Agenda a chofnodion drafft

Cyngor - Dydd Iau, 20fed Mawrth, 2025 10.00 am

Lleoliad: Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron ac o bell trwy fideo gynhadledda

Cyswllt: Nia Jones 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

a)     Ymddiheurodd y Cynghorwyr Gwyn James a Caryl Roberts am eu hanallu i fynychu’r cyfarfod gan neu bod ar ddyletswydd arall ar ran y Cyngor;

b)     Ymddiheurodd y Cynghorwyr Euros Davies, Gareth Lewis a Carl Worrall am eu hanallu i fynychu’r cyfarfod;

c)     Ymddiheurodd James Starbuck, Cyfarwyddwr Corfforaethol am ei anallu i fynychu’r cyfarfod.

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

a)    Datgelodd Cadeirydd y Cyngor fuddiant personol ar ran yr holl Gynghorwyr mewn perthynas ag eitem 5 ac eitem 8 isod;

b)    Datgelodd y Cynghorydd Matthew Vaux fuddiant personol ac un sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 5 isod gan adael y cyfarfod yn ystod y trafodaethau;

c)    Datgelodd y Cynghorwyr Keith Evans, Bryan Davies, Catrin M S Davies, Meirion Davies, Amanda Edwards, Endaf Edwards, Eryl Evans, Gwyn Wigley Evans, Rhodri Evans, Wyn Evans, Chris James, Gareth Lloyd a Sian Maehrlein fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 5 isod gan nodi eu bod wedi derbyn gollyngiad i siarad ac i bleidleisio ar y mater hwn;

d)    Datgelodd y Cynghorwyr Bryan Davies, Endaf Edwards, Rhodri Evans, Chris James a John Roberts fuddiant personol ac un sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 9 isod gan adael y cyfarfod yn ystod y trafodaethau;

e)    Datgelodd y Cynghorwyr Bryan Davies, Gareth Davies, Endaf Edwards, Wyn Evans a Keith Henson fuddiant personol ac un sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 10 isod gan adael y cyfarfod yn ystod y trafodaethau;

f)     Datgelodd Lowri Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Gwasanaethau Democrataidd fuddiant personol ac un sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 5 isod gan adael y cyfarfod yn ystod y trafodaethau;

g)      Datgelodd Eifion Evans, Y Prif Weithredwr fuddiant personol ac un sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 9 isod gan adael y cyfarfod yn ystod y trafodaethau;

h)    Datganodd y Prif Weithredwr, ar ran yr holl Uwch Swyddogion a oedd yn bresennol, fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chofnod 10 isod, yn unol â’r Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol. Gadawodd yr aelodau hynny o staff y cyfarfod yn ystod y trafodaethau. Arhosodd Liz Merriman, Rheolwr Corfforaethol Pobl a Threfniadaeth; Patricia Armstrong, Rheolwr Corfforaethol y Gyfraith a Llywodraethu a Dirprwy Swyddog Monitro; y swyddog a oedd yn cymryd cofnodion, a’r cyfieithydd yn y cyfarfod yn ystod y trafodaethau.

3.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Llongyfarchodd y Cynghorydd Keith Evans, Cadeirydd y Cyngor, y canlynol:

 a)    Gwasg Gomer ar ennill Teitl Argraffydd Llyfrau’r Flwyddyn;

b)    Lois Jones ar gael ei dewis i fod yn rhan o Dîm Rygbi Merched dan 18 Cymru, ac ennill ei chap cyntaf yn erbyn yr Eidal;

c)     Yr Harbourmaster, Aberaeron ar gael ei enwi’n Westy’r Flwyddyn yng Nghymru yn rhestr 100 o’r lleoedd gorau i aros yn y DU gan The Times ar gyfer 2025;

d)    Neuadd Ynys Hir ar gynnal eu dwy seren Michelin am y drydedd flwyddyn yn olynol;

e)   Y Talbot yn Nhregaron sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Twristiaeth Cymru.

