Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Elaine Evans a Ceris Jones am nad oedd modd iddynt fod yn bresennol yn y cyfarfod;

Ymddiheurodd Mr Barry Rees am nad oedd modd iddo fod yn bresennol yn y cyfarfod am ei fod ar ddyletswydd arall ar ran y Cyngor.

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd dim buddiannau.

3.

Cyheoddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

a)   Yr Athro Syr John Edmunds OBE ar gael ei urddo’n farchog gwyryf am ei wasanaeth i faes epidemioleg;

b)   Shann Jones ar dderbyn MBE am ei gwasanaeth i elusennau ac arloesedd;

c)   Robin Varley ar dderbyn OBE am ei wasanaeth i griced yng Nghymru;

d)   Stevie Williams ar ennill cymal olaf y ‘Tour Down Under’ i sicrhau ei fod yn ennill y ras gyfan;

e)   Siwan Owen, Coleg Gelli Aur ar ennill disgybl LANTRA y flwyddyn;

f)    Llongyfarchiadau i’r holl fusnesau bach sydd wedi’u sefydlu yng Ngheredigion a phob dymuniad da iddynt i’r dyfodol.

4.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2023 a Chyfarfod Arbennig y Cyngor a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2023 pdf eicon PDF 154 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd am 10.00yb ar 14 Rhagfyr 2023, a Chyfarfod Arbennig y Cyngor a gynhaliwyd am 2.00yp ar 14 Rhagfyr 2023, yn gywir.

 

Nid oedd dim mater yn codi.

5.

I ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael ar Gynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor 2024/25 pdf eicon PDF 87 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gareth Davies, Aelod o'r Cabinet dros Gyllid a Chaffael, yr adroddiad gan nodi - yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau Treth y Cyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 - fod rhwymedigaeth statudol i gyflwyno’r adroddiad i’r Cyngor llawn yn flynyddol, hyd yn oed os na fu unrhyw newid i’r cynllun ers y flwyddyn flaenorol.

 

Ers diddymu Budd-dal y Dreth Gyngor ym mis Ebrill 2013, nododd fod y cyfrifoldeb o drefnu cymorth Treth y Cyngor i'r rhai ar incwm isel wedi’i drosglwyddo o'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i awdurdodau lleol a bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo dwy set o reoliadau sy'n rhagnodi prif nodweddion y cynllun sydd i'w mabwysiadu gan bob Cyngor yng Nghymru.  Mae Llywodraeth Cymru yn talu mwyafrif cost taliadau'r Cynllun Gostyngiadau Treth y Gyngor ond mae dal yn ofyniad sylweddol i Gynghorau dalu cost taliadau sy'n fwy na chyfraniad Llywodraeth Cymru. Mae’r gost a amcangyfrifwyd ar gyfer 23/24 oddeutu £6.5m felly mae tua £1.3m o gostau nad ydynt yn cael eu cydnabod gan Lywodraeth Cymru yn y Setliad Cyllid i Lywodraeth Leol.

 

Yn dilyn pleidlais PENDERFYNWYD i:

 

1.  Nodi gwneud Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2024;

2.  Mabwysiadu darpariaethau'r Rheoliadau Gofyniad Rhagnodedig (2013) fel Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor y Cyngor ar gyfer 2024/25, yn amodol ar y disgresiwn lleol y gall y Cyngor eu harfer fel y nodir isod:

(i)        Parhau i gymhwyso diystyriaeth 100% y tu hwnt i’r £10 statudol ar gyfer Pensiwn Anabledd Rhyfel, Pensiwn Rhyfel Gwŷr Gweddw a Phensiwn Rhyfel Gwraig Weddw, ar gyfer pensiynwyr a’r rheiny sy’n hawlio tra’n oed gweithio.

 

(ii)       Peidio â chynyddu'r cyfnodau talu estynedig ar gyfer pensiynwyr a hawlwyr oedran gweithio o'r 4 wythnos safonol sydd wedi'u cynnwys yn y Cynllun Rhagnodedig ar hyn o bryd.

 

(iii)      Peidio â chynyddu'r cyfnod ôl-ddyddio ar gyfer pensiynwyr a hawlwyr oedran gweithio o'r 3 mis safonol a gynhwysir yn y Cynllun Rhagnodedig.

6.

I ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd ar Adolygiad o Ddosbarthiadau Etholiadol, Mannau Pleidleisio a Gorsafoedd Pleidleisio 2023 pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd ac Aelod o’r Cabinet dros y Gwasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth, gyflwyno’r adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod Deddf Gweinyddu Etholiadol 2006, fel y’i diwygiwyd, wedi cyflwyno dyletswydd ar bob awdurdod lleol ym Mhrydain i adolygu eu dosbarthiadau etholiadau a’u mannau pleidleisio o leiaf unwaith bob pum mlynedd. Nododd fod adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Cabinet ar 5 Medi 2023 lle cytunwyd i gychwyn yr adolygiad gorfodol ar 2 Hydref 2023, gyda chyfnod yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 10 Tachwedd 2023.

 

Nododd fod adolygiad rhagarweiniol wedi’i gynnal o’r dosbarthiadau etholiadol, y mannau pleidleisio a’r gorsafoedd pleidleisio presennol yn ardal Ceredigion gyda’r bwriad o brofi eu haddasrwydd, a nodi unrhyw ddewisiadau eraill posibl lle bernir eu bod yn addas. Wrth asesu’r trefniadau presennol, ystyriwyd lleoliad, maint, argaeledd a hygyrchedd y mannau a’r gorsafoedd pleidleisio. Derbyniwyd 16 ymateb i’r ymgynghoriad ffurfiol a gellir eu gweld yn Atodiad A ynghyd â sylwadau a chynigion y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol).

 

Nododd y Cynghorydd Bryan Davies fod ymateb hwyr wedi dod i law, ar ôl cyhoeddi'r agenda, oddi wrth Neuadd Bentref Llwyncelyn yn nodi y byddent yn fodlon darparu’r neuadd fel gorsaf bleidleisio yn unig ar ddiwrnod yr etholiad. Ar ôl ystyried yr ymateb hwyr hwn, ac os bydd yr argymhelliad diwygiedig yn cael ei gymeradwyo, cynigiodd fod yr argymhelliad i symud yr orsaf bleidleisio o Neuadd yr Eglwys yn Llanarth i'r Ysgubor ar Fferm Bargoed yn cael ei dynnu’n llwyr o'r argymhellion ar ddiwedd yr adroddiad.

 

Eglurodd Eifion Evans, Prif Weithredwr a Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) fod Festri Capel Llwyncelyn wedi cael ei ystyried yn anaddas fel Gorsaf Bleidleisio, a bod Pwyllgor Neuadd y Pentref wedi mynnu parhau â gweithgareddau eraill yn y Neuadd ar ddiwrnod yr etholiad, ac nad oedd modd gwarantu defnydd ecsgliwsif o’r adeilad ar ddiwrnod yr etholiad.  Dywedodd y Cynghorydd Marc Davies fod sicrwydd wedi’i anfon gan Bwyllgor Neuadd Bentref Llwyncelyn y byddai’r orsaf bleidleisio yn cael defnydd ecsgliwsif ac na fyddai gweithgareddau eraill yn cael eu cynnal yn y Neuadd yn ystod etholiadau. Cadarnhawyd hyn gan Lowri Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol y Gwasanaethau Democrataidd.

 

Holodd y Cynghorydd John Roberts a fyddai'r adeilad wrth ochr Ysgol Comins Coch ar gael, gan fod yr adeilad bellach ar gau.  Cadarnhaodd Eifion Evans mai Cyngor Sir Ceredigion sy'n berchen ar yr adeilad ac felly ni fyddai'r cau yn effeithio arno. 

 

Nododd y Cynghorydd Euros Davies ei fod yn ymwybodol o'r ymgynghoriad ond nad oedd ef a'r Cyngor Cymuned wedi rhoi ymateb.  Nododd fod pryderon wedi'u codi ynghylch trosglwyddo'r Orsaf Bleidleisio o Neuadd Eglwys Llanwnnen i Ysgol Cwrtnewydd, a allai gael effaith ar y nifer a bleidleisiai am fod pleidleiswyr Llanwnnen yn tueddu i gerdded i bleidleisio.  Gofynnodd a fyddai modd ystyried ‘Y Grannell’ fel lleoliad amgen.

 

Eglurodd Eifion Evans nad oedd yr Orsaf Bleidleisio yn Neuadd Eglwys Llanwnnen yn foddhaol ac nad oedd yn bodloni gofynion Deddf Etholiadau 2022.  Cynigir bod yr Orsaf Bleidleisio yn cael ei symud i Ysgol Cwrtnewydd oherwydd diffyg opsiynau yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Aelodaeth y Cyngor a Pwyllgorau'r Cyngor pdf eicon PDF 104 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau aelodau Pwyllgorau'r Cyngor fel y’u cyflwynwyd yn y cyfarfod.