Agenda a Chofnodion

Cyngor - Dydd Iau, 3ydd Mawrth, 2022 10.00 am

Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Rowland Rees-Evans a Mark Strong am nad oeddent yn gallu mynychu’r cyfarfod.

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Catherine Hughes fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chofnod 13 isod, a gadawodd y cyfarfod rhithiol yn ystod y trafodaethau.

 

Datganodd y Cynghorwyr Bryan Davies, Euros Davies, Endaf Edwards, Rhodri Evans, Catherine Hughes ac Alun Lloyd Jones fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chofnod 16 isod, a gadawsant y cyfarfod rhithiol yn ystod y trafodaethau.

 

Datganodd y Cynghorwyr Bryan Davies, Euros Davies, Endaf Edwards, Catherine Hughes, Gwyn James ac Alun Lloyd Jones fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chofnod 17 a 18 isod, a gadawsant y cyfarfod rhithiol yn ystod y trafodaethau.

 

Datganodd y Prif Weithredwr, Eifion Evans fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chofnod 16 isod, yn unol â’r Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, a gadawodd y cyfarfod rhithiol yn ystod y trafodaethau.

 

Datganodd y Prif Weithredwr, ar ran yr holl Uwch Swyddogion a oedd yn bresennol, fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chofnod 17 a 18 isod, yn unol â’r Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol. Gadawodd yr aelodau hynny o staff y cyfarfod rhithiol yn ystod y trafodaethau. Arhosodd Catherine Hutton, Swyddog Adnoddau Dynol, y swyddog a oedd yn cymryd cofnodion, a’r cyfieithydd yn y cyfarfod yn ystod y trafodaethau.

3.

Materion Personol

Cofnodion:

a)            Llongyfarchodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn ‘Ynyshir Hall’ ar ennill dwy seren Michelin;

b)            Llongyfarchodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn fwyty ‘SY23’ ar ennill ei seren Michelin gyntaf;

c)            Llongyfarchodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn ‘Y Talbot’ ar gael ei gynnwys yng Nghanllaw Michelin;

d)            Llongyfarchodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn Robat ac Enid Griffiths, sylfaenwyr a pherchnogion y wasg 'Y Lolfa', sydd wedi’u dewis i arwain Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi yn Aberystwyth eleni;

e)            Llongyfarchodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn Sefydliad y Merched sy’n dathlu eu canmlwyddiant eleni;

f)             Nododd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn fod y Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi cyllid o £5.7m ar gyfer creu Canolfan Drochi Iaith Gymraeg a bloc o Ystafelloedd Dosbarth newydd yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth;

g)            Nododd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Panel ac Ymddiriedolwr ar Fwrdd Pensiwn Dyfed, fod y buddsoddiadau gyda Rwsia yn llai nag 1%, ond cytunwyd i ddadfuddsoddi cyn gynted â phosibl;

h)            Diolchodd y Cynghorydd Ellen a Gwynn i bawb am eu cefnogaeth gan nodi y byddai’n ymddeol ar ddiwedd y tymor hwn, gan ddiolch i’w chyd-gynghorwyr a Swyddogion am eu cefnogaeth dros ei 10 mlynedd fel Arweinydd y Cyngor. Talodd deyrnged i’r Cynghorwyr hynny a fyddai’n camu i lawr, gan gynnwys y Cynghorydd Alun Lloyd Jones, y Cynghorydd John Adams Lewis, y Cynghorydd Odwyn Davies, y Cynghorydd Lyndon Lloyd MBE, y Cynghorydd Lynford Thomas, y Cynghorydd Peter Davies MBE, y Cynghorydd Ivor Williams a’r Cynghorydd Matthew Woolfall Jones. Cydnabuwyd y sylwadau gan yr Aelodau perthnasol;

i)             Talodd y Cynghorydd Ceredig Davies deyrnged i’r Cynghorydd Ellen ap Gwynn a dymunodd yn dda iddi ar ei hymddeoliad;

j)             Myfyriodd y Cynghorydd Ray Quant MBE ar arweinyddiaeth y Cynghorydd Ellen ap Gwynn a thalodd deyrnged i’r holl Aelodau sy’n camu i lawr a diolchodd iddynt i gyd am eu cyfraniadau;

k)            Talodd y Cynghorydd Dafydd Edwards deyrnged i’r Cynghorydd Ellen ap Gwynn, a mynegodd ei ddymuniadau gorau i’r holl Aelodau sy’n camu i lawr;

l)             Ategodd Eifion Evans, Prif Weithredwr, bopeth a ddywedodd yr Aelodau, gan nodi y byddai ymddeoliad Cynghorwyr profiadol yn cael effaith sylweddol o ran colli arbenigedd a gwybodaeth. Nododd fod eu cyfraniadau wedi bod yn sylweddol o ran cyflawni Bargen Twf Canolbarth Cymru gwerth £110m, cronfa Codi’r Gwastad, cyllid ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif ac ati. Dymunodd yn dda i bob un ohonynt yn eu hymddeoliad;

m)          Diolchodd y Cynghorydd Bryan Davies, a fydd yn camu i rôl Arweinydd Grŵp Plaid Cymru, i’r Cynghorydd Ellen ap Gwynn a mynegodd ei ddymuniadau gorau i’r holl Aelodau a fyddai’n camu i lawr;

n)            Nododd y Cynghorydd Bryan Davies, yn dilyn y Rhybudd o Gynnig yng Nghyfarfod y Cyngor ar 9 Rhagfyr 2021, fod Aelodau wedi cyfarfod â’r Gwasanaeth Ambiwlans ac wedi cael sicrwydd na fydd y Gwasanaeth Ambiwlans sy’n gwasanaethu Ceredigion yn cael ei chwtogi.

o)            Nododd y Cynghorydd Bryan Davies y bydd Llanarth yn cymryd rhan mewn prosiect arbrofol a ariennir gan Lywodraeth Cymru i arwynebu ffyrdd gan ddefnyddio cewynnau wedi’u hailgylchu, a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Diweddariad ar lafar gan Arweinydd y Cyngor parthed COVID-19

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn ddiweddariad ar lafar mewn perthynas â COVID-19 yng Ngheredigion.

 

Nododd fod 8 achos ychwanegol wedi’u cofnodi heddiw yng Ngheredigion, gan gyfrannu at gyfanswm o 11,597 o achosion ers dechrau’r pandemig. Ar hyn o bryd, y gyfradd bresennol yw 177.5 fesul can mil o’r boblogaeth, a’r gyfradd bositifrwydd yw 22.2%. Fodd bynnag, dim ond profion PCR sy’n cael eu cofnodi bob dydd ar hyn o bryd ac mae’r Tîm Tracio ac Olrhain wedi dweud bod llawer mwy o achosion yn cael eu hadrodd drwy’r profion LFT, felly nid yw hyn yn rhoi’r darlun llawn. Mae cronfa ddata Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu bod achosion yn ardal Rheidol, Ystwyth a Charon yn uchel iawn ar hyn o bryd, ac er bod achosion yn y Brifysgol wedi codi i ddechrau ar ôl yr arholiadau, mae’r ffigurau bellach yn sefydlogi.

 

Mae tri chartref gofal yng Ngheredigion o dan gyfyngiadau oherwydd achosion o COVID-19 ymhlith staff, ac mae gan un o’r cartrefi achosion ymhlith y preswylwyr. Mae 2 glaf yn Ysbyty Bronglais gyda COVID-19 ar hyn o bryd. Mynegodd ei dymuniadau gorau i’r Cynghorydd Mark Strong sydd yn Ysbyty Bronglais ar hyn o bryd yn dilyn strôc, a nododd ei fod yn parhau i wella.

 

Mae holl wasanaethau’r Cyngor bellach ar agor, ac rydym yn paratoi i ailagor pob swyddfa yn dilyn yr Etholiadau Lleol ym mis Mai. Mae gwaith yn mynd rhagddo yn Siambr y Cyngor i sicrhau ein bod yn bodloni’r rheoliadau newydd a fydd yn ein galluogi i weithio o bell neu wyneb yn wyneb.

 

5.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd 27 Ionawr 2022 pdf eicon PDF 230 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod Cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2022 yn rhai cywir.

6.

Adroddiad ar y cyd gan yr Arweinydd, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Ariannol a’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael ar Gyllideb 2022/23, gan gynnwys y Rhaglen Gyfalaf Tair Blynedd a’r Dangosyddion Darbodus ar gyfer Rheoli’r Trysorlys a Rheoli Cyfalaf pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd y Cyngor, yr adroddiad gan nodi bod y wybodaeth wedi’i hystyried gan y Cabinet a’r holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu.

