Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Keith Henson a Ceris Jones am na allent fynychu'r cyfarfod.

 

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd dim buddiant personol na buddiant sy’n rhagfarnu.

 

3.

Materion Personol

Cofnodion:

a)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis ddisgyblion ysgol Ceredigion a gafodd eu cydnabod am eu llwyddiannau chwaraeon yng Ngwobrau Chwaraeon Ceredigion a gynhaliwyd yr wythnos ddiwethaf;

b)    Talodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis deyrnged i Wasanaeth Cerdd Ceredigion a’r holl ddisgyblion cynradd ac uwchradd a gymerodd ran yn Proms yr Ysgolion yr wythnos ddiwethaf;

c)    Estynnodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis ei ddymuniadau gorau i'r holl ddisgyblion sydd wedi cymryd rhan mewn arholiadau diweddar a dymuna'n dda iddynt ar eu canlyniadau, a'u hymdrechion i'r dyfodol;

d)    Estynnodd y Cynghorydd Paul Hinge ei ddymuniadau gorau i Shaun Button, cyn-aelod o’r Môr-filwyr Brenhinol yn dilyn damwain ddiweddar yn ardal Penrhyn-coch;

e)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Meirion Davies Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn ar ddathlu 185 mlynedd;

f)      Llongyfarchodd y Cynghorydd Marc Davies Josh Tarling sy’n cystadlu dros ‘Ineos Grenadier’, ar ennill medal efydd yng nghystadleuaeth Rasys Ymlid Unigol Seiclo Ewropeaidd, a Finlay Tarling ar ennill medal arian yn Rasys Ymlid Timau Pencampwriaeth Trac Seiclo;

g)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Rhodri Evans Lisa Pullman ar gael ei dewis i gynrychioli Cymru ym mhencampwriaeth saethu’r menywod a gynhaliwyd yn Seland Newydd yr wythnos ddiwethaf;

h)    Talodd y Cynghorydd Euros Davies deyrnged i ddisgyblion o’r naw ysgol gynradd yn ardal Aberaeron ar y cyngerdd diweddar a gynhaliwyd yn Ysgol Gyfun Aberaeron.

4.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2023 a Chyfarfod Arbennig y Cyngor a gynhaliwyd ar 20 Mehefin 2023 pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau Cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2023 yn rhai cywir, yn amodol ar newid i eitem 3 m) Materion Personol i gadarnhau mai Ysgol Talgarreg oedd y tîm pêl-droed buddugol yng nghystadlaethau Cenedlaethol 5 bob ochr yr Urdd.

 

Materion sy’n codi:

Nododd y Cynghorydd Bryan Davies fod Cefin Campbell AS wedi bod mewn cysylltiad â’r Cynghorwyr Wyn Evans a Gareth Lloyd ynghylch Rhybudd o Gynnig y Cyngor yn ymwneud â phrofion TB mewn gwartheg.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Arbennig y Cyngor a gynhaliwyd ar 20 Mehefin 2023 yn rhai cywir

 

Materion sy’n codi:

Nid oedd dim materion sy’n codi.

 

5.

I ystyried y rhybudd o gynnig canlynol a gyflwynwyd yn unol â Rheol 10.1 o Reolau a Gweithdrefnau'r Cyngor pdf eicon PDF 2 MB

Cynigwyd gan:  Cynghorydd Catrin M S Davies

Eiliwyd gan: Cynghorydd Rhodri Davies

 

Noda’r Cyngor:

Gwyddom bod cysylltedd digidol gwael yn parhau i fod yn broblem ddifrifol mewn llawer o ardaloedd gwledig ar draws Ceredigion a bod mynediad at wasanaethau ar-lein a'r defnydd ohonynt yn adlewyrchu anghydraddoldebau eraill mewn cymdeithas; a bod hwn yn gallu achosi tan berfformio economaidd ac arwain at dlodi gwledig pellach yn ein sir. Gall cysylltedd gwael arwain at golli cyfleoedd economaidd heh sôn am ei effaith ar addysg ein plant a bobl ifanc.

 

Ar ôl bod yn trafod a chydweithio a chymunedau lleol ers dros 2 flynedd roedd y darparwr rhwydwaith amgen, Broadway Partners, wedi ymdrechu'n ddygn i osod eu rhwydwaith Ffibr i'r Adeilad eu hunain, sydd a gallu gigabit, ar draws gogledd Ceredigion. Rhywbeth a allai chwyldroi bywydau nifer o'n trigolion ac a fyddai yn gwella twf economaidd ar draws y sir.

