Lleoliad: Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron ac o bell trwy fideo gynhadledda
Cyswllt: Nia Jones
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd James
Starbuck, Cyfarwyddwr Corfforaethol am ei annallu i fynychu’r cyfarfod. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Gwnaeth y
Cynghorwyr Bryan Davies, Euros Davies, Gareth Davies, Endaf Edwards, Raymond
Evans, Rhodri Evans, Wyn Evans, Keith Henson, Chris James, Gwyn James a Gareth
Lewis ddatgan buddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu pe bai unrhyw
drafodaeth yn codi yn ymwneud ag aelodau agos o'r teulu/cysylltiadau personol
agos/partïon cysylltiedig sy'n weithwyr/swyddogion y Cyngor neu'n athrawon mewn
ysgolion yn y Sir neu'n gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a
Gorllewin Cymru. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Estynnodd y Cynghorydd
Keith Evans ei gydymdeimlad â theulu’r diweddar Dilys Davies ar eu profedigaeth. Roedd
Dilys yn gweithio yn yr adran Cyllid a Budd-daliadau ac roedd wedi gweithio i'r
Cyngor am dros 24 mlynedd. Estynnodd ei gydymdeimlad hefyd â theulu Dafydd Elis
Thomas ar eu profedigaeth ddiweddar, gwleidydd amlwg ym myd gwleidyddiaeth
Cymru a'r DU. Llongyfarchodd y Cynghorydd Keith Evans y canlynol: a) Deian Gwynne a Caio
James ar ennill eu cap cyntaf i Dîm Rygbi dan 20 Cymru; b) Ella Williams ar ennill
gwobr Arian yng nghategori Merched Iau Prydain ym Mhencampwriaeth Agored
Prydain – Gwn Aer; c) Byron Davies a
John Jones a dderbyniodd gydnabyddiaeth gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru am dros
40 mlynedd o wasanaeth i Dewi Stars; d) Rhys Salcombe o
Aberystwyth, un o dîm o bedwar a enillodd BAFTA ac Oscar am Effeithiau Gweledol
Arbennig ar gyfer y ffilm 'Dune: Part Two'; e) Clybiau
Ffermwyr Ifanc Ceredigion am gymryd rhan yng nghystadleuaeth Pantomeim yn Felinfach,
ac i Glwb Ffermwyr Ifanc Pontsian a ddaeth yn gyntaf, ac a fydd nawr yn
cynrychioli Ceredigion ar lefel genedlaethol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2025 Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion cyfarfodydd y Cyngor
a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2025 fel rhai cywir. Materion yn
codi Nid oedd unrhyw
faterion yn codi. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor yr adroddiad
i'r Cyngor gan ddiolch i Swyddogion, Aelodau a Chadeiryddion y Pwyllgorau
Craffu am eu mewnbwn. Nododd fod y setliad drafft cychwynnol gan Lywodraeth
Cymru yn 3.6% a bod y Cabinet, ynghyd â Phlaid Cymru ac aelodau Annibynnol
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi bod yn lobïo am 7%. Roedd Llywodraeth
Cymru wedi cytuno ar gyllid gwaelodol o 3.8%, ac o ganlyniad nid oedd y
sefyllfa wedi newid yn sylweddol, gan arwain at ostyngiad arfaethedig i'r
cynnydd yn Nhreth y Cyngor o 9.9% i 9.3%. Nododd fod y cynnydd craidd yn Nhreth
y Cyngor yn cyfateb i 4.3%, gyda 0.6% ychwanegol yn deillio o'r cynnydd i’r
ardoll Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, 2.9% yn deillio o newidiadau
i gyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwyr, ac 1.5% yn deillio o’r argymhelliad
gan y Pwyllgor Craffu i fuddsoddi mewn gwasanaethau casglu gwastraff a gorfodi
cynllunio. Nododd hefyd gynnydd o 8.3% i'r gyllideb ddirprwyedig ysgolion, gan
gynnwys cyllid grant. Cydnabu fod cynnydd o 9.3% yn sylweddol, gan bwysleisio
bod y Cabinet yn awyddus i beidio â thorri gwasanaethau na staffio yn ystod
2025/26. Diolchodd y Cynghorydd Gareth Davies, Aelod y Cabinet dros
Gyllid a Chaffael, i Swyddogion am baratoi'r gyllideb ac Aelodau'r Pwyllgorau
Craffu am ystyried yr adroddiadau.
