Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Blynyddol, Cyngor - Dydd Gwener, 17eg Mai, 2024 2.00 pm

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a Chyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Ymddiheuriadau

a)    Ymddiheurodd y Cynghorwyr Clive Davies, Euros Davies, Gethin Davies a Marc Davies am eu hanallu i fynychu’r cyfarfod

b)    Ymddiheurodd Audrey Somerton Edwards, Lowri Edwards, Elen James a Alan Morris am eu hanallu i fynychu’r cyfarfod.

 

Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

a)    Llongyfarchiadau i Mr Youssef Eltwab ar dderbyn Gwobr Dug Caeredin;

b)    Llongyfarchiadau i Dr Ali Wright ar ennill gwobr Cyflogwr Bach yn Flwyddyn, yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2024;

c)     Llongyfarchiadau i Ysgol Gerdd Ceredigion ar gyrraedd y rownd derfynol yng Nghystadleuaeth Côr Cymru.

2.

Anerchiad gan y Cynghorydd Maldwyn Lewis ynglŷn â'i flwyddyn fel Cadeirydd y Cyngor

Cofnodion:

Anerchodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis y pwyllgor, gan fyfyrio ar weithgareddau'r flwyddyn ddiwethaf, a oedd yn cynnwys Gwasanaeth Sefydlu Maer Aberystwyth, Eisteddfodau, cyngherddau, gwobrau chwaraeon, dadorchuddio cerflun Cranogwen, gwobrau Cynnal y Cardi, Ras yr Iaith, agoriad Plant yr Eos, croesawu disgyblion ysgol i Siambr y Cyngor, dechrau'r gwaith adeiladu ar Ysgol Dyffryn Aeron,  agor y Ganolfan Les yn Llanbedr Pont Steffan, Rali Ceredigion a chwrdd â ffoaduriaid sydd wedi cael lloches yng Ngheredigion i enwi ond ychydig.  Nododd y croeso cynnes a gafwyd gan bawb.

 

Diolchodd i staff, gwirfoddolwyr a sefydliadau partner am eu gwaith diflino, a chydnabod caredigrwydd ei gyd-Aelodau wrth ymddiried ynddo i lywio'r Cyngor ar bynciau anodd a heriol.

3.

Gwerthfawrogiad y Cyngor am wasanaeth y cyn-Cadeirydd

I’w gynnig gan y Cynghorydd Wyn Thomas

 

Cofnodion:

Talodd y Cynghorydd Wyn Thomas deyrnged i'r Cadeirydd, y Cynghorydd Maldwyn Lewis am ei waith caled yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac am ei arddull urddasol a phwyllog o gadeirio Cyfarfodydd y Cyngor. Diolchodd i'r Caplan, y Parch Carys Ann am ei geiriau ystyriol cyn pob un o gyfarfodydd y Cyngor.

4.

Ethol y Cynghorydd Keith Evans yn Gadeirydd y Cyngor am y Flwyddyn Fwrdeistrefol ddilynol

I’w gynnig gan y Cynghorydd Gareth Lloyd

I’w eilio gan y Cynghorydd Rhodri Evans

Cofnodion:

Cynigiwyd y cynllun gan y Cynghorydd Gareth Lloyd ac fe'i eiliwyd gan y Cynghorydd Rhodri Evans, a PHENDERFYNWYD yn unfrydol i ethol y Cynghorydd Keith Evans yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer y flwyddyn fwrdeisdrefol ddilynol, 2024-25.

 

 

5.

Datganiad o Dderbyn y Swydd gan y Cadeirydd newydd

Cofnodion:

Cyflwynwyd Cadwyn o’r Swydd i'r Cadeirydd newydd ei ethol a gwnaeth ei ddatganiad o dderbyn swydd. Cyflwynwyd Arwydd o’r Swydd i Gonsort y Cadeirydd, Mrs Eirlys Evans.

6.

Anerchiad gan Gadeirydd y Cyngor, Y Cynghorydd Keith Evans

Cofnodion:

Diolchodd y Cynghorydd Keith Evans i'r Cynghorydd Maldwyn Lewis am ei eiriau caredig, diolchodd i'r Cynghorwyr Gareth Lloyd a Rhodri Evans am gynnig ac eilio ei benodiad, a diolchodd i'w gyd-Gynghorwyr am ymddiried ynddo felCadeirydd ar gyfer y flwyddyn fwrdeisdrefol ddilynol.

