Cyswllt: Lowri Edwards
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y
Cynghorwyr John Adams-Lewis, Ceredig Davies, Endaf Edwards, Rhodri Evans, Alun Lloyd Jones a Mark Strong am na
allent fod yn bresennol yn y cyfarfod. Ymddiheurodd y
Cynghorydd Alun Williams am na allai fod yn bresennol yn y cyfarfod
am ei fod yn ymgymryd â dyletswyddau eraill yn ymwneud â’r Cyngor. |
|
Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Ni ddatgelwyd
unrhyw fuddiannau. |
|
Materion Personol Cofnodion: Dim |
|
EITEM EITHRIEDIG Nid yw’r adroddiad (Papur B) ar yr eitem isod ar gael i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 12 a 13 o ran 4 o atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, yn unol ag Adran 100B(2) y Ddeddf ac ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd a’r wasg eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno. Wrth ddelio â’r eitem hyn, gofynnir i’r Aelodau ystyried a ydynt am gau’r cyhoedd a’r wasg allan o’r Cyfarfod. Cofnodion: EITEM EITHRIEDIG Nid yw’r adroddiad yn ymwneud ag eitem 5 ar yr agenda, sef Atodiad B, ar
gael i'w gyhoeddi, gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i
diffiniwyd ym mharagraffau 12 a 13, Rhan 4, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol
1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at
Wybodaeth)(Amrywio)(Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr
eitem hon yn breifat, yn unol ag Adran 100B(2) y Ddeddf ac ar ôl cynnal prawf
budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd a’r wasg eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y
drafodaeth honno. Gofynnwyd i'r
Aelodau, wrth ddelio â'r eitem, ystyried a ddylid gwahardd y cyhoedd a’r wasg
o'r Cyfarfod. PENDERFYNWYD eithrio'r
cyhoedd a'r wasg wrth ystyried eitem 5 isod, ar y sail bod y cais yn cynnwys
gwybodaeth bersonol na ddylai, ar y cyfan, gael ei datgelu i'r cyhoedd a'r
wasg. Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai'r gweddarlledu yn cael ei atal yn ystod
eitem 5 isod. |
|
Swydd - Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Pobl a Threfniadaeth PDF 4 MB Cofnodion: Cafodd y Cyngor gyflwyniad ac ymateb i gwestiynau
penodol gan yr ymgeiswyr, a oedd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y swydd
wag Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Pobl a Threfniadaeth. Darparwyd adborth hefyd
gan Gadeirydd y Pwyllgor Rhestr Fer a'r Prif Weithredwr. Yn dilyn pleidlais,
PENDERFYNWYD cynnig y swydd i Mr G V Edwards. Rhoddwyd ystyriaeth i'r
cyflog a fyddai'n cael ei gynnig. Cynigiwyd ac eiliwyd y dylid cynnig y swydd
ar yr ail bwynt cynyddrannol ar raddfa gyflog A1 y Swyddogion Arweiniol
Corfforaethol, gan fod yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd â'r rôl dros dro
ar hyn o bryd ac eisoes wedi symud i ail bwynt cynyddrannol y raddfa gyflog. Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD y dylid cynnig y swydd ar gyflog o £73,837, yr ail bwynt cynyddrannol ar raddfa gyflog A1 y Swyddogion Arweiniol Corfforaethol. Derbyniodd Mr G V Edwards y swydd, ar ôl cael ei chynnig, ar gyflog o £73,837, sydd ar ail bwynt cynyddrannol graddfa gyflog A1 y Swyddogion Arweiniol Corfforaethol, a hynny’n weithredol o 14 Rhagfyr 2021. Yna gwahoddwyd y cyhoedd a’r wasg i ymuno â’r cyfarfod. Cadarnhaodd y Cadeirydd fod Mr G V Edwards wedi cael cynnig y swydd a’i fod wedi’i derbyn, gan ddechrau ar yr ail bwynt cynyddrannol ar raddfa gyflog A1 y Swyddogion Arweiniol Corfforaethol, i ddechrau ar 14 Rhagfyr 2021. |