 

Nododd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn fod y Cyngor wedi derbyn gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru ar 17 Chwefror 2022 ynghylch cyllid ychwanegol ar gyfer 2021/22 y gellir ei gario ymlaen i’r flwyddyn nesaf. Nododd fod y Cabinet wedi gofyn i Swyddogion ddrafftio model diwygiedig, yn seiliedig ar gynnydd o 2.5% yn Nhreth y Cyngor a ystyriwyd yn ystod ei gyfarfod ar 22 Chwefror 2022, ynghyd â’r adborth a gafwyd gan yr holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu, a chytunodd i argymell i’r Cyngor mai cyfanswm cyllideb sylfaenol ddrafft 2022/23 yw £154.843m ac mai 2.5% yw lefel y cynnydd yn Nhreth y Cyngor a gynigir ar gyfer 2022/23, sy’n cynrychioli swm Band D o £1,447.90.

 

Nododd yr Aelodau y byddai trigolion yn falch o glywed y byddai’r cynnydd yn Nhreth y Cyngor yn seiliedig ar 2.5% a rhoddwyd sylw hefyd i'r cymorth Rhyddhad Treth y Cyngor sydd ar gael. Nodwyd y byddai cynnydd o 2.5% yn Nhreth y Cyngor yn galluogi cynnal gwasanaethau.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD:

a)    Nodi, ym marn y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael (Swyddog Adran 151 Statudol), fod amcangyfrifon cyllideb 2022/23 wedi'u paratoi mewn modd cadarn;

b)    Nodi, ym marn y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael (Swyddog Adran 151 Statudol), fod y lefelau arfaethedig o ran cronfeydd wrth gefn, darpariaethau a balansau’n ddigon ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod;

c)    Cymeradwyo Amcangyfrifon y Refeniw Net a Ddiweddarwyd ar gyfer y Cyngor ar gyfer 2021/22, sef swm o £154.736m;

d)    Cymeradwyo Amcangyfrifon y Refeniw Net ar gyfer y Cyngor ar gyfer 2022/23 sef swm o £165.843m;

e)    Cymeradwyo cyllidebau manwl y gwasanaethau ar gyfer 2022/23 a’r cyllidebau diweddaraf ar gyfer 2021/22, fel yr amlinellir yn Atodiad 1 yr adroddiad;

f)     Codi Treth y Cyngor Sylfaenol o £1,447.90 ar gyfer eiddo Band D yn 2022/23;

g)    Cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf, fel yr amlinellir yn Atodiad 2 yr adroddiad;

h)    Cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf Tair Blynedd, fel yr amlinellir yn Atodiad 3 yr adroddiad;

i)     Cymeradwyo’r Dangosyddion Darbodus, fel yr amlinellir yn Atodiad 4 yr adroddiad;

j)     Dirprwyo awdurdod i'r Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Cyllid a Chaffael i beri symudiad o fewn cyfanswm terfyn awdurdodedig benthyca allanol, a’r ffin weithredol.

 

7.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael ynghylch Gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2022/23 pdf eicon PDF 581 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, yr Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Cyllid a Chaffael a Diogelu’r Cyhoedd, yr adroddiad i’r Cyngor yn ymwneud â phennu Treth y Cyngor ar gyfer 2022/23.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD nodi’r canlynol:

(i)             Nodi y cymeradwywyd y symiau canlynol ar gyfer y flwyddyn 2022/23 yng nghyfarfod Cabinet y Cyngor a gynhaliwyd ar 07 Rhagfyr 2021 yn unol â rheoliadau Adran 33(5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992:

 

(a)    32,063.08 sef y swm a gyfrifir gan y Cyngor fel sylfaen treth y Cyngor ar gyfer yr ardal, yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) (Cymru) 1995, fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) a Threth y Cyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygio) 2004.

 

(b)    RHAN O ARDAL Y CYNGOR

SYLFAEN TRETH Y CYNGOR 32,063.08

sef y symiau a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol â Rheoliad 6 o Reoliadau 1995 (fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau 2004), fel symiau Treth y Cyngor am y flwyddyn ar gyfer anheddau mewn rhannau penodol o’r ardal y mae un eitem neu fwy yn berthnasol iddynt;

(ii)     cymeradwyo’r symiau a gyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2022/23 yn unol ag adrannau 32 hyd 36, Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, fel y nodir isod:-

(a) £251,857,115 sef cyfanswm y symiau a amcangyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer eitemau a nodir yn Adran 32(2)(a) hyd (e) o’r Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys £221,000 o ran Rhyddhad Ardrethi Annomestig Cenedlaethol.