 

Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad â theulu a ffrindiau John Emrys Jones yn eu profedigaeth ddiweddar.

4.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2025 pdf eicon PDF 232 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion cyfarfodydd y Cyngor a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2025 fel rhai cywir.

 

Materion yn codi

Nid oedd unrhyw faterion yn codi.

5.

I ystyried y rhybudd o gynnig canlynol a gyflwynwyd yn unol â Rheol 10.1 o Reolau a Gweithdrefnau'r Cyngor

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn galw ar Brif Weinidog Prydain, Sir Keir Starmer a'r Canghellor Rachel Reeves i ail ystyried y penderfyniadau ariannol maent wedi gwneud parthed y materion islaw:

 

o   Diddymu lwfans ynni i nifer o henoed y Sir, a fydd yn cael effaith sylweddol ar eu hiechyd a'u lles, ac mi  fyddant yn ei chael hi'n anodd cynhesu eu cartrefi heddiw ac i’r dyfodol yn dilyn y penderfyniad hwn.

 

o   Newidiadau i Dreth Etifeddiaeth mae'r Canghellor yn cyflwyno sydd yn mynd i fod yn andwyol i nifer o amaethwyr a busnesau Ceredigion. Ni ddylid newid y drefn bresennol ar yr isod:

            Rhyddhad Eiddo Amaethyddol (APR) a Rhyddhad Eiddo Busnes (BPR)

 

  • Y cynnydd yn y Dreth Yswiriant Cenedlaethol ond yn ogystal â hyn,  gostwng y trothwy cychwynnol ar yr un pryd. Bydd y penderfyniadau hyn yn cael effaith andwyol ar gyflogaeth ac yn cael effaith sylweddol ar y gost o redeg busnes.

 

Yn cynnig:     Cynghorydd Wyn Evans

Yn eilio:        Cynghorydd Rhodri Evans

 

Cofnodion:

Gadawodd y Cynghorydd Matthew Vaux, a Lowri Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanathau Democrataidd y cyfarfod yn ystod y trafodaethau.

 

Yn cynnig: Cynghorydd Wyn Evans

Yn eilio: Cynghorydd Rhodri Evans

 

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn galw ar Brif Weinidog Prydain, Sir Keir Starmer a'r Canghellor Rachel Reeves i ail ystyried y penderfyniadau ariannol maent wedi gwneud parthed y materion islaw:

 

  1. Diddymu lwfans ynni i nifer o henoed y Sir, a fydd yn cael effaith sylweddol ar eu hiechyd a'u lles, ac mi  fyddant yn ei chael hi'n anodd cynhesu eu cartrefi heddiw ac i’r dyfodol yn dilyn y penderfyniad hwn.

 

  1. Newidiadau i Dreth Etifeddiaeth mae'r Canghellor yn cyflwyno sydd yn mynd i fod yn andwyol i nifer o amaethwyr a busnesau Ceredigion. Ni ddylid newid y drefn bresennol ar y Rhyddhad Eiddo Amaethyddol (APR) a Rhyddhad Eiddo Busnes (BPR)
  2. Y cynnydd yn y Dreth Yswiriant Cenedlaethol ond yn ogystal â hyn,  gostwng y trothwy cychwynnol ar yr un pryd. Bydd y penderfyniadau hyn yn cael effaith andwyol ar gyflogaeth ac yn cael effaith sylweddol ar y gost o redeg busnes.

Rhoddodd y Cynghorydd Wyn Evans grynodeb o’r Rhybudd Gynnig uchod, gan nodi bod penderfyniad Llywodraeth y DU mewn perthynas â’r Lwfans Tanwydd Gaeaf yn rhoi pwysau ariannol ar y rhai lleiaf ffodus, ac o ganlyniad yn cael effaith ar y gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol. Nododd hefyd fod nifer sylweddol o drigolion Ceredigion yn perthyn i’r categori hwn.

