Agenda a Chofnodion

Cyngor - Dydd Iau, 26ain Hydref, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

1.    Ymddiheuriadau

a)    Ymddiheurodd y Cynghorydd Keith Evans am ei anallu i fod yn bresennol gan ei fod ar ddyletswyddau eraill ar ran y Cyngor.

b)    Ymddiheurodd y Cynghorydd John Roberts am ei anallu i fynychu’r cyfarfod.

c)    Ymddiheurodd James Starbuck, Cyfarwyddwr Corfforaethol am ei anallu i fynychu’r cyfarfod.

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

a)    Gwnaeth y Cynghorwyr Bryan Davies a Rhodri Evans ddatgan budd personol a rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 10

b)    Gwnaeth Gareth Davies ddatgan budd personol a rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 10 gan nodi na fyddai’n pleidleisio ar y mater.

3.

Materion Personol

Cofnodion:

a)    Gwnaeth y Cynghorydd Bryan Davies ddymuno’n dda i Alan Davies ar ei ymddeoliad a diolchodd iddo am ei wasanaeth hir i’r Cyngor;

b)    Gwnaeth y Cynghorydd Hugh Hughes longyfarch i Mr Pete Davies a Mr Phil Jones am eu cydnabyddiaeth ddiweddar are u gwasanaeth gwirfoddol i Uned Tân Borth dros gyfnod o 35 mlynedd;

c)    Ar ran y Cynghorydd John Roberts, gwnaeth y Cynghorydd Paul Hinge longyfarch i Gruffydd Rhys Evans o Gapel Bangor, ar dderbyn lle yn Academi Frenhinol Celfyddydau Dramatig (RADA), ac am ennill Gwobr Sir Ian McKellen yn 2023;

d)    Gwnaeth y Cynghorydd Wyn Evans longyfarch i Eryn Jones a Ryan Jones, Bronant, ar gael eu dewis yn rhan o Dîm Pêl-droed Gogledd Cymru;

e)    Gwnaeth y Cynghorydd Ifan Davies longyfarch Cylch Meithrin Pontrhydfendigaid ar gael eu gwobrwyo fel Cylch Meithrin gorau Cymru;

f)      Gwnaeth y Cynghorydd Ifan Davies longyfarch Will Evans ar ennill yr Adran Iau yn y  British Auto Grass;

g)    Gwnaeth y Cynghorydd Ifan Davies longyfarch Ifan Jones ar ennill Enduro Cymru yn y categori dan 19 oed;

h)    Gwnaeth y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans longyfarch Mrs Peg Jones, Llanrhystud, ar ddathlu ei phen-blwydd yn 102;

i)      Gwnaeth y Cynghorydd Meirion Davies longyfarch Tom a Beth Evans, Llanfihangel y Creuddyn, ar flwyddyn lwyddiannus arall yn tyfu pwmpenni, gan nodi eu hymddangosiad diweddar ar raglen deledu yn siarad am eu profiadau.

 

4.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd 21 Medi 2023 pdf eicon PDF 112 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Cyngor  a gynhaliwyd ar 21 Medi 2023 yn gywir

 

Materion yn Codi

Nid oedd unrhyw faterion yn codi.

 

5.

Cyflwyniad gan y Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

Cofnodion:

Gwnaeth Roger Thomas, Prif Swyddog Tân a Sarah Mansbridge, Swyddog adran 151 ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, roi cyflwyniad i’r Cyngor gan roi trosolwg o’r gwasanaeth.

 

Diolchodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis, Cadeirydd y Cyngor i’r Swyddogion am eu cyflwyniad gwybodus ac addysgiadol. Nododd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor, bod y Cyngor yn cydnabod ac yn gwynebu’r un heriau a bydd penderfyniadau anodd angen eu gwneud er mwyn cydbwyso toriadau yn y gwasanaeth a Threth Cyngor cynyddol, a fydd yn effeithio’r bobl fwyaf bregus yn ein cymuned. Yn wahanol i’r blynyddoedd blaenorol, roedd yn gobeithio y byddai cais Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth Gorllewin Cymru yn cael ei gydnabod a’i resymu. Gofynnodd hefyd am eglurhad os oedd yr arian a godwyd trwy’r ardoll Treth y Cyngor yn aros yng Ngheredigion neu’n cael ei wario yn rhywle arall.

