Agenda a Chofnodion

Cyngor - Dydd Iau, 9fed Rhagfyr, 2021 10.00 am

Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Euros Davies. Gareth Davies a Peter Davies MBE am nad oedd modd iddynt fod yn bresennol yn y cyfarfod.

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol na buddiant sy’n rhagfarnu.

3.

Materion Personol

Cofnodion:

a)            Estynnodd y Cynghorydd Paul Hinge ei gydymdeimlad â’r Cynghorydd Gareth Davies a Mrs Julie Davies a’u merch Angharad yn dilyn marwolaeth sydyn Daniel Davies.

Cafodd y Cyngor funud o dawelwch;

b)            Estynnodd y Cynghorydd Paul Hinge ei longyfarchiadau i’r Parchedig Andy John o Aberystwyth ar gael ei ethol yn Archesgob Cymru;

c)            Estynnodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd y Cyngor ei llongyfarchiadau i’r ffermwyr lleol a gafodd lwyddiant yn ddiweddar yn Ffair Aeaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, gan gynnwys fferm Tŷ Nant yn adran y gwartheg bridiau cynhenid a’r dofednod.

d)            Estynnodd y Cynghorydd Catherine Hughes ei llongyfarchiadau i Theatr Felinfach a’r staff yno ar ddod â’r pantomeim ‘Nôl a Mlan’ yn ôl eleni.

4.

Diweddariad ar lafar gan Arweinydd y Cyngor parthed COVID-19

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn ddiweddariad ar lafar ynghylch COVID-19 yng Ngheredigion.  Nododd fod nifer yr achosion wedi codi yng Ngheredigion a bod cyfanswm o 6,746 o achosion wedi bod ers dechrau'r pandemig.  Y gyfradd bresennol yw 283.4 am bob can mil gyda chyfradd positif o 12.3%. 

Ar lefel leol, mae’r gyfradd heintio yn 281.6 am bob can mil yn Aberteifi ac Aberporth, 351.8 achos am bob can mil yn Beulah, Troed-yr-aur a Llandysul; 197.8 o achosion am bob can mil yng Ngheinewydd a Phenbryn; 424.6 o achosion am bob can mil yn Llanbedr Pont Steffan a Llanfihangel Ystrad; 239.5 o achosion am bob can mil yn Aberaeron a Llanrhystud; 415.7 o achosion am bob can mil yn Rheidol, Ystwyth a Charon; 239.1 o achosion am bob can mil yn Ne Aberystwyth; 67.9 o achosion am bob can mil yng Ngogledd Aberystwyth; a 121 o achosion am bob can mil yn y Borth a Bont-goch.  Atgoffwyd pawb fod angen bod yn ofalus o hyd.

Mae disgyblion Ysgol Dyffryn Cledlyn yn cael eu haddysgu o bell yr wythnos hon yn sgil niferoedd uchel yr achosion, a'r gobaith yw y bydd y disgyblion yn gallu dychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb yr wythnos nesaf. Mae Ysgol Bro Pedr ac Ysgol Bro Teifi hefyd â nifer uchel o achosion a chedwir golwg ar y sefyllfa. Y bwriad yw y bydd Tymor yr Ysgolion yn dod i ben ar 22 Rhagfyr fel y bwriadwyd yn wreiddiol.

Mae chwe aelod o staff wedi profi'n bositif am COVID-19 yn Depo Penrhos ac oherwydd yr effaith ar niferoedd y staff, ni fydd sbwriel yn cael ei gasglu yn ardaloedd Llanbedr Pont Steffan ac Aberteifi yfory.  Mae'r wybodaeth hon wedi ei chyflwyno i’r Aelodau lleol ac wedi ei chyhoeddi ar wefan y Cyngor.  Bydd yr holl staff yn mynd am brofion PCR. 

Mae dau o gartrefi gofal y Cyngor wedi eu categoreiddio'n goch oherwydd achosion o COVID-19 ymhlith y staff ac ni allant dderbyn rhagor o breswylwyr ar hyn o bryd; mae tri wedi eu categoreiddio’n oren oherwydd bod un aelod o staff wedi profi’n bositif.

