Agenda a Chofnodion

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Rhodri Davies, Dafydd Edwards, Endaf Edwards, Elaine Evans, Paul Hinge, Maldwyn Lewis, Hag Harris, Alun Lloyd Jones, Lyndon Lloyd MBE, Rowland Rees-Evans, John Roberts, Mark Strong, Lynford Thomas a Matthew Woolfall Jones

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhw fuddiannau

3.

Materion Personol

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion personol

4.

EITEM EITHRIEDIG

Nid yw’r adroddiad (Papur B) ar yr eitem isod ar gael i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 12 a 13 o ran 4 o atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, yn unol ag Adran 100B(2) y Ddeddf ac ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd a’r wasg eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno.

 

Wrth ddelio â’r eitem hyn, gofynnir i’r Aelodau ystyried a ydynt am gau’r cyhoedd a’r wasg allan o’r Cyfarfod.

 

Cofnodion:

Nid yw'r adroddiad sy'n ymwneud ag eitem 5 ar yr agenda (Papur B) i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym mharagraffau 12 a 13 Rhan 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor, ar ôl cymhwyso'r Prawf Budd Cyhoeddus, yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, bydd y cyhoedd a'r wasg yn cael eu heithrio o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath, yn unol ag Adran 100B(2) o'r Ddeddf.

 

Gofynnwyd i aelodau ystyried a oedd y cyhoedd a’r wasg i’w heithrio o’r cyfarfod, wrth i’r eitem hon gael ei thrafod.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd a’r wasg o’r cyfarfod wrth ystyried eitem 5 isod, yn seiliedig ar y ffaith fod y cais yn cynnwys gwybodaeth bersonol na ddylid, at ei gilydd, ei datgelu i’r cyhoedd a’r wasg.  

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd na fyddai’r cyfarfod yn cael ei ddarlledu yn ystod eitem 5 isod.

5.

Swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol pdf eicon PDF 5 MB

Cofnodion:

Gwrandawodd y Cyngor ar gyflwyniadau gan yr ymgeiswyr hynny a roddwyd ar y rhestr fer i lenwi swydd wag y Cyfarwyddwr Corfforaethol a gwrandawyd arnynt hefyd yn ymateb i gwestiynau penodol.   Darparwyd adborth hefyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Rhestr Fer a’r Prif Weithredwr. 

 

Rhoddwyd ystyriaeth i’r cyflog a fyddai’n cael ei gynnig.  Nodwyd bod y canllaw yn nogfen Llywodraeth Cymru “Atebolrwydd Cyflog o fewn Llywodraeth Leol” yn argymell rhoi cyfle i’r Cyngor bleidleisio ar becynnau cyflog £100,000 neu drosodd. 

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD cynnig y swydd ar gyflog o £97,294, sef y pwynt cynyddrannol cyntaf ar raddfa gyflog y Cyfarwyddwr Corfforaethol. 

 

PENDERFYNODD y Cyngor fyfyrio ar y cyfweliadau dros nos ac ailymgynnull am 12.30pm, ddydd Gwener, 22 Hydref 2021.  

 

Ailalwyd y cyfarfod ddydd Gwener, 22 Hydref 2021 drwy fideogynadledda.

 

Gweithdrefn

Atgoffodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol fod y cyhoedd a’r wasg i gael eu heithrio tra oedd yr eitem isod yn cael ei thrafod, yn seiliedig ar y ffaith bod y cais yn cynnwys gwybodaeth bersonol na ddylid, at ei gilydd,  ei datgelu i’r cyhoedd a’r wasg.

 

Yn dilyn pleidlais gudd, yn unol â’r Rheolau Sefydlog, PENDERFYNWYD cynnig y swydd i Mr James Starbuck. 

 

Yna ailymunodd yr ymgeisydd llwyddiannus â’r cyfarfod ac yn dilyn y cynnig a wnaed iddo, derbyniodd Mr James Starbuck y swydd ar gyflog o £97,294, sef y pwynt cynyddrannol cyntaf ar raddfa gyflog y Cyfarwyddwr Corfforaethol, gan ddechrau ar 1 Ionawr 2022 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny ac yn amodol ar y camau angenrheidiol cyn cyflogi. 

 

Yna, gwahoddwyd y cyhoedd a’r wasg i ymuno â’r cyfarfod.  Cadarnhaodd y Cadeirydd fod hawl bellach gan y cyhoedd a’r wasg i ymuno â’r cyfarfod.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd i Mr. James Starbuck gael cynnig y swydd ac iddo ei derbyn, gan ddechrau ar bwynt cynyddrannol cyntaf graddfa gyflog y Cyfarwyddwr Corfforaethol, sef £97,294, gan ddechrau ar 1 Ionawr 2022 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny.