Agenda a chofnodion drafft

Cyngor - Dydd Iau, 29ain Chwefror, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Sian Maehrlein am nad oedd modd iddi fod yn bresennol yn y cyfarfod.

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd  Endaf Edwards ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag eitem 5.

3.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Llongyfarchodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis, Cadeirydd y Cyngor, Cynan Evans o Ben-uwch ar ennill y Fedal Arian ym Mhencampwriaeth Dechreuwyr Cymdeithas Focsio Amatur Cymru 2024.

 

Cyhoeddodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis y bydd Cymanfa Ganu Brenhines a Ffermwr Ifanc Clwb Ffermwyr Ifanc Ceredigion yn cael ei chynnal am 7:30pm nos Sul, Mawrth y 3ydd 2024 yn Eglwys Deiniol Sant, Llanddeiniol, ac y bydd ‘Dechrau Canu, Dechrau Canmol’ yn cael ei ddarlledu o Gapel Glynarthen ar 20 Mawrth 2024.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Ifan Davies y Cynghorydd Wyn Evans ar Gadeirio'r brotest dros bolisïau newid hinsawdd yn Adeilad y Senedd y diwrnod cynt, gan dynnu sylw at yr argyfwng sy'n wynebu ardaloedd gwledig yng Nghymru.

4.

Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2024 pdf eicon PDF 85 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2024 yn gywir.

5.

Adroddiad ar y cyd gan yr Arweinydd, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Ariannol a'r Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael ar Gyllideb 2024/25, gan gynnwys y Rhaglen Gyfalaf Aml-flwyddyn a'r Dangosyddion Darbodus ar gyfer Rheoli'r Trysorlys pdf eicon PDF 1000 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor, yr adroddiad i'r Cyngor gan nodi bod y wybodaeth a'r cynigion yn yr adroddiad wedi cael eu hystyried gan y Cabinet a'r holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu.

 

Pwysleisiodd y byddai'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd ac na fu dim newid i'r sefyllfa ariannol ers cael y gyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr y llynedd.  Nododd fod 70 o feysydd arbed wedi'u nodi a allai effeithio ar rai Aelodau yn fwy nag eraill, fodd bynnag byddai'r arbedion cyffredinol o fudd i'r holl drigolion drwy sicrhau bod y cynnydd i Dreth y Cyngor yn parhau mor isel â phosibl. Diolchodd i Aelodau’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu am eu mewnbwn, gan nodi bod y Cabinet wedi cytuno ar yr argymhelliad a gyflwynwyd ger eu bron a oedd yn ymwneud â chynnal y casgliad gwastraff Hylendid Amsugnol.

 

Nododd fod aelodau'r cyhoedd yn disgwyl gwasanaeth safon aur, heb gynnydd yn Nhreth y Cyngor; fodd bynnag, mae'n rhaid i ni wneud y mwyaf o'r Setliad a gafwyd oddi wrth Lywodraeth Cymru. Cadarnhaodd fod Rebecca Evans AS. y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gwrdd ag ef ar sail un-i-un, fodd bynnag, roedd yr amser a gynigiwyd yn cyd-daro â chyfarfod y Cyngor heddiw; bydd y cyfarfod hwn yn cael ei aildrefnu.  Nododd hefyd fod Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, yn ystod cyfarfod diweddar o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi codi’r un pryderon â’r rheini sy’n effeithio ar Geredigion gan fod ardaloedd gwledig ar eu colled o’u cymharu ag ardaloedd mwy trefol o ran y Setliad.  

 

Nododd y Cynghorydd Bryan Davies fod y Cabinet wedi rhoi mandad i swyddogion sicrhau bod Treth y Cyngor yn cael ei chadw ar ei lefel isaf posibl.  Er mwyn cyflawni hyn, mae'n rhaid gwneud toriadau.  Awgrymodd amcangyfrifon cychwynnol y gallai fod yn rhaid i Dreth y Cyngor gynyddu 20% ond mae hyn bellach wedi'i ostwng i 10% ar gyfer gwasanaethau'r Cyngor, ynghyd ag ardoll yr Awdurdod Tân sy'n cyfateb i 1.1% arall.

 

Nododd y Cynghorydd Gareth Davies, Aelod y Cabinet dros Gyllid a Chaffael, fod 4 gweithdy cyllideb i Aelodau wedi’u cynnal yn ychwanegol at yr holl waith a wnaed gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu. Ategodd sylwadau’r Arweinydd, gan ddiolch i Gadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu am arwain y trafodaethau yn ymwneud â’r gyllideb.  Nododd fod Llywodraeth Cymru wedi datgan yn agored mai ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2024/25 yw’r ‘llymaf a’r fwyaf poenus ers datganoli’, a bod y gyllideb ddrafft bellach wedi’i chwblhau, gan roi cynnydd 2.9% i’r Grant Cynnal Refeniw.  Mae'r cynnydd hwn yn y cyllid craidd yn rhoi Ceredigion yn y 14eg safle o'r 22 Awdurdod Lleol; fodd bynnag, wrth ystyried y cyllid fesul pen o'r boblogaeth, Ceredigion sy'n cael y swm isaf.

 

Nododd fod y pwysau a amcangyfrifir o ran costau refeniw y mae’r Cyngor yn eu hwynebu ar gyfer 2024/25 yn dod i gyfanswm o £18m, sy’n cyfateb i ffactor chwyddiant sy’n benodol i Geredigion o 10% sy’n gadael Ceredigion â diffyg yn y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael ynghylch Gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2024/25 pdf eicon PDF 258 KB

Cofnodion:

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD:

 

3.1   I nodi y cymeradwywyd y symiau canlynol ar gyfer y flwyddyn 2024/25 yng nghyfarfod Cabinet y Cyngor a gynhaliwyd ar 21 Rhagfyr 2023 yn unol â rheoliadau Adran 33(5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992:

 

(a)     33,768.51 sef y swm a gyfrifir gan y Cyngor fel sylfaen treth y Cyngor ar gyfer yr ardal, yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) (Cymru) 1995, fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) a Threth y Cyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygio) 2004.

