Agenda a Chofnodion

Cyngor - Dydd Iau, 14eg Rhagfyr, 2023 2.00 pm

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Meirion Davies, Elaine Evans, Elizabeth Evans, Ann Bowen Morgan a John Roberts am eu hanallu i fynychu'r cyfarfod.

 

Ymddiheurodd y Cynghorydd Rhodri Evans a Matthew Vaux am eu hanallu i fynychu'r cyfarfod oherwydd eu bod ar ddyletswyddau eraill y Cyngor.

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatgeliadau o ddiddordeb.

3.

Materion Personol

Cofnodion:

Dim.

4.

EITEM EITHRIEDIG

Nid yw’r adroddiad (Papur B) ar yr eitem isod ar gael i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 12 a 13 o ran 4 o atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, yn unol ag Adran 100B(2) y Ddeddf ac ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd a’r wasg eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno.

 

Wrth ddelio â’r eitem hyn, gofynnir i’r Aelodau ystyried a ydynt am gau’r cyhoedd a’r wasg allan o’r Cyfarfod.

Cofnodion:

Nid yw'r adroddiad sy'n ymwneud ag eitem 5 ar yr agenda, Atodiad B, i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym mharagraff 12 ac 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor, ar ôl cymhwyso'r Prawf Budd y Cyhoedd, yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, bydd y cyhoedd a'r wasg yn cael eu heithrio o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath, yn unol ag Adran 100B(2) o'r Ddeddf.

 

Wrth ddelio â’r eitem hyn, gofynnir i’r Aelodau ystyried ydynt am gau’r 

cyhoedd a’r wasg allan o’r Cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD eithrio'r cyhoedd a’r wasg yn ystod ar ystyriaeth o eitem 5 isod ar y sail bod y cais yn cynnwys gwybodaeth bersonol na ddylid, ar sail ystyriaeth, ei datgelu i'r cyhoedd a'r wasg. Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai'r gweddarlledu yn cael ei atal yn ystod eitem 5 isod.

5.

Swydd Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth Cynnal (a Chyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol) pdf eicon PDF 10 MB

Cofnodion:

Derbyniodd y Cyngor gyflwyniad ac ymateb i gwestiynau a osodwyd i’r ymgeisydd ar y rhestr fer i benodi i swydd wag Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth Cynnal (sydd hefyd yn gweithredu fel Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor). Cafwyd adborth hefyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Rhestrau Fer, y Cynghorydd Bryan Davies; Y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet dros Lesiant Gydol Oes a'r Prif Weithredwr.

 

Yn dilyn pleidlais PENDERFYNWYD  cynnig y swydd i Ms Audrey Somerton-Edwards.

 

Ystyriwyd y cyflog a fyddai'n cael ei gynnig. Cynigiwyd ac eiliwyd y dylid cynnig y swydd ar y pedwerydd pwynt cynyddrannol ar raddfa gyflog A2 y Swyddog Arweiniol Corfforaethol (£90,164)  ynghyd a phwynt ategu grym y farchnad (£7,336) sy’n gyfanswm o £97,500.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD cynnig y swydd  ar gyflog o £97,500, y pedwerydd pwynt cynyddrannol ar raddfa gyflog A2 y Swyddog Arweiniol Corfforaethol (£90,164), ynghyd a phwynt ategu grym y farchnad o £7,336, sy’n gyfanswm o £97,500.

 

Derbyniodd Ms Audrey Somerton-Edwards y cynnig o swydd, y swydd ar gyflog o £97,500 sydd ar bedwerydd pwynt cynyddrannol graddfa gyflog A2 y Swyddog Arweiniol Corfforaethol, ynghyd a phwynt ategu grym y farchnad; i gychwyn ar 1 Ionawr 2024, neu cyn gynted â phosibl wedi hynny.

 

Yna gwahoddwyd y cyhoedd a'r wasg i ddod i mewn i'r cyfarfod.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod Ms Audrey Somerton-Edwards wedi cael cynnig a derbyn y swydd gan ddechrau ar y pedwerydd pwynt  cynyddrannol  ar raddfa gyflog A2 y Swyddog Arweiniol Corfforaethol, ynghyd a phwynt ategu grym y farchnad; i gychwyn ar 1 Ionawr 2024, neu cyn gynted â phosibl wedi hynny.