Nododd fod y Cabinet wedi derbyn llythyr gan y Grŵp Annibynnol, yn
dweud nad oeddent yn gallu cefnogi'r gyllideb ar gyfer 2024/25 gan eu bod yn
teimlo nad oedd modd cyflawni rhai o'r arbedion. Cydnabu nad oedd yr holl
arbedion wedi'u cyflawni, gan nodi 3 eitem oedd yn dal i fod mewn statws coch,
ond nid oedd unrhyw ostyngiadau pellach wedi'u cynnig ar gyfer cyllideb
2025/26. Nododd hefyd
argymhelliad y Grŵp Annibynnol i adolygu pob swydd gyda chyflog sy'n fwy
na £45k ac eithrio addysg a gwasanaethau rheng flaen. Esboniodd y Cynghorydd Gareth Davies fod 72% o’r
swyddi hynny o fewn Addysg (yn bennaf mewn Ysgolion), 6% yn rolau rheolwyr
Corfforaethol, a 2% yn ymwneud â’r Grŵp Arweinyddiaeth (gyda sawl un
ohonynt yn swyddi statudol). O'r 20% sy'n weddill, mae 13% yn swyddi o fewn
gwasanaethau rheng flaen ac 1% yn ymwneud â gwaith rhanbarthol fel Tyfu
Canolbarth Cymru. Mae'r 6% sy'n weddill (40 swydd) yn rolau proffesiynol
o fewn gwasanaethau cymorth megis cyfreithiol, adnoddau dynol, TGCh a chyllid.
Ar ôl ystyried y rhain yn fanwl, daeth y Cabinet i'r casgliad y byddai unrhyw
ostyngiad i'r gwasanaethau hyn yn effeithio'n uniongyrchol ar y gwasanaethau
rheng flaen. Nododd hefyd
argymhelliad y Grŵp Annibynnol mewn perthynas â staff asiantaeth, gan nodi
bod hyn wedi dechrau lleihau, ond mae'r rhan fwyaf o'r rolau hyn yn ymwneud â
gwasanaethau statudol megis gofal cymdeithasol. Rhoddodd y Cynghorydd Gareth Davies grynodeb o'r gyllideb arfaethedig fel y nodir yn yr adroddiad, gan gynnwys y gyllideb refeniw, dadansoddiad o'r gwariant a’r hyn y mae Treth y Cyngor yn ei dalu amdano, y cynllun gostyngiad Treth y Cyngor, y strategaeth gyfalaf a'r rhaglen gyfalaf aml-flwyddyn, yn ogystal â’r dangosyddion rhagweithiol ar ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gareth Davies, Aelod Cabinet dros
Gyllid a Chaffael yr adroddiad i’r Cyngor. Holodd yr Aelodau
pa mor aml y bydd taliadau’n cael eu gwneud i’r
Cyngor Tref a Chymuned, a chadarnhawyd
bod taliadau'n cael eu gwneud mewn
3 rhandaliad cyfartal ar ddiwedd Ebrill, Gorffennaf a Hydref. Yn dilyn pleidlais PENDERFYNWYD: 3.1
I nodi y cymeradwywyd y symiau canlynol ar gyfer y flwyddyn 2025/26 yng
nghyfarfod Cabinet y Cyngor a gynhaliwyd ar 03/12/24 yn unol â rheoliadau Adran
33(5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992: (a) 34,421.81 sef y swm
a gyfrifir gan y Cyngor fel sylfaen treth
y Cyngor ar gyfer yr ardal, yn unol
â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) (Cymru) 1995, fel
y’u diwygiwyd gan Reoliadau Awdurdodau
Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) a Threth y Cyngor
(Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygio) 2004. (b) RHAN O
ARDAL Y CYNGOR
SYLFAEN TRETH Y CYNGOR 34,421.81 sef
y symiau a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol â Rheoliad 6 o Reoliadau 1995 (fel y’u
diwygiwyd gan Reoliadau 2004), fel symiau Treth y Cyngor am y flwyddyn ar gyfer
