Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Arbennig, Cyngor - Dydd Llun, 27ain Medi, 2021 2.00 pm

Cyswllt: Lowri Edwards 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr John Adams-Lewis, Ceredig Davies, Endaf Edwards, Rhodri Evans, Alun Lloyd Jones a Mark Strong am na allent fod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Ymddiheurodd y Cynghorydd Alun Williams am na allai fod yn bresennol yn y cyfarfod am ei fod yn ymgymryd â dyletswyddau eraill yn ymwneud â’r Cyngor. 

 

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau. 

3.

Materion Personol

Cofnodion:

Dim

4.

EITEM EITHRIEDIG

Nid yw’r adroddiad (Papur B) ar yr eitem isod ar gael i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 12 a 13 o ran 4 o atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, yn unol ag Adran 100B(2) y Ddeddf ac ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd a’r wasg eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno.

 

Wrth ddelio â’r eitem hyn, gofynnir i’r Aelodau ystyried a ydynt am gau’r cyhoedd a’r wasg allan o’r Cyfarfod.

Cofnodion:

EITEM EITHRIEDIG

Nid yw’r adroddiad yn ymwneud ag eitem 5 ar yr agenda, sef Atodiad B, ar gael i'w gyhoeddi, gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraffau 12 a 13, Rhan 4, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)(Amrywio)(Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, yn unol ag Adran 100B(2) y Ddeddf ac ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd a’r wasg eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno.

 

Gofynnwyd i'r Aelodau, wrth ddelio â'r eitem, ystyried a ddylid gwahardd y cyhoedd a’r wasg o'r Cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD eithrio'r cyhoedd a'r wasg wrth ystyried eitem 5 isod, ar y sail bod y cais yn cynnwys gwybodaeth bersonol na ddylai, ar y cyfan, gael ei datgelu i'r cyhoedd a'r wasg. Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai'r gweddarlledu yn cael ei atal yn ystod eitem 5 isod.

5.

Swydd - Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Pobl a Threfniadaeth pdf eicon PDF 4 MB

Cofnodion:

Cafodd y Cyngor gyflwyniad ac ymateb i gwestiynau penodol gan yr ymgeiswyr, a oedd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y swydd wag Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Pobl a Threfniadaeth. Darparwyd adborth hefyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Rhestr Fer a'r Prif Weithredwr.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD cynnig y swydd i Mr G V Edwards.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i'r cyflog a fyddai'n cael ei gynnig. Cynigiwyd ac eiliwyd y dylid cynnig y swydd ar yr ail bwynt cynyddrannol ar raddfa gyflog A1 y Swyddogion Arweiniol Corfforaethol, gan fod yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd â'r rôl dros dro ar hyn o bryd ac eisoes wedi symud i ail bwynt cynyddrannol y raddfa gyflog.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD y dylid cynnig y swydd ar gyflog o £73,837, yr ail bwynt cynyddrannol ar raddfa gyflog A1 y Swyddogion Arweiniol Corfforaethol.

 

Derbyniodd Mr G V Edwards y swydd, ar ôl cael ei chynnig, ar gyflog o £73,837, sydd ar ail bwynt cynyddrannol graddfa gyflog A1 y Swyddogion Arweiniol Corfforaethol, a hynny’n weithredol o 14 Rhagfyr 2021.

 

Yna gwahoddwyd y cyhoedd a’r wasg i ymuno â’r cyfarfod.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod Mr G V Edwards wedi cael cynnig y swydd a’i fod wedi’i derbyn, gan ddechrau ar yr ail bwynt cynyddrannol ar raddfa gyflog A1 y Swyddogion Arweiniol Corfforaethol, i ddechrau ar 14 Rhagfyr 2021.