Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Nia Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: a) Ymddiheurodd y
Cynghorydd John Roberts am ei anallu i fynychu’r cyfarfod; b) Ymddiheurodd y Cynghorwyr
Elaine Evans a Rhodri Evans am eu hanallu i fynychu’r cyfarfod am eu bod ar
ddyletswydd eraill ar ran y Cyngor. |
|
Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: a)
Gwnaeth y Cynghorwyr Bryan
Davies. Gareth Davies, Marc Davies, Meirion Davies, Wyn Evans, Gareth Lloyd a
Matthew Vaux ddatgan budd personol a rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 8, gan
nodi eu bod wedi derbyn gollyngiad i siarad ac i bleidleisio ar yr eitem hon; b)
Gwnaeth y Cynghorwyr Ifan
Davies a Chris James ddatgan budd personol a rhagfarnu mewn perthynas ag eitem
8, gan nodi eu bod wedi derbyn gollyngiad i siarad yn unig ar yr eitem hon; c)
Gwnaeth y Cynghorydd
Catrin M S Davies ddatgan budd personol a rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 8,
gan nodi ei bod wedi derbyn gollyngiad i siarad ac i bleidleisio ar fater ail
dai a gollyngiad i siarad yn unig ar fater eiddo gwag hirdymor; d)
Gwnaeth y Cynghorwyr Gethin
Davies ac Eryl Evans ddatgan budd personol a rhagfarnu mewn perthynas ag eitem
8, gan adael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem hon; e)
Gwnaeth y Cynghorwyr Bryan
Davies, Euros Davies, Endaf Edwards, a Chris James ddatgan budd personol a
rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 10, gan adael y cyfarfod yn ystod y
drafodaeth ar yr eitem hon; f)
Gwnaeth y Cynghorydd Maldwyn
Lewis ddatgan budd personol mewn perthynas ag eitem 12; g)
Gwnaeth y Prif Weithredwr,
Eifion Evans, ddatgan budd personol a rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 10, yn
unol â Chod Ymddygiad Llywodraeth Leol gan adael y cyfarfod yn ystod y
drafodaeth ar yr eitem hon. Nododd y
Cynghorydd Euros Davies fod eiddo fferm gwag yn ei Ward sy'n cael ei ddal mewn
ymddiriedolaeth gan y Cyngor. Dywedodd y Swyddog Monitro fod Ymddiriedolwyr a
benodwyd gan y Cyngor wedi'u heithrio rhag statws rhagfarnol. |
|
Materion Personol Cofnodion: a)
Cydymdeimlodd
y Cynghorydd Maldwyn Lewis â’r Cynghorydd Wyn Evans ar ei brofedigaeth
ddiweddar; b)
Llongyfarchodd
y Cynghorydd Carl Worrall Dîm y Gofalwyr ar eu gweithdy ardderchog a gynhaliwyd
yn Theatr Felin-fach yn ddiweddar; c)
Llongyfarchodd
y Cynghorydd Carl Worral Pamela Worrall ar gyrraedd y 4ydd safle ym
Mhencampwriaethau Pysgota Môr y Byd yn Sisili.
