Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda
Cyswllt: Nia Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd
y Cynghorwyr Euros Davies. Gareth Davies a Peter Davies MBE am nad oedd modd
iddynt fod yn bresennol yn y cyfarfod. |
|
Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Ni chafwyd dim
datganiadau o fuddiant personol na buddiant sy’n rhagfarnu. |
|
Materion Personol Cofnodion: a)
Estynnodd y Cynghorydd Paul Hinge ei gydymdeimlad â’r Cynghorydd Gareth
Davies a Mrs Julie Davies a’u merch Angharad yn dilyn marwolaeth sydyn Daniel
Davies. Cafodd y Cyngor funud o
dawelwch; b)
Estynnodd y Cynghorydd Paul Hinge ei longyfarchiadau i’r Parchedig Andy
John o Aberystwyth ar gael ei ethol yn Archesgob Cymru; c)
Estynnodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd y Cyngor ei
llongyfarchiadau i’r ffermwyr lleol a gafodd lwyddiant yn ddiweddar yn Ffair
Aeaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, gan gynnwys fferm Tŷ Nant yn
adran y gwartheg bridiau cynhenid a’r dofednod. d)
Estynnodd y Cynghorydd Catherine Hughes ei llongyfarchiadau i Theatr
Felinfach a’r staff yno ar ddod â’r pantomeim ‘Nôl a Mlan’ yn ôl eleni. |
|
Diweddariad ar lafar gan Arweinydd y Cyngor parthed COVID-19 Cofnodion: Rhoddodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn ddiweddariad ar lafar ynghylch
COVID-19 yng Ngheredigion. Nododd fod
nifer yr achosion wedi codi yng Ngheredigion a bod cyfanswm o 6,746 o achosion
wedi bod ers dechrau'r pandemig. Y gyfradd
bresennol yw 283.4 am bob can mil gyda chyfradd positif o 12.3%. Ar lefel leol, mae’r gyfradd heintio yn 281.6 am bob can mil yn Aberteifi
ac Aberporth, 351.8 achos am bob can mil yn Beulah, Troed-yr-aur a Llandysul;
197.8 o achosion am bob can mil yng Ngheinewydd a Phenbryn; 424.6 o achosion am
bob can mil yn Llanbedr Pont Steffan a Llanfihangel Ystrad; 239.5 o achosion am
bob can mil yn Aberaeron a Llanrhystud; 415.7 o achosion am bob can mil yn
Rheidol, Ystwyth a Charon; 239.1 o achosion am bob can mil yn Ne Aberystwyth;
67.9 o achosion am bob can mil yng Ngogledd Aberystwyth; a 121 o achosion am
bob can mil yn y Borth a Bont-goch.
Atgoffwyd pawb fod angen bod yn ofalus o hyd. Mae disgyblion Ysgol Dyffryn Cledlyn yn cael eu haddysgu o bell yr wythnos
hon yn sgil niferoedd uchel yr achosion, a'r gobaith yw y bydd y disgyblion yn
gallu dychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb yr wythnos nesaf. Mae Ysgol Bro Pedr ac
Ysgol Bro Teifi hefyd â nifer uchel o achosion a chedwir golwg ar y sefyllfa. Y
bwriad yw y bydd Tymor yr Ysgolion yn dod i ben ar 22 Rhagfyr fel y bwriadwyd
yn wreiddiol. Mae chwe aelod o staff wedi profi'n bositif am COVID-19 yn Depo Penrhos ac
oherwydd yr effaith ar niferoedd y staff, ni fydd sbwriel yn cael ei gasglu yn
ardaloedd Llanbedr Pont Steffan ac Aberteifi yfory. Mae'r wybodaeth hon wedi ei chyflwyno i’r
Aelodau lleol ac wedi ei chyhoeddi ar wefan y Cyngor. Bydd yr holl staff yn mynd am brofion
PCR. Mae dau o gartrefi gofal y Cyngor wedi eu categoreiddio'n goch oherwydd
achosion o COVID-19 ymhlith y staff ac ni allant dderbyn rhagor o breswylwyr ar
hyn o bryd; mae tri wedi eu categoreiddio’n oren oherwydd bod un aelod o staff
wedi profi’n bositif. Mae stormydd ‘Arwen’ a ‘Barra’ wedi achosi difrod sylweddol i'r Promenâd yn
Aberystwyth ac mae angen gwaith atgyweirio sylweddol yno. Mae'r gwaith glanhau
wedi dechrau er mwyn hwyluso llif y traffig ar hyd y prom. Roedd dŵr wedi gorlifo dros y cei yn
Aberaeron a'r Borth ond hyd y gwyddom ni fu difrod sylweddol i gartrefi.
