Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Euros Davies, Rhodri Davies, Elaine Evans, Raymond Evans, Ceris Jones, Sian Maehrlein, Ann Bowen Morgan a Caryl Roberts am na allent fynychu’r cyfarfod.

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau personol na buddiannau sy’n rhagfarnu.

3.

Materion Personol

Cofnodion:

a)  Croesawodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis Mr Ricky Cooper, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth Cynnal (a Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol) i’r Cyngor a dymunodd yn dda iddo yn ei rôl newydd;

b)  Estynnodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis ei ddymuniadau gorau i ddisgyblion, myfyrwyr ac athrawon ar ddechrau eu tymor newydd;

c)  Llongyfarchodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis Brifysgol Aberystwyth ar gael ei henwi’n Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2024 gan The Times and The Sunday Times Good University Guide, ac ar ddod yn ail yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Profiad Myfyrwyr;

d)  Llongyfarchodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis Rali Ceredigion ar ei lwyddiant;

e)  Nododd y Cynghorydd Maldwyn Lewis fod Cymdeithas Aredig Cymru wedi cynnal cystadlaethau cenedlaethol yn Llan-non yn ddiweddar;

f)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis Gareth Thomas ar gynrychioli Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd;

g)  Llongyfarchodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis yr Eisteddfodau lleol ar eu llwyddiant;

h)  Diolchodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis i’r holl Aelodau am eu cefnogaeth yn y Gwasanaeth Dinesig diweddar, gan nodi bod mwy na £2,000 wedi ei godi ar gyfer Uned Chemotherapi Bronglais;

i)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis Josh Tarling ar ei lwyddiant ym Mhencampwriaeth Seiclo Ffordd Ewropeaidd yr UEC yn ddiweddar. Ategwyd hyn gan y Cynghorydd Marc Davies, Aelod Lleol, y Cynghorydd Paul Hinge a’r Cynghorydd Catrin M S Davies;

j)    Nododd y Cynghorydd Maldwyn Lewis ei fod wedi mynychu digwyddiad i ffoaduriaid ar gampws Llambed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ddiweddar a nododd eu bod wedi mynegi eu diolch i bobl Ceredigion am eu gofal a’u cefnogaeth;

k)  Diolchodd y Cynghorydd Paul Hinge i bawb am eu cefnogaeth yn ystod digwyddiad diweddar i’r Lluoedd Arfog yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth;

l)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Paul Hinge Stevie Williams ar ddod yn drydydd yn y Tour of Britain, ac ar ennill y Tour of Norway;

m)Llongyfarchodd y Cynghorydd Eryl Evans Elliw Dafydd ar gael ei phenodi’n Ddirprwy Drysorydd Ffermwyr Ifanc Ceredigion;

n)  Mynegodd y Cynghorydd Marc Davies ei ddymuniadau gorau i Mark Edwards ar ail-agor y Llew Coch yn Ffos-y-ffin;

o)  Mynegodd y Cynghorydd Carl Worrall ei ddymuniadau gorau i Helen Pearce a Pamela Worrall ar gael eu dewis i gynrychioli Cymru yn y pencampwriaethau pysgota glan môr rhyngwladol yn Sisili fis nesaf; Dymunwyd yn dda i’r Cynghorydd Carl Worrall hefyd fel Rheolwr y Tîm;

p)  Llongyfarchodd y Cynghorydd Catrin M S Davies Mia Lloyd ar gael ei dewis i gynrychioli Cymru yn y Gemau Paralympaidd;

q)  Llongyfarchodd y Cynghorydd Catrin M S Davies Ruth Jen ar gael ei dewis i arddangos ei gwaith yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd ac ar ennill gwobr dewis y bobl am ei gwaith celf serameg;

r)   Llongyfarchodd y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans Dewi Davies ar gael ei ethol yn Is-Gadeirydd Ffermwyr Ifanc Cymru;

s)  Llongyfarchodd y Cynghorydd Amanda Edwards James Williams ar ennill y trydydd safle yn Rali Ceredigion yn ddiweddar;

t)    Cydymdeimlodd y Cynghorydd Keith Henson â theulu Meurig James, cyn-gynghorydd Sir Ceredigion, a fu farw’n ddiweddar.