 

Nododd fod y trothwy treth etifeddiaeth amaethyddol yn rhy isel o lawer ac y byddai hyn yn cael effaith sylweddol ar y genhedlaeth nesaf, gan nodi bod fferm o 100 erw heb unrhyw adeiladau yng ngogledd y sir wedi’i gwerthu’n ddiweddar am £1.4 miliwn, ac mae fferm arall 192 erw sy’n cael ei hysbysebu ar werth am bris canllaw o £2.4 miliwn.

 

Nododd hefyd y byddai'r newidiadau i gyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr yn effeithio ar nifer o fusnesau sy'n cyflogi pobl yng Ngheredigion a fyddai’n arwain at gynnydd mewn costau gwasanaethau a deunyddiau traul, a fyddai’n gorfod cael eu trosglwyddo i’r defnyddwyr. Yn ogystal, mae sawl busnes wedi penderfynu lleihau'r gweithlu, a bydd hyn yn cael effaith bellach ar y gymuned a'r bobl ifanc sy'n dymuno aros yn yr ardal.

 

Eiliodd y Cynghorydd Rhodri Evans y cynnig, gan ddiolch i Undebau Amaethwyr am eu llythyrau o gefnogaeth. Cyfeiriodd hefyd at yr effaith y byddai'r newidiadau i'r Lwfans Tanwydd y Gaeaf yn ei chael ar aelodau mwyaf agored i niwed y gymdeithas a phryderon ynghylch tlodi gwledig yng Ngheredigion. Nododd hefyd fod nifer o drigolion wedi cysylltu ag ef sy'n pryderu na fyddai busnesau bach a ffermydd yn gallu fforddio'r dreth etifeddiant ac y byddai'n rhaid iddynt werthu a fyddai'n chwalu cymeriad ac economi leol Ceredigion. Cynigiodd y dylai’r llythyrau gan Undebau’r Amaethwyr gael eu cynnwys yn yr ohebiaeth i Lywodraeth y DU.

 

Nododd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor fod pris da byw yn gymharol uchel ar hyn o bryd oherwydd y gostyngiad mewn cynhyrchu a gwerthu ffermydd. Fodd bynnag,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

I ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ar Ddatganiad Polisi Hapchwarae 2025-2028 a chynigion ar gyfer casinos pdf eicon PDF 82 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet dros Bartneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd, yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod Deddf Gamblo 2005 yn ei gwneud yn ofynnol i bob Awdurdod Trwyddedu adnewyddu eu Datganiad bob 3 blynedd gan gynnwys ymgynghoriad statudol. Nododd fod y Comisiwn Gamblo ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad o'r Cod Ymarfer Cyfrifoldeb Cymdeithasol, ac wedi cynghori Awdurdodau Lleol i fwrw ymlaen â’u polisïau diwygiedig yn ystod yr adolygiad.

 

Nododd y byddai angen i'r Cyngor ystyried hefyd os yw'n dymuno parhau â'r penderfyniad i beidio â chael casino o fewn y Sir, a fyddai wedyn yn cael ei fewnosod yn y Polisi Gamblo diwygiedig.

 

Nododd hefyd fod ymgynghoriad wedi’i gynnal rhwng 25 Hydref 2024 a 20 Rhagfyr 2024, a arweiniodd at 8 ymateb, chwech ohonynt gan drigolion Ceredigion. Nododd dau o’r ymatebion y dylid ystyried newid ‘meddwl 21’ i ‘meddwl 25’. Cadarnhawyd hefyd y byddai'r polisi yn cael ei adolygu ymhellach pan fydd y Ddeddf Gamblo newydd yn cael ei chyhoeddi.