 

Nodwyd gan Sarah Mansbridge bod yr ardoll wedi’i selio ar y boblogaeth: er hyn, mae Ceredigion yn cael buddion o gael mynediad at yr holl adnoddau sydd ar gael ar draws ardal gyfan y Gwasanaeth Tân ac Achub. Ail-adroddwyd hyn gan Roger Thomas a nododd bod y Gwasanaeth yn edrych ar yr ardal gyfan ac yn symud adnoddau o un ardal i’r llall yn ôl yr angen. Roedd y cynnydd sylweddol i’r ardoll y llynedd oedd gwella'r gwasanaeth ar-alw a darparu taliadau er mwyn i’r staff ar-alw fynychu cyrsiau hyfforddiant gorfodol.

 

Gwnaeth Aelodau hefyd ofyn cwestiynau ynghylch y chwyddiant a ragwelir a’r codiadau cyflog, ymweld â busnesau neu adeiladau annomestig, ac uchelgeisiau’r gwasanaeth i gyflawni statws carbon niwtral.  Nododd yr Aelodau hefyd fod yr Awdurdod Tân yn codi ardoll ar y Cyngor yn wahanol i'r Awdurdod Heddlu sy'n braesept ar filiau Treth y Cyngor preswylwyr. Cadarnhaodd Roger Thomas fod hynny'n unol â'r ddeddfwriaeth bresennol, ond ei fod ar ddeall y byddai ymgynghoriad gan Archwilio Cymru ar Lywodraethu Awdurdodau Tân yn dod i ben yn fuan, a allai fod yn gyfle i'r mater gael ei godi ac edrych arno eto.

 

Nododd Sarah Mansbridge y risgiau sy’n gysylltiedig â rhagdybio’r gyllideb ar gyfer dyfarniadau tâl a chwyddiant a chadarnhaodd y byddai amcangyfrif o’r costau yn cael eu darparu erbyn 31 Rhagfyr 2023.

 

6.

Datganiad o Dderbyn Swydd ac Ymrwymiad i gadw at y Cod Ymddygiad gan y Cynghorydd Raymond Evans

Cofnodion:

Gwnaeth Elin Prysor, Swyddog Monitro’r Cyngor annerch y Cyngor ar y gofynion statudol i bob Aelod wneud Datganiad Derbyn ac ymgymryd i gydymffurfio â’r Cod Ymddygiad, gan gadarnhau bod y Cynghorydd Raymond Evans wrth wneud ei Ddatganiad Derbyn Swydd statudol, wedi derbyn hyfforddiant cynhwysfawr ar God Ymddygiad y Cyngor ddydd Llun 24 Gorffennaf 2023.

 

Mae hyn er mwyn iddo gyflawni ei swyddogaethau gyda dealltwriaeth o Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus, ei ddyletswyddau a'i gyfrifoldebau o dan y Cod, a hefyd y canlyniadau ar gyfer methu â gwneud hynny.

 

Derbyniodd y Cynghorydd Raymond Evans ar lafar ei Ddatganiad Derbyn Swydd ac i gydymffurfio â'r Cod Ymddygiad a lofnodwyd ganddo yn flaenorol a'i wrthlofnodi gan y Swyddog Priodol.

 

7.

Adroddiad gan y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael ar Ddiweddariad Datganiad Cyfrifon 2022-23 pdf eicon PDF 65 KB

Cofnodion:

Gwnaeth Gareth Davies, Aelod y Cabinet dros Gyllid a Chaffael, gyflwyno’r adroddiad gan nodi bod disgwyl i’r Datganiad o Gyfrifon 2022-23 gael eu cyflwyno yn y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar y 30 Tachwedd 2023 ac yna ymlaen i’r Cyngor yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. Nododd fod y Cyfrifon wedi'u cyflwyno i Archwilio Cymru ddydd Gwener 18 Awst 2023 i baratoi ar gyfer cwblhau'r Archwiliad Cyfrifon erbyn 30 Tachwedd 2023, a diolchodd i'r Swyddogion am gwblhau'r gwaith hwn mewn modd mor amserol.