(b) £84,757,000 sef cyfanswm y symiau a amcangyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer eitemau a nodir yn Adran 32(3)(a) hyd (c) o’r Ddeddf.

(c) £167,100,115 sef swm y diffyg rhwng cyfanswm (a) uchod a chyfanswm (b) uchod, a gyfrifir gan y Cyngor fel yr anghenion cyllidebol am y flwyddyn, yn unol ag Adran 32(4) o’r ddeddf.

(d) £119,418,759 sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif a fydd yn daladwy i Gronfa’r Cyngor am y flwyddyn ar gyfer ailddosbarthu ardrethi annomestig, y grant cymorth refeniw a Chynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.

(e) £1,487.11 sef y swm a roddir o dan (c) uchod, namyn y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael ar Ddatganiad Polisi Rheoli'r Trysorlys, Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a Pholisi Isamswm Darpariaeth Refeniw (MRP) 2022/23 pdf eicon PDF 717 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, yr Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Cyllid a Chaffael a Diogelu’r Cyhoedd, yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi y penderfynodd y Cabinet yn ei gyfarfod ar 22 Chwefror 2022 i gymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys, yr Atodlen Buddsoddi a’r Polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw, ac i ddirprwyo awdurdod i’r Swyddog Adran 151 mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid, Caffael a Diogelu’r Cyhoedd i ddiwygio Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a’r Atodlen Buddsoddi yn ystod y flwyddyn, gan argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer Benthyca a Buddsoddi a’r Polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw ar gyfer 2022/23.

 

(i)            Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad a chymeradwyo’r penderfyniadau a wnaed gan y Cabinet i gymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a amlinellwyd yn yr adroddiad ar gyfer Benthyca a Buddsoddi;

(ii)          (ii) cymeradwyo’r Atodlen Buddsoddi fel y’i nodir yn Atodiad B;

(iii) cymeradwyo’r Polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw fel y’i nodir yn Atodiad C;

(iii)         (iv) dirprwyo awdurdod i’r Swyddog Adran 151 mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid, Caffael a Diogelu’r Cyhoedd i newid Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a’r Atodlen Buddsoddi yn ystod y flwyddyn.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD cymeradwyo:

(a)  Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer Benthyca a Buddsoddi 2022/23; a

(b)  Pholisi Isafswm Darpariaeth Refeniw 2022/23

 

9.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ar Adolygiad o'r Datganiad Statudol o'r Polisi Gamblo pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, yr Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Cyllid a Chaffael a Diogelu’r Cyhoedd, yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi ei bod yn ofynnol i'r Cyngor fel yr Awdurdod Trwyddedu fabwysiadu Polisi Gamblo, o dan Ddeddf Gamblo 2005, ac i gadw ei Ddatganiad Polisi dan adolygiad cyffredinol, ond rhaid iddo bennu ei Bolisi o leiaf bob 3 blynedd, gan gynnwys cynnal cyfnod o ymgynghori statudol.

 

Nododd y Cynghorydd Gareth Lloyd fod mân newidiadau’n cael eu hargymell, gan ystyried newidiadau i’r Codau Ymarfer, yr Egwyddorion Sylfaenol yn y Canllawiau a’r cyngor a roddwyd yn uniongyrchol gan gynrychiolwyr y Comisiwn i staff Trwyddedu. Daeth y cyfnod ymgynghori gyda’r partïon perthnasol i ben ar 28 Tachwedd 2021, a rhoddwyd ystyriaeth i’r holl ymatebion a dderbyniwyd.

 

Yn ogystal, adolygodd y Cyngor ei benderfyniad i beidio â rhoi trwyddedau casinos yn Sir Ceredigion fel y darperir ar ei gyfer yn Adran 166 Deddf Gamblo 2005, ac argymhelliad gan y Cabinet i gadw’r penderfyniad “dim casinos”.

 

Nododd y Cynghorydd Alun Lloyd Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu, fod y Pwyllgor wedi ystyried yr adroddiad ac argymhellodd y dylai'r argymhellion barhau.

