Agenda a Chofnodion

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cynghorwyr Rhodri Davies, Elaine Evans, Eryl Evans a Ceris Jones ymddiheuro am eu hanallu i fynychu'r cyfarfod.

Fe wnaeth y Cynghorydd Rhodri Evans ymddiheurio am ei anallu i fynychu'r cyfarfod oherwydd ei fod ar ddyletswyddau eraill y Cyngor.

 

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

a)    Datganodd y Cynghorydd Endaf Edwards ddiddordeb personol mewn perthynas â eitem 6 isod;

b)    Datganodd y Cynghorwyr Bryan Davies, Euros Davies, Geraint Hughes a Chris James ddiddordeb personol a rhagfarnol mewn perthynas â eitem 10 isod, gan adael y cyfarfod yn ystod yr eitem hon;

c)    Datganodd Eifion Evans, Prif Weithredwr fuddiant personol a rhagfarnol mewn perthynas â eitem 10 isod, yn unol â'r Cod Ymddygiad ar gyfer Llywodraeth Leol ac fe adawodd y cyfarfod yn ystod yr eitem hon;

d)    Datganodd y Cynghorwyr Euros Davies, Gareth Davies, Endaf Edwards, Elizabeth Evans, Keith Henson, Geraint Hughes,  Chris James, Gwyn James, John Roberts a Matthew Vaux ddiddordeb personol a rhagfarnol mewn perthynas â eitem 11 isod, gan adael y cyfarfod yn ystod yr eitem hon;

e)    Datganodd Eifion Evans, Prif Weithredwr, diddordeb personol a rhagfarnol ar ran yr holl Uwch Swyddogion a oedd yn bresennol mewn perthynas â eitem 11 isod, yn unol â'r Cod Ymddygiad ar gyfer Llywodraeth Leol.  Fe wnaeth yr aelodau hynny o staff adael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth.  Arhosodd Angharad Rees, Swyddog AD, y swyddog cofnodion a'r cyfieithydd yn y cyfarfod yn ystod trafodaethau.

 

3.

Materion Personol

Cofnodion:

a)  Llongyfarchodd y Cynghorydd Keith Evans Nancy Davies ar ddathlu ei phen-blwydd yn 100 oed;

b)  Llongyfarchodd y Cynghorydd Wyn Evans Jessica, Charlotte ac Emily Smith-Jones o Aberaeron ar ganu gyda Rhys Meirion ar raglen 'Canu Gyda Fy Arwr' ar S4C.

c)   Llongyfarchodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis Huw Thomas o Bontsian ar dderbyn cydnabyddiaeth am ei waith gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol  Hywel Dda;

ch) Llongyfarchodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis Llinos Davies o   Ffostrasol ar ennill gwobr am Ragoriaeth mewn Nyrsio 2022;

e)  Estynnodd y Cynghorydd Caryl Roberts ei chydymdeimlad â theulu Kevin Jenkins, a fu'n ffigwr hynod arwyddocaol yn hyfforddi'r timau pêl-droed ieuenctid a merched ym Mhenrhyncoch;

f) Llongyfarchodd y Cynghorydd Ifan Davies Glwb Ffermwyr Ifanc Llanwennog ar eu llwyddiant yn y gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus.

 

4.

Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2022 pdf eicon PDF 72 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion cyfarfodydd y Cyngor a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2022  fel rhai cywir.

5.

Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2021/22 pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet dros Bartneriaethau, Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu'r Cyhoedd y Datganiad Llywodraethu Blynyddol diweddarwyd 2021/22 i'r Cyngor, gan nodi bod y Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft wedi'i gymeradwyo gan y Cyngor ar 8 Gorffennaf 2022, a'i adolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 19 Ionawr 2023.

