Agenda a Chofnodion

Cyngor - Dydd Iau, 23ain Ionawr, 2025 10.00 am

Lleoliad: Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron ac o bell trwy fideo gynhadledda

Cyswllt: Nia Jones 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Gwyn James a Ceris Jones am eu hanallu i fynychu'r cyfarfod.

Ymddiheurodd James Starbuck, Cyfarwyddwr Corfforaethol ac Elin Prysor, Swyddog Arweiniol Corfforaethol y Gyfraith a Llywodraethu am ei anallu i fynychu'r cyfarfod.

 

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Amanda Edwards ddatgan buddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 9 gan adael y cyfarfod trwy gydol y drafodaeth.

3.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

a)    Mynegodd y Cynghorydd Keith Evans ei gydymdeimladau i deulu a ffrindiau’r cyn-Gynghorydd Haydn Lewis ar eu profedigaeth ddiweddar;

b)    Mynegodd y Cynghorydd Keith Evans ei gydymdeimladau i’r Cynghorydd Eryl Evans a’i theulu yn dilyn y profedigaeth o golli ei thad yng-nghyfraith, Rhythwyn Evans o Silian;

c)     Mynegodd y Cynghorydd Keith Evans ei gydymdeimladau i deulu Tony a Jan Tucker ar eu profedigaeth ddiweddar;

d)    Estynnodd y Cynghorydd Keith Evans ei longyfarchiadau i’r cyn-Gynghorydd Dan Potter ar ddathlu 30 mlynedd o wirfoddoli gyda RNLI Cei Newydd; 

e)    Estynnodd y Cynghorydd Keith Evans ei longyfarchiadau i Carys Davies, Dawn a Robert Davies ac Ann Hughes am dderbyn Medal Ymerodraeth Brydeinig.

4.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd 12 Rhagfyr 2025 pdf eicon PDF 113 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion cyfarfodydd y Cyngor a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2024 fel rhai cywir.

 

Materion yn codi

Gofynnodd y Cynghorydd Rhodri Evans a dderbyniwyd ymateb mewn perthynas â’r Rhybudd Gynnig a gyflwynwyd yn y cyfarfod dyddiedig 12 Rhagfyr 2024. Cadarnhawyd nad oedd unrhyw ymateb wedi’i dderbyn hyn yn hyn.

 

5.

I ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael ar Gynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor 2025/26 pdf eicon PDF 90 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gareth Davies, Aelod Cabinet dros Gyllid a Chaffael yr adroddiad gan nodi, yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 fod rhwymedigaeth statudol i gyflwyno adroddiad i’r cyngor llawn yn flynyddol, hyd yn oed os na fu newid yn y cynllun ers y flwyddyn flaenorol.

 

Mae’r rheoliadau a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru i’w mabwysiadu gan bob Cyngor yng Nghymru yn darparu bod hawlwyr n derbyn gostyngiad o hyd at 100% o’u hatebolrwydd Treth Gyngor mewn rhai amgylchiadau ac yn sicrhau bod pob awdurdod lleol yn darparu cymorth yn gyson i drethdalwyr cynghorau Cymru. Mae’r rheoliadau hefyd yn darparu 3 elfen disgresiwn penodol, sef y Pensiwn Anabledd Rhyfel, Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw a’r Pensiwn Rhyfel Gŵr Gweddw, y cyfnod talu estynedig ar gyfer hawlwyr oedran gweithio, ac ôl-ddyddio ceisiadau hwyr.

 

Nododd fod y Cyngor wedi penderfynu diystyru'r holl bensiynau dros y £10 cyntaf at ddibenion cyfrifo'r llynedd, ac amcangyfrifir y bydd diystyru pensiynau rhyfel ar gyfer 2024/25 yn costio tua £1.6k i'r Cyngor. Penderfynodd y Cyngor hefyd y llynedd i beidio ag ymestyn y cyfnod talu y tu hwnt i'r 4 wythnos statudol, ac mai dim ond 1 taliad estynedig a ddyfarnwyd hyd at fis Tachwedd oedd yn costio £124.59.  Yn ogystal, penderfynodd y Cyngor y llynedd i beidio ag ymestyn y cyfnod ôl-ddyddio ar gyfer ceisiadau hwyr y tu hwnt i'r 3 mis statudol.