Diolchodd yr Arweinydd i’r staff, ffermwyr lleol a’r gymuned a fu’n helpu i
glirio’r coed a gwympodd yn ystod Storm Arwen. Ategodd y Cynghorwyr Ceredig
Davies ac Elizabeth Evans y diolch, gan nodi mor werthfawrogol oedd y trigolion
o’r rhai a oedd allan yn darparu cymorth ar y ddwy noson. Holodd yr Aelodau a oedd adroddiadau fod amrywiolyn Omicron wedi cyrraedd
Ceredigion, a nodwyd bod chwe achos yng Nghymru ar hyn o bryd a dim un achos
wedi’i gofnodi yng Ngheredigion hyd yn hyn. |
|
Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2021 PDF 212 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2021 yn gywir. |
|
Cofnodion: Cynigydd: y
Cynghorydd Matthew Woolfall Jones Eilydd: y
Cynghorydd Bryan Davies Bod y Cyngor yn nodi: Mae yna bryder mawr gan
drigolion Ceredigion ynglŷn â bwriad Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth
Ambiwlans Cymru i newid darpariaeth ambiwlansys a cherbydau achosion brys yn y
Sir. Mae bwriad gan y Gwasanaeth
Ambiwlans Cymru (ac sydd wedi ei gyflwyno i'r gweithwyr) i gwtogi ar nifer o
ambiwlansys o 4 i 2 yn ystod y dydd yng ngorsafoedd Aberteifi ag Aberystwyth,
ac i gyfyngu ar y defnydd o Gerbyd Ymateb Cyflym (Rapid Response Vehicle). Mi fydd yr un ambiwlans yng ngorsaf Cei
Newydd a un yng ngorsaf Llanbedr Pont Steffan yn parhau. Mae ambiwlansys yng
Ngheredigion yn aml yn gorfod trosglwyddo cleifion allan o'r sir i ysbytai
gydag arbenigedd mor bell â'r Amwythig a Chaerdydd. Mae'r Ymddiriedolaeth yn darparu gwasanaeth
gogyfer â damweiniau ac achosion brys angenrheidiol ledled y Sir ac sydd ar
gael pedair awr ar hugain, saith diwrnod yr wythnos. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn
galw ar: ·
Ymddiriedolaeth GIG Ambiwlans Cymru i barhau i gynnal y
nifer presennol o ambiwlansys yng Ngheredigion a hefyd Cerbydau Ymateb Cyflym
(RRV) ac ychwanegu at y nifer yma i sicrhau darpariaeth ddigonol i drigolion
Ceredigion. ·
Ysgrifennu at Eluned Morgan AS, Gweinidog lechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru gan ofyn iddi ymyrryd gydag
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth GIG Ambiwlans Cymru i sicrhau nad yw'r newidiadau
yma yn cael eu gweithredu. ·
Diolchodd
y Cynghorydd Matthew Woolfall Jones i’r Cynghorydd Gareth Davies am y gwaith
paratoi a wnaed i ddwyn y Rhybudd Gynnig hwn gerbron. Diolchodd hefyd i Staff yr Ambiwlans am dynnu
sylw at eu pryderon, ac am eu hymroddiad a'u gwaith sydd o safon uchel
iawn. Nodwyd bod y Gwasanaeth Ambiwlans,
fel rhan o broses ailstrwythuro, yn bwriadu lleihau nifer yr ambiwlansys sydd
ar gael yn Aberystwyth ac Aberteifi yn ystod y dydd, ac i gyfyngu ar y defnydd
a wneir o'r uned ymateb cyflym y tu allan i oriau gwaith arferol. Nodwyd bod y
penderfyniad wedi'i ddal yn ôl am y tro, ond argymhellwyd bod y Cyngor yn
ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth
Cymru i roi pwysau ar y Gwasanaeth Ambiwlans i sicrhau nad oes lleihad yn y
gwasanaeth. Dywedodd y Cynghorydd Bryan
Davies ei fod yn hapus i eilio’r cynnig hwn yn absenoldeb y Cynghorydd Gareth
Davies. ·
·
Nododd
yr Aelodau eu pryderon ynglŷn â'r amseroedd aros presennol ar gyfer
ambiwlans, ac effaith unrhyw leihad ar hyn.