Mae hi bellach yn y 12fed safle yn y byd; d)
Llongyfarchodd
y Cynghorydd Gareth Davies George Ryley ar gyrraedd y rhestr fer fel
"Unigolyn y Flwyddyn" yng ngwobrau diweddar GO Wales a dymunodd yn
dda iddo ar ei ymddeoliad ddiwedd mis Rhagfyr. e)
Llongyfarchodd
y Cynghorydd Euros Davies holl gystadleuwyr Ceredigion ar eu llwyddiant yn y
Ffair Aeaf yn ddiweddar, gyda nifer yn ennill gwobrau cyntaf a
phencampwriaethau; f)
Llongyfarchodd
y Cynghorydd Euros Davies Mr Denley Jenkins ar gael ei ethol yn Llywydd Sioe
Amaethyddol Frenhinol Cymru 2024. |
|
Datganiad o Dderbyn Swydd ac Ymrwymiad i gadw at y Cod Ymddygiad gan y Cynghorydd Shelley Childs Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Shelley Childs i’w gyfarfod cyntaf o’r
Cyngor gan ddymuno’n dda iddo yn ei rôl. Anerchodd
Elin Prysor, Swyddog Monitro, y Cyngor ynglŷn â’r gofyniad statudol i bob
Aelod wneud Datganiad o Dderbyn ac ymrwymiad i gydymffurfio â’r Cod Ymddygiad,
gan gadarnhau bod y Cynghorydd Shelley Childs, wrth wneud y Datganiad Statudol
o Dderbyn y Swydd, wedi cael hyfforddiant cynhwysfawr ar God Ymddygiad y Cyngor
ddydd Llun 20fed Tachwedd 2023. Mae hyn er
mwyn i Aelodau gyflawni eu swyddogaethau gyda dealltwriaeth o Egwyddorion Bywyd
Cyhoeddus, eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau o dan y cod, a hefyd y canlyniadau
am fethu â gwneud hynny. Derbyniodd y Cynghorydd Shelley Childs ar lafar y Datganiad o Dderbyn y
Swydd a'r ymrwymiad i gydymffurfio â'r Cod Ymddygiad a gafodd ei lofnodi a'i
gydlofnodi eisoes gan y Swyddog Priodol. Fe wnaeth Arweinydd y Cyngor, ac Arweinwyr y Gwrthbleidiau longyfarch
Cynghorydd Shelley Childs a dymuno’n dda iddo yn ei rôl. |
|
Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 26 Hydef 2023 PDF 122 KB Cofnodion: Nododd Elin Prysor ddiwygiad, er mwyn eglurder i gofnod 10 i nodi testun
ychwanegol yn dilyn: Testun ychwanegol: “ar yr
argymhelliad a ganlyn: Bod y Cyngor
(sy'n gweithredu fel yr Awdurdod Cofrestru) yn canfod bod athrawiaeth
anghydnawsedd statudol yn atal cofrestru'r Tir fel Maes Pentref ac yn unol â
hynny mae'r Cyngor yn gwrthod y Cais i gofrestru'r Tir fel Maes Pentref. Pleidleisiodd yr Aelodau fel a ganlyn:” Gofynnodd y Cynghorydd Gareth Davies fod geiriad y datgeliad o fuddiant yn
eitem 2 ar yr agenda: Datgelu buddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu hefyd
yn cael ei adlewyrchu yn eitem yr agenda y mae'r datgeliad yn cyfeirio ati. PENDERFYNWYD cadarnhau fel cofnod cywir Gofnodion Cyfarfod y
Cyngor a gynhaliwyd ar 26 Hydref 2023, yn amodol ar y newid uchod. Materion yn codi Nid oedd unrhyw fater yn codi. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod y Cabinet ar gyfer
Partneriaethau, Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd yr
adroddiad gan nodi bod angen cynllunio ac ystyried yn ofalus cyn prynu anifail
a bod ymgyrch gan y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid
(RSPCA) wedi arwain at y cynnig hwn i weithredu gwaharddiad ar roi anifeiliaid
byw fel gwobrau ar eiddo Cyngor Sir Ceredigion. Nododd nad yw Deddf Lles Anifeiliaid 2006 (sy'n berthnasol yng Nghymru a Lloegr) yn
gwahardd rhoi anifeiliaid byw fel gwobrau oni bai eu bod yn cael eu rhoi i
blant ar eu pen eu hunain, ond mae'r RSPCA o'r farn nad yw'r ddeddfwriaeth hon
yn mynd yn ddigon pell ac nad yw'n ymdrin â'r materion lles anifeiliaid sy'n
gysylltiedig â'r arfer hon. Nododd y Cynghorydd Caryl
Roberts, Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach fod yr
adroddiad hwn wedi’i ystyried gan y pwyllgor a'u bod yn hapus iawn i gefnogi'r
cynnig hwn gan fod iechyd a lles anifeiliaid yn arbennig o bwysig i ni gael
economi amaethyddol gref. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD
yn unfrydol fod y Cyngor yn gweithredu gwaharddiad llwyr ar roi anifeiliaid byw
fel gwobrau, ar unrhyw ffurf, ar dir y Cyngor. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet
ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd a
Phobl a Threfniadaeth yr adroddiad i'r Cyngor gan nodi bod Rhan 6 o Ddeddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 wedi cyflwyno trefn berfformio
newydd ar sail Hunanasesiad ar gyfer Prif Gynghorau, sy'n cynnwys 5 dyletswydd
benodol. Nododd fod Cyngor Sir Ceredigion, ers mis Ebrill 2023, wedi bod yn
ymgymryd â'i gylch diweddaraf o hunanasesu sydd wedi'i adolygu gan y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio a Throsolwg a Chraffu. Nododd y Cynghorydd Keith Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a
Chraffu fod y pwyllgor wedi trafod yr adroddiad yn fanwl
ac wedi argymell iddo gael ei gymeradwyo gan y Cyngor. PENDERFYNWYD: 1. Cymeradwyo Adroddiad Hunanasesu 2022/23 gan gynnwys yr Adolygiad Blynyddol
o’r Amcanion Perfformiad a Llesiant, a 2.
