Cyswllt: Nia Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorydd Rhodri Evans am nad oedd modd
iddo fod yn bresennol yn y cyfarfod am ei fod ar ddyletswydd arall ar ran y
Cyngor. Ymddiheurodd y Cynghorwyr Marc Davies, Elaine Evans, Paul
Hinge a Carl Worrall am nad oedd modd iddynt fod yn bresennol yn y cyfarfod. Ymddiheurodd James Starbuck, Cyfarwyddwr Corfforaethol,
am nad oedd modd iddo fod yn bresennol yn y cyfarfod. |
|
Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Ni ddatgelwyd dim buddiannau personol neu fuddiannau a
oedd yn rhagfarnu. |
|
Materion Personol Cofnodion: a) Dymunodd y Cynghorydd Ifan Davies yn dda i dîm
pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd; b) Bu i’r Cynghorydd Ifan Davies longyfarch Aled Lewis
ar ennill gwobr NFU Cymru, Ffermwr Cynaliadwy’r Flwyddyn; c) Bu i’r Cynghorydd Bryan Davies longyfarch Sefydliad
y Merched Mydroilyn ar eu canmlwyddiant eleni; d) Bu i’r Cynghorydd Bryan Davies longyfarch Clybiau
Ffermwyr Ifanc Ceredigion ar ennill Eisteddfod Genedlaethol CFfI yn Abergwaun.
Ategwyd hyn gan y Cynghorydd Gareth Lloyd; e) Bu i’r Cynghorydd Gareth Lloyd longyfarch Clwb
Ffermwyr Ifanc Pontsiân, y clwb buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol CFfI yn
Abergwaun. Ategwyd hyn gan y Cynghorydd Maldwyn Lewis; f) Bu i’r Cynghorydd Gareth Lloyd longyfarch Dion
Evans ar ei lwyddiannau niferus gan gynnwys ei wobrwyo’n brentis saer coed
gorau Cymru ac yn ail am y prentis gorau yng Nghymru am y flwyddyn ar draws y
categorïau i gyd; g) Bu i’r Cynghorydd Euros Davies longyfarch Peggy
Jones ar ddathlu ei phen-blwydd yn 101; h) Bu i’r Cynghorydd Euros Davies longyfarch Melanie
Thomas ar gael ei dewis i gynrychioli Cymru mewn twrnameint Bowls yn Seland
Newydd; i) Bu i’r Cynghorydd Euros Davies longyfarch Ceri
Jones ar gael ei ddewis i gynrychioli Cymru mewn twrnameint Bowls yn Seland
Newydd; j) Cydymdeimlodd y Cynghorydd Elizabeth Evans â’r
Cynghorydd John Roberts ar golli ei chwaer yn ddiweddar; k) Cydymdeimlodd y Cynghorydd Catrin M S Davies â
theulu Elvey McDonald ar eu profedigaeth; l) Bu i’r Cynghorydd Meirion Davies longyfarch Tom a
Beth Evans o Lanfihangel y Creuddyn sydd wedi arallgyfeirio i dyfu pwmpenni ar
eu fferm ac wedi cael llwyddiant yn eu blwyddyn gyntaf; m) Bu i’r Cynghorydd Gareth Davies longyfarch Dr Hannah Hunt
o Filfeddygfa Ystwyth ar ennill Milfeddyg Ifanc y Flwyddyn 2022 dros Brydain; n) Bu i’r Cynghorydd Steve Davies longyfarch RNLI
Aberystwyth ar ddathlu blynyddoedd lawer o wasanaeth; o) Dymunodd y Cynghorydd Bryan Davies yn dda i Dîm Pysgota
Merched Cymru a’u rheolwr, y Cynghorydd Carl Worrall, yng nghystadleuaeth
bysgota’r byd yn Tunisia. |
|
Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd 20 Hydref 2022 PDF 112 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a
gynhaliwyd ar 20 Hydref 2022 yn gywir, yn amodol ar y newid canlynol: a) nodi bod y Cynghorydd Sian Maehrlein wedi
ymddiheuro am nad oedd modd iddi fod yn bresennol yn y cyfarfod. |
|
I ystyried y Strategaeth Gorfforaethol Ddrafft 2022-27 PDF 7 MB Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor,
gyflwyno Strategaeth Gorfforaethol 2022-27 y Cyngor gan gynnwys yr Amcanion
Llesiant Corfforaethol, gan nodi ei bod yn gosod allan amcanion y Cyngor ar
gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae’r Strategaeth yn dangos sut bydd y Cyngor
yn ceisio gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol
trigolion a chymunedau Ceredigion. Mae’r Amcanion Corfforaethol yn cynnwys Hybu’r Economi,
Cefnogi Busnesau a Galluogi Cyflogaeth; Creu Cymunedau Gofalgar ac Iach;
Darparu’r Dechrau Gorau mewn Bywyd a Galluogi Pobl o Bob Oed i Ddysgu; a Chreu
Cymunedau Cynaliadwy a Gwyrdd sydd wedi’u Cysylltu’n Dda â’i gilydd. Nododd y Cynghorydd Bryan Davies fod y Strategaeth wedi
ystyried maniffestos pob grŵp a diolchodd i'r Pwyllgorau Trosolwg a
Chraffu am eu gwaith a'r argymhellion a wnaed i'r Cabinet. Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD yn unfrydol i: 1) Gytuno ar Strategaeth Gorfforaethol 2022-2027 gan
gynnwys yr Amcanion Llesiant Corfforaethol; 2) Bod yr Aelodau’n cymeradwyo Strategaeth Gorfforaethol 2022-27 er mwyn ei chyhoeddi ar wefan y Cyngor ynghyd â chopïau caled mewn llyfrgelloedd a swyddfeydd cyhoeddus. |
|
Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Gareth Davies, Aelod Cabinet dros
Gyllid a Chaffael, gyflwyno’r adroddiad i’r Cyngor gan nodi fod Cyfrifon
2021-22 i fod i gael eu cyflwyno gerbron y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
ar 17 Tachwedd 2022. Fodd bynnag, oherwydd mater technegol ar lefel y
Deyrnas Unedig ynghylch cyfrifyddu a’r gofynion cysylltiedig o ran nodiadau
datgelu, roedd Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at bob Awdurdod Lleol i
ymestyn y terfyn amser i 31 Ionawr 2023 tra eu bod yn llunio deddfwriaeth
ddatganoledig i ddarparu sicrwydd statudol.