Nododd yr Aelodau hefyd fod yn rhaid i ambiwlansys deithio'n bell o
achos daearyddiaeth yr ardal, a throsglwyddo cleifion i ysbytai y tu allan i'r
sir megis Uned ranbarthol y Galon yn Nhreforys, yr uned Orthopedeg yn Llanelli
a'r uned Oncoleg yn Abertawe. Hefyd mae
cynnydd sylweddol ym mhoblogaeth y Sir yn ystod yr haf ac mae angen ystyried
hyn. Nodwyd nad yw'r orsaf ambiwlans yng
Ngheinewydd yn bodoli mwyach a bod y gwasanaeth hwn yn deillio o Orsaf
Ambiwlans Aberaeron. Hefyd, bod gan Orsafoedd Tân uned ymateb brys a diffibrilwyr. ·
· Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cofnodion: Roedd y Cynghorydd Ray Quant,
Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu,
Pobl a Threfniadaeth a’r Gwasanaethau Democrataidd, wedi cyflwyno adroddiad gan
nodi fod proses o recriwtio tri aelod lleyg annibynnol i’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio wedi’i gwneud. Roedd hyn yn dilyn penderfyniad i
gynyddu maint y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i 9 Aelod, gan gynnwys chwe
Chynghorydd Sir a thri aelod lleyg annibynnol.
Nodwyd y byddent yn cael eu penodi am un cyfnod i ddechrau, o 5 Mai 2022
ymlaen, gyda’r posibilrwydd o ymestyn am ail gyfnod a fydd yn gorffen ar 4 Mai
2032. Nodwyd,
yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor, y byddai'r Aelodau newydd yn bresennol yn
y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio nesaf a bod croeso i bob Aelod fod yn
bresennol i gwrdd â'r rhai a benodwyd. Diolchodd
y Cynghorydd Rowland Rees-Evans i’r Panel a oedd ynghlwm â’r broses recriwtio a
diolchodd i Mr John Williams am Gadeirio’r cyfweliadau. Yn dilyn pleidlais,
PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo penodi’r unigolion canlynol yn aelodau
annibynnol/ lleyg o'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio: ·
Liam Hull; ·
Caroline Whitby; ac ·
Alan Davies oddi ar 5 Mai 2022 am un
cyfnod gweinyddol (hyd at uchafswm o ddau gyfnod gweinyddol yn olynol). |
|
Cofnodion: Cyflwynodd Eifion Evans, y
Prif Weithredwr a’r Swyddog Canlyniadau, adroddiad ar y ffïoedd
sy'n daladwy i'r Swyddog Canlyniadau mewn perthynas ag Etholiadau'r Cyngor Sir
a'r Cynghorau Tref a Chymuned ym Mai 2022 gan nodi fod y ffïoedd
yn cael eu cyfrifo ar sail fformiwla er mwyn ysgwyddo’r costau o redeg yr
etholiad. Holodd yr Aelodau am y
trefniadau gweinyddol a'r gwersi a ddysgwyd yn dilyn yr etholiadau a gynhaliwyd
ym mis Mai eleni ac yn sgil COVID-19.