Bod y Cyngor yn
cymeradwyo i’r Amcanion Llesiant Corfforaethol aros yr un peth am y flwyddyn
nesaf. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafodd y Cynghorwyr Bryan
Davies, Gareth Davies, Marc Davies, Meirion Davies, Wyn Evans, Gareth Lloyd a
Matthew Vaux ollyngiad i siarad a phleidleisio ar yr eitem hon. Cafodd y cynghorwyr Ifan Davies a Chris James ollyngiad i siarad ond i
beidio â phleidleisio ar yr eitem hon. Cafodd y Cynghorydd Catrin M S
Davies ollyngiad i siarad a phleidleisio ar faterion yn ymwneud ag ail gartrefi
ac i siarad ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud ag eiddo gwag
hirdymor. Gadawodd y Cynghorwyr Gethin Davies ac
Eryl Evans y cyfarfod yn ystod y drafodaeth.
Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan
Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet ar gyfer Gwasanaethau
Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd a Phobl a Threfniadaeth
yr adroddiad i'r Cyngor gan nodi, ar gyfarwyddyd y Cabinet, y cynhaliwyd
Ymgynghoriad Cyhoeddus ffurfiol 6 wythnos ar lefel Premiymau Treth y Cyngor yn
y dyfodol ar Eiddo Gwag Hirdymor ac Ail Gartrefi yng Ngheredigion rhwng 18 Medi
a diwedd Hydref 2023 a bod Gweithgor Trawsbleidiol hefyd wedi'i sefydlu. Ystyriodd y Cabinet ganfyddiadau'r
ymgynghoriad a'r sylwadau a gafwyd gan y Gweithgor Trawsbleidiol a chytunodd ar
yr argymhellion. Nodwyd pe bai’r Cyngor yn cytuno ar gynnydd i Bremiymau Treth
y Cyngor, byddai angen i’r Aelodau gytuno ar beth i’w wneud ag unrhyw incwm
ychwanegol mewn cyfarfod yn y dyfodol, ac o ran amseru y byddai dull graddol o
weithredu’n cael ei adolygu’n barhaus o ran nifer y tai sydd ar gael, a nifer y
cartrefi sy’n dychwelyd i’r stoc o gartrefi sydd ar gael. Nododd nad oedd incwm posibl wedi bod yn
ystyriaeth wrth ddod â'r argymhelliad gerbron y Cyngor, a nododd fod
fforddiadwyedd tai i bobl ifanc yn ystyriaeth, sydd hefyd yn effeithio ar y
Gymraeg os na all pobl fforddio byw yn eu cymunedau. Nododd y Cynghorydd Gareth
Davies fod y Cyngor wedi penderfynu ym mis Mawrth 2016 i gynyddu premiwm Treth
y Cyngor ar eiddo gwag hirdymor ac Ail gartrefi yng Ngheredigion o 25% o
bremiwm o 1 Ebrill 2017. Nododd, yn unol â deddfwriaeth, fod eiddo gwag
hirdymor yn cael ei ddiffinio fel annedd sydd wedi bod yn wag a heb gelfi i
raddau helaeth ers o leiaf 12 mis gyda dodrefnu neu feddiannu annedd am un neu
ragor o gyfnodau o chwe wythnos neu lai ddim yn effeithio ar statws annedd fel
annedd wag hirdymor. Diffiniodd y ddeddfwriaeth Ail gartrefi fel 'anheddau a
feddiannir o bryd i'w gilydd' sydd wedi’u dodrefnu'n sylweddol ond lle nad oes
trigolyn parhaol yn byw ynddynt. Mae'r holl
gyfeiriadau at ail gartrefi felly at 'anheddau a feddiannir o bryd i'w gilydd'. Nododd fod yr adroddiad i'r Cabinet yn cynnwys gwybodaeth am nifer yr eiddo yng Ngheredigion ym mhob categori premiwm, yr ardaloedd yng Ngheredigion sydd â'r crynhoad / nifer uchaf o'r eiddo hyn, proffil oedran yr eiddo gwag hirdymor yng Ngheredigion, cynllun Tai Cymunedol Ceredigion, y cefndir deddfwriaethol, a'r amserlen a'r gofynion llywodraethu cysylltiedig. Nododd hefyd fod 1,403 o ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus, sef yr ail ymateb uchaf ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8. |
|