 

Amlinellwyd a chaniatawyd 5 prosiect i ‘Broadway Partner' yng ngogledd Ceredigion, ond yn ddiweddar mae BDUK (Building Digital UK) wedi oedi cyllid ar gyfer 2 o'r prosiectau (sef Ysgubor y Coed a Phontarfynach), gan nodi y byddai'r ardaloedd hyn bellach yn debygol o ddod i fewn i gwmpas yr ymarfer caffael ledled Cymru, a gynhelir gan BDUK. Roedd hyn yn chwalu cynllun ‘Broadway partners’ i bob pwrpas.

 

Galwodd ‘Broadway Partners’ y gweinyddwyr i fewn ddiwedd Mai 2023. Mae'r gweinyddwyr ar hyn o bryd yn chwilio am brynwyr i gymryd drosodd rhan neu'r cyfan o'r fusnes ac mae nhw'n gobeithio y bydd y broses yn dod i ben erbyn diwedd Gorffennaf 2023. Ond nid yw sicrhau prynwr yn gwarantu y bydd y prosiectau seilwaith arfaethedig yn parhau i gael eu hadeiladu yn wardiau Melindwr a Ceulan a Maesmawr.

 

Mae model cyllido presennol Llywodraeth y DU yn ei gwneud yn anodd i ddarparwyr rhwydwaith amgen lenwi'r bwlch cysylltedd mewn ardaloedd gwledig. Serch hynny, byddai'n briodol i Lywodraeth y DU ymyrryd i gefnogi'r cymunedau hyn, ac yn benodol helpu i ganfod cwmni a all gymryd dr:osodd y cynlluniau sydd wedi'u gadael heb eu gorffen ac i gynnwys yr ardaloedd gwreiddiol sef Ysgubor y Coed a Pontarfynach. Mae'r cymunedau hyn eisoes wedi aros yn llawer rhy hir am gysylltedd band eang digonol. Rhaid gwneud pob ymdrech i sicrhau nad yw'r cynlluniau yn cael eu gohirio ymhellach.

 

Felly, mae'r Cyngor yn:

a)   Gofyn i BDUK edrych ar fyrder ar ddarparu gysylltedd cyflym i ardaloedd Ceulan a Maesmawr, a Melindwr -y cysylltedd hwnnw a addawyd dwy flynedd yn ôl.

b)   Gofyn i Lywodraeth y DU, a'r Adran ar gyfer Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg, ymyrryd i gefnogi'r cymunedau sydd wedi eu heffeithio gan gwymp Broadway Partners', ac yn benodol helpu i ganfod cwmni a all gymryd drosodd y cynlluniau sydd wedi'u gadael heb eu gorffen ac i gynnwys yr ardaloedd gwreiddiol sef Ysgubor y Coed a Pontarfynach.

c)   Noder gan Lywodraeth Cymru bod  ...  view the full Agenda text for item 5.

Cofnodion:

Cynigydd: Y Cynghorydd Catrin M S Davies

Eilydd: Y Cynghorydd Rhodri Davies

 

Noda’r Cyngor:

Gwyddom fod cysylltedd digidol gwael yn parhau i fod yn broblem ddifrifol mewn llawer o ardaloedd gwledig ar draws Ceredigion a bod mynediad at wasanaethau ar-lein a'r defnydd ohonynt yn adlewyrchu anghydraddoldebau eraill mewn cymdeithas; a bod hwn yn gallu achosi tan berfformio economaidd ac arwain at dlodi gwledig pellach yn ein sir. Gall cysylltedd gwael arwain at golli cyfleoedd economaidd heb sôn am ei effaith ar addysg ein plant a phobl ifanc.

 

Ar ôl bod yn trafod a chydweithio a chymunedau lleol ers dros 2 flynedd roedd y darparwr rhwydwaith amgen, ‘Broadway Partners’, wedi ymdrechu'n ddygn i osod eu rhwydwaith Ffibr i'r Adeilad eu hunain, sydd a gallu gigabit, ar draws gogledd Ceredigion. Rhywbeth a allai chwyldroi bywydau nifer o'n trigolion ac a fyddai yn gwella twf economaidd ar draws y sir.

 

Amlinellwyd a chaniatawyd 5 prosiect i ‘Broadway Partners' yng ngogledd Ceredigion, ond yn ddiweddar mae BDUK (Building Digital UK) wedi oedi cyllid ar gyfer 2 o'r prosiectau (sef Ysgubor y Coed a Phontarfynach), gan nodi y byddai'r ardaloedd hyn bellach yn debygol o ddod i mewn i gwmpas yr ymarfer caffael ledled Cymru, a gynhelir gan BDUK. Roedd hyn yn chwalu cynllun ‘Broadway partners’ i bob pwrpas.

