Agenda a Chofnodion

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Rhodri Evans am nad oedd modd iddo fod yn bresennol yn y cyfarfod am ei fod ar ddyletswydd arall ar ran y Cyngor.

 

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Marc Davies, Elaine Evans, Paul Hinge a Carl Worrall am nad oedd modd iddynt fod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Ymddiheurodd James Starbuck, Cyfarwyddwr Corfforaethol, am nad oedd modd iddo fod yn bresennol yn y cyfarfod.

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd dim buddiannau personol neu fuddiannau a oedd yn rhagfarnu.

3.

Materion Personol

Cofnodion:

a)    Dymunodd y Cynghorydd Ifan Davies yn dda i dîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd;

b)    Bu i’r Cynghorydd Ifan Davies longyfarch Aled Lewis ar ennill gwobr NFU Cymru, Ffermwr Cynaliadwy’r Flwyddyn;

c)    Bu i’r Cynghorydd Bryan Davies longyfarch Sefydliad y Merched Mydroilyn ar eu canmlwyddiant eleni;

d)    Bu i’r Cynghorydd Bryan Davies longyfarch Clybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion ar ennill Eisteddfod Genedlaethol CFfI yn Abergwaun.  Ategwyd hyn gan y Cynghorydd Gareth Lloyd;

e)    Bu i’r Cynghorydd Gareth Lloyd longyfarch Clwb Ffermwyr Ifanc Pontsiân, y clwb buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol CFfI yn Abergwaun.  Ategwyd hyn gan y Cynghorydd Maldwyn Lewis;

f)      Bu i’r Cynghorydd Gareth Lloyd longyfarch Dion Evans ar ei lwyddiannau niferus gan gynnwys ei wobrwyo’n brentis saer coed gorau Cymru ac yn ail am y prentis gorau yng Nghymru am y flwyddyn ar draws y categorïau i gyd;

g)    Bu i’r Cynghorydd Euros Davies longyfarch Peggy Jones ar ddathlu ei phen-blwydd yn 101;

h)    Bu i’r Cynghorydd Euros Davies longyfarch Melanie Thomas ar gael ei dewis i gynrychioli Cymru mewn twrnameint Bowls yn Seland Newydd;

i)      Bu i’r Cynghorydd Euros Davies longyfarch Ceri Jones ar gael ei ddewis i gynrychioli Cymru mewn twrnameint Bowls yn Seland Newydd;

j)      Cydymdeimlodd y Cynghorydd Elizabeth Evans â’r Cynghorydd John Roberts ar golli ei chwaer yn ddiweddar;

k)    Cydymdeimlodd y Cynghorydd Catrin M S Davies â theulu Elvey McDonald ar eu profedigaeth;

l)      Bu i’r Cynghorydd Meirion Davies longyfarch Tom a Beth Evans o Lanfihangel y Creuddyn sydd wedi arallgyfeirio i dyfu pwmpenni ar eu fferm ac wedi cael llwyddiant yn eu blwyddyn gyntaf;

m)  Bu i’r Cynghorydd Gareth Davies longyfarch Dr Hannah Hunt o Filfeddygfa Ystwyth ar ennill Milfeddyg Ifanc y Flwyddyn 2022 dros Brydain;

n)    Bu i’r Cynghorydd Steve Davies longyfarch RNLI Aberystwyth ar ddathlu blynyddoedd lawer o wasanaeth;

o)    Dymunodd y Cynghorydd Bryan Davies yn dda i Dîm Pysgota Merched Cymru a’u rheolwr, y Cynghorydd Carl Worrall, yng nghystadleuaeth bysgota’r byd yn Tunisia.

4.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd 20 Hydref 2022 pdf eicon PDF 112 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2022 yn gywir, yn amodol ar y newid canlynol:

a)    nodi bod y Cynghorydd Sian Maehrlein wedi ymddiheuro am nad oedd modd iddi fod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

5.

I ystyried y Strategaeth Gorfforaethol Ddrafft 2022-27 pdf eicon PDF 7 MB

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor, gyflwyno Strategaeth Gorfforaethol 2022-27 y Cyngor gan gynnwys yr Amcanion Llesiant Corfforaethol, gan nodi ei bod yn gosod allan amcanion y Cyngor ar gyfer y pum mlynedd nesaf.  Mae’r Strategaeth yn dangos sut bydd y Cyngor yn ceisio gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol trigolion a chymunedau Ceredigion.

 

Mae’r Amcanion Corfforaethol yn cynnwys Hybu’r Economi, Cefnogi Busnesau a Galluogi Cyflogaeth; Creu Cymunedau Gofalgar ac Iach; Darparu’r Dechrau Gorau mewn Bywyd a Galluogi Pobl o Bob Oed i Ddysgu; a Chreu Cymunedau Cynaliadwy a Gwyrdd sydd wedi’u Cysylltu’n Dda â’i gilydd.

 

Nododd y Cynghorydd Bryan Davies fod y Strategaeth wedi ystyried maniffestos pob grŵp a diolchodd i'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu am eu gwaith a'r argymhellion a wnaed i'r Cabinet.

 

Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD yn unfrydol i:

1)    Gytuno ar Strategaeth Gorfforaethol 2022-2027 gan gynnwys yr Amcanion Llesiant Corfforaethol;

2)    Bod yr Aelodau’n cymeradwyo Strategaeth Gorfforaethol 2022-27 er mwyn ei chyhoeddi ar wefan y Cyngor ynghyd â chopïau caled mewn llyfrgelloedd a swyddfeydd cyhoeddus.

6.

I ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael ar Ddiweddariad i'r Datganiad Cyfrifon 2021-22 pdf eicon PDF 115 KB

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Gareth Davies, Aelod Cabinet dros Gyllid a Chaffael, gyflwyno’r adroddiad i’r Cyngor gan nodi fod Cyfrifon 2021-22 i fod i gael eu cyflwyno gerbron y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 17 Tachwedd 2022.  Fodd bynnag, oherwydd mater technegol ar lefel y Deyrnas Unedig ynghylch cyfrifyddu a’r gofynion cysylltiedig o ran nodiadau datgelu, roedd Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at bob Awdurdod Lleol i ymestyn y terfyn amser i 31 Ionawr 2023 tra eu bod yn llunio deddfwriaeth ddatganoledig i ddarparu sicrwydd statudol.  Cytunwyd, ar y cyd ag Archwilio Cymru a’r swyddogion perthnasol, i ohirio adrodd ar Ddatganiad Cyfrifon 2021/22 tan fis Ionawr.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Davies y byddai Datganiad Cyfrifon 2021-22 yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 19 Ionawr 2023 ac i’r Cyngor ar 26 Ionawr 2023.

 

Nododd y Cyngor y diweddariad a roddwyd ynghylch Datganiad Cyfrifon 2021-22 (gan gynnwys Cyfrifon yr Harbyrau 2021-22).

7.

I ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ar Adroddiad Blynyddol Canmolaeth, Cwynion a Cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth 2021-22 pdf eicon PDF 707 KB

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd ac Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth, gyflwyno’r adroddiad ynghyd â Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i’r Cyngor. Nododd mai dyma’r trydydd adroddiad yn olynol lle na chafodd dim ymchwiliadau eu cychwyn na dim adroddiadau ffurfiol eu cyhoeddi gan yr Ombwdsmon mewn perthynas â chwynion a wnaed yn erbyn y Cyngor.  Fodd bynnag, mae angen ystyried sut mae negeseuon o ganmoliaeth yn cael eu cofnodi. Hefyd bu cynnydd yn nifer y cwynion sy'n cael eu cyfeirio at yr Ombwdsmon, sy'n adlewyrchu'r gwelliant wrth ymgysylltu â'r cyhoedd.

 

Cafodd Adroddiad Blynyddol Canmoliaeth, Cwynion a Cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth 2021-22 a Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2021-22 eu nodi gan y Cyngor.

 

8.

I ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd ar Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2021-22 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Bu i Gadeirydd y Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu, y Cynghorydd Keith Evans, gyflwyno’r adroddiad i'r Cyngor, gan nodi bod yr adroddiad yn tynnu sylw at y materion allweddol a ystyriwyd gan yr holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn ystod 2021-22.  Diolchodd i Gadeiryddion yr holl bwyllgorau am eu gwaith caled ac i’r Swyddogion am baratoi'r adroddiadau.

 

Diolchodd y Cynghorydd Bryan Davies i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu gan nodi gwerth eu cyfraniadau i’r Cabinet. Mynegodd y Cynghorydd Keith Evans ei bryderon am yr anawsterau gyda’r system hybrid gan bwysleisio mor bwysig yw datrys hyn cyn gynted â phosib.

 

Cafodd y wybodaeth a oedd yn yr adroddiad a maint y gwaith a gyflawnwyd yn ystod 2021/2022 eu nodi gan y Cyngor.

 

 

9.

I ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth Gofal ar Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad Gorllewin Ceredigion pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet ar gyfer Gydol Oes a Llesiant, gyflwyno’r adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod yr adroddiad yn asesu digonolrwydd y gwasanaethau gofal a chymorth ynghyd â pha mor sefydlog yw’r gwasanaethau a reoleiddir gan Arolygiaeth Gofal Cymru.  Cafodd yr adroddiad terfynol ei gymeradwyo gan y Cabinet ar 6 Hydref 2022. 

 

Nododd yr Aelodau y byddai’n fuddiol i bwyllgor craffu ystyried yr adroddiad.

 

Cafodd y wybodaeth a oedd yn yr adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad yng Ngorllewin Cymru ei nodi gan y Cyngor.

 

10.

I ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth Gofal ar Asesiad Anghenion Poblogaeth Gorllewin Cymru pdf eicon PDF 9 MB

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet ar gyfer Gydol Oes a Llesiant, gyflwyno’r adroddiad i’r Cyngor gan nodi fod yr adroddiad yn darparu asesiad o’r angen am ofal a chymorth ac anghenion cymorth gofalwyr, ac am y gwasanaethau sydd eu hangen i fodloni’r anghenion hyn, y gwasanaethau ataliol sydd eu hangen, a sut y darperir y gwasanaethau hyn drwy gyfrwng y Gymraeg.  Cafodd yr adroddiad terfynol ei gyflwyno i'r Cabinet ar 6 Hydref 2022. 

 

Nododd yr Aelodau y byddai’n fuddiol i bwyllgor craffu ystyried yr adroddiad.

 

Cafodd y wybodaeth a oedd yn adroddiad yr Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gorllewin Cymru ei nodi gan y Cyngor.

11.

I ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd ar Apwyntio Aelodau'r Cyngor i Bwyllgorau'r Cyngor ar gyfer gweddill y Flwyddyn Fwrdeisdrefol 2022-23 pdf eicon PDF 78 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau aelodau Pwyllgorau'r Cyngor fel y’u cyflwynwyd yn y cyfarfod, ar yr amod y newidir y dudalen gyntaf i nodi bod 21 Aelod o Blaid Cymru a 9 Aelod Annibynnol.