EITEM EITHRIEDIG Nid yw’r adroddiadau (Atodiadau B1 a B2) ar yr eitem uchod ar gael i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 12 a 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)(Amrywio)(Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, yn unol ag Adran 100B(2) y Ddeddf ac ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd a’r wasg eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno. Wrth ddelio â’r eitem hyn, gofynnir i’r Aelodau ystyried a ydynt am gau’r cyhoedd a’r wasg allan o’r Cyfarfod. Cofnodion: Nid yw’r adroddiadau
(Atodiadau B1 a B2) ar yr eitem uchod ar gael i'w gyhoeddi gan ei fod yn
cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 12 a 13 o Ran 4
o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn
Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)(Amrywio)(Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor
yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, yn unol ag Adran 100B(2) y
Ddeddf ac ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd a’r wasg eu
heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno. Wrth ddelio â’r eitem hyn,
gofynnir i’ r Aelodau ystyried a ydynt am gau’r cyhoedd a’r wasg allan o’r
Cyfarfod. PENDERFYNWYD cadw
cynnwys yr adroddiad yn gyfyngedig ac i beidio gwahardd y cyhoedd a'r wasg o'r
cyfarfod gan na thrafodwyd y ddogfen yn gyhoeddus. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gadawodd y
Cynghorwyr Bryan Davies, Euros Davies, Endaf Edwards, Rhodri Evans a Chris
James y cyfarfod am gyfnod y drafodaeth. Gadawodd Eifion Evans, Prif Weithredwr y
cyfarfod hefyd am gyfnod y drafodaeth. Cyflwynodd y Cynghorydd Gareth Davies, Aelod y Cabinet ar gyfer Cyllid a
Chaffael yr adroddiad gan nodi bod Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol
(Cymru) 2023 wedi'i chyhoeddi ar 5 Hydref 2023 ac yn cadarnhau trefniadau
cyflog athrawon yng Nghymru ar gyfer 2023/24. Nododd fod yr elfennau statudol yn cynnwys
codiad 5% i'r holl bwyntiau a lwfansau ar raddfa statudol, sy'n daladwy o 1
Medi 2023 a bod ymgynghoriad wedi'i gynnal gyda'r undebau llafur dysgu lleol ac
wedi’i dderbyn. PENDERFYNWYD cymeradwyo: 1. Polisi Cyflogau enghreifftiol Athrawon
2023/24 a’i gymeradwyo i’r Cyrff Llywodraethu er mwyn ei fabwysiadu yn ysgolion
Ceredigion 2. Polisi Cyflogau enghreifftiol Athrawon
Digyswllt 2023/24 ar gyfer athrawon a gyflogir yn ganolog |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan
Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet ar gyfer Gwasanaethau
Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth yr adroddiad i'r
Cyngor gan nodi bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau
(Cymru) 2021 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i nodi cynllun deisebau,
gan gynnwys deisebau electronig, gan roi amlinelliad o'r cynllun. Nododd y Cynghorydd Elizabeth
Evans, Cadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd fod y protocol drafft
wedi’i ystyried gan Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a hefyd wedi’i
ystyried gan Weithgor Trawsbleidiol y Cyfansoddiad, a bod y pwyllgor yn gwbl
gefnogol i'r protocol sy'n rhoi cyfeiriad clir sy'n ddefnyddiol i'r Cyngor. Gofynnodd y Cynghorydd Keith
Evans a oedd angen i'r e-ddeisebau fod yn ddwyieithog, a chadarnhawyd y byddai
angen hyn gan ei bod yn cael ei chynnal ar wefan y Cyngor, ond yr unigolion
fyddai'n gyfrifol am roi'r wybodaeth hon gyda chymorth gan swyddogion. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD: a)
Cytuno’r
Protocol Deisebau ddiwygiedig ddrafft; b)
Argymell
fod y ddogfen bresennol yng Nghyfansoddiad y Cyngor yn cael ei disodli gan y
protocol diwygiedig. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod y Cabinet ar gyfer
