Agenda a Chofnodion

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Euros Davies, Marc Davies, Steve Davies, Paul Hinge a Mark Strong am eu hanallu i fynychu'r cyfarfod.

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Nid oedd dim datganiadau o fuddiant personol na buddiant sy'n rhagfarnu.

3.

Materion Personol

Cofnodion:

a) Dymunodd y Cynghorydd Ifan Davies, Cadeirydd y Cyngor yn dda i Mr Geraint Evans, Pennaeth Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Ceredigion ar ei ymddeoliad yn dilyn 26 mlynedd o wasanaeth;

b)  Diolchodd y Cynghorydd Ifan Davies i’r holl staff sy’n gweithio ddydd a nos i sicrhau bod ffyrdd yn cael eu graeanu, staff swyddfeydd, a staff sydd wedi bod yn mynd allan ym mhob tywydd i roi cymorth i drigolion Ceredigion;

c) Llongyfarchodd y Cynghorydd Ann Bowen Morgan Brifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant ar y gyngerdd a gynhaliwyd ym mis Tachwedd i ddathlu 200 mlynedd ar gampws Llanbedr Pont Steffan.

d) Llongyfarchodd y Cynghorydd Ann Bowen Morgan ddisgyblion a staff Ysgol Bro Pedr ar ei pherfformiad gwych o ‘Grease’;

e) Llongyfarchodd y Cynghorydd Ceris Jones Megan Teleri Davies ar ennill Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn Cyfadran De-ddwyrain Cymru yr RCGP, gan gael y sgôr uchaf am ei phortffolio ar Brosiectau Meddygon Teulu a Llwybr Cleifion;

f) Llongyfarchodd y Cynghorydd Ceris Jones Michael Morgans ar gael Gwobr Gymunedol oddi wrth Gyngor Cymuned Llanfihangel Ystrad am ei waith gwirfoddol diflino yn ei gymuned;

g) Gofynnodd y Cynghorydd Elizabeth Evans i bawb lenwi holiadur cleifion Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda, er mwyn bwydo’r ymchwiliad cenedlaethol i’r ymateb i Covid-19;

h)  Llongyfarchodd y Cynghorydd Keith Evans y Cynghorydd Rhodri Evans ar ei benodiad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

4.

Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd 24 Tachwedd 2022 pdf eicon PDF 83 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion cyfarfodydd y Cyngor a gynhaliwyd ar 24ain Tachwedd 2022  fel rhai cywir.

5.

Penodi Aelod i Gyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda pdf eicon PDF 99 KB

Cofnodion:

Nododd y Cynghorydd Ifan Davies, Cadeirydd y Cyngor fod y Cynghorwyr Elizabeth Evans, Amanda Edwards ac Wyn Evans wedi eu penodi i Gyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda 20 Mai 2022. Roedd y Cynghorydd Wyn Evans wedi gofyn am gael tynnu'n ôl o Gyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda, felly gofynnwyd i'r Cyngor enwebu Aelod arall i ymgymryd â'r rôl hon.

 

Enwebodd y Cynghorydd Elizabeth Evans y Cynghorydd Elaine Evans, a eiliwyd gan y Cynghorydd Bryan Davies.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD yn unfrydol penodi’r Cynghorydd Elaine Evans i gynrychioli Cyngor Sir Ceredigion ar Gyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda.

6.

Penodi'r Cynghorydd Rhodri Evans i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Cynghorydd Ifan Davies, Cadeirydd y Cyngor fod y Cyngor wedi enwebu 2 gynrychiolydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac yn dilyn proses ddethol, cafodd y Cynghorydd Rhodri Evans gadarnhad o’i benodiad gan Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i wasanaethu fel Aelod Annibynnol am gyfnod o 4 blynedd.

 

Nododd Eifion Evans, Prif Weithredwr, pa mor bwysig yw hi i Geredigion gael llais ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a llongyfarchodd ef ar ei benodiad.  Ategwyd hyn gan y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor.  Diolchodd y Cynghorydd Rhodri Evans i bawb am eu geiriau caredig, ac i'r holl Gynghorwyr am ei enwebu.

 

Nodwyd, gan y Cyngor, benodiad y Cynghorydd Rhodri Evans i Fwrdd Iechyd Hywel Dda fel Aelod Annibynnol (Awdurdod Lleol) am gyfnod o 4 blynedd.