 

Diolchodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor, i'r Pwyllgor Trwyddedu am eu gwaith yn adolygu'r polisi diwygiedig, gan nodi eu bod wedi argymell cynnwys argymhelliad ychwanegol a oedd yn argymell bod y Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd yn anfon taflen i wahanol Glybiau Chwaraeon yng Ngheredigion yn tynnu sylw at y materion sy’n dod gyda Gamblo.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD yn unfrydol bod y Cyngor yn:

 

a)    dilyn yr argymhelliad a wnaethpwyd gan Cabinet i gadw’r penderfyniad “Dim Casinos” yr Awdurdod a bod y penderfyniad yn cael ei gofnodi a’i ychwanegu at y polisi terfynol, a

b)    yn cymeradwyo'r Datganiad Polisi Gamblo diwygiedig fel y Datganiad o Bolisi Gamblo ar gyfer  Ceredigion am y cyfnod 2025-2028.

c)     cymeradwyo'r argymhelliad gan y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2025 bod taflen yn cael ei hanfon at wahanol Glybiau Chwaraeon yng Ngheredigion, yn tynnu sylw at y materion sy'n codi o ran Gamblo, i'w dosbarthu i'w defnyddwyr.

7.

I ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ar ddiwygio Polisi Cerbydau Hacni (Tacsi) a Cherbydau Hurio Preifat, Gyrwyr a Gweithredwyr 2025 pdf eicon PDF 82 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet dros Bartneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd, yr adroddiad i’r Cyngor sy'n amlinellu'r diwygiadau i'r Polisi Diwygiedig Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat 2025.

 

Nododd y gofyniad ar gyfer gyrwyr a oedd yn cynnwys ymuno â'r cynllun Diweddaru'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a fyddai'n cael ei wirio bob 6 mis; ychwanegu gwiriadau troseddol tramor; mabwysiadu Cod Ymddygiad Gyrwyr a Chod Gwisg Gyrwyr Llywodraeth Cymru; diweddaru'r Amodau Gyrwyr yn unol ag Argymhellion Llywodraeth Cymru a mabwysiadu'r "Prawf Addas a Phriodol".

 

Byddai'n ofynnol i berchnogion cerbydau gael gwiriad blynyddol o'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, ac i fodloni'r "Prawf Addas a Phriodol". Byddai gosod camerâu CCTV a System Fideo ‘Pwynt Taro’ (Dash Cams) yn wirfoddol, fodd bynnag, rhaid i yrwyr neu weithredwyr sy'n dewis gosod offer o'r fath gydymffurfio â'r amodau a nodir gan Lywodraeth Cymru. Byddai argymhellion Llywodraeth Cymru ar gyfer amodau hygyrchedd ar gerbydau hefyd yn berthnasol.  Byddai'r "Prawf Addas a Phriodol" hefyd yn berthnasol i weithredwyr a pherchnogion cerbydau, yn ogystal â'r Amodau Gweithredwyr diwygiedig yn unol ag argymhellion Llywodraeth Cymru.

 

Nododd hefyd na fyddai’r Awdurdod Trwyddedu yn adnewyddu unrhyw drwydded i ddefnyddio cerbyd fel cerbyd hacni neu gerbyd llogi preifat os yw’r cerbyd perthnasol wedi’i raddio fel cerbyd Categori A, Categori B, Categori C, Categori D neu Gategori S wedi’i drwsio (dirymwyd at ddibenion yswiriant) ar ôl y dyddiad y trwyddedwyd y cerbyd gyntaf gan y Cyngor. Fodd bynnag, gall cerbydau sydd wedi’u graddio fel cerbydau Categori N wedi'u trwsio (dirymwyd at ddibenion yswiriant) gael eu hail-drwyddedu ar yr amod bod yr ymgeisydd neu’r perchennog wedi darparu adroddiad peiriannydd priodol (wedi’i gymeradwyo gan yr Awdurdod Trwyddedu) sy’n cadarnhau safon y trwsio.