Partneriaethau, Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd yr
adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod y diwygiadau arfaethedig wedi’u hystyried gan
Weithgor y Cyfansoddiad yn ei gyfarfodydd yn dwyn dyddiad 26 Medi 2023 a 14
Tachwedd 2023, ac yn rhoi amlinelliad o gynnwys pob dogfen. Nododd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Cyfreithiol a
Llywodraethu a’r Swyddog Monitro nad oedd y diwygiad i ddogfen 3.5J wedi mynd
gerbron Gweithgor y Cyfansoddiad. Fodd bynnag, caiff y wybodaeth hon ei dyblygu
yn nogfen P. Nodwyd hefyd bod gwybodaeth wedi'i hepgor yn Atodiad 10 a ddylai nodi Trosolwg
a Chraffu x 5 Aelod a Phwyllgor Llywodraethu ac Archwilio x 2 aelod ac 1 aelod
lleyg - cadarnhawyd y byddai'r wybodaeth a hepgorwyd yn cael ei chynnwys wedi'i
chwblhau cyn ei chyhoeddi. Nododd y Cynghorydd Gareth Lloyd ei werthfawrogiad bod Gweithgor y
Cyfansoddiad wedi tynnu sylw at ddatblygiadau ar ôl eu hystyried. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD: a)
Cymeradwyo’r
newidiadau i’r Cyfansoddiad (Atodiadau1 – 10); a b)
Awdurdodi’r
Swyddog Monitro i ddiweddaru Cyfansoddiad y Cyngor y adlewyrchu’r newidiadau
uchod. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan
Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet ar gyfer Gwasanaethau
Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth yr adroddiad i’r
Cyngor gan nodi yn ystod cyfarfod o Arweinwyr y Grwpiau, y cyflwynwyd cynnig i
ddiwygio eitem y ‘Materion Personol’ ar Agenda'r Cyngor i 'Gyhoeddiadau'r
Cadeirydd'. Cyfeiriwyd y mater hwn at
Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd i'w ystyried ac fe'i hadolygwyd hefyd gan
Grŵp Trawsbleidiol y Cyfansoddiad.
Nododd y gall y rhestr o faterion personol fod yn hir iawn weithiau, a
bod adolygiad o arferion awdurdodau eraill hefyd wedi’i ystyried, gan nodi
argymhelliad bod eitemau yn cael eu cyflwyno i'r Cadeirydd o leiaf 2 ddiwrnod
gwaith ymlaen llaw i'w cyflwyno gan y Cadeirydd, gyda'r Cadeirydd â disgresiwn
terfynol ynglŷn â’r materion hyn. Nododd y Cynghorydd Elizabeth Evans, Cadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau
Democrataidd fod y cynnig hwn wedi'i ystyried gan Bwyllgor y Gwasanaethau
Democrataidd yn ei gyfarfod yn dwyn dyddiad 9 Mehefin 2023, a chan Weithgor
Trawsbleidiol y Cyfansoddiad yn ei gyfarfod yn dwyn dyddiad 26 Medi 2023. Nododd fod sawl Aelod wedi mynegi eu pryderon
gyda hi ynghylch yr amser sy’n cael ei dreulio ar y mater hwn, a'r cynnwys. Nododd hefyd fod y cynnig hwn yn cael ei yrru
gan Aelodau, ac nid gan Swyddogion, gan nodi nad yw hyn yn lleihau’r hawliau
democrataidd i gyflwyno sylwadau drwy’r Cadeirydd. Nododd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Is-gadeirydd
Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd ei fod yn gefnogol i argymhelliad Pwyllgor
y Gwasanaethau Democrataidd i gyflwyno'r cynnig hwn i'r Cyngor er mwyn clywed
barn yr holl Aelodau. Nododd yr Aelodau fod gan y
Cadeirydd ddigon o waith i'w wneud, a bod y materion hyn yn bersonol i Aelod y
ward leol, nid y Cadeirydd. Os oes gwendid
yn y broses, yna dylid hysbysu Arweinwyr y Grwpiau a gellir ei drafod
ymhellach. Gwnaeth y Cadeirydd gydnabod y sylwadau a wnaed,
gan nodi bod rhai o'r eitemau yn ymwneud â'r Ward yn hytrach na'r Sir a bod
nifer o sylwadau wedi'u gwneud gan wylwyr ynglŷn â hyn. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gwelliant i Agenda’r
Cyngor o ‘Materion Personol; i ‘Gyhoeddiadau’r Cadeirydd’ |
|
