Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Blynyddol, Cyngor - Dydd Gwener, 19eg Mai, 2023 2.00 pm

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau a Materion Personol

Cofnodion:

Ymddiheuriadau

a)     Ymddiheurodd  y Cynghorwyr Euros Davies a Gwyn James am nad oeddent yn gallu mynychu'r cyfarfod;

b)    Ymddiheurodd Eifion Evans, Prif Weithredwr am nad oedd yn gallu mynychu'r cyfarfod;

c)    Ymddiheurodd Elen James, Russell Hughes-Pickering, Elin Prysor ac Alun Williams, Swyddogion Arweiniol Corfforaethol am nad oeddent yn gallu mynychu'r cyfarfod;

d)    Ymddiheurodd Mr Ben Lake, yr Aelod Seneddol am nad oedd yn gallu mynychu'r cyfarfod.

Materion Personol

a)    Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad i Eifion Evans, Prif Weithredwr ar ei brofedigaeth ddiweddar.

b)    Diolchodd y Cadeirydd, ar ran y Cynghorydd Euros Davies, i Meinir Ebbsworth, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion a Diwylliant am ei chyfraniad i'r gwasanaeth a dymuno'n dda iddi yn ei rôl newydd.

 

2.

Anerchiad gan y Cynghorydd Ifan Davies ynglŷn â’i flwyddyn fel Cadeirydd y Cyngor

Cofnodion:

Nododd y Cynghorydd Ifan Davies ei bod yn bleser annerch y cyfarfod am y tro olaf fel Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion.  Myfyriodd ar weithgareddau'r flwyddyn ddiwethaf gan nodi ei bod wedi bod yn anrhydedd cael bod yn rhan ohono.  Ystyriodd golled drist y diweddar Hag Harris, ffrind a chyd-gynghorydd y bu ei gyfraniad yn sylweddol, a diolchodd i'r Parchedig Aled Lewis, Caplan y Cyngor am ei gefnogaeth a'i eiriau pwrpasol.

 

Nododd y Cynghorydd Ifan Davies fod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn llawn iawn.  Nododd mai uchafbwynt ei flwyddyn heb os oedd yr Eisteddfod Genedlaethol, oedd yn dangos y 'Cardis' ar eu gorau, yn ogystal â mynychu Rali Bae Ceredigion.  Nododd ei bod  hi wedi bod yn flwyddyn hanesyddol gyda marwolaeth y Frenhines Elizabeth II, a Coroni'r Brenin Charles III, a braint oedd cael cynrychioli Ceredigion mewn gwasanaethau yn Llandaff ac yn  Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Diolchodd i'r holl ffrindiau a chyfeillion a wnaeth yn ystod y flwyddyn, a diolchodd i'r Cynghorydd Maldwyn Lewis  a'i gymar y Parchedig Carys Ann am eu cefnogaeth a'u cyfeillgarwch gan ddymuno’n dda iddyn am y flwyddyn i ddod.  Diolchodd i'r Prif Weithredwr, Swyddogion a'r holl staff am eu gwaith, y Grŵp Annibynnol am eu cyfeillgarwch a'u cefnogaeth ac i'r holl Gynghorwyr am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad, ac i'r Cynghorydd Bryan Davies a'i wraig am eu cwmni a'u cyfeillgarwch.

3.

Gwerthfawrogiad y Cyngor am wasanaeth y Cadeirydd yn ystod Blwyddyn Ddinesig 2022/23

I’w gynnig gan y Cynghorydd Rhodri Evans

Cofnodion:

Talodd y Cynghorydd Rhodri Evans deyrnged i'r Cadeirydd, y Cynghorydd Ifan Davies am ei waith caled yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.  Nododd fod y Cynghorydd Ifan Davies wedi teithio ar hyd a lled Cymru a thu hwnt, gan gynrychioli'r Cyngor mewn amryw o ddigwyddiadau a'i fod wedi bod yn llysgennad ardderchog i Geredigion.  Nododd ei fod yn gwneud ei waith gydag urddas ac effeithlonrwydd, gan gadw trefn ardderchog, a sicrhau bod pawb yn cael cyfle i siarad.  Nododd ei  bod hi wedi bod yn flwyddyn bwysig, a bydd yr atgofion yn aros gydag ef a'i Gonsort, Iona am byth.

4.

Ethol y Cynghorydd Maldwyn Lewis yn Gadeirydd y Cyngor am y Flwyddyn Fwrdeistrefol ddilynol

I’w gynnig gan y Cynghorydd Bryan Davies

I’w eilio gan y Cynghorydd Gareth Davies

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Bryan Davies ac fe'i eiliwyd gan y Cynghorydd Gareth Davies, a PHENDERFYNWYD yn unfrydol i ethol y Cynghorydd Maldwyn Lewis yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer y flwyddyn fwrdeisdrefol ddilynol, 2023-24.

5.

Datganiad o Dderbyn y Swydd gan y Cadeirydd newydd

Cofnodion:

Cyflwynwyd Cadwyn o’r Swydd i'r Cadeirydd newydd ei ethol a gwnaeth ei ddatganiad o dderbyn swydd. Cyflwynwyd Arwydd o'r Swyddfa i Gonsort y Cadeirydd Mrs Carys Ann.

6.