4.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2023 pdf eicon PDF 144 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2023 yn rhai cywir yn amodol ar wneud diwygiad i eitem 3 h), Materion Personol i nodi bod Lisa Bullman wedi’i dewis i gynrychioli Cymru ym mhencampwriaeth saethu’r menywod a gynhaliwyd yn Lloegr.

 

Materion yn codi

Cafwyd diweddariad gan y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor ar eitem 5: Rhybudd o Gynnig, gan nodi y derbyniwyd ymateb gan Building Digital ar 4 Awst. Dywedodd yr ymateb fod Broadway Partners wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, fodd bynnag ni ddylai cwsmeriaid weld unrhyw newid i’r cysylltiad band eang yn rhan o hyn. Yn ogystal, gellir dal i gysylltu â’r cwmni am unrhyw gymorth technegol.

Bydd unrhyw safle sy’n gymwys ar gyfer talebau nad yw wedi derbyn cysylltiad eto yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer cyllid gan y Llywodraeth.

 

Ni all y Llywodraeth ddweud mwy am y prosesau gweinyddol.

O ran cyfranogiad cyffredinol Ceredigion, fel rhan o’r Prosiect Gigabit, mae’r Llywodraeth wedi cychwyn proses Gaffael ranbarthol ers diwedd mis Gorffennaf a fydd yn cwmpasu’r rhan fwyaf o Geredigion – i’r gogledd o Aberaeron-Tregaron fel dull amgen o gyrraedd cartrefi a busnesau lle nad oes cysylltiad band eang a dim galw yn y farchnad. Bydd ardal i’r de o Aberaeron – Tregaron yn cael ei chynnwys mewn proses debyg yn haf 2024.

 

Nododd y Cynghorydd Bryan Davies hefyd fod datganiad i’r wasg wedi’i anfon yr wythnos ddiwethaf yn annog y gymuned i gydweithio i drawsnewid dyfodol technoleg yn Nhregaron. Mae Openreach wedi nodi Tregaron fel ymgeisydd cryf ar gyfer rhwydwaith ffeibr llawn. Fodd bynnag, elfen hanfodol ar gyfer llwyddiant y prosiect yw gallu’r cymunedau i ddangos bod galw drwy gyflwyno Talebau Gigabit Llywodraeth y DU, sy’n rhad ac am ddim, i brosiect Openreach er mwyn cyrraedd y trothwy ariannu gofynnol. Bydd y prosiect hwn o fudd nid yn unig i gartrefi ond hefyd i fusnesau lleol, ysgolion a gwasanaethau gofal iechyd. Byddai datblygu prosiect o’r fath yn Nhregaron yn paratoi’r ffordd ar gyfer prosiectau tebyg ar draws Ceredigion.

 

5.

I ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael ynghylch y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig pdf eicon PDF 84 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gareth Davies, Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid a Chaffael yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi na ddylid ystyried y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig fel cyllideb fanwl ffurfiol na phendant, yn hytrach, mae’n cynnig dull trosfwaol y bydd angen i’r Cyngor ei fabwysiadu er mwyn cyflawni ei flaenoriaethau gan gynnwys ystyried yr amgylchedd deddfwriaethol, economaidd allanol a phwysau gwario a chyllid dangosol a ragwelir yn ystod y cyfnod.

 

Nododd fod Cyngor Sir Ceredigion eisoes yn wynebu heriau ariannol yn ystod y flwyddyn ariannol hon, cyn y flwyddyn ariannol nesaf, a bod y strategaeth, sy’n cynnwys Crynodeb Gweithredol bellach yn cwmpasu’r cyfnod 2023/24 i 2026/27. Diolchodd y Cynghorydd Gareth Davies i’r Swyddogion a fu’n ymwneud â pharatoi a chyflwyno’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 19 Gorffennaf 2023 i’w ystyried, ac i’r Cabinet ar 5 Medi 2023. Penderfyniad y Cabinet oedd cymeradwyo’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig wedi’i diweddaru, ac argymell bod y Cyngor yn ei chymeradwyo.