 

Nododd fod mân ddiwygiadau wedi'u gwneud i Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol 2021/22 gan gyfeirio at ddiwygio dyddiadau;  cynnwys adolygiad hunan-asesu Cod Rheoli Ariannol CIPFA; sylwadau a dyddiadau wedi'u diweddaru ar gyfer Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol ac Adroddiad Blynyddol a mân wallau teipograffigol wedi'u cywiro.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2021/22

 

6a

Adroddiad ISA260 Archwilio Cymru ar Ddatganiad Cyfrifon 2021/22 pdf eicon PDF 846 KB

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Jason Blewitt ac Eleanor Ansell o Archwilio Cymru i'r cyfarfod.

 

Cyflwynodd Jason Blewitt Adroddiad ISA260 mewn perthynas â Datganiad Cyfrifon y Cyngor ar gyfer 2021/22, gan nodi nad oes unrhyw faterion arwyddocaol yn deillio o'r archwiliad.  Nodwyd bod y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r adroddiadau wedi newid o 30 Tachwedd 2022 i 31 Ionawr 2023 oherwydd materion cenedlaethol a bod Ceredigion wedi cydymffurfio â'r holl ofynion mewn perthynas â hyn.  Cadarnhaodd Archwilio Cymru mai eu bwriad oedd cyhoeddi barn archwilio diamod ar gyfrif y flwyddyn.

 

Nododd aelodau eu pryder bod yr adroddiad yn nodi rhai materion yn ymwneud ag asedau'r Cyngor.  Cadarnhaodd Alan Davies, Cadeirydd Llywodraethu ac Archwilio bod y mater hwn yn cael sylw ar hyn o bryd gan Swyddogion ar y cyd â'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

Diolchodd y Cynghorydd Gareth Davies, i'r Gwasanaeth Cyllid am gynhyrchu cyfrifon mor rhagorol, gan nodi bod y farn ddiamod  a roddwyd gan Archwiliad Cymru yn dyst i'r ffaith fod y taflenni balans a'r cyfrifon wedi'u rheoli mewn modd cyfrifol iawn.  Nododd hefyd ei fod wedi cael sicrwydd bod cynllun gweithredu yn ei le a fydd yn sicrhau bod  y materion a godwyd ynghylch prisio asedau yn cael eu cyflawni mewn modd amserol, a bod mesurau yn eu lle i sicrhau na fydd hwn yn broblem y flwyddyn nesaf.   Llongyfarchodd Steve Johnson, sef y Swyddog S151 ar y pryd yn ystod 2021/22, Duncan Hall a Justin Davies am eu gwaith.

6b

Sylwadau Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar yr adroddiad

Cofnodion:

6c

Datganiad Cyfrifon 2021/22 pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Cynghorydd Gareth Davies, Aelod Cabinet dros Gyllid a Chaffael ei bod yn bleser cyflwyno  Datganiad Cyfrifon ac Adroddiad ISA260 diamod i’r Cyngor.  Nododd sefyllfa o danwariant cyffredinol o £668,000, fod lefel y Gronfa Gyffredinol wedi codi i £6.720m a bod lefel y Cronfeydd Wrth Gefn wedi’u Clustnodi wedi cynyddu ar ddiwedd y flwyddyn i ychydig o dan £54m.

 

Diolchodd y Cynghorydd Bryan Davies i'r staff am eu diwydrwydd a'u gwaith caled, yn wedi gweithio ochr yn ochr â'r Aelodau gan darparu gweithdai hyfforddiant cyllideb.  Nododd Aelodau yn ogystal bod staff wedi prosesu taliadau grant dros £14m yn ystod yr un adeg er mwyn sicrhau cynaliadwyedd yr economi yn ystod y cyfnod hwnnw.

 

Diolchodd Eifion Evans, y Prif Weithredwr i bawb am eu sylwadau cadarnhaol, a diolchodd i'r Swyddogion a Rheolwyr ar draws pob Gwasanaeth y Cyngor am reoli eu cyllidebau yn dynn a chyda gofal gwych.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo Datganiad Cyfrifon  y Cyngor a Datganiad Cyfrifon Awdurdod Harbwr Ceredigion ar gyfer 2021/22.