Anerchiad gan Gadeirydd y Cyngor, Y Cynghorydd Maldwyn Lewis

Cofnodion:

Diolchodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis i'r Cynghorydd Bryan Davies a'r Cynghorydd Gareth Davies am eu geiriau caredig a diolchodd i'w gyd-gynghorwyr am ymddiried ynddo fel Cadeirydd ar gyfer y flwyddyn fwrdeisdrefol ddilynol. Diolchodd i'r Cynghorydd Ifan Davies am ei waith yn ystod y flwyddyn flaenorol, gan nodi y bu’n anrhydedd iddo fod yn Is-Gadeirydd iddo.

7.

Ethol y Cynghorydd Keith Evans yn Is-gadeirydd y Cyngor am y Flwyddyn Fwrdeistrefol ddilynol

I’w gynnig gan y Cynghorydd Gareth Lloyd

I’w eilio gan y Cynghorydd Ifan Davies

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Gareth Lloyd a'i eilio gan y Cynghorydd Ifan Davies a PHENDERFYNWYD yn unfrydol i ethol y Cynghorydd Keith Evans yn Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer y flwyddyn fwrdeisdrefol ddilynol, 2023-24.

8.

Datganiad o Dderbyn y Swydd gan yr Is-gadeirydd newydd

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr Arwydd o Swydd i'r Is-gadeirydd newydd a gwnaeth ddatganiad o dderbyn swydd. Cyflwynwyd Arwydd o’r Swydd i Gonsort yr Is-Gadeirydd, Mrs Eirlys Evans.

9.

Caplan y Cadeirydd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi penodiad y Parchedig Carys Ann fel Caplan y Cadeirydd ar gyfer y flwyddyn fwrdeisdrefol ddilynol, 2023-24.

10.

Anerchiad gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies

Cofnodion:

Llongyfarchodd y Cynghorydd Bryan Davies y Cynghorwyr Maldwyn Lewis a Keith Evans ar gael eu hethol yn Gadeirydd ac Is-gadeirydd yn y drefn honno ac estynnodd ei ddymuniadau gorau i'r Parchedig Carys Ann fel Consort a Chaplan i'r Cadeirydd.  Talodd yr Arweinydd deyrnged hefyd i'r Cynghorydd Ifan Davies am ei wasanaethau yn ystod ei flwyddyn fel Cadeirydd.

 

Anerchodd yr Arweinydd y Cyngor ar y prif faterion a oedd wedi effeithio ar y Cyngor yn ystod y flwyddyn flaenorol, gan fyfyrio ar newidiadau yn dilyn y weinyddiaeth newydd yn 2022 a'u rhaglen gynefino i'w cynorthwyo i ddod yn arbenigwyr mewn ystod eang o feysydd.

 

Nododd y bu’n flwyddyn eithriadol o brysur, gydag Eisteddfod hynod lwyddiannus a Rali Bae Ceredigion sy'n rhoi llwyfan i Geredigion hyrwyddo'r ardal a'i heconomi, sy'n flaenoriaeth yn y Strategaeth Gorfforaethol.  Nododd fod y Cyngor wedi cytuno’r Strategaeth ym mis Gorffennaf, sef dogfen allweddol sy’n amlinellu'r hyn rydym yn anelu i’w gyflawni yn ystod 5 mlynedd y weinyddiaeth.  Nododd fod gosod y gyllideb ar gyfer 2023-24 wedi bod yn heriol, fodd bynnag, roedd yn ddiolchgar o dderbyn cefnogaeth o bob rhan o'r Cyngor yn dilyn craffu manwl gan y pwyllgorau perthnasol.

 

 Nododd fod disgyblion yn parhau i gyflawni canlyniadau TGAU a Safon Uwch da, sy’n uwch na'r cyfartaleddau cenedlaethol, ac ni adnabu unrhyw feysydd o ddiffyg cydymffurfio yn Adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru a oedd yn ystyried y model

Llesiant Gydol Oes.  Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cymeradwyodd y Cabinet Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032 a chroesawodd Ceredigion Baton y Frenhines cyn Gemau'r Gymanwlad yr haf diwethaf.  Cyflwynwyd Prydau Ysgol am Ddim i bob disgybl o'r dosbarth derbyn  i Flwyddyn 4 yn gynt nac amserlen Llywodraeth Cymru, ac agorwyd caeau pob tywydd 3G yn ddiweddar yn Synod Inn ac Aberteifi gydag un arall i'w agor yn Llambed, yn ogystal â'r Ganolfan Llesiant. 

 

Nododd yr Arweinydd y bu’n fraint cwrdd â busnesau ledled y Sir sydd wedi buddsoddi neu dderbyn grantiau sy'n darparu cyfleoedd i bobl ifanc yng Ngheredigion.  Mae cynllun Arfor 2 hefyd wedi'i lansio, ac mae Bargen Twf Canolbarth Cymru yn parhau i ddatblygu.  Nododd fod cyfran fawr o'i waith yn ymwneud â lobïo Gweinidogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a bod y cydweithrediad gyda Elin Jones, Aelod o'r Senedd a Ben Lake, Aelod Seneddol wedi bod yn offeryn effeithiol i ddatrys rhai o'r materion sy'n wynebu Ceredigion.

 

Diolchodd i Aelodau'r Cabinet am eu cefnogaeth, a holl Aelodau'r Cyngor am eu cydweithrediad.  Diolchodd i Swyddogion am eu gwaith diflino yn cefnogi  swyddogaethau Trosolwg a Chraffu'r Cyngor a Phwyllgorau, ac am eu cydweithrediad effeithiol ag Aelodau.

11.

Aelodaeth Pwyllgorau 2023-24 pdf eicon PDF 104 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau Aelodaeth Pwyllgorau'r Cyngor fel y'u cyflwynwyd yn y cyfarfod.