Cytunwyd, ar y cyd ag Archwilio Cymru a’r
swyddogion perthnasol, i ohirio adrodd ar Ddatganiad Cyfrifon 2021/22 tan fis
Ionawr. Cadarnhaodd y Cynghorydd Davies y byddai Datganiad
Cyfrifon 2021-22 yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar
19 Ionawr 2023 ac i’r Cyngor ar 26 Ionawr 2023. Nododd y Cyngor y diweddariad a roddwyd ynghylch
Datganiad Cyfrifon 2021-22 (gan gynnwys Cyfrifon yr Harbyrau 2021-22). |
|
Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd ac Aelod
Cabinet dros y Gwasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a
Threfniadaeth, gyflwyno’r adroddiad ynghyd â Llythyr Blynyddol Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i’r Cyngor. Nododd mai dyma’r trydydd adroddiad yn
olynol lle na chafodd dim ymchwiliadau eu cychwyn na dim adroddiadau ffurfiol
eu cyhoeddi gan yr Ombwdsmon mewn perthynas â chwynion a wnaed yn erbyn y Cyngor.
Fodd bynnag, mae angen ystyried sut mae negeseuon o ganmoliaeth yn cael eu
cofnodi. Hefyd bu cynnydd yn nifer y cwynion sy'n cael eu cyfeirio at yr
Ombwdsmon, sy'n adlewyrchu'r gwelliant wrth ymgysylltu â'r cyhoedd. Cafodd Adroddiad Blynyddol Canmoliaeth, Cwynion a
Cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth 2021-22 a Llythyr Blynyddol Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2021-22 eu nodi gan y Cyngor. |
|
Cofnodion: Bu i Gadeirydd y Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu, y
Cynghorydd Keith Evans, gyflwyno’r adroddiad i'r Cyngor, gan nodi bod yr
adroddiad yn tynnu sylw at y materion allweddol a ystyriwyd gan yr holl
Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn ystod 2021-22. Diolchodd i Gadeiryddion
yr holl bwyllgorau am eu gwaith caled ac i’r Swyddogion am baratoi'r
adroddiadau. Diolchodd y Cynghorydd Bryan Davies i’r Pwyllgorau
Trosolwg a Chraffu gan nodi gwerth eu cyfraniadau i’r Cabinet. Mynegodd y
Cynghorydd Keith Evans ei bryderon am yr anawsterau gyda’r system hybrid gan
bwysleisio mor bwysig yw datrys hyn cyn gynted â phosib. Cafodd y wybodaeth a oedd yn yr adroddiad a maint y
gwaith a gyflawnwyd yn ystod 2021/2022 eu nodi gan y Cyngor. |
|
Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet ar gyfer
Gydol Oes a Llesiant, gyflwyno’r adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod yr adroddiad
yn asesu digonolrwydd y gwasanaethau gofal a chymorth ynghyd â pha mor sefydlog
yw’r gwasanaethau a reoleiddir gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Cafodd yr
adroddiad terfynol ei gymeradwyo gan y Cabinet ar 6 Hydref 2022. Nododd yr Aelodau y byddai’n fuddiol i bwyllgor craffu
ystyried yr adroddiad. Cafodd y wybodaeth a oedd yn yr adroddiad ar
Sefydlogrwydd y Farchnad yng Ngorllewin Cymru ei nodi gan y Cyngor. |
|
Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet ar gyfer
Gydol Oes a Llesiant, gyflwyno’r adroddiad i’r Cyngor gan nodi fod yr adroddiad
yn darparu asesiad o’r angen am ofal a chymorth ac anghenion cymorth gofalwyr,
ac am y gwasanaethau sydd eu hangen i fodloni’r anghenion hyn, y gwasanaethau
ataliol sydd eu hangen, a sut y darperir y gwasanaethau hyn drwy gyfrwng y
Gymraeg. Cafodd yr adroddiad terfynol ei gyflwyno i'r Cabinet ar 6 Hydref
2022. Nododd yr Aelodau y byddai’n fuddiol i bwyllgor craffu
ystyried yr adroddiad. Cafodd y wybodaeth a oedd yn adroddiad yr Asesiad o
Anghenion Poblogaeth Gorllewin Cymru ei nodi gan y Cyngor. |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau aelodau Pwyllgorau'r Cyngor fel y’u
cyflwynwyd yn y cyfarfod, ar yr amod y newidir y dudalen gyntaf i nodi bod 21
Aelod o Blaid Cymru a 9 Aelod Annibynnol. |