 

Nododd yr Aelodau hefyd fod polisi presennol y Llywodraeth ar gamblo yn dinistrio bywydau, a gofynnwyd a fu unrhyw apeliadau yn erbyn polisi’r Cyngor ar Gasinos. Cadarnhawyd bod Llywodraeth y DU yn adolygu ei pholisi gamblo ar hyn o bryd, ac nad yw Ceredigion wedi derbyn unrhyw geisiadau nac apeliadau am Gasinos, ond nododd 2 berson eu gwrthwynebiad yn rhan o’r broses ymgynghori.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD:

a)    cymeradwyo'r Datganiad Polisi Gamblo diwygiedig fel y Datganiad o Bolisi Gamblo ar gyfer Ceredigion am y cyfnod 2022-2025;

dilyn yr argymhelliad a wnaethpwyd gan y Cabinet i gadw’r penderfyniad “Dim Casinos” a bod y penderfyniad yn cael ei gofnodi a’i ychwanegu at y polisi terfynol.

10.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth Gofal ar Asesiad Poblogaeth Gorllewin Cymru 2022 pdf eicon PDF 570 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet Porth Gofal, yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi, yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), bod yn rhaid i bartneriaid rhanbarthol gynhyrchu Asesiadau Poblogaeth, gan ddarparu asesiad o’r angen am ofal a chymorth ac anghenion cymorth gofalwyr yn eu hardal. Cyflwynwyd yr adroddiad cryno i’r Cabinet ar 22 Chwefror 2022, a bydd yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet a’r Cyngor pan fydd wedi’i gwblhau’n derfynol.

 

Holodd yr Aelodau am y sefyllfa o ran Bodlondeb, a chadarnhawyd bod yr eiddo ar y farchnad agored ar hyn o bryd. Cyfeiriodd yr Aelodau hefyd at gyfleoedd ymchwil ar y cyd â Phrifysgol Bangor. Cadarnhaodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn fod yr ymchwil yn cael ei chynnal gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, ac y bydd unrhyw gyllid ychwanegol sydd ei angen i ddatblygu mentrau yn cael ei ddarparu yn rhanbarthol. Nododd ei siom ynghylch diffyg nyrsio dementia yn y Sir, gan ddweud bod trafodaethau’n cael eu cynnal ar hyn o bryd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a phartneriaid preifat gan nad oes gan Awdurdodau Lleol hawl gyfreithiol i ddarparu gofal nyrsio a’r gobaith yw y bydd datblygiadau yn y dyfodol agos.

 

Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y Cyngor.

 

11.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth Gofal ar Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad yng Nghorllewin Cymru 2022: Crynodeb Gweithredol pdf eicon PDF 697 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet Porth Cynnal yr adroddiad i'r Cyngor gan nodi bod Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, ar y cyd â byrddau iechyd, gynhyrchu Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad ar sail byrddau partneriaeth rhanbarthol. Mae’r Adroddiad ar Sefydlogrwydd ar y Farchnad wedi’i lunio o dan 2 bennawd penodol, sy’n ystyried Asesiad Digonolrwydd, ac Asesiad Sefydlogrwydd. Nodwyd mai’r dyddiad cau ar gyfer cyhoeddi’r adroddiad yw 30 Mehefin 2022.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cabinet ar 22 Chwefror 2022.

Caiff yr adroddiad terfynol ei gyflwyno i’r Cabinet a’r Cyngor cyn gynted ag y bydd wedi ei gwblhau’n derfynol.

 

Diolchodd yr Aelodau i’r Swyddogion am y gwasanaethau rhagorol a ddarparwyd yn ystod cyfnod heriol tu hwnt, gan nodi eu pryderon bod y data’n dangos y bydd y ffigurau’n cynyddu, gan arwain at fwy o bwysau ar y gwasanaethau hyn.

 

Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y Cyngor.

 

12.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Economi ac Adfywio ar Aelodaeth y Fforwm Mynediad Lleol pdf eicon PDF 829 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Rhodri Evans, yr Aelod Cabinet dros yr Economi ac Adfywio, yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi ei bod yn ofynnol i’r Cyngor sefydlu Fforwm Mynediad Lleol yn unol â Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 a Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) 2001. Mae aelodaeth y Fforwm am gyfnod o 3 blynedd, a phenodir aelodau newydd ar gyfer y cyfnod 2022 i 2025. 