 

Nododd y Cynghorydd Matthew Vaux fod ymgynghoriad wedi'i gynnal rhwng 22 Hydref a 27 Rhagfyr 2024, ac er gwaethaf cysylltu â 319 o unigolion / sefydliadau neu wasanaethau gan gynnwys ymgyngoreion gorfodol a phostio'r wybodaeth ar wefan y Cyngor, dim ond chwe ymateb i'r ymgynghoriad a dderbyniwyd. Nododd hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei chanllawiau ar ddefnyddio CCTV mewn tacsis a cherbydau hurio wrth i’r ymgynghoriad fynd yn fyw, gan ddarparu templed i gynghorau ei ddefnyddio wrth greu polisi CCTV er mwyn helpu i wella unffurfiaeth ledled Cymru.

 

Nododd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor, mai dogfen bwysig yw hon sy’n dangos ymrwymiad y Cyngor i sicrhau diogelwch y cyhoedd wrth ddiogelu’r bobl fwyaf agored i niwed ac yn hyrwyddo’r economi leol, wrth sicrhau unffurfiaeth ledled Cymru.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r newidiadau yn y Polisi diwygiedig ar gyfer Cerbydau Hacni (Tacsi) a Cherbydau Hurio Preifat, Gyrwyr a Gweithredwyr, a mabwysiadu'r polisi.

8.

I ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd ar y Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol i’r Aelodau ar gyfer 2025/2026 pdf eicon PDF 178 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd, Polisi a Pherfformiad a Phobl a Threfniadaeth, yr adroddiad i’r Cyngor yn nodi bod y penderfyniadau sy’n ymwneud â chydnabyddiaeth ariannol yn cael eu gwneud gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, nad yw o fewn rheolaeth y Cyngor, ac y dylai unrhyw Aelod sy'n dymuno hepgor eu tâl gysylltu â'r Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd yn ysgrifenedig. Nododd hefyd fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru o blaid y dull hwn o bennu lwfansau’r Aelodau, gan nodi, er gwaethaf beirniadaeth, nad oedd sawl Aelod yn hawlio unrhyw dreuliau, ond bod hyn yn benderfyniad personol i bob Aelod unigol.

 

Nododd y byddai ychwanegu canllawiau sy'n ymwneud ag absenoldeb teulu ac absenoldeb salwch tymor hir yn dileu'r angen i ystyried materion unigol, neu i enwi unrhyw unigolion.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwy’r canlynol:

 

  1. Parhau â’r arfer presennol o beidio â thalu costau teithio wrth gyflawni dyletswyddau yn yr etholaeth;
  2. Cymeradwyo bod y lwfansau teithio, cynhaliaeth, llety dros nos a pharcio ceir yn 2025/26 yn parhau ar yr un lefelau ag yr oeddent yn 2024/25;
  3. Parhau â’r cynllun lwfans misol y gellir optio i mewn iddo gydag uchafswm o £10 i dalu am gostau ffôn, band eang a phostio;
  4. Adlewyrchu talu’r lwfans hwn yn y Datganiad Taliadau blynyddol a wneir i Aelodau;
  5. Pan fydd absenoldeb salwch teuluol neu absenoldeb salwch hirdymor yn digwydd yn y dyfodol ar gyfer ddeiliad uwch gyflog, bod y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd, yn gwneud trefniadau i sicrhau bod dirprwy cyflogedig yn cael ei benodi dros gyfnod yr absenoldeb salwch teulu neu salwch hirdymor. Bydd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd hefyd yn diwygio Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau ac yn hysbysu'r IRPW yn unol â hynny.
  6. Talu ffioedd i Aelodau Cyfetholedig yn amodol ar uchafswm cyfwerth â 10 diwrnod llawn ar gyfer pob pwyllgor y cafodd unigolyn ei gyfethol iddo;
  7. Parhau i gyhoeddi cyfanswm y swm a ad-dalwyd gan yr awdurdod yn ystod y flwyddyn heb ei bennu’n benodol i unrhyw Aelod a enwyd o ran y costau gofal a ad-dalwyd;
  8. Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol i’r Aelodau ar gyfer 2025/2026, yn amodol ar gynnwys unrhyw newidiadau y penderfyna’r Cyngor arnynt yn y cyfarfod hwn; ac

Awdurdodi’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd i gynnwys unrhyw newidiadau cyn cyhoeddi’r ddogfen ar ôl y Cyfarfod Blynyddol sydd i’w gynnal ar 16 Mai 2025.