 

Fodd bynnag, mae Archwilio Cymru wedi hysbysu Cyngor Sir Ceredigion na fyddent yn gallu cwrdd â'r dyddiad cau hwn oherwydd materion adnoddau.  Derbyniwyd cytundeb llafar gan Archwilio Cymru i ddarparu gwybodaeth cyn y cyfarfod a ail-drefnwyd i’r 6 Chwefror 2024.  Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Ceredigion yn aros am gadarnhad ysgrifenedig gan Archwilio Cymru.

 

8.

Adroddiad gan y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ar Ddatganiad Polisi Rheoli Perfformiad drafft a'r Fframwaith Rheoli Perfformiad gydag adborth gan y Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd fod yr adroddiad hwn wedi'i gymeradwyo gan y Cabinet ar 3 Hydref 2023, ac argymhellwyd felly bod yr eitem hon yn cael ei thynnu yn ôl o agenda'r Cyngor.

 

9.

Adroddiad gan y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth Cymorth Cynnar ar y Strategaeth Dai gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymundau Iachach pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet dros Bartneriaethau, Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Gwarchod y Cyhoedd yr adroddiad i'r Cyngor gan nodi bod gan awdurdodau lleol rôl strategol i’w gweithredu o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn y ffordd y mae'r farchnad dai lleol yn gweithredu.

 

Nododd fod y Strategaeth Tai Lleol presennol oedd yn gyfnod o 5 mlynedd wedi bod ar waith ers 2018, ac yn dilyn adolygiad yn cynnwys Uwch Swyddogion a phartneriaid, ymgynghori, casglu a dadansoddi data, datblygwyd y Strategaeth Tai ddiwygiedig sy'n nodi'r weledigaeth am 5 mlynedd arall, gydag ychwanegiadau.

 

Nododd y Cynghorydd Caryl Roberts, Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach fod yr adroddiad wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgor yn ystod ei gyfarfod ym mis Mai 2023, a'i bod wedi’i argymell i'w gymeradwyo gan y Cyngor.

 

Diolchodd y Cynghorydd Elizabeth Evans i'r Swyddogion am eu gwaith, gan nodi bod y data sydd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad yn ymwneud â'r rhai sy'n aros am dai yn ei gwneud yn anodd iawn i’w ddarllen.

   

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD  cymeradwyo'r Strategaeth Tai i’w fabwysiadu.

 

10.

Adroddiad ar gais i gofrestru tir fel Maes Pentref yng nghae Erw Goch, Waunfawr, Aberystwyth pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gadawodd y Cynghorydd Bryan Davies y cyfarfod drwy gydol y drafodaeth.  Cadarnhaodd y Prif Weithredwr, Eifion Evans fod y Cynghorydd Rhodri Evans eisoes wedi gadael y cyfarfod cyn dechrau'r trafodaethau.  Arhosodd y Cynghorydd Gareth Davies yn Siambr y Cyngor gan nodi na fyddai'n pleidleisio ar y mater hwn.

 

Rhoddodd Cadeirydd y Cyngor amlinelliad o'r broses hyd yma, a gwahoddodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet dros yr Economi ac Adfywio i gyflwyno'r adroddiad i'r Cyngor. 

 

Nododd y Cynghorydd Clive Davies fod y Cyngor fel Awdurdod Cofrestru wedi cyfarwyddo Aseswr Annibynnol i ystyried a yw'r athrawiaeth anghydnawsedd statudol yn atal cofrestru'r Tir fel maes tref neu bentref.  Roedd yr Ymgynghorydd Annibynnol wedi darparu nodyn Arolygydd ym mis Rhagfyr ynglŷn â'r weithdrefn, sydd wedi'i chynnwys yn atodiad 1. 

 

Darllenodd y Cynghorydd Clive Davies rannau perthnasol Atodiad 1.

 

Nododd y Cynghorydd Clive Davies hefyd fod yr Ymgynghorydd Annibynnol yn darparu Adroddiad Arolygydd ar y mater rhagarweiniol o anghydnawsedd statudol sydd wedi'i gynnwys yn Atodiad 2, gan ddyfynnu paragraffau 20, a pharagraffau 24 - 27 o'r adroddiad. Nododd fod yn rhaid i'r cais nawr gael ei ystyried gan y Cyngor (sy'n gweithredu fel yr Awdurdod Cofrestru) i'w benderfynu.