7.

Penodi'r Cynghorydd Carl Worrall i Grŵp Llywio Prosiect Bryngaer Pendinas pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor fod y Cynghorydd Carl Worrall, Aelod Lleol dros Ward Penparcau Aberystwyth wedi’i benodi i Grŵp Llywio Prosiect Bryngaer Pendinas.

 

Nodwyd y penodiad gan y Cyngor.

 

8.

Penodi Aelod (Lleyg) Annibynnol i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf eicon PDF 93 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod y Cabinet dros Bartneriaethau, Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd yr adroddiad gan nodi yn dilyn proses recriwtio bod Mr Andrew Blakemore wedi’i ddewis yn Aelod Annibynnol / Lleyg i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

 

Nodwyd yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor, y byddai’r aelod lleyg newydd yn cael ei benodi am ddim mwy na dau dymor gweinyddol yn olynol, h.y. un tymor i ddechrau, gyda’r opsiwn i ymestyn i ail dymor yn 2027 o 15 Rhagfyr 2022, yn amodol ar eirdaon boddhaol.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo penodi Andrew Blakemore yn Aelod Annibynnol / Lleyg o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

9.

Adroddiad Hunan-Asesu Cyngor Sir Ceredigion 2021/22 pdf eicon PDF 4 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod trefn perfformiad newydd yn seiliedig ar hunanasesiad ar gyfer Prif Gynghorau wedi’i chyflwyno o ganlyniad i Ran 6 Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

Nododd ei bod yn ofynnol i'r Cyngor gyhoeddi Adroddiad Hunanasesu fesul blwyddyn ariannol yn amlinellu i ba raddau y mae'r Cyngor wedi bodloni gofynion perfformiad yn ystod y flwyddyn honno, ac unrhyw gamau y bydd yn eu cymryd, neu eisoes wedi'u cymryd i fodloni'r gofynion perfformiad.  Mae’r hunanasesiad hwn yn cyflawni dyletswyddau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.  Nododd hefyd fod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi adolygu'r adroddiad ar 27 Medi 2022, gan ofyn am fân newidiadau fformatio.

 

Yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor, bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i Weinidogion, Estyn, Archwilydd Cyffredinol Cymru a Phwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r Cyngor ac yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD yn unfrydol cymeradwyo Adroddiad Hunanasesu 2021-22 gan gynnwys yr Adolygiad Blynyddol o Amcanion Perfformiad a Llesiant.

 

10.

Cyflwyno Lwfans Cysgu Mewn a Lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy pdf eicon PDF 130 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad, Pobl a Threfniadaeth yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod datblygu cyfleuster preswyl i blant sy’n cael ei redeg gan y Cyngor wedi ysgogi adolygiad o drefniadau lwfansau ar gyfer staff mewn lleoliadau preswyl, y gellir hefyd eu defnyddio o bryd i’w gilydd yng nghartrefi gofal preswyl y Cyngor i oedolion yn ystod cyfnodau o dywydd garw er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth.

 

Nododd hefyd ei bod yn ddyletswydd statudol ar y Cyngor i gael Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy ar ddyletswydd bob amser. Mae Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy yn Weithwyr Cymdeithasol sydd â chymwysterau a chymeradwyaeth briodol sy’n gyfrifol am y cydlynu a’r penderfyniad terfynol ynghylch asesiad Iechyd Meddwl unigolyn. Lle bo angen, bydd hyn yn cynnwys derbyn yr unigolyn i’r ysbyty os yw i gael ei anfon i ysbyty’r meddwl fel yr amlinellir yn Neddf Iechyd Meddwl 2007.  I gydnabod y cyfrifoldeb, y rôl a'r sylfaen sgiliau angenrheidiol wrth gyflawni dyletswyddau Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy, cynigir lwfans ychwanegol.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynglŷn â'r lwfans preswyl os yw'r alwad yn fwy na 30 munud, a chadarnhawyd y byddai cyfradd fesul awr yn berthnasol mewn amgylchiadau o'r fath.  Gofynnodd yr Aelodau hefyd a oes gan Gyngor Sir Ceredigion ddigon o staff sydd wedi cymhwyso fel Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy i gyflawni'r dyletswyddau a nodwyd, a chadarnhawyd bod recriwtio wedi bod yn llwyddiannus ond y bydd angen cwblhau'r hyfforddiant perthnasol.