9.

I ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Pobl a Threfniadaeth ar Bolisïau Cyflogau Athrawon 2024/25 pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gadawodd y Cynghorwyr Bryan Davies, Endaf Edwards, Rhodri Evans, Chris James a John Roberts ac Eifion Evans, y Prif Weithredwr y cyfarfod yn ystod y trafodaethau.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Wyn Thomas yr adroddiad i'r Cyngor ar ran y Cynghorydd Bryan Davies a oedd wedi datgelu buddiant personol ac un sy’n rhagfarnu. Rhoddodd amlinelliad o'r Polisïau Cyflog Athrawon, gan nodi'r elfennau statudol y mae'n ofynnol eu gweithredu sy'n cynnwys cynnydd o 5.5% i'r holl bwyntiau cyflog a lwfansau statudol, gan nodi y bydd bob cynnydd mewn cyflog yn daladwy o’r 1af o Fedi 2024.

 

Amlinellodd hefyd y gwelliannau sy'n deillio o’r argymhellion gan Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru, a oedd yn cynnwys:

-        gofyniad i Gyrff Llywodraethu fod yn fodlon bod cyfrifoldebau cynaliadwy, ychwanegol sy’n ymwneud â thaliadau CAD1 “yn cynnwys cyfrifoldeb rheolwr llinell dros nifer sylweddol o bobl neu lefelau sylweddol o gyfrifoldeb ac atebolrwydd ychwanegol cyfwerth mewn meysydd allweddol yr ysgol”;

-        na ddylid dyfarnu lwfansau CAD3 fel arfer am fwy na 2 flynedd;

-        y bydd lwfansau CAD1 a CAD2 a ddyfarnwyd i athrawon rhan-amser yn cael eu talu'n llawn (‘will’ as opposed to ‘may’), gyda chytundeb yr athro rhan-amser a’r cyflogwr/corff llywodraethu os yw’r athro’n cyflawni’r holl ddyletswyddau sy’n gysylltiedig â’r lwfans yn llawn; a

-        chyflwyno "yn cynnwys cyfrifoldebau bugeiliol neu les a diogelu plant" fel cyfrifoldeb sylweddol a allai arwain at ddyfarnu CAD1 neu CAD2.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo:

 

a)    Polisi Cyflogau enghreifftiol Ysgolion 2024/25 a’i gymeradwyo i’r Cyrff Llywodraethu er mwyn ei fabwysiadu yn ysgolion Ceredigion

b)    Polisi Cyflogau enghreifftiol Athrawon Digyswllt 2024/25 ar gyfer athrawon a gyflogir yn ganolog.

10.

I ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Pobl a Threfniadaeth ar Bolisi Cyflogau arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2025/26 pdf eicon PDF 83 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gadawodd y Cynghorwyr Bryan Davies, Gareth Davies, Endaf Edwards, Wyn Evans a Keith Henson a’r holl Uwch Swyddogio y cyfarfod yn ystod y trafodaethau.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Wyn Thomas yr adroddiad i'r Cyngor ar ran y Cynghorydd Bryan Davies a oedd wedi datgelu buddiant personol ac un sy’n rhagfarnu. Rhoddodd grynodeb o'r adroddiad gan amlygu'r newidiadau a oedd wedi’u cytuno’n genedlaethol, gan nodi mai dim ond ym mis Chwefror 2025 y dechreuwyd ar y trafodaethau ar gyfer y dyfarniadau cyflog 2025/26. Nododd y canlynol: Bod y dyfarniad cyflog ar gyfer staff y Cyd-Gyngor Cenedlaethol wedi'i gytuno ar £1,290 wedi'i ychwanegu at bwyntiau 2 – 43 ar y golofn gyflog a 2.5% wedi'i ychwanegu at bwyntiau 44 – 53 ar y golofn gyflog; bod y dyfarniad cyflog cenedlaethol ar gyfer y Prif Weithredwr a'r Prif Swyddogion wedi cael ei gytuno ar 2.5% wedi'i ychwanegu at yr holl bwyntiau’r golofn gyflog; a bod y dyfarniadau cyflog cenedlaethol ar gyfer Pwyllgor Soulbury wedi'u cytuno ym mis Chwefror 2025 a'u bod wedi'u hôl-ddyddio i’r 1af o Fedi 2024 ar 2.5% wedi'u hychwanegu at yr holl bwyntiau a lwfansau’r golofn gyflog.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo’r Polisi Cyflogau ar gyfer 2025/26.

