Agenda a Chofnodion

Cyngor - Dydd Iau, 2ail Mawrth, 2023 10.00 am

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd dim ymddiheuriadau.

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Datgelodd y Cynghorwyr Euros Davies, Gareth Davies, Gwyn Wigley Evans a Gareth Lloyd fuddiant personol yng nghyswllt eitem 5.

3.

Materion Personol

Cofnodion:

a)  Estynnodd y Cynghorydd Ifan Davies ei gydymdeimlad â theulu Mr Dai Lloyd Evans, cyn arweinydd Cyngor Ceredigion a Chynghorydd dros sawl degawd. Bu i’r Cynghorwyr Bryan Davies a Keith Evans hefyd gydymdeimlo â’r teulu gan dalu teyrnged i Mr Dai Lloyd Evans;

 

Cafwyd munud o dawelwch i gofio amdano.

 

b)  Diolchodd y Cynghorydd Paul Hinge i Vernon Jones, Clerc ei Gyngor Cymuned lleol a fyddai’n rhoi’r gorau iddi ar ôl rhoi 52 o flynyddoedd o wasanaeth cyhoeddus;

c)  Llongyfarchodd y Cynghorydd Carl Worrall Daphne Muriel Day ar ddathlu ei phen-blwydd yn gant oed.

d)  Estynnodd y Cynghorydd Keith Evans ei gydymdeimlad â theulu Emlyn Watkin, cyn Bennaeth Cyllid Cyngor Sir Ceredigion;

e)  Llongyfarchodd y Cynghorydd Keith Evans Ella Davies, Llandysul ar ddathlu ei phen-blwydd yn gant oed.

f)   Llongyfarchodd y Cynghorydd Ann Bowen Morgan gangen Llanbedr Pont Steffan o Ferched y Wawr ar ddathlu ei phen-blwydd yn 50 oed;

 g) Llongyfarchodd y Cynghorydd Ann Bowen Morgan Gyngor Tref Llanbedr Pont Steffan a’r Brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan am sefydlu Gwobr Goffa Hag Harris;

h)  Llongyfarchodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis aelodau Clwb Bowlio Rhydlewis am eu llwyddiant ar gyrraedd brig y gynghrair ac am gynrychioli Ceredigion a Chymru;

i)   Llongyfarchodd y Cynghorydd Rhodri Evans Ann Jones ar gael ei phenodi’n Ddirprwy Raglaw dros Geredigion.

j)   Llongyfarchodd y Cynghorydd Rhodri Evans Sion Davies, disgybl yn Ysgol Henry Richard a fyddai’n cynrychioli Tîm Dartiau Cymru yn Gibraltar;

k)  Llongyfarchodd y Cynghorydd Catrin M S Davies Gwyneth Keyworth am ennill gwobr y Perfformiwr Cefnogol Gorau mewn drama theatr yng Ngwobrau WhatsOnStage am ei rôl yn To Kill a Mockingbird;

l)   Diolchodd y Cynghorydd Catrin M S Davies i bob un a gynorthwyodd i sicrhau bod Cystadleuaeth Hanner Awr Adloniant y Clybiau Ffermwyr Ifanc yn llwyddiant ysgubol; 

m) Llongyfarchodd y Cynghorydd Catrin M S Davies Beca Williams am ennill gwobr yr Actores Orau yng Nghystadleuaeth Hanner Awr Adloniant y Clybiau Ffermwyr Ifanc;

n)  Llongyfarchodd y Cynghorydd Catrin M S Davies Dafydd Williams am ennill gwobr yr Actor Gorau yn y categori dan 16 oed yng Nghystadleuaeth Hanner Awr Adloniant y Clybiau Ffermwyr Ifanc;

o) Llongyfarchodd y Cynghorydd Catrin M S Davies Elen Pencwm am ennill gwobr y Cynhyrchydd Gorau yng Nghystadleuaeth Hanner Awr Adloniant y Clybiau Ffermwyr Ifanc;