Cofnodion: Nododd y Cadeirydd fod yr eitem hon wedi'i thynnu oddi ar
agenda'r Cyngor, ac y cynhelir gweithdy i Aelodau ym mis Ionawr 2024. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod y Cabinet ar gyfer
Partneriaethau, Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd yr adroddiad
i’r Cyngor gan nodi na cheisiodd John Weston gael ei ailbenodi’n Aelod
Annibynnol o’r Pwyllgor Moeseg a Safonau unwaith y daw’r penodiad chwe blynedd
cychwynnol i ben ar 21 Chwefror 2024, a bod y Cyngor wedi cytuno ar y broses
recriwtio ar gyfer aelod annibynnol newydd yn ei gyfarfod yn dwyn dyddiad 13
Gorffennaf 2023. Nododd, yn dilyn proses
recriwtio, fod Llinos James wedi’i dewis yn Aelod Annibynnol / Lleyg i’r
Pwyllgor Moeseg a Safonau o 22 Chwefror 2024 am un cyfnod o 6 blynedd, gydag
opsiwn i’w hailbenodi am ail gyfnod o 4 blynedd. Diolchodd
y Cadeirydd i Mr John
Weston am ei gyfraniad a dymunodd yn dda
iddo ar gyfer
y dyfodol. PENDERFYNWYD cymeradwyo penodi Llinos James yn Aelod Annibynnol / Lleyg i’r Pwyllgor Moeseg a Safonau o 2 Chwefror 2024, am un tymor o 6 blynedd hyd at 21/02/2030. |
|
Cadarnhau'r apwyntiadau canlynol Cydbwyllgor CorfforaetholL Is-Bwyllgor Moeseg a Safonau · Aelod Lleyg Ychwanegol: Gail Storr Pwyllgor Moeseg a Safonau: · Is-Gadeirydd o 22 Chwefror 2024: Gail Storr Cofnodion: PENDERFYNWYD apwyntio Aelodau Lleyg i’r rolau canlynol: Cydbwyllgor Corfforaethol:
Is-bwyllgor Moeseg a Safonau · Aelod Lleyg Ychwanegol: Gail Storr Pwyllgor Moeseg a Safonau: · Is-Gadeirydd o 22 Chwefror 2024: Gail Storr |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Wyn
Thomas, Aelod y Cabinet ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau'r
adroddiad i'r Cyngor gan nodi bod y Cynghorydd Shelley Childs wedi'i enwebu fel
Llywodraethwr yr Awdurdod Lleol ar gais Ysgol Gynradd Gymunedol Llwyn yr Eos. PENDERFYNWYD cadarnhau enwebiad y Cynghorydd Shelley Childs yn Llywodraethwr
Awdurdod Lleol ar gais Bwrdd Llywodraethu Ysgol Gynradd Gymunedol Llwyn yr Eos. |
|
Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2022-2023 PDF 69 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Alun
Williams, y Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet ar gyfer Llesiant Gydol Oed yr
adroddiad i'r Cyngor gan nodi ei bod yn ddyletswydd statudol i gyflwyno'r
adroddiad, sy'n anelu at gynhyrchu darlun cyflawn o bob agwedd ar yr Adran
Gwasanaethau Cymdeithasol yng Ngheredigion a rhoi adborth mwy amserol i brosesau
cynllunio a phrosesau cyllidebol. Diolchodd i Gyfarwyddwr Statudol y
Gwasanaethau Cymdeithasol am goladu'r adroddiad, ac i'r swyddogion am eu holl
waith yn ystod y flwyddyn. Nododd Audrey Somerton-Edwards fod yr adroddiad hwn yn cwmpasu ei chyfnod a
chyfnod Sian Howys ac yn adlewyrchu cymhlethdodau'r gwaith y maent yn ei
wneud. Nododd fod y ddeddfwriaeth yn
newid y flwyddyn nesaf gyda ffocws ar ddarlleniad ysgafnach, disgleiriach a
hawdd ei ddarllen er mwyn i’r cyhoedd fwynhau darllen am yr hyn rydym yn ei
wneud. Nodwyd
cynnwys yr adroddiad gan y Cyngor. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, yr Arweinydd
ac Aelod y Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a
Phobl a Threfniadaeth yr adroddiad a Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru i’r Cyngor, gan nodi mai hwn yw’r pedwerydd adroddiad yn olynol
lle nad oes dim ymchwiliadau wedi’u cychwyn gan yr Ombwdsmon a lle nad oes dim
adroddiadau ffurfiol wedi’u cyhoeddi ganddo mewn perthynas â chwynion a wnaed
yn erbyn y Cyngor. Nodwyd bod angen