Mae stormydd ‘Arwen’ a ‘Barra’ wedi achosi difrod sylweddol i'r Promenâd yn Aberystwyth ac mae angen gwaith atgyweirio sylweddol yno. Mae'r gwaith glanhau wedi dechrau er mwyn hwyluso llif y traffig ar hyd y prom.  Roedd dŵr wedi gorlifo dros y cei yn Aberaeron a'r Borth ond hyd y gwyddom ni fu difrod sylweddol i gartrefi. Diolchodd yr Arweinydd i’r staff, ffermwyr lleol a’r gymuned a fu’n helpu i glirio’r coed a gwympodd yn ystod Storm Arwen. Ategodd y Cynghorwyr Ceredig Davies ac Elizabeth Evans y diolch, gan nodi mor werthfawrogol oedd y trigolion o’r rhai a oedd allan yn darparu cymorth ar y ddwy noson.

Holodd yr Aelodau a oedd adroddiadau fod amrywiolyn Omicron wedi cyrraedd Ceredigion, a nodwyd bod chwe achos yng Nghymru ar hyn o bryd a dim un achos wedi’i gofnodi yng Ngheredigion hyd yn hyn.

5.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2021 pdf eicon PDF 212 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2021 yn gywir.

6.

Rhybydd o Gynnig pdf eicon PDF 906 KB

Cofnodion:

Cynigydd: y Cynghorydd Matthew Woolfall Jones

Eilydd: y Cynghorydd Bryan Davies

 

Bod y Cyngor yn nodi:

Mae yna bryder mawr gan drigolion Ceredigion ynglŷn â bwriad Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i newid darpariaeth ambiwlansys a cherbydau achosion brys yn y Sir.

Mae bwriad gan y Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (ac sydd wedi ei gyflwyno i'r gweithwyr) i gwtogi ar nifer o ambiwlansys o 4 i 2 yn ystod y dydd yng ngorsafoedd Aberteifi ag Aberystwyth, ac i gyfyngu ar y defnydd o Gerbyd Ymateb Cyflym (Rapid Response Vehicle).   Mi fydd yr un ambiwlans yng ngorsaf Cei Newydd a un yng ngorsaf Llanbedr Pont Steffan yn parhau.

Mae ambiwlansys yng Ngheredigion yn aml yn gorfod trosglwyddo cleifion allan o'r sir i ysbytai gydag arbenigedd mor bell â'r Amwythig a Chaerdydd.   Mae'r Ymddiriedolaeth yn darparu gwasanaeth gogyfer â damweiniau ac achosion brys angenrheidiol ledled y Sir ac sydd ar gael pedair awr ar hugain, saith diwrnod yr wythnos.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn galw ar:

·         Ymddiriedolaeth GIG Ambiwlans Cymru i barhau i gynnal y nifer presennol o ambiwlansys yng Ngheredigion a hefyd Cerbydau Ymateb Cyflym (RRV) ac ychwanegu at y nifer yma i sicrhau darpariaeth ddigonol i drigolion Ceredigion.

·         Ysgrifennu at Eluned Morgan AS, Gweinidog lechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru gan ofyn iddi ymyrryd gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth GIG Ambiwlans Cymru i sicrhau nad yw'r newidiadau yma yn cael eu gweithredu.

·         Diolchodd y Cynghorydd Matthew Woolfall Jones i’r Cynghorydd Gareth Davies am y gwaith paratoi a wnaed i ddwyn y Rhybudd Gynnig hwn gerbron.  Diolchodd hefyd i Staff yr Ambiwlans am dynnu sylw at eu pryderon, ac am eu hymroddiad a'u gwaith sydd o safon uchel iawn.  Nodwyd bod y Gwasanaeth Ambiwlans, fel rhan o broses ailstrwythuro, yn bwriadu lleihau nifer yr ambiwlansys sydd ar gael yn Aberystwyth ac Aberteifi yn ystod y dydd, ac i gyfyngu ar y defnydd a wneir o'r uned ymateb cyflym y tu allan i oriau gwaith arferol. Nodwyd bod y penderfyniad wedi'i ddal yn ôl am y tro, ond argymhellwyd bod y Cyngor yn ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru i roi pwysau ar y Gwasanaeth Ambiwlans i sicrhau nad oes lleihad yn y gwasanaeth.  Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies ei fod yn hapus i eilio’r cynnig hwn yn absenoldeb y Cynghorydd Gareth Davies.