11.

I ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd ar Newidiadau i gyfrifoldebau'r Cynghorwyr pdf eicon PDF 99 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth yr adroddiad i'r Cyngor yn amlinellu'r newidiadau i gyfrifoldebau'r Cynghorwyr.

 

Diolchodd i’r Cynghorydd Keith Henson am y gwaith ardderchog a wnaeth wrth ymdrin â phortffolio eithriadol o heriol, gan ymateb i bryderon gan bob Aelod ar draws y Siambr, a chroesawodd y Cynghorydd Shelley Childs i'w rôl newydd. Ategwyd hyn gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Marc Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus, y Cynghorydd Elizabeth Evans a'r Cynghorydd Rhodri Evans.

 

Diolchodd y Cynghorydd Keith Evans i bawb am eu geiriau caredig, a diolchodd i Swyddogion o'r adran Priffyrdd a'r Gwasanaethau Amgylcheddol a'r grŵp Rheoli Carbon am eu gwaith caled yn sicrhau'r canlyniadau gorau i'r holl breswylwyr o dan amodau hynod o heriol.

 

Nododd Aelodau’r Cyngor y newidiadau canlynol, sy’n weithredol o 1 Ebrill 2025:

 

a)    Penodi'r Cynghorydd Shelley Childs yn Aelod Cabinet ar faterion Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol;

b)    Trosglwyddo swyddogaeth portffolio Rheoli Carbon i bortffolio'r Economi, Adfywio a Rheoli Carbon;

c)     Penodi'r Cynghorydd Keith Henson yn Aelod o'r Pwyllgorau canlynol

i.                  Pwyllgor Trwyddedu

ii.                Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus.

d)    Penodi’r Cynghorydd Eryl Evans fel Eiriolydd Bioamrywiaeth.

12.

Ethol darpar Gadeirydd y Cyngor ar gyfer 2025/26 i'w sefydlu yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhelir am 2.00 p.m. ddydd Gwener,, 16 Mai 2025

Cofnodion:

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Davies ac eiliwyd gan y Cynghorydd Catrin M S Davies bod y Cynghorydd Ann Bowen Morgan yn cael ei hethol yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol nesaf.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol bod y Cynghorydd Ann Bowen Morgan yn cael ei hethol yn Gadeirydd Etholedig y Cyngor ar gyfer 2025/26 i’w sefydlu yn y Cyfarfod Blynyddol a gynhelir am 2.00pm ar ddydd Gwener, 16 Mai 2025.

13.

Ethol darpar Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer 2025/26 i'w sefydlu yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhelir am 2.00 p.m. ddydd Gwener,, 16 Mai 2025

Cofnodion:

Cynigiodd y Cynghorydd Elizabeth Evans ac eiliwyd gan y Cynghorydd Meirion Davies bod y Cynghorydd John Roberts yn cael ei ethol yn Is-Gadeirydd Etholedig y Cyngor ar gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol nesaf.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol bod y Cynghorydd John Roberts yn cael ei ethol yn Is-gadeirydd Etholedig y Cyngor ar gyfer 2025/26 i’w sefydlu yn y Cyfarfod Blynyddol a gynhelir am 2.00pm ar ddydd Gwener, 16 Mai 2025.