 

Rhoddwyd cyhoeddusrwydd eang i’r broses benodi, a derbyniwyd 19 o geisiadau, ac yna tynnodd 2 ohonynt yn ôl fel y nodir yn Atodiad 1.  Bydd un Aelod o’r Cyngor yn cael ei enwebu i fod yn Aelod o’r Fforwm, a fydd yn digwydd ar ddechrau’r weinyddiaeth newydd.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD cymeradwyo’r penodiadau i’r Fforwm Mynediad Lleol fel y rhestrir yn Atodiad 1 ar gyfer y cyfnod 2022-2025

 

13.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Economi ac Adfywio ar y Cynnig Tai Cymunedol pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Rhodri Evans, yr Aelod Cabinet ar gyfer yr Economi ac Adfywio, yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod y Grŵp Annibynnol wedi cyflwyno papur i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 29 Tachwedd 2021 yn amlinellu gweledigaeth ynghylch creu llwybr i Genhedlaeth Ifanc Ceredigion berchen ar eu tŷ eu hunain. Cefnogwyd y cynigion gan y Pwyllgor a gofynnwyd i Swyddogion weithio ar hyfywedd y cynllun. Cafodd adroddiad pellach ei ystyried wedyn gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 7 Chwefror 2022 a chan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 22 Chwefror 2022.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Ivor Williams adborth ar lafar gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol gan nodi bod trafodaeth gadarn wedi’i chynnal a bod holl Aelodau’r Pwyllgor yn cefnogi’r cynnig. Diolchodd i’r Grŵp Annibynnol am ddod â’r adroddiad hwn i’w ystyried.

 

Dywedodd y Cynghorydd Elizabeth Evans ei bod yn cefnogi’r cynnig, ond nododd fod angen cefnogi cymunedau â nifer uchel o ail gartrefi hefyd.

 

Diolchodd y Cynghorydd Ifan Davies, ar ran y Grŵp Annibynnol, i’r Swyddogion am y gwaith a wnaed ar fyr rybudd, a diolchodd i Gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol am drefnu cyfarfod arbennig i ystyried yr argymhellion. Nododd fod ardaloedd gwledig yn wynebu nifer o heriau, a fforddiadwyedd cartrefi i bobl ifanc yw un o’r rhai pwysicaf. Nododd mai’r cam cyntaf oedd yr argymhellion a oedd yn cael eu hystyried, ond y byddai angen gwneud rhagor o waith yn y weinyddiaeth newydd i ystyried a datblygu’r gwahanol opsiynau sydd ar gael.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD:

a)    Bod penderfyniad y Cyngor 24/3/16 Cofnod 12) Adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr ar Bremiymau Treth y Cyngor ar gyfer cartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi, pwynt 4 i’w ddiwygio fel a ganlyn:

“4.a) Lefel Premiwm Ail Gartrefi Treth y Cyngor a godir i’w phennu ar 25% (yn dod i rym o 1 Ebrill 2017); a,

b) bod yr holl arian a godir o Bremiwm 25% Ail Gartrefi Treth y Cyngor (net o ad-daliadau Treth y Cyngor), yn cael ei glustnodi a’i ddefnyddio i gefnogi'r Cynllun Tai Cymunedol.”

b)    Bod yr holl arian a godir o Bremiwm 25% Ail Gartrefi Treth y Cyngor rhwng y cyfnod 01/04/17 i 31/03/22 (net o ad-daliadau Treth y Cyngor), yn cael ei glustnodi a’i ddefnyddio i gefnogi’r Cynllun Tai Cymunedol.

c)    Bod yr holl arian a godir o Bremiwm 25% Ail Gartrefi Treth y Cyngor o 01/04/22 (net o addaliadau Treth y Cyngor), yn cael ei glustnodi a’i ddefnyddio i gefnogi’r Cynllun Tai Cymunedol.

d)    O 01/04/22, bod yr holl arian a godir o Bremiwm 25% Cartrefi Gwag Treth y Cyngor (net o addaliadau Treth y Cyngor), yn cael ei glustnodi a’i ddefnyddio i gefnogi’r Cynllun Tai Cymunedol.

e)    Diddymu penderfyniad y Cyngor 16/03/17 cofnod 8.b) Premiymau Treth y Cyngor ar Ail Gartrefi.

f)     Bod manylion elfen rhannu ecwiti o’r cynllun yn cael eu paratoi a’u cytuno o fewn 12 mis i benderfyniad y Cyngor a bod gwaith yn parhau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 13.