·          

·         Nododd yr Aelodau eu pryderon ynglŷn â'r amseroedd aros presennol ar gyfer ambiwlans, ac effaith unrhyw leihad ar hyn.  Nododd yr Aelodau hefyd fod yn rhaid i ambiwlansys deithio'n bell o achos daearyddiaeth yr ardal, a throsglwyddo cleifion i ysbytai y tu allan i'r sir megis Uned ranbarthol y Galon yn Nhreforys, yr uned Orthopedeg yn Llanelli a'r uned Oncoleg yn Abertawe.  Hefyd mae cynnydd sylweddol ym mhoblogaeth y Sir yn ystod yr haf ac mae angen ystyried hyn.  Nodwyd nad yw'r orsaf ambiwlans yng Ngheinewydd yn bodoli mwyach a bod y gwasanaeth hwn yn deillio o Orsaf Ambiwlans Aberaeron. Hefyd, bod gan Orsafoedd Tân uned ymateb brys a diffibrilwyr.

·          

·         Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu (a Swyddog Monitro) ar apwyntio 3 unigolyn/aelod annibynnol/lleyg i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf eicon PDF 312 KB

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Ray Quant, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu, Pobl a Threfniadaeth a’r Gwasanaethau Democrataidd, wedi cyflwyno adroddiad gan nodi fod proses o recriwtio tri aelod lleyg annibynnol i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi’i gwneud. Roedd hyn yn dilyn penderfyniad i gynyddu maint y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i 9 Aelod, gan gynnwys chwe Chynghorydd Sir a thri aelod lleyg annibynnol.  Nodwyd y byddent yn cael eu penodi am un cyfnod i ddechrau, o 5 Mai 2022 ymlaen, gyda’r posibilrwydd o ymestyn am ail gyfnod a fydd yn gorffen ar 4 Mai 2032.

 

Nodwyd, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor, y byddai'r Aelodau newydd yn bresennol yn y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio nesaf a bod croeso i bob Aelod fod yn bresennol i gwrdd â'r rhai a benodwyd.

 

Diolchodd y Cynghorydd Rowland Rees-Evans i’r Panel a oedd ynghlwm â’r broses recriwtio a diolchodd i Mr John Williams am Gadeirio’r cyfweliadau.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo penodi’r unigolion canlynol yn aelodau annibynnol/ lleyg o'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio:

·         Liam Hull;

·         Caroline Whitby; ac

·         Alan Davies

oddi ar 5 Mai 2022 am un cyfnod gweinyddol (hyd at uchafswm o ddau gyfnod gweinyddol yn olynol).

8.

Adroddiad y Prif Weithredwr a'r Swyddog Canlyniadau ar Ffioedd ar gyfer Etholiadau'r Cyngor Sir a'r Cynghorau Tref . Cymuned i'w cynnal 5ed Mai 2022 pdf eicon PDF 398 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Eifion Evans, y Prif Weithredwr a’r Swyddog Canlyniadau, adroddiad ar y ffïoedd sy'n daladwy i'r Swyddog Canlyniadau mewn perthynas ag Etholiadau'r Cyngor Sir a'r Cynghorau Tref a Chymuned ym Mai 2022 gan nodi fod y ffïoedd yn cael eu cyfrifo ar sail fformiwla er mwyn ysgwyddo’r costau o redeg yr etholiad.

