i bawb am eu geiriau caredig,
ac i'r holl Gynghorwyr am ei enwebu. Nodwyd, gan y Cyngor, benodiad y Cynghorydd Rhodri Evans
i Fwrdd Iechyd Hywel Dda fel Aelod Annibynnol (Awdurdod Lleol) am gyfnod o 4 blynedd.
|
|
Penodi'r Cynghorydd Carl Worrall i Grŵp Llywio Prosiect Bryngaer Pendinas PDF 101 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nododd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor fod
y Cynghorydd Carl Worrall, Aelod Lleol dros Ward Penparcau Aberystwyth wedi’i
benodi i Grŵp Llywio Prosiect Bryngaer Pendinas. Nodwyd y penodiad gan y Cyngor. |
|
Penodi Aelod (Lleyg) Annibynnol i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio PDF 93 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod y Cabinet
dros Bartneriaethau, Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd yr
adroddiad gan nodi yn dilyn proses recriwtio bod Mr Andrew Blakemore wedi’i
ddewis yn Aelod Annibynnol / Lleyg i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Nodwyd yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor, y
byddai’r aelod lleyg newydd yn cael ei benodi am ddim mwy na dau dymor
gweinyddol yn olynol, h.y. un tymor i ddechrau, gyda’r opsiwn i ymestyn i ail
dymor yn 2027 o 15 Rhagfyr 2022, yn amodol ar eirdaon boddhaol. Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD yn unfrydol i
gymeradwyo penodi Andrew Blakemore yn Aelod Annibynnol / Lleyg o’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio. |
|
Adroddiad Hunan-Asesu Cyngor Sir Ceredigion 2021/22 PDF 4 MB Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor
ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a
Threfniadaeth yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod trefn perfformiad newydd yn
seiliedig ar hunanasesiad ar gyfer Prif Gynghorau wedi’i chyflwyno o ganlyniad
i Ran 6 Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Nododd ei bod yn ofynnol i'r Cyngor gyhoeddi Adroddiad
Hunanasesu fesul blwyddyn ariannol yn amlinellu i ba raddau y mae'r Cyngor wedi
bodloni gofynion perfformiad yn ystod y flwyddyn honno, ac unrhyw gamau y bydd
yn eu cymryd, neu eisoes wedi'u cymryd i fodloni'r gofynion perfformiad.
Mae’r hunanasesiad hwn yn cyflawni dyletswyddau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r
Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Nododd hefyd fod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi adolygu'r adroddiad
ar 27 Medi 2022, gan ofyn am fân newidiadau fformatio. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor, bydd yr adroddiad yn
cael ei gyflwyno i Weinidogion, Estyn, Archwilydd Cyffredinol Cymru a Phwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio’r Cyngor ac yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD yn unfrydol
cymeradwyo Adroddiad Hunanasesu 2021-22 gan gynnwys yr Adolygiad Blynyddol o
Amcanion Perfformiad a Llesiant. |
|
Cyflwyno Lwfans Cysgu Mewn a Lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy PDF 130 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor
ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad, Pobl a
Threfniadaeth yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod datblygu cyfleuster preswyl
i blant sy’n cael ei redeg gan y Cyngor wedi ysgogi adolygiad o drefniadau
lwfansau ar gyfer staff mewn lleoliadau preswyl, y gellir hefyd eu defnyddio o
bryd i’w gilydd yng nghartrefi gofal preswyl y Cyngor i oedolion yn ystod
cyfnodau o dywydd garw er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth. Nododd hefyd ei bod yn ddyletswydd statudol ar y Cyngor i
gael Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy ar ddyletswydd bob amser.
Mae Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy yn Weithwyr Cymdeithasol
sydd â chymwysterau a chymeradwyaeth briodol sy’n gyfrifol am y cydlynu a’r
penderfyniad terfynol ynghylch asesiad Iechyd Meddwl unigolyn. Lle bo angen,
bydd hyn yn cynnwys derbyn yr unigolyn i’r ysbyty os yw i gael ei anfon i
ysbyty’r meddwl fel yr amlinellir yn Neddf Iechyd Meddwl 2007. I gydnabod
y cyfrifoldeb, y rôl a'r sylfaen sgiliau angenrheidiol wrth gyflawni
dyletswyddau Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy, cynigir lwfans
ychwanegol. Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynglŷn â'r lwfans
preswyl os yw'r alwad yn fwy na 30 munud, a chadarnhawyd y byddai cyfradd fesul
awr yn berthnasol mewn amgylchiadau o'r fath. Gofynnodd yr Aelodau hefyd
a oes gan Gyngor Sir Ceredigion ddigon o staff sydd wedi cymhwyso fel Gweithiwr
Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy i gyflawni'r dyletswyddau a nodwyd, a
chadarnhawyd bod recriwtio wedi bod yn llwyddiannus ond y bydd angen cwblhau'r
hyfforddiant perthnasol. |