Nodwyd bod y trefniadau diwygiedig wedi gweithio'n eithriadol o dda ac y
byddent yn cael eu hailadrodd y flwyddyn nesaf. Mae’r rhain yn cynnwys offer
ychwanegol megis sgriniau i gadw pellter cymdeithasol, a staff ychwanegol wrth
y drysau i esbonio'r drefn a sicrhau bod y cyhoedd yn dod i mewn yn drefnus i’r
gorsafoedd pleidleisio. Bydd y cyfrif yn
digwydd ar y dydd Gwener yn Ysgol Bro Teifi a chynghorir ymgeiswyr i fod yn
bresennol dim ond pan fydd y cyfrif yn digwydd ar gyfer eu Wardiau nhw er mwyn
osgoi cael pawb yno ar yr un pryd. Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD: (i) Bod y ffïoedd sy'n
daladwy i'r Swyddog Canlyniadau a'r rheini sy'n cyflawni rôl Dirprwy Swyddogion
Canlyniadau ar gyfer y Cyngor Sir a’r Cynghorau Tref / Cymuned fel a ganlyn: ·
£174.00 fesul etholiad a ymleddir; ·
£67.00 fesul etholiad un ymgeisydd; (ii) Awdurdodi'r Prif Weithredwr fel Swyddog Canlyniadau'r
Cyngor i: a) Gwneud trefniadau ar gyfer cyflogi pobl i
gynorthwyo gyda'r Etholiadau Lleol sydd i'w cynnal ar y 5ed Mai 2022; b) Pennu lefel y ffïoedd a'r
taliadau i'r rhai a gyflogir ar ddyletswyddau Etholiad, yn amodol ar fod y
cyfanswm sy'n daladwy o fewn yr adnoddau a glustnodwyd i dalu cost yr
etholiadau hyn; (iii)
Bod unrhyw gostau yr eir iddynt ar gyfer etholiadau’r
Cynghorau Tref / Cymuned yn cael eu hadennill yn llawn. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Rhodri
Evans, Aelod Cabinet dros Economi ac Adfywio, yr adroddiad gan nodi ei bod hi’n
ofynnol yn statudol i awdurdodau cynllunio lleol fonitro’r gwaith o weithredu’r
Cynlluniau Datblygu Lleol a fabwysiadwyd a hynny drwy baratoi Adroddiad Monitro
Blynyddol. Nodwyd nad yw'r adroddiadau
hyn yn dangos canlyniadau sy’n sylweddol wahanol i'r blynyddoedd blaenorol. Y
meysydd sy'n peri pryder o hyd yw cyflawni'r Strategaeth Aneddiadau, tai a
chyflenwi tir, cyflawni yn y safleoedd tai a neilltuwyd a datblygu tai yn y
lleoliadau cywir. Er nad yw rhai agweddau ar y Cynllun yn llwyddo i gyflawni,
mae meysydd eraill yn mynd y tu hwnt i’r targedau. Nododd
yr Aelodau eu rhwystredigaeth am fod diffyg gwybodaeth gan Gyfoeth Naturiol
Cymru a Llywodraeth Cymru am y Ddeddf Rheoliadau Cynefinoedd a gwnaethant ofyn
am sicrwydd nad oedd Cyngor Sir Ceredigion yn dehongli’r ddeddfwriaeth
ffosffadau yn fwy llym na’r awdurdodau cyfagos. Dywedodd
y Cynghorydd Rhodri Evans ei fod wedi derbyn ymholiadau tebyg ond nad oedd
enghreifftiau wedi dod i law i gefnogi’r honiadau hyn. Nododd fod pob awdurdod
yn delio â cheisiadau yn yr un modd ac yn unol â'r gofynion cyfreithiol. Nododd y swyddogion ei bod yn ofynnol i awdurdodau
ddilyn y weithdrefn fel y nodir yn y Ddeddf Rheoliadau Cynefinoedd sy'n mynnu
ein bod yn cynnal prawf o Effaith Arwyddocaol Debygol. Os yw'r prawf yn dangos effaith arwyddocaol
debygol, mae'n rhaid i ni gynnal asesiad priodol ac mae cydbwysedd y