 

Holodd yr Aelodau am y trefniadau gweinyddol a'r gwersi a ddysgwyd yn dilyn yr etholiadau a gynhaliwyd ym mis Mai eleni ac yn sgil COVID-19.  Nodwyd bod y trefniadau diwygiedig wedi gweithio'n eithriadol o dda ac y byddent yn cael eu hailadrodd y flwyddyn nesaf. Mae’r rhain yn cynnwys offer ychwanegol megis sgriniau i gadw pellter cymdeithasol, a staff ychwanegol wrth y drysau i esbonio'r drefn a sicrhau bod y cyhoedd yn dod i mewn yn drefnus i’r gorsafoedd pleidleisio.  Bydd y cyfrif yn digwydd ar y dydd Gwener yn Ysgol Bro Teifi a chynghorir ymgeiswyr i fod yn bresennol dim ond pan fydd y cyfrif yn digwydd ar gyfer eu Wardiau nhw er mwyn osgoi cael pawb yno ar yr un pryd.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD:

(i)    Bod y ffïoedd sy'n daladwy i'r Swyddog Canlyniadau a'r rheini sy'n cyflawni rôl Dirprwy Swyddogion Canlyniadau ar gyfer y Cyngor Sir a’r Cynghorau Tref / Cymuned fel a ganlyn:

·         £174.00 fesul etholiad a ymleddir;

·         £67.00 fesul etholiad un ymgeisydd;

(ii)    Awdurdodi'r Prif Weithredwr fel Swyddog Canlyniadau'r Cyngor i:

a)    Gwneud trefniadau ar gyfer cyflogi pobl i gynorthwyo gyda'r Etholiadau Lleol sydd i'w cynnal ar y 5ed Mai 2022;

b)    Pennu lefel y ffïoedd a'r taliadau i'r rhai a gyflogir ar ddyletswyddau Etholiad, yn amodol ar fod y cyfanswm sy'n daladwy o fewn yr adnoddau a glustnodwyd i dalu cost yr etholiadau hyn;

(iii)         Bod unrhyw gostau yr eir iddynt ar gyfer etholiadau’r Cynghorau Tref / Cymuned yn cael eu hadennill yn llawn.

9.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Economi ac Adfywio ar Adroddiadau Adolygu Blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol 2019-2020 and 2020-2021 pdf eicon PDF 4 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet dros Economi ac Adfywio, yr adroddiad gan nodi ei bod hi’n ofynnol yn statudol i awdurdodau cynllunio lleol fonitro’r gwaith o weithredu’r Cynlluniau Datblygu Lleol a fabwysiadwyd a hynny drwy baratoi Adroddiad Monitro Blynyddol.  Nodwyd nad yw'r adroddiadau hyn yn dangos canlyniadau sy’n sylweddol wahanol i'r blynyddoedd blaenorol. Y meysydd sy'n peri pryder o hyd yw cyflawni'r Strategaeth Aneddiadau, tai a chyflenwi tir, cyflawni yn y safleoedd tai a neilltuwyd a datblygu tai yn y lleoliadau cywir. Er nad yw rhai agweddau ar y Cynllun yn llwyddo i gyflawni, mae meysydd eraill yn mynd y tu hwnt i’r targedau.

 

Nododd yr Aelodau eu rhwystredigaeth am fod diffyg gwybodaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru am y Ddeddf Rheoliadau Cynefinoedd a gwnaethant ofyn am sicrwydd nad oedd Cyngor Sir Ceredigion yn dehongli’r ddeddfwriaeth ffosffadau yn fwy llym na’r awdurdodau cyfagos.

 

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans ei fod wedi derbyn ymholiadau tebyg ond nad oedd enghreifftiau wedi dod i law i gefnogi’r honiadau hyn. Nododd fod pob awdurdod yn delio â cheisiadau yn yr un modd ac yn unol â'r gofynion cyfreithiol.

 

Nododd y swyddogion ei bod yn ofynnol i awdurdodau ddilyn y weithdrefn fel y nodir yn y Ddeddf Rheoliadau Cynefinoedd sy'n mynnu ein bod yn cynnal prawf o Effaith Arwyddocaol Debygol.  Os yw'r prawf yn dangos effaith arwyddocaol debygol, mae'n rhaid i ni gynnal asesiad priodol ac mae cydbwysedd y dystiolaeth yn sylweddol pan fo potensial i ffosffadau fynd i Ardal Cadwraeth Arbennig glannau’r afon.