 

Nododd y Cynghorydd Gareth Davies fod Llywodraeth Cymru yn talu’r rhan fwyaf o gostau’r Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ond mae dal yn ofyniad sylweddol i Gynghorau dalu costau taliadau sy’n fwy na’u cyfraniad sydd yng Ngheredigion yn cyfateb i oddeutu £1.8m.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD yn unfrydol i:

 

1.           Nodi gwneud Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2024; 2025;

2.          Mabwysiadu darpariaethau'r Rheoliadau Gofyniad Rhagnodedig (2013) fel Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor y Cyngor ar gyfer 2025/26, yn amodol ar y disgresiwn lleol y gall y Cyngor eu harfer fel y nodir isod:

(i)    Parhau i gymhwyso diystyriaeth 100% y tu hwnt i’r £10 statudol ar gyfer Pensiwn Anabledd Rhyfel, Pensiwn Rhyfel Gwŷr Gweddw a Phensiwn Rhyfel Gwraig Weddw, ar gyfer pensiynwyr a’r rheiny sy’n hawlio tra’n oed gweithio.

(ii)   Peidio â chynyddu'r cyfnodau talu estynedig ar gyfer pensiynwyr a hawlwyr oedran gweithio o'r 4 wythnos safonol sydd wedi'u cynnwys yn y Cynllun Rhagnodedig ar hyn o bryd.

(iii)            Peidio â chynyddu'r cyfnod ôl-ddyddio ar gyfer pensiynwyr a hawlwyr oedran gweithio o'r 3 mis safonol a gynhwysir yn y Cynllun Rhagnodedig.

6.

I ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Economi ac Adfywio ar Ymgynghoriad Cyhoeddus Arfarniadau a Chunlluniau Rheoli Ardaloedd Cadwraeth pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet dros Economi ac Adfywio yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod Ardaloedd Cadwraeth yn ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, y cymeriad neu’r edrychiad y mae’n ddymunol i’w gwarchod neu’i wella, a bod 13 ardal gadwraeth yng Ngheredigion.

 

Nododd fod Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 a oedd wedi disodli deddfwriaeth flaenorol, yn dod â deddfwriaeth bresennol ar yr amgylchedd hanesyddol ynghyd mewn un ddeddf ddwyieithog, gan ddarparu sail ar gyfer arfarniadau rheoli manylach.  Er mwyn sicrhau bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn cyflawni ei ddyletswydd statudol, gofynnodd y Tîm Polisi Cynllunio am gyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig i gefnogi paratoi arfarniadau a chynlluniau rheoli ardaloedd cadwraeth. Mae'r cynlluniau hyn yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, a nodwyd unwaith y bydd yr Arfarniadau Ardal Gadwraeth a'r Cynlluniau Rheoli presennol wedi'u mabwysiadu, y bwriad yw paratoi arfarniadau a chynlluniau rheoli ar gyfer yr ardaloedd cadwraeth sy'n weddill unwaith y bydd adnoddau'n caniatáu.

 

Gofynnodd Aelodau ynghylch hyblygrwydd Erthygl 4 ar ardaloedd fel Llanddewi Brefi mewn perthynas â gwresogi ffynonellau aer, paneli solar a fframiau ffenestri. Nodwyd bod yr adroddiad hwn yn ymwneud â chaniatâd i ddechrau ymgynghori, ac nad oedd yn cynnig gweithredu Erthygl 4. Gofynnodd yr Aelodau hefyd am waredu cyrn simnai yn Llambed a nodwyd y dylai trigolion wneud cais am ganiatâd ardal gadwraeth cyn gwaredu cyrn simnai

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD yn unfrydol fod Arfarniadau a Chynlluniau Rheoli’r Ardaloedd Cadwraeth yn cael eu rhyddhau i’r cyhoedd er mwyn ymgynghori arnynt.

 

7.

I ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyswllt Cwsmeriaid, TGCh a Digidol ar y Strategaeth Ddigidol yn dilyn yr Ymgynghoriad pdf eicon PDF 75 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi’r angen i fod yn agored i addasu i dechnoleg newydd sy’n datblygu, gyda dull craff oherwydd adnoddau cyfyngedig.

 

Nododd y derbyniwyd 27 o ymatebion i’r ymgynghoriad ar strategaeth ddigidol Cyngor Sir Ceredigion, gan nodi bod y sylwadau a dderbyniwyd yn cael eu gweithredu megis y cynlluniau i ddatblygu sgiliau TGCh staff a chynhwysiad y gymuned yn hanfodol.

 

Nododd y Cynghorydd Elaine Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol fod y strategaeth wedi cael ei hystyried yn ystod y cyfarfod dyddiedig 6 Ionawr 2025, ac y cytunwyd i argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo’r Strategaeth Ddigidol.