14.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyfreithiol a Llywodraethu ar newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor pdf eicon PDF 7 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Ray Quant, yr Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu, Pobl a Threfniadaeth a Gwasanaethau Democrataidd, yr adroddiad gan nodi bod y newidiadau arfaethedig wedi cael eu hystyried a’u cymeradwyo gan y Gweithgor Trawsbleidiol, gan gynnwys:

-       Ychwanegu Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd at y rhestr o Swyddogion Statudol

-       Diweddaru’r Portffolios Cabinet yn Rhan 3.4 Tabl 4 a Rhan 3 (Atodiad 2)

-       Ychwanegu Chwythu’r Chwiban at ddirprwyaethau Swyddog Arweiniol Corfforaethol Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu

-       Dirprwyaethau i Swyddog Arweiniol Corfforaethol Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd, gan gynnwys Argyfyngau Sifil Posibl a Pharhad Busnes, a Rheolwr Safonau Masnach a Thrwyddedu

-       Dirprwyaethau i Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal, gan gynnwys cyfeiriad at Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a chyfeiriad at swyddogaeth y ddau Swyddog Arweiniol Corfforaethol mewn perthynas â Bwrdd Rhanbarthol Gorllewin Cymru a Phartneriaeth Gofal Gorllewin Cymru

-       Dirprwyaethau i Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael gan gynnwys statws fel Prif Swyddog Cyllid Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru a Chyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru yn ogystal ag eglurder ynghylch ei statws fel Prif Swyddog Cyllid Ceredigion

-       Ychwanegu Partneriaeth Addysg Canolbarth Cymru at Adran 4 Rhan 7 (Atodiad 12)

-       Diwygiadau i’r Pwyllgor Moeseg a Safonau a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i adlewyrchu Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

-       Ychwanegu swyddogaeth y Gymraeg mewn Addysg yn Rhan 3.2 Tabl 2, Rhan 3

-       Ychwanegu Protocol Arfer dda o ran Cynllunio ar gyfer Aelodau Newydd, Gweithdrefnau Gweithredol y Pwyllgor Rheoli Datblygu, Cylch Gorchwyl wedi ei ddiweddaru, Cynllun dirprwyo wedi ei ddiweddaru, a chadarnhau newid enw’r Pwyllgor Rheoli Datblygu yn Saesneg o ‘Development Control Committee’ i ‘Development Management Committee’

-       Gwelliant sy’n adlewyrchu’r lleihad y cytunwyd arno o ran aelodaeth amrywiol bwyllgorau

-       Mân newidiadau, gan gynnwys newidiadau o ran arddull/fformat.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD:

a)    Newid enw’r Pwyllgor Rheoli Datblygu yn Saesneg o ‘Development Control Committee’ i ‘Development Management Committee’;

b)    Nodi cynnwys yr adroddiad (yn arbennig paragraffau A-M);

c)    Cymeradwyo’r newidiadau i’r Cyfansoddiad (gweler Atodiadau 1-12 yr adroddiad);

d)    Rhoi awdurdod i’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu/Swyddog Monitro ddiweddaru Cyfansoddiad y Cyngor i adlewyrchu’r newidiadau uchod.

15.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyfreithiol a Llywodraethu ar Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol Ddrafft 2021-22 pdf eicon PDF 4 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Ray Quant, yr Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu, Pobl a Threfniadaeth, a Gwasanaethau Democrataidd, yr adroddiad i’r Cyngor gan ddweud bod Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnal adolygiad o effeithiolrwydd eu fframwaith llywodraethu o leiaf bob blwyddyn.

 

Nododd 7 egwyddor y Datganiad Llywodraethu Blynyddol, a rhoddodd drosolwg o sgoriau’r adolygiad terfynol a gwblhawyd yn ystod y gweithdy. O ganlyniad i’r sgoriau diwygiedig, mae camau gweithredu wedi’u nodi ar gyfer 2022-2023.

 

Nodwyd bod y Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn cael ei adrodd i Archwilio Cymru bob blwyddyn, ac y cynhaliwyd gweithdy i Aelodau/Swyddogion er mwyn adolygu’r trefniadau llywodraethu presennol yn erbyn y fframwaith a oedd yn adolygu’r sgoriau, gan nodi camau gweithredu ar gyfer 2022-23. Cymeradwywyd y dogfennau drafft gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 19 Ionawr 2022.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD:

a)    Nodi cynnwys Dogfen Fframwaith Llywodraethu 2021-2022 (Atodiad 1);

b)    Cymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft 2021-2022 (Atodiad 2);

c)    Cymeradwyo Cod Llywodraethu Corfforaethol Lleol 2022-2023 ar gyfer ei gyhoeddi (Atodiad 3)

 

Nododd y Cynghorydd Elizabeth Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, fod y Pwyllgor wedi ystyried pob eitem yn fanwl, ynghyd â’r sgoriau a diolchodd i Swyddogion, Aelodau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, a’r Aelod Lleyg, yr Athro Ian Roffe am eu cyfraniadau.