 

Mae Swyddogion Ceredigion yn aelodau o is-grŵp cynllunio sy'n rhan o'r Grŵp Goruchwylio Cenedlaethol, yn ogystal ag yn aelodau o nifer o grwpiau cydweithredol lleol eraill ac yn gweithio gyda Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin sy'n rhannu ffin ag afon Teifi. Nodwyd bod pob awdurdod yn gytûn ar sut y penderfynir ar geisiadau gan weithio ar y cyd fel rhanbarth ac yn genedlaethol. Disgwylir canllawiau newydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn y flwyddyn newydd a dylai’r rhain gynnig eglurder a gwybodaeth ynghylch datblygiadau penodol sydd wedi'u cyfyngu ar hyn o bryd o ran eu cymeradwyo, megis estyniadau i dai.

 

Holodd yr Aelodau am fesurau lliniaru mewn systemau carthffosiaeth a dadfeilio ffosffadau mewn gorsafoedd trin carthffosiaeth, a nodwyd bod hyn yn dod o dan waith Dŵr Cymru.  Fodd bynnag, mae'r Cyngor wedi gofyn am arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer camau lliniaru posib ar dir sy’n eiddo i'r cyngor a'r sector cyhoeddus. Hefyd bydd y Cyngor yn cynnal dadansoddiadau o’r pridd er mwyn gwella'r ardaloedd dan sylw.  Nododd yr Aelodau fod hanner oes cyffuriau sy'n diferu i'r system ddŵr hefyd yn peri pryder.

 

Nodwyd bod llythyr wedi'i anfon at Brif Weinidog Cymru gyda chopi i’r Gweinidogion perthnasol yn disgrifio'r effaith ar dai, tai cymdeithasol, llesiant a'r economi, ond ni chafwyd ymateb hyd yn hyn.

 

Nododd y Cyngor gynnwys yr adroddiad.

10.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhedd ar Adroddiad Blynyddol Canmoliaeth, Cwynion a Cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth 2020/2021 pdf eicon PDF 900 KB

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Bolisi, Perfformiad a Phartneriaethau, wedi cyflwyno’r adroddiad i’r Cyngor gan nodi mai dyma’r ail adroddiad yn olynol lle na chafodd dim ymchwiliadau eu cychwyn nac unrhyw adroddiadau ffurfiol eu cyhoeddi gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â chwynion a wnaed yn erbyn y Cyngor.

 

Nodwyd bod nifer y negeseuon o ganmoliaeth gan ddefnyddwyr gwasanaethau wedi bron â dyblu o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, ond credir bod gwir nifer y sylwadau o ganmoliaeth yn llawer uwch a bod angen gwneud mwy o waith i sicrhau bod y rhain yn cael eu cofnodi.  Cafodd y Cyngor lai o geisiadau o ran Rhyddid Gwybodaeth a’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, ac roedd llai o Adolygiadau Mewnol yn sgil gwrthod rhoi gwybodaeth o achos eithriadau.  Fodd bynnag, roedd perfformiad y Cyngor o ran amser ymateb i geisiadau wedi gostwng yn sylweddol sydd i’w briodoli i sawl ffactor.  Roedd Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon wedi ei gyflwyno i'r Cabinet a nodwyd nad oedd dim ychwanegiadau ynddo. Nodwyd hefyd fod nifer y cwynion am y Gymraeg wedi gostwng yn sylweddol o 11 yn 2016/17 i 1 yn ystod 2020/21.  Nododd yr Arweinydd fod yr adroddiad yn dangos ymrwymiad y Cyngor i fod yn agored ac yn dryloyw.

 

Holodd yr Aelodau am y broses ar gyfer cofnodi canmoliaethau a oedd yn dod i law ac fe'u cynghorwyd i riportio negeseuon o ganmoliaeth drwy system Clic.

 

Nododd y Cyngor gynnwys yr adroddiad a Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon.