 

Nododd y Cynghorydd Rhodri Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol fod yr adroddiad wedi’i gyflwyno mewn modd clir a hawdd ei ddeall, a bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wedi cael cyfle i ofyn ystod o gwestiynau ac y derbyniwyd ymatebion i’r cyfan.

 

Ailadroddodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor y gwerthfawrogiad i swyddogion gan nodi bod y Crynodeb Gweithredol yn ei gwneud yn llawer haws i’w ddeall.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

6.

I ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ar Orchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet ar gyfer Partneriaethau, Tai, Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod Gorchymyn Diogelu Mannau

Agored Cyhoeddus mewn grym yng nghanol trefi Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan sy’n caniatáu gwahardd yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus. Mae gweithredu Gorchymyn yn golygu ei bod yn drosedd os bydd rhywun yn methu â chydymffurfio â chais gan Swyddog yr Heddlu neu Swyddog

Awdurdodedig i beidio ag yfed alcohol neu’n gwrthod ildio alcohol i’r swyddog.

 

Mae’r Gorchmynion i fod i ddod i ben ar 19 Hydref 2023, fodd bynnag, mae Adran 60 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yn caniatáu i Awdurdod Lleol ymestyn y Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus am dair blynedd arall pan fydd yn fodlon bod angen gwneud hynny er mwyn atal y gweithgarwch a nodir yn y Ddeddf rhag digwydd.

 

Mae’r Awdurdod wedi ymgynghori â Heddlu Dyfed-Powys, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, a’r tri Chyngor Tref (Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan ac Aberteifi); nodwyd bod yr ymatebion a gafwyd yn dynodi eu bod i gyd o’r farn y dylai’r Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus barhau mewn grym.

 

Nododd y Cynghorydd Endaf Edwards bryderon a godwyd gan drigolion lleol nad oedd y gorchmynion yn cael eu gorfodi. Dywedwyd wrtho y dylai aelodau'r cyhoedd hysbysu’r heddlu am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol o ganlyniad i yfed alcohol er mwyn iddynt allu gweithredu ar hyn. Gofynnodd yr Aelodau hefyd sut yr oedd deddfwriaeth yn ymwneud â ymddygiad anghymdeithasol mewn ardaloedd heblaw’r rhai a gwmpesir gan y Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus. Nododd y swyddogion y byddent yn darparu gwybodaeth.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD bod y Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ar gyfer Ymddygiad Gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig ag Alcohol yn cael eu hymestyn am 3 blynedd arall, yn weithredol rhwng 20 Hydref 2023 ac 19 Hydref 2026.

 

7.

I ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ar Orchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus - Traeth Borth pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet ar gyfer Partneriaethau, Tai, Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi, cyn 2014, roedd gan ran o draeth a phromenâd y Borth ddau Orchymyn Rheoli Cŵn ar waith a wnaed o dan Ddeddf Cymdogaethau Glân a’r Amgylchedd 2005 - un yn gwahardd cŵn o’r traeth (1 Mai – 30 Medi) ac un yn ei gwneud yn ofynnol i gŵn fod ar dennyn ar y promenâd. Roedd y Gorchmynion Rheoli Cŵn hyn yn cwmpasu rhan o’r traeth nad oedd wedi’i chwmpasu gan is-ddeddf leol a chawsant eu rhoi ar waith yn 2008.

 

Mae gweithredu gorchymyn yn ei gwneud yn drosedd pan fydd person sydd â gofal am gi yn mynd â chi ar unrhyw dir y mae’r Gorchymyn yn berthnasol iddo (gydag eithriadau), neu’n methu â chadw ci ar dennyn (gydag eithriadau).