p)  Llongyfarchodd y Cynghorydd Eryl Evans Glwb Ffermwyr Ifanc Bro Dderi am eu llwyddiant yng Nghystadleuaeth Hanner Awr Adloniant y Clybiau Ffermwyr Ifanc;

q) Llongyfarchodd y Cynghorydd Eryl Evans Elliw Dafydd am ennill gwobr y Cynhyrchydd Gorau yng Nghystadleuaeth Hanner Awr Adloniant y Clybiau Ffermwyr Ifanc;

r)  Llongyfarchodd y Cynghorydd Eryl Evans Betrys Davies am ennill gwobr yr Actores Orau yn y categori dan 16 oed yng Nghystadleuaeth Hanner Awr Adloniant y Clybiau Ffermwyr Ifanc;

s)  Llongyfarchodd y Cynghorydd Eryl Evans Martha Thomas am ennill y drydedd wobr yng nghategori’r Actores Orau o dan 16 oed yng Nghystadleuaeth Hanner Awr Adloniant y Clybiau Ffermwyr Ifanc;

t)  Llongyfarchodd y Cynghorydd Eryl Evans Ifan Meredith a Gruffydd Davies am ddod yn gydradd drydydd yng nghategori’r Actor Gorau o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2023 pdf eicon PDF 92 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2023 yn gywir.

5.

Adroddiad ar y cyd gan yr Arweinydd, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Ariannol a'r Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael ar Gyllideb 2023/24, gan gynnwys y Rhaglen Gyfalaf Tair Blynedd a'r Dangosyddion Darbodus ar gyfer Rheoli'r Trysorlys pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor, yr adroddiad gan nodi bod y wybodaeth wedi’i hystyried gan y Cabinet a’r holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu. Ychwanegodd fod y Cabinet wedi cytuno â’r cynnig a gyflwynwyd gan un o’r Pwyllgorau Craffu i beidio â chodi tâl am barcio yn Nhregaron a Llandysul a bod y cynnig hwn wedi’i gynnwys yn yr adroddiad.

 

Diolchodd y Cynghorydd Bryan Davies i’r Swyddogion, gan nodi bod y Cabinet wedi gosod her iddynt fantoli’r gyllideb heb effeithio ar swyddi na gwasanaethau ar y rheng flaen, gymaint â sydd bosib. Nododd fod chwyddiant, pwysau o ran costau gan gynnwys ynni, tanwydd, dyfarniadau cyflog a galwadau cynyddol yn y gyllideb Gofal Cymdeithasol, a chostau byw cynyddol wedi golygu diffyg o £22m yn y gyllideb a bod y cynnydd o 8.1% yn Setliad Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023/24 wedi golygu y byddai angen sicrhau £12m o arbedion o ffynonellau incwm. Roedd y Cabinet wedi cynnig cynnydd o 7.3% yn Nhreth y Cyngor ac roedd hyn yn cynnwys 6% i ariannu’r cynnydd yn y pwysau a fyddai ar y Cyngor o ran cost, a chynnydd i ardoll Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru o’u cyllideb o 13% nad oedd yn agored i drafodaeth, sy’n golygu 1.3% yn ychwanegol ar Dreth y Cyngor. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Davies, yr Aelod Cabinet dros Gyllid a Chaffael nad oeddent yn medru rhoi sicrwydd na fyddai unrhyw swyddi yn cael eu torri, ac y gallai’r ansicrwydd parhaus ynghylch cyflogau effeithio ar gronfeydd wrth gefn y Cyngor gan fod, o bosib, yn uwch na’r swm a neilltuwyd ar ei gyfer. Diolchodd i'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu am eu trafodaethau agored ac aeddfed a nododd pe byddai’r Aelodau wedi dymuno cynnig atebion gwahanol, y byddent wedi gorfod cyflwyno'r rhain yn ystod y broses graffu fel y gallai’r Swyddog Adran 151 ystyried costau’r cynigion a rhoi sicrwydd am gadernid unrhyw gynlluniau o'r fath.