anheddau mewn rhannau penodol o’r ardal y mae un eitem neu fwy yn berthnasol
iddynt; 3.2 I gymeradwyo’r symiau a
gyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2025/26 yn unol ag adrannau 32 hyd
36, Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, fel y nodir isod:- (a £298,637,969 sef
cyfanswm y symiau a amcangyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer eitemau a nodir yn
Adran 32(2)(a) hyd (e) o’r Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys £180,000 o ran Rhyddhad
Ardrethi Annomestig Cenedlaethol. (b)
£87,793,000 sef cyfanswm y symiau a amcangyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer
eitemau a nodir yn Adran 32(3)(a) hyd (c) o’r Ddeddf. (c)
£210,844,969 sef swm y diffyg rhwng cyfanswm (a) uchod a
chyfanswm (b) uchod, a gyfrifir gan y Cyngor fel yr anghenion cyllidebol am y
flwyddyn, yn unol ag Adran 32(4) o’r ddeddf. (d) £144,224,579 sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif a fydd yn daladwy i Gronfa’r Cyngor am y flwyddyn ar gyfer ailddosbarthu ardrethi annomestig, ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Gareth Davies, Aelod Cabinet dros Gyllid a Chaffael yr adroddiad i’r
Cyngor. Yn dilyn
trafodaeth a phleidlais PENDERFYNWYD: a)
cymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer
Benthyca a Buddsoddiadau ar gyfer 2025/26 b)
cymeradwyo Polisi y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw ar gyfer
2025/26; a c)
bod y Cyngor yn dirprwyo awdurdod i'r swyddog Adran 151, mewn ymgynghoriad ag Aelod y
Cabinet ar gyfer Cyllid a Chaffael, i ddiwygio Strategaeth
Rheoli’r Trysorlys, a’r Rhaglen Fuddsoddi,
yn ystod y flwyddyn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet ar gyfer Partneriaethau, Gwasanaethau
Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd, yr adroddiad i'r Cyngor yn amlinellu'r newidiadau arfaethedig i'r Cyfansoddiad. Gofynnodd yr Aelodau
am eglurhad ar eitem 25, dogfen H: Dirprwyo i'r Swyddog Arweiniol Corfforaethol Economi ac Adfywio – “Penderfynu ar geisiadau cynllunio lle gwnaed yr
un penderfyniad o fewn y 12 mis diwethaf,
oddi ar y dyddiad dilys, ac na fu newidiadau”, gan
ofyn a fyddai hyn yn berthnasol
lle mae gwybodaeth
ychwanegol wedi'i darparu. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod y dirprwyo’n
berthnasol i geisiadau lle nad
oes unrhyw newidiadau wedi cael eu gwneud. Gofynnodd yr
Aelodau hefyd am eglurhad ar eitem 28, Rhan 3: Cyfrifoldeb am Swyddogaethau'r
Cyngor, sy'n ymwneud
â’r Pŵer
i benderfynu ynghylch ceisiadau am Faes (Tref/Pentref) yn unol ag Adran 15 o
Ddeddf Tiroedd Comin 2006. Cadarnhaodd y
Swyddog Monitro fod hyn er eglurder rhag ofn y byddai
unrhyw amheuaeth neu her yn y dyfodol, ac na fu unrhyw newid
i'r arfer presennol. Yn dilyn
trafodaeth a phleidlais PENDERFYNWYD: 1.
cymeradwyo’r
newidiadau i’r Cyfansoddiad fel y nodir yn Atodiadau 1-6. 2.
Awdurdodi'r Swyddog Monitro i ddiweddaru
Cyfansoddiad y Cyngor i adlewyrchu'r newidiadau uchod. |