dystiolaeth yn sylweddol pan fo potensial i ffosffadau fynd i Ardal Cadwraeth
Arbennig glannau’r afon. Mae Swyddogion Ceredigion yn aelodau o is-grŵp
cynllunio sy'n rhan o'r Grŵp Goruchwylio Cenedlaethol, yn ogystal ag yn
aelodau o nifer o grwpiau cydweithredol lleol eraill ac yn gweithio gyda Sir
Benfro a Sir Gaerfyrddin sy'n rhannu ffin ag afon Teifi. Nodwyd bod pob
awdurdod yn gytûn ar sut y penderfynir ar geisiadau gan weithio ar y cyd fel
rhanbarth ac yn genedlaethol. Disgwylir canllawiau newydd gan Gyfoeth Naturiol
Cymru yn y flwyddyn newydd a dylai’r rhain gynnig eglurder a gwybodaeth
ynghylch datblygiadau penodol sydd wedi'u cyfyngu ar hyn o bryd o ran eu
cymeradwyo, megis estyniadau i dai. Holodd yr Aelodau am fesurau lliniaru mewn systemau
carthffosiaeth a dadfeilio ffosffadau mewn gorsafoedd trin carthffosiaeth, a
nodwyd bod hyn yn dod o dan waith Dŵr Cymru. Fodd bynnag, mae'r Cyngor wedi gofyn am arian
gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer camau lliniaru posib ar dir sy’n eiddo
i'r cyngor a'r sector cyhoeddus. Hefyd bydd y Cyngor yn cynnal dadansoddiadau
o’r pridd er mwyn gwella'r ardaloedd dan sylw.
Nododd yr Aelodau fod hanner oes cyffuriau sy'n diferu i'r system
ddŵr hefyd yn peri pryder. Nodwyd bod llythyr wedi'i anfon at Brif Weinidog
Cymru gyda chopi i’r Gweinidogion perthnasol yn disgrifio'r effaith ar dai, tai
cymdeithasol, llesiant a'r economi, ond ni chafwyd ymateb hyd yn hyn. Nododd y Cyngor gynnwys yr adroddiad. |
|
Cofnodion: Roedd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn,
Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Bolisi, Perfformiad a
Phartneriaethau, wedi cyflwyno’r adroddiad i’r Cyngor gan nodi mai dyma’r ail adroddiad
yn olynol lle na chafodd dim ymchwiliadau eu cychwyn nac unrhyw adroddiadau
ffurfiol eu cyhoeddi gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas
â chwynion a wnaed yn erbyn y Cyngor. Nodwyd bod nifer y negeseuon o ganmoliaeth gan ddefnyddwyr
gwasanaethau wedi bron â dyblu o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, ond credir bod
gwir nifer y sylwadau o ganmoliaeth yn llawer uwch a bod angen gwneud mwy o
waith i sicrhau bod y rhain yn cael eu cofnodi.
Cafodd y Cyngor lai o geisiadau o ran Rhyddid Gwybodaeth a’r Rheoliadau
Gwybodaeth Amgylcheddol o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, ac roedd llai o
Adolygiadau Mewnol yn sgil gwrthod rhoi gwybodaeth o achos eithriadau. Fodd bynnag, roedd perfformiad y Cyngor o ran
amser ymateb i geisiadau wedi gostwng yn sylweddol sydd i’w briodoli i sawl
ffactor. Roedd Llythyr Blynyddol yr
Ombwdsmon wedi ei gyflwyno i'r Cabinet a nodwyd nad oedd dim ychwanegiadau
ynddo. Nodwyd hefyd fod nifer y cwynion am y Gymraeg wedi gostwng yn sylweddol
o 11 yn 2016/17 i 1 yn ystod 2020/21.