 

Galwodd ‘Broadway Partners’ y gweinyddwyr i mewn ddiwedd Mai 2023. Mae'r gweinyddwyr ar hyn o bryd yn chwilio am brynwyr i gymryd drosodd rhan neu'r cyfan o'r busnes ac maen nhw'n gobeithio y bydd y broses yn dod i ben erbyn diwedd Gorffennaf 2023.  Ond nid yw sicrhau prynwr yn gwarantu y bydd y prosiectau seilwaith arfaethedig yn parhau i gael eu hadeiladu yn wardiau Melindwr a Cheulan a Maesmawr.

 

Mae model cyllido presennol Llywodraeth y DU yn ei gwneud yn anodd i ddarparwyr rhwydwaith amgen lenwi'r bwlch cysylltedd mewn ardaloedd gwledig. Serch hynny, byddai'n briodol i Lywodraeth y DU ymyrryd i gefnogi'r cymunedau hyn, ac yn benodol helpu i ganfod cwmni a all gymryd drosodd y cynlluniau sydd wedi'u gadael heb eu gorffen ac i gynnwys yr ardaloedd gwreiddiol sef Ysgubor y Coed a Phontarfynach. Mae'r cymunedau hyn eisoes wedi aros yn llawer rhy hir am gysylltedd band eang digonol. Rhaid gwneud pob ymdrech i sicrhau nad yw'r cynlluniau yn cael eu gohirio ymhellach.

 

Felly, mae'r Cyngor yn:

a) Gofyn i BDUK edrych ar fyrder ar ddarparu cysylltedd cyflym i ardaloedd Ceulan a Maesmawr, a Melindwr -y cysylltedd hwnnw a addawyd dwy flynedd yn ôl.

b) Gofyn i Lywodraeth y DU, a'r Adran ar gyfer Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg, ymyrryd i gefnogi'r cymunedau sydd wedi eu heffeithio gan gwymp ‘Broadway Partners', ac yn benodol helpu i ganfod cwmni a all gymryd drosodd y cynlluniau sydd wedi'u gadael heb eu gorffen ac i gynnwys yr ardaloedd gwreiddiol sef Ysgubor y Coed a Phontarfynach.

c) Noder gan Lywodraeth Cymru bod cysylltedd digidol yr un mor bwysig â chynhwysiant digidol (mae'n anodd cael un heb y llall) felly beth y maen nhw yn ei wneud i gefnogi ardaloedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

I ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Y Gyfraith a Llywodraethu ar newidiadau i'r Cyfansoddiad a Chanllaw'r Cyfansoddiad pdf eicon PDF 155 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod y Cabinet ar gyfer Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu, Pobl a Threfniadaeth a Diogelu’r Cyhoedd yr adroddiad i’r Cyngor, gan nodi bod y Canllaw i’r Cyfansoddiad a’r diwygiadau arfaethedig wedi’u hystyried gan Weithgor y Cyfansoddiad yn ei gyfarfodydd yn dwyn dyddiad Ebrill y 25ain 2023 pan gafodd y diwygiadau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn eu hystyried. Cynhaliwyd cyfarfod ychwanegol ar Fehefin yr 22ain 2023 i ystyried diwygiadau a newidiadau pellach a wnaed mewn ymateb i sylwadau gan y gweithgor.

 

Nododd y Cynghorydd Bryan Davies fod nifer y Cynghorwyr wedi gostwng o 42 i 38, a oedd wedi gosod cyfrifoldebau ychwanegol ar bob un ohonynt ac yn enwedig Cadeiryddion Pwyllgorau, a bod croeso i Aelodau gysylltu ag ef os oeddent yn dymuno adolygu gofynion y Cyfansoddiad. 

 

Gofynnodd yr aelodau hefyd am gael cyfle i ailedrych ar bwerau dirprwyedig mewn perthynas â'r broses gynllunio, ac yn enwedig cyfeiriad y daith wrth ddatgelu buddiant ynghylch cais penodol. Cadarnhaodd y swyddogion fod hon yn ddogfen fyw, a bod diwygiadau pellach i'w hystyried.

 

Gofynnodd yr Aelodau hefyd am eglurder mewn perthynas â nifer yr Aelodau, a gofynion cworwm y Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau.

 

PENDERFYNODD y Cyngor yn unfrydol:

1.    Cymeradwyo'r Canllaw i’r Cyfansoddiad fel y'i diwygiwyd (yn Atodiad 1);

2.    Cymeradwyo'r newidiadau i'r Cyfansoddiad (yn Atodiadau 2 – 16); a

3.    Awdurdodi’r Swyddog Monitro i ddiweddaru Cyfansoddiad y Cyngor i adlewyrchu’r newidiadau uchod.

7.

I ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Y Gyfraith a Llywodraethu ar Recriwtio Aelodau Annibynnol i'r Pwyllgor Moeseg a Safonau pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod y Cabinet ar gyfer Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu, Pobl a Threfniadaeth a Diogelu’r Cyhoedd yr adroddiad i’r Cyngor, gan nodi bod John Weston a Carol Edwards yn gymwys i’w hailbenodi ar 22 Chwefror 2024 am gyfnod pellach o 4 blynedd.  Mae Carol Edwards wedi cadarnhau y bydd yn derbyn yr ailbenodiad, ond mae John Weston wedi cadarnhau na fydd yn ceisio cael ei ailbenodi unwaith y daw’r chwe blynedd cychwynnol i ben ar 21/2/2024.

 

O ganlyniad, mae angen bellach recriwtio aelod annibynnol newydd i'r Pwyllgor Moeseg a Safonau i gynnal cyfansoddiad y Pwyllgor, fel y nodir yn y Cyfansoddiad, ac fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth.

 

Gofynnodd yr aelodau am eglurhad o'r gofynion cymhwystra ar gyfer cyn-aelodau a swyddogion Cyngor Sir Ceredigion a chynghorau tref a chymuned.  Nododd y Swyddog y byddai hyn yn cael ei adolygu a'i ddiwygio pe bai anghysondebau'n cael eu nodi.

 

PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo:

 

1)    Bod cyfnod Carol Edwards yn y swydd yn cael ei ymestyn o 22/2/2024 i 21/2/2028.

2)    y disgrifiad o’r rôl, manyleb y person a’r meini prawf (fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad)

3)    Aelodaeth y Panel Dethol fel a ganlyn:

·       Cadeirydd y Cyngor (yr Is-gadeirydd yn ei absenoldeb);

·       Aelod Annibynnol/Lleyg o’r Panel (wedi’i enwebu gan y Swyddog Monitro)

·       Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Moeseg a Safonau (neu aelodau annibynnol eraill a enwebwyd gan y Swyddog Monitro yn ôl yr angen)

·       Cynrychiolydd Cynghorau Tref a Chymuned wedi'i enwebu gan Un Llais Cymru.

·       Aelod Annibynnol/Lleyg o’r Panel (Cadeirydd y panel dethol) (wedi’i enwebu gan y Swyddog Monitro)

8.

I ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd ar benodi'r Cynghorydd Keith Henson i brosiect Pedair Afon LIFE pdf eicon PDF 99 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod cais wedi dod i law oddi wrth brosiect Pedair Afon LIFE am gynrychiolydd o Gyngor Sir Ceredigion i fod yn rhan o’r Grŵp Rhanddeiliaid Allanol am gyfnod o dair blynedd a hanner hyd at ddiwedd Rhagfyr 2026. Mae’r prosiect Pedair Afon LIFE yn brosiect adfer afonydd i wella amodau pedair o brif afonydd Cymru: Teifi, Cleddau, Tywi ac Wysg. 

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Bryan Davies benodiad Aelod perthnasol y Cabinet, sef y Cynghorydd Keith Henson ar hyn o bryd fel Aelod y Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon fel Rhanddeiliad Allanol.

 

Nododd y Cyngor benodiad Aelod perthnasol y Cabinet fel Rhanddeiliad Allanol i’r Prosiect Pedair Afon LIFE am gyfnod o 3 blynedd a hanner (tan ddiwedd Rhagfyr 2026), sef y Cynghorydd Keith Henson ar hyn o bryd.

9.

I ystyried Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd 2022-23 pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Elizabeth Evans, Cadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad i'r Cyngor.  Diolchodd i'r Swyddogion am eu cymorth cyson ac am baratoi'r adroddiad.

 

Cyfeiriodd at waith y Pwyllgor, gan dynnu sylw at hyfforddiant Aelodau, ac arolygon ar amseriad cyfarfodydd a gofynion TGCh, gan nodi y cytunwyd y byddai'r Pwyllgor yn ailedrych ar ofynion TGCh yr aelodau tua diwedd y weinyddiaeth bresennol, gan ystyried newidiadau technolegol.  Tynnodd sylw hefyd at y diwygiadau i ddeddfwriaeth a phrotocolau ar gyfer mynychu cyfarfodydd o bell a chyfarfodydd hybrid.  Atgoffodd y Cynghorydd Elizabeth Evans yr aelodau i gyflwyno unrhyw eitemau yr hoffent eu trafod i'r Pwyllgor eu hystyried.