 

7.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael ar y gofyniad i fabwysiadu Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor erbyn 31 Ionawr 2023 pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gareth Davies, Aelod Cabinet dros Gyllid a Caffael yr adroddiad gan nodi, yn unol â Chynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Rheoliad Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 ei bod yn ofyniad i awdurdodau lleol ystyried yn flynyddol a ddylid adolygu neu ddisodli eu cynllun presennol, ac ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'n credu sy'n debygol o fod â buddiant wrth weithredu ei gynllun lle cynigir unrhyw ddiwygiadau.  Nododd nad yw'r cynllun wedi newid ers y llynedd, a'i fod yn seiliedig ar gynllun Llywodraeth Cymru, ac er ei fod yn cael ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru, mae'n siomedig nad yw'r cynllun yn cael ei ariannu'n llawn.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD:

 

1.  Nodi gwneud Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2023;

 

2.   Mabwysiadu darpariaethau Rheoliadau’r Gofynion Rhagnodedig (2013) fel Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor y Cyngor yn 2023/24, yn amodol ar y disgresiwn lleol y mae’r Cyngor yn gallu ei arfer, fel y nodir isod:

 

                                               i.     Parhau â’r gostyngiad o 100% uwchben y £10 statudol sy’n cael ei diystyru o safbwynt Pensiynau Anabledd Rhyfel, Pensiwn Rhyfel Gwragedd Gweddw a Phensiwn Rhyfel Gwŷr Gweddw, ar gyfer pensiynwyr a phobl oedran gweithio sy’n hawlio.

 

                                              ii.     Peidio ag ymestyn y cyfnodau talu estynedig ar gyfer pensiynwyr a phobl o oedran gweithio sy’n hawlio y tu hwnt i’r pedair wythnos safonol a nodir ar hyn o bryd yn y Cynllun Rhagnodedig.

 

                                            iii.     Peidio ag ymestyn y cyfnod ôl-ddyddio ar gyfer pensiynwyr a phobl o oedran gweithio sy’n hawlio y tu hwnt i’r tri mis safonol a nodir yn y Cynllun Rhagnodedig.

8.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol ar Adolygu Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (RIPA) pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.  Pwerau Ymchwilio y Cyngor 2000 (RIPA)

Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet ar faterion Partneriaethau, Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu'r Cyhoedd yr adroddiad gan nodi hynny gafodd ei ystyried gan y Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu ar 23 Tachwedd 2022.

 

Yn dilyn y cyfarfod hwn, mae'r diwygiadau canlynol wedi'u gwneud i'r Weithdrefn ar gyfer Cymhwyso Awdurdodiad Gwyliadwriaeth Cyfarwyddiadol:

-    Gallu ychwanegol i Awdurdodi Swyddogion ddirprwyo dros ei gilydd lle nad yw'r Swyddog Awdurdodi ar gyfer y gwasanaeth perthnasol ar gael a gall yr oedi a achosir gyfaddawdu'r ymchwiliad;

-    Ychwanegodd y dylai'r Swyddog Awdurdodi ystyried cais am awdurdodiad gwyliadwriaeth wedi'i gyfarwyddo o fewn 10 diwrnod gwaith o dderbyn y cais.

Diolchodd y Cynghorydd Keith Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu i  Elin Prysor a'i thîm am Aelodau blaenllaw drwy'r broses, ac fe gadarnhaodd fod y Pwyllgor Craffu o blaid y gwelliannau arfaethedig.

 

Yn dilyn pleidlais , PENDERFYNWYD:

 

a)     Cymeradwyo’r newidiadau a wnaed i Ddogfennau’r Cyngor RIPA RHAN 11 Gwyliadwriaeth Gyfeiriedig, Ffynonellau Cuddwybodaeth ddynol a Dogfen Gweithdrefnau a Pholisi Corfforaethol Dada Cyfathrebu (‘Polisi RIPA’) ynghlwm yn Atodiad 1 fe y’u cyflwynwyd i’r Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu ar 23/11/22; a

b)    Chymeradwyo’r ddau newid pellach a nodwyd yn yr adroddiad yma i’r Weithdrefn Cyflwyno cais Awdurdod Gwyliadwriaeth Gyfeiriedig ym mholisi RIPA (tudalennau 27 a 28  Atodiad 1).