gwneud gwaith o ran cofnodi sylwadau o ganmoliaeth, bod nifer y cwynion ymhlith
y trydydd isaf yng Nghymru a bod angen canolbwyntio ar leihau nifer y cwynion
sy'n cynyddu o gam 1 i gam 2 oherwydd cyfyngiadau amser. Bu llai o atgyfeiriadau at yr Ombwdsmon o
gymharu â’r llynedd, ac mae’r prif bynciau sy’n peri pryder yn ymwneud â
gwastraff a chynllunio; fodd bynnag mae hyn oherwydd y nifer uchel o
ddefnyddwyr y gwasanaethau hyn ac nid yw'n adlewyrchiad o'r gwasanaeth. Cafodd yr adroddiad ei ystyried gan y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio yn ystod ei gyfarfod yn dwyn dyddiad 27 Medi 2023,
gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn ystod ei gyfarfod
yn dwyn dyddiad 19 Hydref 2023 a chan y Cabinet yn ystod ei gyfarfod yn dwyn
dyddiad 7 Tachwedd 2023. PENDERFYNWYD: 1. Nodi cynnwys Adroddiad Blynyddol y Cyngor
ar Ganmoliaeth, Cwynion a Gweithgareddau Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth 2022-23
(Atodiad 1) 2. Nodi cynnwys Llythyr Blynyddol yr
Ombwdsmon (Atodiad 4) 3. Nodi’r adborth o drafodaeth Pwyllgor y Cabinet ynghylch yr adroddiadau hyn ar 7 Tachwedd 2023: ‘Nododd Cabinet yr adroddiad a’r adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol’ |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Bryan Davies yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod swydd y Swyddog
Arweiniol Corfforaethol - Porth Cynnal a Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau
Cymdeithasol wedi dod yn wag yn ddiweddar oherwydd ymadawiad Mr Ricky
Cooper. Nododd fod hon yn rôl statudol a
hanfodol i’r Cyngor, ac o’r herwydd derbyniwyd cynnig i benodi Swyddog
Arweiniol Corfforaethol – Porth Cynnal dros dro am gyfnod o hyd at 6 mis, drwy
asiantaeth recriwtio, gan Banel y Penodiadau, sy'n cynnwys Arweinydd y Cyngor,
y Cynghorydd Bryan Davies ynghyd â dau Arweinydd Grwpiau’r Gwrthbleidiau, y
Cynghorwyr Elizabeth Evans a Gareth Lloyd. Gofynnodd y Cynghorydd Gareth Lloyd am eglurhad ynghylch a ellid cwtogi’r
cyfnod o 6 mis pe bai penodiad llwyddiannus yn cael ei wneud, a chadarnhawyd
mai dyna oedd y sefyllfa. Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y Cyngor. |
|
EITEM EITHRIEDIG Nid yw’r adroddiad hwn ar
gael i'w gyhoeddi gan ei
fod yn cynnwys
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd
ym mharagraff 12 a 13 o ran
4 o atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i
diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)(Amrywio)(Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat,
ar ôl cynnal
prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd eu heithrio
o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth
honno, yn unol ag Adran 100B(2) o’r Ddeddf. Cofnodion: Nid yw’r adroddiad hwn ar gael i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth
eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 12 a 13 o ran 4 o atodlen 12A i
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad at Wybodaeth)(Amrywio)(Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu
ystyried yr eitem hon yn breifat, ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y
cyhoedd eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno, yn unol ag Adran
100B(2) o’r Ddeddf. PENDERFYNWYD cadw
cynnwys yr adroddiad yn gyfyngedig ac i beidio gwahardd y cyhoedd a'r wasg o'r
cyfarfod gan na thrafodwyd y ddogfen yn gyhoeddus. |
|
Aelodaeth y Cyngor a Phwyllgorau'r Cyngor PDF 104 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau Aelodaeth Pwyllgorau’r Cyngor fel y’u
cyflwynwyd yn y cyfarfod. |