Rhif | eitem | ||
---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Y Cynghorwyr Rhodri Davies, Dafydd Edwards, Endaf Edwards, Elaine Evans, Paul Hinge, Maldwyn Lewis, Hag Harris, Alun Lloyd Jones, Lyndon Lloyd MBE, Rowland Rees-Evans, John Roberts, Mark Strong, Lynford Thomas a Matthew Woolfall Jones |
|||
Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Ni ddatgelwyd unrhw fuddiannau |
|||
Materion Personol Cofnodion: Nid oedd unrhyw faterion personol |
|||
EITEM EITHRIEDIG Nid
yw’r adroddiad (Papur B) ar yr eitem isod ar gael i'w gyhoeddi gan ei fod yn
cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 12 a 13 o ran 4
o atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth
Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn
penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, yn unol ag Adran 100B(2) y Ddeddf
ac ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd a’r wasg eu heithrio o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno. Wrth
ddelio â’r eitem hyn, gofynnir i’r Aelodau ystyried a ydynt am gau’r cyhoedd
a’r wasg allan o’r Cyfarfod. Cofnodion: Nid yw'r
adroddiad sy'n ymwneud ag eitem 5 ar yr agenda (Papur B) i'w gyhoeddi gan ei
fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym mharagraffau 12 a 13
Rhan 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan
Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007. Os
bydd y Cyngor, ar ôl cymhwyso'r Prawf Budd Cyhoeddus, yn penderfynu ystyried yr
eitem hon yn breifat, bydd y cyhoedd a'r wasg yn cael eu heithrio o'r cyfarfod
yn ystod ystyriaeth o'r fath, yn unol ag Adran 100B(2) o'r Ddeddf. Gofynnwyd i aelodau
ystyried a oedd y cyhoedd a’r wasg i’w heithrio o’r cyfarfod, wrth i’r eitem
hon gael ei thrafod. PENDERFYNWYD eithrio’r
cyhoedd a’r wasg o’r cyfarfod wrth
ystyried eitem 5 isod, yn seiliedig ar y ffaith fod y cais yn cynnwys
gwybodaeth bersonol na ddylid, at ei gilydd, ei datgelu i’r cyhoedd a’r
wasg. Cadarnhaodd y Cadeirydd na fyddai’r cyfarfod yn cael ei ddarlledu yn ystod eitem 5 isod. |
|||
Swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol PDF 5 MB Cofnodion: Gwrandawodd y Cyngor ar gyflwyniadau gan yr
ymgeiswyr hynny a roddwyd ar y rhestr fer i lenwi swydd wag y Cyfarwyddwr
Corfforaethol a gwrandawyd arnynt hefyd yn ymateb i gwestiynau penodol. Darparwyd adborth hefyd gan Gadeirydd y
Pwyllgor Rhestr Fer a’r Prif Weithredwr.
Rhoddwyd ystyriaeth i’r cyflog a fyddai’n cael ei gynnig. Nodwyd bod y canllaw yn nogfen Llywodraeth
Cymru “Atebolrwydd Cyflog o fewn Llywodraeth Leol” yn argymell rhoi cyfle i’r
Cyngor bleidleisio ar becynnau cyflog £100,000 neu drosodd. Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD cynnig y swydd ar gyflog o
£97,294, sef y pwynt cynyddrannol cyntaf ar raddfa gyflog y Cyfarwyddwr
Corfforaethol. PENDERFYNODD y Cyngor fyfyrio ar y cyfweliadau
dros nos ac ailymgynnull am 12.30pm, ddydd Gwener, 22 Hydref 2021. Ailalwyd y cyfarfod ddydd Gwener, 22 Hydref 2021 drwy fideogynadledda. Gweithdrefn
Atgoffodd y
Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol fod y cyhoedd a’r wasg i gael eu heithrio tra
oedd yr eitem isod yn cael ei thrafod, yn seiliedig ar y ffaith bod y cais yn
cynnwys gwybodaeth bersonol na ddylid, at ei gilydd, ei datgelu i’r cyhoedd a’r wasg.
|