Nododd yr Arweinydd fod yr adroddiad yn dangos ymrwymiad y Cyngor i fod
yn agored ac yn dryloyw. Holodd yr Aelodau am y broses ar gyfer cofnodi
canmoliaethau a oedd yn dod i law ac fe'u cynghorwyd i riportio negeseuon o
ganmoliaeth drwy system Clic. Nododd
y Cyngor gynnwys yr adroddiad a Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon. |
|
Cofnodion: Bu'n rhaid i'r Cynghorydd Elizabeth Evans,
Cadeirydd y Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu ar gyfer 2020-21 adael y
cyfarfod, a chyflwynwyd yr adroddiad wedyn gan y Cynghorydd Rowland Rees-Evans,
sef Is-gadeirydd y Pwyllgor yn ystod y flwyddyn. Nododd y Cynghorydd Rowland Rees-Evans fod yr
adroddiad yn ymwneud â gweithgarwch yr holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu a'i
fod yn dangos bod cryn dipyn o waith wedi ei wneud yn ystod y flwyddyn.
Diolchodd i’r staff cymorth a’r Swyddogion am baratoi a chyflwyno gwybodaeth
i’r Aelodau yn ystod cyfnod heriol dros ben. Holodd yr Aelodau am gyfeiriad ar dudalen 7
ynghylch Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y Cyngor yn cytuno i ddirprwyo awdurdod
dros dro i’r Prif Weithredwr a’r Tîm Arweiniol i wneud penderfyniadau parthed
Covid-19, gan ofyn a sefydlwyd y Grŵp Rheoli Aur o ganlyniad i’r dirprwyo
dros dro neu yn sgil y rheoliadau ar gyfer Argyfyngau Sifil. Nodwyd hefyd fod yr adroddiad ar weithgarwch
y Grŵp Rheoli Aur a gyhoeddwyd ar wefan y Cyngor wedi’i nodi â dyddiad 31
Awst 2021, a holwyd a fyddai modd cyhoeddi hwn yn fisol. Er bod y trefniadau ar gyfer dirprwyo dros dro
wedi'u rhoi ar waith yn unol â llywodraethu da a hynny i sicrhau y gallai
gwaith y Cyngor barhau pe bai salwch, cadarnhaodd yr Arweinydd nad oedd y
dirprwyo wedi'i ddefnyddio o gwbl yn ystod y pandemig. Mae penderfyniadau ar bolisi a strategaeth
wedi'u gwneud gan Aelodau yn unol â'r prosesau democrataidd cywir. Rhoddodd y Prif
Weithredwr, Eifion Evans, esboniad manwl i egluro’r sefyllfa. Yn gyntaf, trefnwyd y pwerau dirprwyedig rhag
ofn, i ymdrin â'r risg y byddai holl Aelodau'r Cabinet yn methu â gweithredu ar
yr un pryd yn ystod y pandemig o achos COVID-19. Roedd y mesurau rhagofalus hyn ar waith fel
‘rhwyd arbed’ o dan brosesau democrataidd y Cyngor. Ni ddefnyddiwyd y dirprwyo yma erioed; bu'r
Cyngor a'r Cabinet ar waith yn llwyr drwy gydol y pandemig. Yn ail, sefydlwyd y Grŵp Rheoli Aur yn unol
â’r Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl (2014) i sicrhau ymatebion brys i faterion
gweithredol sy'n ymwneud â COVID-19 o ddydd i ddydd. Mae'r Uwch Swyddogion wedi
bod yn cyfarfod ag Aelodau'r Cabinet yn wythnosol i roi'r wybodaeth
ddiweddaraf, gyda’r Dirprwy Arweinydd yn cofnodi nodiadau ac yn eu rhannu â’r
Aelodau. Yn ogystal, rhoddir y wybodaeth
ddiweddaraf i’r holl Aelodau yn fisol, yn unol â chais y Cynghorydd Ceredig
Davies. Caiff y penderfyniadau
gweithredol a wneir yn y Grŵp Rheoli Aur eu cofnodi a'u cyhoeddi ar wefan
y Cyngor bob chwarter. Gofynnodd y
Cynghorydd Davies am iddynt ymddangos bob mis yn y dyfodol. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Swyddogion yn parhau i
fod o dan bwysau sylweddol, a nododd fod llawer iawn o ansicrwydd ynghylch yr
amrywiolyn Omicron. Serch hynny, byddai’r Cyngor yn ymdrechu i gyhoeddi
penderfyniadau'r Grŵp Rheoli Aur bob mis. Nododd
y Cyngor gynnwys yr adroddiad. |