 

16.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Pobl a Threfniadaeth ar Awdurodi'r Polisiau Tâl Athrawon pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Catrin Miles, yr Aelod Cabinet dros Ysgolion a Diwylliant yr adroddiad gan nodi’r codiad o 1.75% a gymhwyswyd i’r holl bwyntiau graddfa statudol a lwfansau sy’n daladwy o 1 Medi 2021, y gyfres o egwyddorion gorfodol a dewisol a gynhwyswyd ar gyfer cludadwyedd cyflog ac eglurhad o sefyllfa penaethiaid sy’n gyfrifol am fwy nag un ysgol, a chadarnhau o ganlyniad i’r ŵyl banc ychwanegol i ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines yn 2022, rhaid i athrawon fod ar gael i weithio am 194 diwrnod.

 

Nodwyd ar ôl ymgynghori â Swyddogion Undebau Llafur Lleol, mae rhestr gynhwysfawr o ddeddfwriaeth berthnasol sy’n ymwneud â chydraddoldeb wedi’i chynnwys.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD cymeradwyo:

a)    Polisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol 2021/22 a’i argymell i’r Cyrff Llywodraethu er mwyn ei fabwysiadu yn ysgolion Ceredigion.

b)    Polisi Cyflogau Athrawon Digyswllt Enghreifftiol ar gyfer athrawon a gyflogir yn ganolog.

 

17.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Pobl a Threfniadaeth ar Bolisiau Tâl y Cyngor Arfaethedig ar gyfer 2022-23 pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Ray Quant, yr Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu, Pobl a Threfniadaeth a Gwasanaethau Democrataidd, yr adroddiad gan nodi ers cyhoeddi agenda’r Cyngor ddydd Iau 24 Chwefror, y cytunwyd ar y Dyfarniadau Cyflog ar gyfer y Prif Weithredwr, y Prif Swyddogion, Soulbury a staff y Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer 2021/22, ac mae adroddiad wedi’i gyhoeddi fel Atodiad er mwyn i’r Cyngor ystyried y fersiwn mwyaf diweddar o’r Polisi Tâl ar gyfer 2022-23.

 

Nodwyd y canlynol:

-       Mae Pwynt 1 ar golofn gyflog NJC wedi codi gan 2.75% a phob pwynt golofn gyflog arall gan 1.75% ac yn ôl-ddyddio i 1 Ebrill 2021.

-       Mae’r dyfarniad cyflog cenedlaethol ar gyfer Prif Weithredwyr a Phrif Swyddogion wedi’i gytuno ar 1.5% a’i ôl-ddyddio i 1 Ebrill 2021.

-       Mae’r dyfarniad cyflog cenedlaethol ar gyfer Pwyllgor Soulbury wedi’i gytuno ar 1.75% a'i ôl-ddyddio i 1 Medi 2021.

-       Rhaid i’r Cyngor Llawn gymeradwyo unrhyw becyn taliad diswyddo Prif Swyddog.

-       Ni chaniateir i weithwyr sy’n gadael y Cyngor o dan gynllun effeithlonrwydd (diswyddiad gwirfoddol, ymddeoliad cynnar neu ddileu swydd) ddychwelyd i gyflogaeth gyda’r Cyngor am gyfnod o 2 flynedd, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol a dim ond pan gymeradwyir hynny gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol perthnasol a’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Pobl a Threfniadaeth.

-       Ni chaniateir i Brif Swyddogion sy’n gadael y Cyngor o dan gynllun effeithlonrwydd (diswyddiad gwirfoddol, ymddeoliad cynnar neu ddileu swydd) ddychwelyd i gyflogaeth gyda’r Cyngor neu fel gweithiwr asiantaeth neu fel ymgynghorydd, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol a dim ond pan gymeradwyir hynny gan y Prif Weithredwr a’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu, Pobl a Threfniadaeth a Gwasanaethau Democrataidd.  

 

Nodwyd hefyd nad yw’r trafodaethau ar gyfer 2022-23 wedi dechrau eto.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Polisi Cyflogau ar gyfer 2022/23.