 

(b)     RHAN O ARDAL Y CYNGOR

 

Ardaloedd Cynghora Tref a Chymuned:

Syfaen Treth y Cyngor

Ardaloedd Cynghora Tref a Chymuned:

Syfaen Treth y Cyngor

ABERYSTWYTH

4,190.91

TREGARON

563.01

ABERAERON

803.98

YSBYTY YSTWYTH

217.62

ABERTEIFI / CARDIGAN

1,877.18

YSTRAD FFLUR

317.05

LLANBEDR P.S. / LAMPETER

1,008.40

YSTRAD MEURIG

172.19

CEI NEWYDD / NEW QUAY

850.26

CILIAU AERON

431.98

BORTH

790.01

HENFYNYW

528.19

CEULANAMAESMAWR

437.60

LLANARTH

749.70

BLAENRHEIDOL

209.80

LLANDYSILOGOGO

565.66

GENEU’R GLYN

367.39

LLANFAIR CLYDOGAU

304.01

LLANBADARN FAWR

893.28

LLANFIHANGEL YSTRAD

689.20

LLANGYNFELIN

279.85

LLANGYBI

288.18

LLANFARIAN

774.79

LLANLLWCHAEARN

506.52

LLANGWYRYFON

262.11

LLANSANTFFRAED

639.73

LLANILAR

487.51

LLANWENOG

598.16

LLANRHYSTUD

464.40

LLANWNNEN

220.37

MELINDWR

538.17

DYFFRYN ARTH

603.29

PONTARFYNACH

255.68

ABERPORTH

1,177.40

TIRYMYNACH

824.75

BEULAH

893.63

TRAWSGOED

457.90

LLANDYFRIOG

863.79

TREFEURIG

803.35

LLANDYSUL

1,277.37

FAENOR

827.91

LLANGOEDMOR

606.22

YSGUBOR-Y-COED

168.00

LLANGRANNOG

453.40

LLANDDEWI BREFI

307.52

PENBRYN

781.03

LLANGEITHO

376.22

TROEDYRAUR

686.39

LLEDROD

322.03

Y FERWIG

674.49

NANTCWNLLE

380.93

                               SYLFAEN TRETH Y CYNGOR 33,768.51

 

sef y symiau a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol â Rheoliad 6 o Reoliadau 1995 (fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau 2004), fel symiau Treth y Cyngor am y flwyddyn ar gyfer anheddau mewn rhannau penodol o’r ardal y mae un eitem neu fwy yn berthnasol iddynt;

 

3.2             I cymeradwyo’r symiau a gyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2024/25 yn unol ag adrannau 32 hyd 36, Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, fel y nodir isod:-

 

(a) £285,511,141 sef cyfanswm y symiau a amcangyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer eitemau a nodir yn Adran 32(2)(a) hyd (e) o’r Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys £180,000 o ran Rhyddhad Ardrethi Annomestig Cenedlaethol.

 

(b) £90,392,000 sef cyfanswm y symiau a amcangyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer eitemau a nodir yn Adran 32(3)(a) hyd (c) o’r Ddeddf.

 

(c) £195,119,141 sef swm y diffyg rhwng cyfanswm (a) uchod a chyfanswm (b) uchod, a gyfrifir gan y Cyngor fel yr anghenion cyllidebol am y flwyddyn, yn unol ag Adran 32(4) o’r ddeddf.

 

(d) £135,285,976 sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif a fydd yn daladwy i Gronfa’r Cyngor am y flwyddyn ar gyfer ailddosbarthu ardrethi annomestig, y grant cymorth refeniw a Chynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.

 

(e) £1,771.86 sef y swm a roddir o dan (c) uchod, namyn y swm a roddir o dan (d) uchod, wedi’i rannu â Sylfaen Treth y Cyngor, a gyfrifir gan y Cyngor fel swm sylfaenol Treth y Cyngor am y flwyddyn yn unol ag  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Datganiad Polisi Rheoli'r Trysorlys, Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a Pholisi Isafswm Darpariaeth Refeniw (IDR) 2024-25 pdf eicon PDF 71 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Gareth Davies, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cyllid a Caffael drosolwg o gynnwys yr adroddiad a nododd fod y Cabinet, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2024, wedi ystyried yr adroddiad hwn ar Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a Pholisi’r Ddarpariaeth Isafswm Refeniw ar gyfer 2024/ 25, gan argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer Benthyca a Buddsoddiadau ar gyfer 2024/25; Polisi’r Ddarpariaeth Isafswm Refeniw ar gyfer 2024/25 ac i ddirprwyo awdurdod i’r Swyddog Adran 151 mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet ar gyfer Cyllid a Chaffael, i ddiwygio Strategaeth Rheoli’r Trysorlys, a’r Rhaglen Fuddsoddi, yn ystod y flwyddyn.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

a)    cymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer Benthyca a Buddsoddiadau ar gyfer 2024/25

b)    cymeradwyo Polisi y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw ar gyfer 2024/25; a

c)    bod y Cyngor yn dirprwyo awdurdod i'r swyddog Adran 151, mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet ar gyfer Cyllid a Chaffael, i ddiwygio Strategaeth Rheoli’r Trysorlys, a’r Rhaglen Fuddsoddi, yn ystod y flwyddyn.