 

Bu i Eifion Evans, y Prif Weithredwr, gydnabod y gwaith cefndir yr oedd pob Swyddog wedi’i wneud i nodi’r arbedion ac i sicrhau bod swyddi a gwasanaethau yn cael eu diogelu gymaint â sydd bosib. Nododd fod y rheoleiddwyr allanol yn cydnabod bod Cyngor Sir Ceredigion yn parhau i ddarparu gwasanaethau o’r ansawdd uchaf er gwaethaf yr heriau. Er hynny, rhagwelwyd y byddai cyllideb y flwyddyn ganlynol hyd yn oed yn fwy heriol.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael ei farn ar y Gyllideb fel y Swyddog Adran 151, a oedd yn cynnwys rhoi diweddariad ar Setliad Terfynol LlC a chyflwyniad diweddar Cynigion Cyflog yn ddiweddar ar gyfer staff cyffredinol ar gyfer 2023/24.

 

Nododd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Arweinydd y Grŵp Annibynnol, fod ardoll yr awdurdod tân wedi bod yn isel iawn yn hanesyddol, ac mai dim ond un Orsaf Dân gyda chriw llawn amser oedd yn bodoli ar draws Ceredigion a Phowys. Roedd hyn wedi cael effaith ar y staffio ac roedd yr Awdurdod Tân yn ceisio denu pobl newydd drwy adolygu contractau cyflogaeth, a dyna yn rhannol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael ynghylch Gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2023/24 pdf eicon PDF 156 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gareth Davies, yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cyllid a Chaffael adroddiad i’r Cyngor ynglŷn â Phennu Treth y Cyngor ar gyfer 2023/24.  Nododd mai adroddiad technegol oedd hwn a bod gofyniad statudol i bleidleisio ar y mater hwn. Serch hynny, nid oedd hyn yn ailagor y drafodaeth a gafwyd ar yr eitem a gytunwyd iddi yn flaenorol.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD cymeradwyo’r canlynol:

 

(a)  I nodi y cymeradwywyd y symiau canlynol ar gyfer y flwyddyn 2023/24 yng nghyfarfod Cabinet y Cyngor a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2022 yn unol â rheoliadau Adran 33(5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992:

 

(b)  32,767.99 sef y swm a gyfrifir gan y Cyngor fel sylfaen treth y Cyngor ar gyfer yr ardal, yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) (Cymru) 1995, fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) a Threth y Cyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygio) 2004.

 

(c)     RHAN O ARDAL Y CYNGOR

 

Ardaloedd CynghorauTref a

Chymuned:

Sylfaen

Treth y Cyngor

Ardaloedd CynghorauTref a

Chymuned:

Sylfaen

Treth y Cyngor

ABERYSTWYTH

4,078.02

TREGARON

540.26

ABERAERON

760.58

YSBYTY YSTWYTH

207.94

ABERTEIFI / CARDIGAN

1,850.53

YSTRAD FFLUR

312.91

LLANBEDR P.S. / LAMPETER

1,004.15

YSTRAD MEURIG

168.04

CEI NEWYDD / NEW QUAY

726.00

CILIAU AERON

427.90

BORTH

744.47

HENFYNYW

517.31

CEULANAMAESMAWR

429.83

LLANARTH

750.23

BLAENRHEIDOL

202.85

LLANDYSILOGOGO

547.81

GENEU’R GLYN

357.37

LLANFAIR CLYDOGAU

308.76

LLANBADARN FAWR

895.70

LLANFIHANGEL YSTRAD

663.86

LLANGYNFELIN

270.19

LLANGYBI

283.50

LLANFARIAN

759.01

LLANLLWCHAEARN

492.89

LLANGWYRYFON

251.05

LLANSANTFFRAED

617.81

LLANILAR

481.58

LLANWENOG

585.35

LLANRHYSTUD

451.68

LLANWNNEN

213.69

MELINDWR

520.75

DYFFRYN ARTH

575.32

PONTARFYNACH

243.53

ABERPORTH

1,128.88

TIRYMYNACH

798.36

BEULAH

870.46

TRAWSGOED

447.89

LLANDYFRIOG

831.23

TREFEURIG

786.69

LLANDYSUL

1,262.45

FAENOR

818.47

LLANGOEDMOR

593.30

YSGUBOR-Y-COED

163.41

LLANGRANNOG

428.33

LLANDDEWI BREFI

308.09

PENBRYN

735.39

LLANGEITHO

371.44

TROEDYRAUR

663.13

LLEDROD

309.53

Y FERWIG

631.71

NANTCWNLLE

378.36

 

