Agenda a Chofnodion

Cyngor - Dydd Iau, 25ain Tachwedd, 2021 2.00 pm

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Bryan Davies, Rhodri Davies, Elaine Evans, Hag Harris, Maldwyn Lewis, Rowland Rees-Evans a Mark Strong am nad oedd modd iddynt fod yn bresennol yn y cyfarfod.

Ymddiheurodd y Cynghorydd Alun Williams am nad oedd modd iddo fod yn bresennol am ei fod yn cyflawni dyletswyddau eraill ar ran y Cyngor.

Ymddiheurodd y Cynghorydd Rhodri Evans oherwydd byddai’n ymuno â’r cyfarfod yn hwyrach.

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol na buddiant sy’n rhagfarnu.

3.

Materion Personol

Cofnodion:

a)    Talodd y Cynghorydd Ray Quant deyrnged i bawb a fu'n rhan o'r ymgyrch i newid y penderfyniad i israddio'r bad achub yng Ngheinewydd, gan nodi y bydd bad achub bob tywydd ar gael bellach yng Ngheinewydd yn dilyn adolygiad. Nododd y Cynghorydd Dan Potter, sydd hefyd yn llywiwr ar fad achub Ceinewydd, bwysigrwydd yr orsaf hon. Diolchodd i griw'r bad achub a'r gorsafoedd cyfagos a gefnogodd yr ymgyrch hon a thraddodiad mwyaf yr RNLI, sef achub bywydau ar y môr.  Hefyd dywedodd y Cynghorydd Elizabeth Evans fod rhoi Cynnig gerbron y Cyngor, a chefnogaeth unfrydol yr Aelodau iddo, wedi arwain at weld yr RNLI yn ‘newid gêr’ yn bendant gan ddangos pa mor effeithiol yw dod â chynigion o'r fath gerbron y Cyngor;

b)    Estynnodd y Cynghorydd Euros Davies ei longyfarchiadau i Glybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion ar Eisteddfod lwyddiannus ym Mhafiliwn Bont ac i bawb a enillodd yn y gwahanol gategorïau gan gynnwys Llanwenog a enillodd y wobr gyntaf, Pontsiân a ddaeth yn ail a chlwb Troedyraur a ddaeth yn drydydd. Twm Ebbsworth enillodd Coron yr Eisteddfod ac Ianto Jones enillodd y Gadair. Aeth Ianto Jones ymlaen i ennill y Gadair dros Gymru gyfan a daeth Twm Ebbsworth yn ail yn y Goron dros Gymru gyfan;

c)    Estynnodd y Cynghorydd Euros Davies ei longyfarchiadau i Eluned Jones ar ennill y Goron ac Martha Evans ar ennill y Gadair yn Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr.

d)    Estynnodd y Cynghorydd Euros Davies ei longyfarchiadau i’r Clybiau Ffermwyr Ifanc ar gael Diwrnod Maes llwyddiannus, a enillwyd gan Glwb Ffermwyr Ifanc Llangwyryfon. Dymunodd yn dda i bawb a fydd yn mynd ymlaen i’r rownd nesaf yn y Ffair Aeaf.

e)    Estynnodd y Cynghorydd Euros Davies ei longyfarchiadau i Dai Thomas o Lanwnnen ar ennill y bustach gorau yn y Ffair Aeaf yn Lloegr, ac i bawb arall a oedd yn llwyddiannus;

f)     Estynnodd y Cynghorydd Meirion Davies ei longyfarchiadau i Glwb Ffermwyr Ifanc Llangwyryfon ar ennill yn y Diwrnod Maes am y seithfed flwyddyn yn olynol, a hynny ar fferm Trawsgoed yn ei Ward;

g)    Estynnodd y Cynghorydd Lyndon Lloyd MBE ei longyfarchiadau i Eluned Jones ar ddathlu ei phen-blwydd yn 102;

h)    Nododd y Cynghorydd John Adams-Lewis fod y gwaith ar y ffordd yn Ystâd Brynhafod bellach wedi'i gwblhau yn sgil cynllun gan Lywodraeth Cymru, a diolchodd i’r Swyddogion am eu cefnogaeth;

i)     Dymunodd y Prif Weithredwr Eifion Evans yn dda i Caroline Lewis, Cyfarwyddwr Corfforaethol, ar ei hymddeoliad a diolchodd iddi am ei gwaith dros y pymtheg mlynedd diwethaf, yn enwedig ei chyfraniad dros y deuddeg mis diwethaf wrth hyrwyddo'r Strategaeth Gydol Oes a Llesiant.  Ategwyd y diolch gan y Cynghorydd Ellen ap Gwynn;