 

Nododd y Cynghorydd Keith Henson fod 'cydbwysedd tebygolrwydd' yn awgrymu y gallai hyn fod yn farn oddrychol ac y gallai Bargyfreithiwr arall fod wedi dod i gasgliad gwahanol, gan nodi y byddai am gael mwy o wybodaeth am hyn.  Nododd y Cadeirydd fod cydbwysedd tebygolrwydd yn brawf sifil, ac atgoffodd yr Aelodau y gofynnir iddynt ystyried argymhelliad y Bargyfreithiwr ynghylch yr amddiffyniad anghydnawsedd statudol.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro wrth yr Aelodau bod cydbwysedd tebygolrwydd yn brawf sifil h.y. yn fwy tebygol na pheidio.  Dywedodd hefyd wrth yr Aelodau fod y mater anghydnawsedd statudol yn gwestiwn cyfreithiol. Mae hynny'n golygu na all aelodau ddod i ddyfarniad gwahanol ar y ffeithiau yn gyfreithlon gan nad yw'n fater o ddisgresiwn iddynt ganfod bod yr amddiffyniad anghydnawsedd statudol yn methu a byddai angen iddynt allu egluro pam fod dadansoddiad cyfreithiol yr arolygydd yn anghywir. Os mai'r argymhelliad yw ei fod yn methu a'ch bod yn pleidleisio yn erbyn yr argymhelliad, mae'r broses hon wedyn wedi dod i ben, a byddai'n agored i chi fel Awdurdod Cofrestru ofyn am gyngor ynghylch prosesau gweithdrefnol ar gyfer y dyfodol.  Yr argymhelliad yw eich bod yn gwrthod, ond os nad ydych yn cytuno, nid yw'n golygu nad yw'n cael ei ganiatáu, gan y byddai angen ymholiad cyhoeddus.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Gareth Lloyd am eglurhad a oes proses apelio os caiff y cais ei wrthod; a oedd y tir lle cafodd Hafan y Waun ei adeiladu hefyd yn ddarostyngedig i'r un cymal addysgol ac felly'n creu cynsail; a beth yw goblygiadau ail-bwrpasu'r tir yn y Cynllun Datblygu Lleol. 

 

Nododd y Cynghorydd Elizabeth Evans nad oedd y Cynghorydd John Roberts yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw, ond ei fod wedi cyflwyno sylw ysgrifenedig a ddarllenodd y Cynghorydd Elizabeth Evans ar ei ran.  Nododd y datganiad ysgrifenedig fod y tir wedi'i gadw at  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cadarnhau enwebiadau Cynrychiolwyr Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethu Ysgolion pdf eicon PDF 64 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod y Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau'r adroddiad i'r Cyngor gan nodi bod y Cynghorydd Raymond Evans wedi'i enwebu fel Llywodraethwr Awdurdod Lleol ar gais Ysgol Gynradd Gymunedol Llanfarian.

 

PENDERFYNWYD  cadarnhau enwebiad y Cynghorydd Raymond Evans fel Llywodraethwr Awdurdod Lleol Ysgol Gynradd Gymunedol Llanfarian.

 

12.

Adroddiad gan y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd ar y Protocol ar gyfer Mynychu Cyfarfodydd Aml-leoliad Awdurdodau Lleol a Darllediadau Electronig o Gyfarfodydd pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth yr adroddiad i'r Cyngor gan nodi bod y protocol drafft wedi'i ddatblygu gyda chefnogaeth y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ac yn cynnwys gwybodaeth fel mynychu cyfarfodydd ac ymddygiad ar-lein, a'i fod yn cynnwys cynnig i ddarparu hyfforddiant i'r Aelodau.

 

Nododd y Cynghorydd Elizabeth Evans fod y protocol wedi cael ei drafod yn gynhwysfawr yn y pwyllgor a bod pob aelod yn gefnogol i'r cynigion.

 

Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD:

a)    Cymeradwyo’r protocol ar gyfer mynychu cyfarfodydd awdurdodau lleol aml-leoliad a darllediadau electronig o gyfarfodydd

b)    Nodwch fod y protocol hwn yn disodli’r protocol blaenorol.