 

 

SYLFAEN TRETH Y CYNGOR 32,767.99

 

sef y symiau a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol â Rheoliad 6 o Reoliadau 1995 (fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau 2004), fel symiau Treth y Cyngor am y flwyddyn ar gyfer anheddau mewn rhannau penodol o’r ardal y mae un eitem neu fwy yn berthnasol iddynt;

 

3.2   I cymeradwyo’r symiau a gyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2023/24 yn unol ag adrannau 32 hyd 36, Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, fel y nodir isod:-

 

(a)  £269,760,426 sef cyfanswm y symiau a amcangyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer eitemau a nodir yn Adran 32(2)(a) hyd (e) o’r Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys £190,000 o ran Rhyddhad Ardrethi Annomestig Cenedlaethol.

 

(b)  £88,284,000 sef cyfanswm y symiau a amcangyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer eitemau a nodir yn Adran 32(3)(a) hyd (c) o’r Ddeddf.

 

(c)  £181,476,426 sef swm y diffyg rhwng cyfanswm (a) uchod a chyfanswm (b) uchod, a gyfrifir gan y Cyngor fel yr anghenion cyllidebol am y flwyddyn, yn unol ag Adran 32(4) o’r ddeddf.

 

(d)  £129,192,414 sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif a fydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Datganiad Polisi Rheoli'r Trysorlys, Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a Pholisi Isafswm Darpariaeth Refeniw (IDR) 2023/24 pdf eicon PDF 71 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gareth Davies, yr Aelod Cabinet dros Gyllid a Chaffael yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod y Cabinet wedi penderfynu yn ystod ei gyfarfod ar 14 Chwefror 2023 i gymeradwyo Datganiad Polisi Rheoli’r Trysorlys, Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a’r Polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw (MRP) ar gyfer 2023/24. Nodwyd y byddai unrhyw benderfyniad ynghylch dirprwyo dyletswyddau o dan adran 4 yn cael ei adrodd yn ôl i’r Cabinet, pe byddai unrhyw faterion yn codi.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD:

a) nodi’r adroddiad (eitemau 2(i) i 2(iv)) a chymeradwyo argymhelliad y Cabinet;

b) cymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer Benthyca a Buddsoddi 2023/24; a

c) cymeradwyo Polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw 2023/24.

8.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Pobl a Threfniadaeth ar gyflwyno Taliad Atodol ar sail Grymoedd y Farchnad - Recriwtio Prif Swyddogion pdf eicon PDF 94 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi yn dilyn ymgyrch recriwtio yn ddiweddar fod rôl y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth Cynnal, a Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau’n wag. Dywedodd fod uchafswm cyflog y rôl ar hyn o bryd lawer yn is na’r rolau cyfatebol mewn awdurdodau cyfagos ac mewn awdurdodau sydd â phoblogaeth debyg i Geredigion.

 

Cynigiwyd felly fod Taliad Atodol ar sail Grymoedd y Farchnad o hyd at £10,385 yn cael ei gyflwyno i gynyddu’r cyflog a hysbysebir a fyddai’n arwain at uchafswm cyflog a thaliad atodol a hysbysebir o £97,500, gan barhau mewn grym tra bo cyfradd y farchnad yn parhau i fod yn uwch na lefel y cyflog a werthuswyd ar gyfer y swydd.

 

Gofynnodd yr Aelodau a fyddai’r cynnydd arfaethedig yn ddigonol, gan nodi na fyddai’n gynaliadwy dibynnu ar staff asiantaeth. 