 

Ategodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Is-gadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd eiriau'r Cadeirydd, a nododd hefyd fod fformat diwygiedig yr adroddiad yn ei wneud yn llawer mwy deniadol a haws ei ddarllen.

 

Diolchodd y Cynghorydd Bryan Davies i Aelodau’r Pwyllgor a’r Swyddogion gan nodi bod hwn yn bwyllgor hynod o bwysig, ac y dylai Aelodau cyfeirio unrhyw bryderon at y pwyllgor, neu siarad ag ef yn uniongyrchol.

 

Nododd yr aelodau eu bod yn falch o weld mwy o amrywiaeth mewn democratiaeth mewn perthynas â chynrychiolaeth menywod a'u bod yn gobeithio y byddai'r duedd hon yn parhau ymhen pedair blynedd.  Nodwyd gwall mewn perthynas â dyddiad data’r amrywiaeth.

 

Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y Cyngor.

10.

I ystyried Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Moeseg a Safonau 2022-23 pdf eicon PDF 6 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod y Cabinet ar gyfer Partneriaethau, Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd yr adroddiad i’r Cyngor yn amlinellu’r gofynion adrodd wrth gyfeirio at y ffordd y mae’r pwyllgor wedi cyflawni ei swyddogaethau newydd, a monitro cydymffurfiaeth arweinwyr grwpiau gwleidyddol â’u dyletswyddau a ddaeth yn sgil Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

Cyflwynodd Caroline White, Cadeirydd y Pwyllgor Moeseg a Safonau yn ystod y cyfnod adrodd yr Adroddiad Blynyddol i'r Cyngor, gan ddiolch i'r Aelodau am fynychu'r hyfforddiant a roddwyd, ac amlygu pwysigrwydd cyflwyno ceisiadau am ollyngiad.

 

Nododd y cyhoeddwyd canllawiau gan Lywodraeth Cymru ynghylch Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ym mis Mehefin 2023, ac y byddai hyn yn rhoi mwy o eglurder o ran y disgwyliadau mewn perthynas â’r dyletswyddau ychwanegol a roddir ar Arweinwyr Grwpiau. 

 

Nododd fod Caryl Davies bellach yn Gadeirydd presennol y Pwyllgor a gofynnodd i'r Aelodau barhau i'w chefnogi yn y ffordd y cafodd ei chefnogi a diolchodd hefyd i'r Swyddogion am eu cefnogaeth.

 

Diolchodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor i Caroline White am ei gwaith, a diolchodd i’r Pwyllgor am eu cyngor, a’u parodrwydd i drafod materion o bwys i Aelodau yn eu cymunedau.

 

Gofynnodd yr aelodau am eglurder ynghylch yr eitemau gohiriedig a nodwyd yn yr adroddiad.  Cadarnhaodd y swyddogion nad oedd dim eitemau yn weddill ar hyn o bryd.

 

Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y Cyngor

11.

I ystyried Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 2022-23 pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod y Cabinet ar gyfer Partneriaethau, Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod yr Adroddiad Blynyddol wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei gyfarfod ar 21ain Mehefin 2023, a bod y Pwyllgor wedi cytuno i gymeradwyo Adroddiad Blynyddol drafft y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 2022-23, yn amodol ar ychwanegu manylion presenoldeb y cyn Aelod Lleyg, Liam Hull, a chynnwys y geiriau ‘ddim yn berthnasol’ ar gyfer cyfarfodydd a gynhaliwyd y tu allan i gyfnod aelodaeth aelodau’r Pwyllgor. Mae'r newidiadau hyn wedi'u gwneud i'r adroddiad ers hynny.

 

Cyflwynodd Alan Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'r Adroddiad Blynyddol i'r Cyngor, gan ddiolch i swyddogion am eu gwaith caled yn paratoi'r adroddiad, a'r gefnogaeth a roddwyd gan Swyddogion y Pwyllgor.  Nododd bod agwedd gadarnhaol tuag at y Pwyllgor a bod gweithdrefnau'r Cyngor mewn trefn fel y cydnabyddir gan Archwilio Cymru, ac y bydd y Pwyllgor yn gweithredu rhaglen o welliant parhaus.

 

Diolchodd Cadeirydd y Cyngor i Alan Davies am ei waith yn cadw trefn ar y Cyngor.  Nododd y Cynghorydd Endaf Edwards gamgymeriad mewn perthynas â’i bresenoldeb ar 9 Mawrth, gan gadarnhau ei fod wedi ymddiheuro, ond ei fod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y Cyngor.