7.

Ethol y Cynghorydd Ann Bowen Morgan yn Is-gadeirydd y Cyngor am y Flwyddyn Fwrdeistrefol ddilynol

I’w gynnig gan y Cynghorydd Bryan Davies

I’w eilio gan y Cynghorydd Catrin M.S. Davies

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Bryan Davies a’i eilio gan y Cynghorydd Catrin M S Davies a PHENDERFYNWYD yn unfrydol i ethol y Cynghorydd Ann Bowen Morgan yn Is-Gadeirydd y Cyngor ar gyfer y flwyddyn fwrdeisdrefol ganlynol, 2024-25.

8.

Datganiad o Dderbyn y Swydd gan yr Is-gadeirydd newydd

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr Arwydd o Swydd i'r Is-gadeirydd newydd a gwnaeth ddatganiad o dderbyn swydd. Cyflwynwyd Arwydd o’r Swydd i Gonsort yr Is-Gadeirydd, Yr Athro D Densil Morgan.

9.

Caplan y Cadeirydd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi penodiad y Parchedig Chris Bolton fel Caplan y Cadeirydd ar gyfer y flwyddyn fwrdeisdrefol ddilynol, 2024-25.

10.

Anerchiad gan Arweinydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd Bryan Davies

Cofnodion:

Llongyfarchodd y Cynghorydd Bryan Davies y Cynghorwyr Keith Evans ac Ann Bowen Morgan ar gael eu hethol yn Gadeirydd ac Is-gadeirydd yn y drefn honno ac estynnodd ei ddymuniadau gorau i'r Parchedig Chris Bolton fel Caplan i'r Cadeirydd. Talodd yr Arweinydd deyrnged hefyd i'r Cynghorydd Maldwyn Lewis ar ei wasanaethau yn ystod ei flwyddyn fel Cadeirydd.

 

Nododd y cafwyd blwyddyn heriol dros ben, wrth geisio sicrhau cyllideb gytbwys ar gyfer 2024/25, a diolchodd i Aelodau'r Cabinet am eu cefnogaeth, y Pwyllgorau Craffu sydd wedi cyflwyno cynigion a fabwysiadwyd gan y Cabinet, a Swyddogion.

 

Anerchodd yr Arweinydd y Cyngor ar y prif ddatblygiadau yn ystod y flwyddyn flaenorol, a oedd yn cynnwys y Cynllun Gweithredu Strategol Cymraeg mewn Addysg a fabwysiadwyd, cynnig i ddiwygio cyfrwng iaith 5 ysgol gynradd ac astudiaeth ddichonoldeb o addysg ôl-16, gan gymeradwyo tendr ar gyfer Ysgol Dyffryn Aeron, y datblygiadau i Gynllun Amddiffyn Arfordir yn Aberaeron,  agor Canolfan Lles Llambed a throsglwyddo Cartref Gofal Hafan y Waun i berchnogaeth y Cyngor ac agor y Ganolfan Byw'n Annibynnol.  Nododd hefyd ei fod wedi cymryd rhan mewn digwyddiad 'Hawl i Holi' a drefnwyd gan Gyngor Ieuenctid Ceredigion.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Bryan Davies fusnesau lleol a oedd wedi ennill gwobrau am fwyd a'r diod o'r ansawdd uchaf, yn dilyn cefnogaeth gan y Ganolfan Fwyd yn Horeb, a'r gefnogaeth a roddwyd i fusnesau  drwy gynllun Arfor, ac amryw o gynlluniau eraill gan gynnwys Cynnal y Cardi a Thyfu Canolbarth Cymru.  Llongyfarchodd Rali Ceredigion hefyd, sydd bellach yn ddigwyddiad blynyddol sy'n rhoi hwb enfawr i'r economi.

11.

Penodi Aelodau o’r Cyngor i Bwyllgorau’r Cyngor ar gyfer y Flwyddyn Fwrdeistrefol ddilynol pdf eicon PDF 104 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau Aelodaeth Pwyllgorau'r Cyngor fel y'u cyflwynwyd yn y cyfarfod.