 

Dywedodd Eifion Evans fod y cyflogau yng Ngheredigion wedi bod ar eu hôl hi o gymharu â dyletswyddau a chyfrifoldebau tebyg mewn awdurdodau cyfagos. Serch hynny, byddai’r cyflog uwch yn arwain at lai o wahaniaeth rhwng cyflogau’r rolau a oedd yn uwch i fyny’r strwythur cyflogau. Roedd angen i'r Cyngor ystyried yr hyn a fyddai’n fforddiadwy a phe byddai argymhelliad yn cael ei gyflwyno y tu hwnt i'r hyn a oedd yn cael ei gynnig, roedd yn bosib y byddai angen i'r Cyngor ystyried adolygiad cyffredinol o strwythur cyflogau'r Cyngor.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD cymeradwyo cyflwyno taliad atodol ar sail grymoedd y farchnad ar gyfer swydd Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Porth Cynnal.

9.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Y Gyfraith a Llywodraethu ar apwyntio dau Ymddiriedolwr i elusen Gwobrau Evan Morgan pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Matthew Vaux, yr Aelod Cabinet dros Bartneriaethau, Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd  amlinelliad o Gynllun y Comisiwn Elusennau mewn perthynas â’r elusen a adwaenir fel Gwobrau Evan Morgan gan nodi bod angen tri ymddiriedolwr o dan y Cynllun. 

 

Yr ymddiriedolwr cyntaf a gaiff ei enwi yn y Cynllun yw Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Sir Dyfed. Erbyn heddiw mae swyddogaethau statudol Cyfarwyddwr Addysg Dyfed yn cael eu cyflawni gan y Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Ysgolion yn rhinwedd ei swydd fel Prif Swyddog Addysg.  Y Cyngor fel yr Awdurdod Addysg Lleol fydd yn enwebu’r ddau ymddiriedolwr arall. Gall yr ymddiriedolwyr hyn fod yn Aelodau o’r Cyngor ond nid oes yn rhaid iddynt fod.

 

Er mwyn adfywio’r cynllun elusennol ac er mwyn bod mewn sefyllfa i ddyfarnu gwobrau newydd, cynigir bod y Cyngor yn penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu Cyngor Sir Ceredigion fel y ddau ymddiriedolwr arall. 

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD cymeradwyo penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd  Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu Cyngor Sir Ceredigion fel y ddau ymddiriedolwr a enwebir i’r elusen a adwaenir fel Gwobrau Evan Morgan.

10.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataiddd ar Adolygiad o Gymunedau a Threfniadau Etholiadol pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Eifion Evans, y Prif Weithredwr, adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod gofyniad statudol ar y Swyddog Etholiadol i adolygu ffiniau yn rheolaidd a bod Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru wedi’i benodi i gynnal adolygiad o gymunedau a threfniadau etholiadol ar ran Cyngor Sir Ceredigion.

 

Fel rhan o’r adolygiad, byddai’r Comisiwn yn rhoi sylw i’r canlynol:

·       creu, diddymu neu uno cymunedau a wardiau cymunedol

·       enw’r gymuned, a lle mae’n cynnwys wardiau, enw wardiau cymunedol

·       lle mae newidiadau wedi’u gwneud i ffiniau cymunedau neu wardiau cymunedol, nifer y cynghorwyr sy’n cynrychioli’r gymuned a, lle mae’n cynnwys wardiau, nifer y cynghorwyr fesul ward.

 

Fel rhan o’r broses adolygu, byddai gofyn i'r Cyngor sefydlu grŵp trawsbleidiol o Gynghorwyr i gefnogi'r adolygiad i benderfynu ar Bolisi Maint y Cyngor (a fyddai’n cael ei gyflwyno i'r Cyngor cyn dechrau'r cyfarfod ymgynghori cyntaf gyda chynghorau Tref a Chymuned) ac i fod yn brif grŵp ar gyfer yr awdurdod lleol. Argymhellwyd bod gan y Grŵp Trawsbleidiol 7 Aelod ac roedd Arweinwyr y Grwpiau wedi enwebu Aelodau ar gyfer y grŵp hwn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor, fod rhai Cynghorau Tref a Chymuned yn wynebu heriau o ran denu unigolion i sefyll fel Aelodau. Soniodd hefyd am y costau sy'n gysylltiedig â gweinyddu Pwyllgorau.