 

 

9.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol ar apwyntio Aelod Annibynnol i'r Pwyllgor Moeseg a Safonau pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet ar faterion Partneriaethau, Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu'r Cyhoedd yr adroddiad, gan nodi, yn dilyn proses recriwtio, bod Gail Storr wedi cael ei dewis yn Aelod Annibynnol / Lleyg i'r Pwyllgor Moeseg a Safonau.

 

Nodwyd, yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Cyngor, y byddai'r aelod lleyg newydd yn cael ei phenodi am un tymor o 6 mlynedd, gydag opsiwn i ailbenodi am ail dymor o 4 blynedd, hyd at ddim mwy na dau dymor gweinyddol olynol gan gynnwys y tymor presennol (hyd at 10 mlynedd, hyd at 29 Gorffennaf 2032).

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD cymeradwyo penodi Gail Storr yn  Aelod Annibynnol / Lleyg i'r Pwyllgor Moeseg a Safonau o 30 Gorffennaf 2023 hyd at 29 Gorffennaf 2029. 

10.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Pobl a Threfniadaeth ar Awdurodi'r Polisiau Tâl Athrawon pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet yr Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yr adroddiad gan nodi ei fod yn cynnwys polisi ar gyfer Athrawon ac Athrawon digyswllt  sy'n ymwneud â thâl ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru).

 

Nododd fod cynydd o 5% i'r holl bwyntiau a lwfansau ar raddfa statudol eisoes wedi'u gweithredu, ac y bydd staff rhan-amser ar daliad Cyfrifoldeb Addysgu a Dysgu (CAD1 a CAD2) yn derbyn taliad llawn amser lle gellir cyflawni dyletswyddau llawn y lwfans ofewn yr oriau gwaith arferol.  Hefyd, o ganlyniad i'r ddau ŵyl banc ychwanegol yn ystod 2022/23  rhaid i athrawon fod ar gael i weithio 193 o ddiwrnodau yn ystod blwyddyn academaidd 2022/23.

 

Yn olaf, cadarnhaodd fod ymgynghori wedi digwydd gyda'r Undebau Llafur a bod eu hymrwymiad yn hynod o bwysig o ran cyflwyno'r adroddiad hwn.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD cymeradwyo:

 

a)    Polisi Cyflogau enghreifftiol Athrawon 2022/23 a’i gymeradwyo i’r Cyrff Llywodraethu er mwyn ei fabwysiadu yn ysgolion Ceredigion.

 

b)    Polisi Cyflogau enghreifftiol Athrawon Digyswllt 2022/23 ar gyfer athrawon a gyflogir yn ganolog.

 

11.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Pobl a Threfniadaeth ar Bolisi Tâl y Cyngor ar gyfer 2023/24 pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth yr adroddiad i'r pwyllgor.  Nododd fod adrannau 2.4 a 2.5 yn ymwneud â gwerthuso swyddi, gan esbonio y byddai unrhyw ddyrchafiad i grŵp penodol o staff, yn cael effaith ar y garfan gyfan o staff.

 

Nododd fod cynnydd mewn cyflog a gytunwyd yn genedlaethol ar gyfer staff NJC, Prif Weithredwr a Phrif Swyddogion 2022/23 o £1,925 sy’n cyfateb gyda oddeutu 10% i'r rhai sydd ar y cyflogau isaf wedi’i ychwanegu at bob gwynt graddfa cyflog ac wedi’i ôl-ddyddio i 1 Ebrill 2022; bod y raddfa gyflog pwynt 1 NJC i'w ddileu o 1 Ebrill 2023; bod y cytundeb cyflog cenedlaethol i staff Soulbury heb ei gytuno eto ond y bydd yn cael eu ôl-ddyddio i 1 Medi 2022 ar ôl ei gyhoeddi; ac y bydd 1 diwrnod ychwanegol o wyliau yn cael ei ychwanegu at delerau ac amodau staff ar delerau NJC a Soulbury o 1 Ebrill 2023.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Polisi Tâl ar gyfer 2023/24.