 

Mae’r Gorchmynion i fod i ddod i ben ar 19 Hydref 2023. Cynhaliodd Cyngor Sir Ceredigion adolygiad o’r Gorchymyn, gan gysylltu â Heddlu Dyfed Powys, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys a Chyngor Cymuned y Borth, a gofynnwyd i bob un ohonynt am eu barn ynghylch a yw’r gorchymyn yn dal i fod yn effeithiol ac a oes angen parhau â’r ddarpariaeth. Nid oes yr un wedi gwrthwynebu adnewyddu’r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus am dair blynedd arall.

 

Gofynnodd yr Aelodau a oedd eithriadau’n berthnasol i gŵn tywys a chŵn clywed, a dywedwyd wrthynt fod Swyddogion yn gwbl ymwybodol ac yn deall yr anghenion yn ymwneud ag amgylchiadau o’r fath.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cymeradwyo ymestyn y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus i wahardd cŵn mewn ardal ddynodedig o draeth y Borth a’i gwneud yn ofynnol i gŵn gael eu cadw ar dennyn mewn ardal ddynodedig ar bromenâd y Borth am 3 blynedd arall o 19.10.2023 tan 18.10.2026 yn unol â Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.

 

8.

I ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd ar Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2022/2023 pdf eicon PDF 63 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Keith Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu yr Adroddiad Blynyddol i’r Cyngor gan amlinellu rôl a phwysigrwydd y pwyllgorau Craffu, a diolchodd i’r Swyddogion am eu cymorth trwy gydol y flwyddyn.

 

Diolchodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor i’r holl Aelodau am eu cyfraniad, ac am yr argymhellion a gyflwynwyd i’r Cabinet. Ailadroddodd y diolch i’r Swyddogion dan sylw.

 

9.

I gadarnhau apwyntiad Aelodau i'r rolau canlynol:

Cydbwyllgor Corfforaethol: Is-Bwyllgor Datblygu Strategol

·       Cynghorydd Clive Davies

·       Cynghorydd Ceris Jones

·       Cynghorydd Gareth Lloyd

 

Ychwanegiad Aelod Lleyg i’r Cydbwyllgor Corfforaethol, Is-Bwyllgor Safonnau

·       Caryl Davies

 

Ychwanegiad Aelod Lleyg i’r Cydbwyllgor Corfforaethol, Is-Bwyllgor Archwilio

·       Alan Davies

 

Grŵp Oeri’r Pwyllgor Rheoli Datblygu

·       Cynghorydd Raymond Evans

 

Grŵp Gweithredol Datblygu Lleol

·       Cynghorydd Raymond Evans

 

Grŵp Gweithredol Premiwn Treth y Cyngor ar Ail Dai a Thai Gwag Tymor Hir

(7 Aelod cydbwysedd gwleidyddol)

·       Cynghorydd Rhodri Davies: Plaid Cymru

·       Cynghorydd Amanda Edwards: Plaid Cymru

·       Cynghorydd Ann Bowen Morgan: Plaid Cymru

·       Cynghorydd Gwyn Wigley Evans: Annibynnol

·       Cynghorydd Keith Evans: Annibynnol

·       Cynghorydd Elizabeth Evans: Democratiaid Rhyddfrydol

·       Cynghorydd Paul Hinge: Democratiaid Rhyddfrydol

Aelod Eiriolwr: Menopos

·       Cynghorydd Eryl Evans

Cofnodion:

PENDERFYNWYD penodi’r Aelodau canlynol:

 

Cydbwyllgor Corfforaethol: Is-bwyllgor Datblygu Strategol

· Y Cynghorydd Clive Davies

· Y Cynghorydd Ceris Jones

· Y Cynghorydd Gareth Lloyd

 

Ychwanegu Aelod Lleyg i’r Cydbwyllgor Corfforaethol, Is-bwyllgor

Safonau

 · Caryl Davies

 