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD:

 

a)        nodi bod Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru wedi'i gomisiynu i gynnal Adolygiad y Cymunedau ar ran y Cyngor;

b)        cymeradwyo mai 7 fyddai nifer yr Aelodau ar Grŵp Trawsbleidiol yr Adolygiad o Gymunedau a’r Adolygiad Etholiadol;

c)         cadarnhau aelodaeth Grŵp Trawsbleidiol yr Adolygiad o Gymunedau a’r Adolygiad Etholiadol fel a ganlyn:

·       Clive Davies

·       Elizabeth Evans

·       Eryl Evans

·       Gwyn Wigley Evans

·       Rhodri Evans

·       Paul Hinge

·       Alun Williams.

11.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Y Gyfraith a Llywodraethu ar apwyntio Is-Gadeirydd i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux, yr Aelod Cabinet dros Bartneriaethau, Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi yn dilyn ymddiswyddiad Is-gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, fod Mr Andrew Blackmore wedi’i benodi a’i gymeradwyo gan y Cyngor ar 15 Rhagfyr 2022.

 

Yn ystod cyfarfod o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2023, ystyriwyd y trefniadau ar gyfer Is-gadeirydd, a chytunwyd i benodi Mr Andrew Blackmore fel Is-gadeirydd ar unwaith o 17 Ionawr 2023 ymlaen am weddill y cyfnod o ddwy flynedd hyd at fis Mai 2024.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD cadarnhau penodiad Andrew Blackmore fel Is-gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio hyd at fis Mai 2024.

 

12.

Aelodaeth y Grŵp Datblygu

Plaid Cymru

3

Cyng Bryan Davies

Cyng Clive Davies

Cyng Alun Williams

Annibynnol

(Cadeirydd/Is-Gadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol*)

1

Cyng Rhodri Evans

Democratiaid Rhyddfrydol

(Cadeirydd/Is-Gadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol*)

1

Cyng Geraint Hughes

 

*Ar gyfer tymor y swydd, bydd y Grŵp Annibynnol a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn rhannu rolau’r Cadeirydd/Is-Gadeirydd – gan gyfnewid bob dwy flynedd

Cofnodion:

Plaid Cymru

3

Y Cynghorydd Bryan Davies

Y Cynghorydd Clive Davies

Y Cynghorydd Alun Williams

 

Aelodau Annibynnol (Cadeirydd / Is-gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol*)

 

1

Y Cynghorydd Rhodri Evans

Y Democratiaid Rhyddfrydol (Cadeirydd / Is-gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol*)

1

Y Cynghorydd Geraint Hughes

 

*Ar gyfer tymor y swydd, byddai’r Grŵp Annibynnol a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn rhannu rolau’r Cadeirydd/Is-gadeirydd – gan gyfnewid bob dwy flynedd.

13.

Cynrychiolydd cyflogwr i Gronfa Pensiwn Dyfed

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod y Cynghorydd Gareth Lloyd wedi penderfynu rhoi’r gorau i’r rôl hon. 

 

Enwebodd y Cynghorydd Bryan Davies y Cynghorydd Wyn Thomas fel Cynrychiolydd Cyflogwr i Gronfa Bensiwn Dyfed.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Wyn Thomas fel Cynrychiolydd Cyflogwr i Gynllun Bensiwn Dyfed.

14.

Aelodau o'r Cyngor i Bwyllgorau'r cyngor ar gyfer y Flwyddyn Fwrdeisdrefol ddilynol pdf eicon PDF 104 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau Aelodaeth Pwyllgorau’r Cyngor fel y’i cyflwynwyd gerbron y cyfarfod.