 

13.

Adroddiad gan y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd ar Gynllun Peilot Cyfarfod o Bell pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth yr adroddiad i'r Cyngor gan nodi bod y mater hwn wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gofynnodd i'r Cynghorydd Elizabeth Evans a oedd yn dymuno gwneud sylw ar yr adroddiad.

 

Nododd y Cynghorydd Elizabeth Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd fod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wedi ystyried y cynnig i gynnal ymarfer peilot lle mae'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cael eu cynnal o bell a'i argymell i'w gymeradwyo gan y Cyngor.  Rhoddodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Is-gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd sicrwydd mai ymarfer oedd hwn ac nid penderfyniad terfynol.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD yn unfrydol i  gymeradwyo'r cynllun peilot i gynnal y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio drwy ddulliau o bell am gyfnod o 18 mis yn unig.

 

14.

Adroddiad gan y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd ar brotocol Galwad gan Gynghorydd i Weithredu pdf eicon PDF 68 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth yr adroddiad i'r Cyngor gan nodi bod y protocol wedi'i ddatblygu i adlewyrchu argymhellion Canllawiau Statudol ac Anstatudol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prif Gynghorau Cymru.  Nododd fod y protocol wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfarfod dyddiedig 9 Mehefin 2023 a chan Weithgor y Cyfansoddiad yn ystod ei gyfarfod dyddiedig 26 Medi 2023.

 

Nododd y Cynghorydd Elizabeth Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd fod hwn yn fecanwaith hynod bwysig i Gynghorwyr godi materion lle maent yn teimlo nad oes dewisiadau amgen a bod yr holl fecanweithiau eraill wedi methu.  Nododd fod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo'r protocol drafft i'w gynnwys yng Nghyfansoddiad y Cyngor.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD yn unfrydol  gymeradwyo'r Protocol ar gyfer Galwad am Weithredu gan y Cynghorydd.

 

15.

Penodi Aelodau i'r rolau canlynol:

Grŵp Tasg a Gorchwyl i ddilyn i fyny ar Archwilio Cymru - Cynllunio

7 Aelod (gwleidyddol gytbwys)

·       Cynghorydd Clive Davies

·       Cynghorydd Ceris Jones

·       Cynghorydd Chris James

·       Cynghorydd Gareth Lloyd

·       Cynghorydd Ifan Davies

·       Cynghorydd Elizabeth Evans

·       Cynghorydd Paul Hinge

 

Cydbwyllgor y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Maethu Cymru

Cyrychiolydd Cyngor/Cabinet: Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet ar gyfer Llesiant Gydol Oes

 

Bwrdd Llywio Dinas Llên

Cynrychiolydd o’r Cabinet: Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid

 

Cydbwyllgor Corfforaethol: Is Bwyllgor Safonnau

2 Aelod o’r Pwyllgor (un Cynghorydd ac un Aelod Lleyg)

Cynghorydd Gwyn Wigley Evans (Cynghorydd)

Carol Edwards (Aelod lleyg)

Cofnodion:

PENDERFYNWYD  penodi Aelodau i'r rolau canlynol:

 

Grŵp Gorchwyl a Gorffen dilynol Cynllunio Archwilio Cymru

7 Aelod (yn wleidyddol gytbwys)

·       Y Cynghorydd Clive Davies

·       Y Cynghorydd Ceris Jones

·       Y Cynghorydd Chris James

·       Y Cynghorydd Gareth Lloyd

·       Y Cynghorydd Ifan Davies

·       Y Cynghorydd Elizabeth Evans

·       Y Cynghorydd Paul Hinge

 

Cyd-bwyllgor Gwasanaeth Cenedlaethol Mabwysiadu a Maethu Cymru Cynrychiolydd y Cyngor/Cabinet: y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet ar gyfer Llesiant Gydol Oes

 

Bwrdd Llywio Dinas Llên

Cynrychiolydd y Cabinet: y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet ar gyfer Diwylliant, Hamdden a Gwasanaeth Cwsmer

 

Cyd-bwyllgor Corfforaethol: Safonau

2 Aelod o’r Pwyllgor (un Cynghorydd ac yn Aelod lleyg) Y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans (Cynghorydd)

Carol Edwards (Aelod Lleyg)