Ychwanegu Aelod Lleyg i’r Cydbwyllgor Corfforaethol, Is-bwyllgor

Archwilio

· Alan Davies

 

Grŵp Oeri’r Pwyllgor Rheoli Datblygu

· Y Cynghorydd Raymond Evans

 

Gweithgor Datblygu Lleol

· Y Cynghorydd Raymond Evans

 

Gweithgor Premiwm Treth y Cyngor ar Ail Dai a Thai Gwag Tymor Hir (7 Aelod cydbwysedd gwleidyddol)

· Y Cynghorydd Rhodri Davies: Plaid Cymru

· Y Cynghorydd Amanda Edwards: Plaid Cymru

· Y Cynghorydd Ann Bowen Morgan: Plaid Cymru

· Y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans: Annibynnol

· Y Cynghorydd Keith Evans: Annibynnol

· Y Cynghorydd Elizabeth Evans: Democratiaid Rhyddfrydol

· Y Cynghorydd Paul Hinge: Democratiaid Rhyddfrydol

 

Aelod Eiriolwr: Menopos

· Y Cynghorydd Eryl Evans

10.

Diweddariad i Aelodaeth Pwyllgorau pdf eicon PDF 115 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau Aelodaeth Pwyllgorau’r Cyngor fel y’i cyflwynwyd yn y cyfarfod.

 

11.

I ystyried adroddiad gan y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Pobl a Threfniadaeth ar Daliad Ymadael oherwydd diswyddiad

Cofnodion:

Nid yw’r adroddiad sy’n ymwneud ag eitem 12 ar yr agenda i’w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 13, 14 a 15 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor, ar ôl cymhwyso Prawf Budd y Cyhoedd, yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, bydd y cyhoedd a’r wasg yn cael eu

gwahardd o’r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o’r fath, yn unol ag Adran 100B(2) o’r Ddeddf.

 

Gofynnwyd i’r Aelodau, wrth ymdrin â’r eitem, ystyried a ddylid gwahardd y cyhoedd a’r wasg o’r Cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD gwahardd y cyhoedd a’r wasg wrth ystyried eitem 12 isod ar y sail bod y cais yn cynnwys gwybodaeth sy’n debygol o ddatgelu pwy yw unigolyn; gwybodaeth sy’n ymwneud â materion ariannol neu fusnes person penodol a gwybodaeth sy’n ymwneud ag ymgynghoriadau neu drafodaethau, neu unrhyw ymgynghoriadau neu drafodaethau arfaethedig, mewn cysylltiad ag unrhyw fater cysylltiadau llafur sy’n codi rhwng y Cyngor neu un o Weinidogion y Goron a gweithwyr neu ddeiliaid swyddi o dan y Cyngor; na ddylai, at ei gilydd, gael ei datgelu i’r cyhoedd a’r wasg. Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai’r gwe-ddarlledu yn cael ei atal yn ystod eitem 12 isod.

 

12.

Atodiad A yn berthnasol i'r Adroddiad uchod (Gwaharddwyd)

Nid yw'r adroddiad hwn i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym mharagraff 13, 14 a 15 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor, ar ôl cymhwyso'r Prawf Budd y Cyhoedd, yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, bydd y cyhoedd a'r wasg yn cael eu heithrio o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r cyfarfod, yn unol ag Adran 100B(2) o'r Ddeddf.

Cofnodion:

Ystyriwyd cynnwys yr adroddiad, yn unol ag adran 11.1.4 o Bolisi Cyflogau’r Cyngor, sy’n nodi bod angen cymeradwyaeth y Cyngor lle mae’r gost ddiswyddo a’r elfen bensiwn, a delir gan y ddarpariaeth sy’n cael ei dal gyda Chronfa Bensiwn Dyfed, yn fwy na’r swm a nodwyd. Bydd methu â gwneud y naill neu’r llall o’r taliadau hyn yn golygu bod y Cyngor yn agored i hawliad drwy Dribiwnlys Cyflogaeth.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo’r diswyddiad arfaethedig