11.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Gwasanaethau Democrataidd ar Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2020/2021 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Bu'n rhaid i'r Cynghorydd Elizabeth Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu ar gyfer 2020-21 adael y cyfarfod, a chyflwynwyd yr adroddiad wedyn gan y Cynghorydd Rowland Rees-Evans, sef Is-gadeirydd y Pwyllgor yn ystod y flwyddyn.

 

Nododd y Cynghorydd Rowland Rees-Evans fod yr adroddiad yn ymwneud â gweithgarwch yr holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu a'i fod yn dangos bod cryn dipyn o waith wedi ei wneud yn ystod y flwyddyn. Diolchodd i’r staff cymorth a’r Swyddogion am baratoi a chyflwyno gwybodaeth i’r Aelodau yn ystod cyfnod heriol dros ben.

 

Holodd yr Aelodau am gyfeiriad ar dudalen 7 ynghylch Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y Cyngor yn cytuno i ddirprwyo awdurdod dros dro i’r Prif Weithredwr a’r Tîm Arweiniol i wneud penderfyniadau parthed Covid-19, gan ofyn a sefydlwyd y Grŵp Rheoli Aur o ganlyniad i’r dirprwyo dros dro neu yn sgil y rheoliadau ar gyfer Argyfyngau Sifil.  Nodwyd hefyd fod yr adroddiad ar weithgarwch y Grŵp Rheoli Aur a gyhoeddwyd ar wefan y Cyngor wedi’i nodi â dyddiad 31 Awst 2021, a holwyd a fyddai modd cyhoeddi hwn yn fisol.

 

Er bod y trefniadau ar gyfer dirprwyo dros dro wedi'u rhoi ar waith yn unol â llywodraethu da a hynny i sicrhau y gallai gwaith y Cyngor barhau pe bai salwch, cadarnhaodd yr Arweinydd nad oedd y dirprwyo wedi'i ddefnyddio o gwbl yn ystod y pandemig.  Mae penderfyniadau ar bolisi a strategaeth wedi'u gwneud gan Aelodau yn unol â'r prosesau democrataidd cywir.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr, Eifion Evans, esboniad manwl i egluro’r sefyllfa.  Yn gyntaf, trefnwyd y pwerau dirprwyedig rhag ofn, i ymdrin â'r risg y byddai holl Aelodau'r Cabinet yn methu â gweithredu ar yr un pryd yn ystod y pandemig o achos COVID-19.  Roedd y mesurau rhagofalus hyn ar waith fel ‘rhwyd arbed’ o dan brosesau democrataidd y Cyngor.  Ni ddefnyddiwyd y dirprwyo yma erioed; bu'r Cyngor a'r Cabinet ar waith yn llwyr drwy gydol y pandemig.  

 

Yn ail, sefydlwyd y Grŵp Rheoli Aur yn unol â’r Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl (2014) i sicrhau ymatebion brys i faterion gweithredol sy'n ymwneud â COVID-19 o ddydd i ddydd. Mae'r Uwch Swyddogion wedi bod yn cyfarfod ag Aelodau'r Cabinet yn wythnosol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf, gyda’r Dirprwy Arweinydd yn cofnodi nodiadau ac yn eu rhannu â’r Aelodau.  Yn ogystal, rhoddir y wybodaeth ddiweddaraf i’r holl Aelodau yn fisol, yn unol â chais y Cynghorydd Ceredig Davies.  Caiff y penderfyniadau gweithredol a wneir yn y Grŵp Rheoli Aur eu cofnodi a'u cyhoeddi ar wefan y Cyngor bob chwarter.  Gofynnodd y Cynghorydd Davies am iddynt ymddangos bob mis yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Swyddogion yn parhau i fod o dan bwysau sylweddol, a nododd fod llawer iawn o ansicrwydd ynghylch yr amrywiolyn Omicron. Serch hynny, byddai’r Cyngor yn ymdrechu i gyhoeddi penderfyniadau'r Grŵp Rheoli Aur bob mis.

 

Nododd y Cyngor gynnwys yr adroddiad.