 

Gofynnodd yr Aelodau am y sgôr uchel o 9 ar y gofrestr risg, a nodwyd bod capasiti a chyllid yn risg i bob gwasanaeth a bod seiberddiogelwch yn her gyson i’w chynnal a’i liniaru. Nododd yr Aelodau hefyd bwysigrwydd technoleg ddigidol, gan ystyried anghenion poblogaeth sy’n heneiddio. Nodwyd y dylai’r gwasanaeth gael ei ddylunio gyda phrofiad y defnyddwyr terfynol mewn golwg, gan gynnwys profi’r cyhoedd a derbyn adborth, a bod y strategaeth yn ceisio sefydlu grwpiau defnyddwyr i wella ymgysylltiad ac ymgynghori. Nodwyd hefyd y byddai cyflwyniad yn cael ei roi i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd er mwyn sicrhau bod gan y Cynghorwyr gwell dealltwriaeth o Ddeallusrwydd Artiffisial.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo’r Strategaeth Ddigidol 2024-2030.

 

8.

I ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd ar fodiwlau e-ddysgu Aelodau pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod aelodau o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wedi ystyried argymhelliad yn ystod ei gyfarfod a gynhaliwyd 5 Rhagfyr 2024 mewn perthynas â modiwlau e-ddysgu sydd ar gael i’r Aelodau, a oedd yn blaenoriaethu’r modiwlau e-ddysgu amrywiol sydd ar gael.

 

Nododd y Cynghorydd Elizabeth Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, er bod y ddarpariaeth hyfforddiant wyneb yn wyneb yn bwysig iawn, mae’r modiwlau e-ddysgu hefyd yn rhagorol, a bod y Pwyllgor yn argymell bod modiwl e-ddysgu Cyllid Llywodraeth Leol felly’n cael ei hychwanegu at y rhestr o fodiwlau e-ddysgu gorfodol.

 

Gofynnodd yr aelodau am hyfforddiant gloywi ar sut i gael mynediad i’r modiwlau e-ddysgu a nodwyd y byddai canllawiau’n cael eu hanfon at yr holl Aelodau.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo’r categorïau modiwlau e-dysgu sydd ar gael i Aelodau fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad, gan nodi bod yn rhaid i'r holl fodiwlau e-ddysgu a nodwyd fel rhai gorfodol gael eu cwblhau gan yr holl Aelodau.

9.

I ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd ar apwyntiad ffurfiol eilydd dros gyfnod absenoldeb teulu deiliad uwch gyflog. pdf eicon PDF 103 KB

Cofnodion:

Gadawodd y Cynghorydd Amanda Edwards y cyfarfod drwy gydol y drafodaeth ar yr eitem ganlynol.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2013 a phenderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn caniatáu i Gynghorau benderfynu a oes angen penodi dirprwy ar gyfer absenoldeb teuluol uwch ddeiliad cyflog ac os felly, bydd yr Aelod sy’n dirprwyo yn gymwys os yw’r awdurdod yn penderfynu talu cyflog uwch.

 

Nododd bwysigrwydd cryfhau cyfleoedd cyfartal, gan nodi, pe bai’n cael ei gymeradwyo yn ystod cyfarfod a gynhelir ym mis Mawrth 2025, y byddai argymhelliad yn cael ei wneud i weithredu dull cyffredinol a fyddai hefyd yn berthnasol i absenoldeb salwch ac absenoldeb teuluol. Byddai hyn yn golygu, na fyddai angen cyfeirio at unigolion penodol.  

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad o’r cyfnod o absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth ac absenoldeb salwch a nodwyd y byddai hyn yn cael ei egluro gyda’r Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a’i gynnwys yn yr adroddiad i’w gyflwyno i’r Cyngor ym mis Mawrth 2025.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD yn unfrydol:

 

a)    I benodi’r Cynghorydd Amanda Edwards yn eilydd yn lle’r Cynghorydd Ceris Jones;

b)    Bod y Cynghorydd Amanda Edwards yn cael ei thalu am gyfnod llawn yr absenoldeb teulu h.y. ei ôl-ddyddio i 20 Medi 2024 a’i dalu tan y bydd y Cynghorydd Ceris Jones yn dychwelyd o’i habsenoldeb mamolaeth.

10.

I ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Ysgolion a Dysgu Gydol Oes ar Gynrychiolwyr Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethu pdf eicon PDF 88 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau i’r Cyngor yn nodi bod y Cynghorwyr Marc Davies a Ceris Jones wedi cael eu henwebu fel cynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol ar gais Corff Llywodraethol Ysgol Dyffryn Aeron.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD cadarnhau enwebiad y Cynghorwyr Marc Davies a Ceris Jones fel cynrychiolwyr Awdurdod Lleol ar Gorff Llywodraethol Ysgol Dyffryn Aeron.

11.

I gadarnhau'r apwyntiad canlynol:

Grŵp Tasg a Gorchwyl Cynllunio yn Dilyn Archwiliad Archwilio Cymru: 

Cynghorydd Raymond Evans

Cofnodion:

Grŵp Tasg a Gorchwyl Cynllunio yn Dilyn Archwiliad Archwilio Cymru: Cynghorydd Raymond Evans