j)     Dymunodd y Cynghorydd Elizabeth Evans yn dda i Amanda Roberts, Rheolwr Corfforaethol Archwilio Mewnol ar ei hymddeoliad a diolchodd iddi am ei gwaith dros y 36 mlynedd diwethaf yn cefnogi ac yn rhoi hyder i’r Pwyllgor Archwilio. Ategwyd y diolch gan y Cynghorydd Ellen ap Gwynn;

k)    Estynnodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn ei llongyfarchiadau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Diweddariad ar lafar gan Arweinydd y Cyngor parthed COVID-19

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn ddiweddariad ar lafar ynghylch COVID-19 yng Ngheredigion.  Nododd fod cyfanswm o 6,330 o achosion wedi’u cofnodi yng Ngheredigion.  Mae mwy o achosion yn awr nag ar ddechrau'r pandemig, ond maen nhw’n dechrau gostwng.

 

Mae'r gyfradd heintio wythnosol bresennol ar gyfer Ceredigion yn 266.9 am bob can mil gyda chyfradd positif o 12.6%, o'i gymharu â Chymru gyfan, sef 499.9 a chyfradd positif o 19%. Ar lefel leol, yn ystod y cyfnod rhwng 14 ac 20 Tachwedd roedd y gyfradd heintio yn 450.6 am bob can mil yn Aberteifi ac Aberporth, gyda 40 o achosion; 270.6 achos am bob can mil yn Beulah, Troed-yr-aur a Llandysul gydag 20 o achosion; 502.1 o achosion am bob can mil yng Ngheinewydd a Phenbryn gyda 33 o achosion; 157.7 achos am bob can mil yn Llanbedr Pont Steffan a Llanfihangel Ystrad gyda 13 achos; 338.2 achos am bob can mil yn Aberaeron a Llanrhystud gyda 24 o achosion; 147.2 achos am bob can mil yn Rheidol, Ystwyth a Charon gydag 17 o achosion; 328.7 achos am bob can mil yn Ne Aberystwyth gyda 22 achos; 113.2 achos am bob can mil yng Ngogledd Aberystwyth gyda 10 achos; a 210.6 achos am bob can mil yn y Borth a Bont-goch gyda 15 achos.  Atgoffwyd pawb fod angen bod yn ofalus o hyd.

 

Nodwyd bod dau achos o COVID-19 yn Ysbyty Bronglais, 29 yn Ysbyty Glangwili, 5 yn Ysbyty'r Tywysog Philip a 12 yn Ysbyty Llwynhelyg a bod y niferoedd hefyd yn disgyn yn ôl pob golwg ym mhob un o ysbytai ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

 

Mae tri o gartrefi gofal y Cyngor wedi'u rhoi yn y categori coch oherwydd yr achosion o COVID-19 ymhlith y staff, ac mae tri wedi'u rhoi yn y categori melyn, oherwydd bod un aelod o staff wedi profi'n bositif.

 

Gwelwyd cynnydd mewn achosion yn yr ysgolion yn dilyn hanner tymor, ond mae’r rhain gryn dipyn yn is yn awr a’r gobaith yw y byddant yn parhau i ostwng rhwng nawr a gwyliau'r Nadolig.

 

Mae'r canolfannau gwastraff bellach yn gweithio yn ôl yr arfer ac mae trefniadau clicio a chasglu ar waith o hyd yn ein llyfrgelloedd. Bydd hyn yn cael ei adolygu yn y Flwyddyn Newydd.

 

Mae gwaith yn mynd rhagddo yng Nghanolfan Hamdden Plascrug, Canolfan Hamdden Aberteifi a Phwll Nofio Llanbedr Pont Steffan. Mae'r gwaith wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl, ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir.

 

Mae’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff o dan oruchwyliaeth feddygol, a fu’n cwrdd ar-lein, yn mynd i ddechrau cwrdd wyneb yn wyneb a chynghorir y cyhoedd i fwrw golwg ar Gynllun Ffordd Ymlaen Ceredigion i gael y diweddaraf am y newidiadau o ran gwasanaethau.

 

 

5.

Cofnodion Cyfarfodydd y Cyngor a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2021 pdf eicon PDF 295 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2021 yn gywir.

6.

Cofnodion Cyfarfod Arbennig y Cyngor a gynhaliwyd 21 Hydref 2021 pdf eicon PDF 193 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod Arbennig y Cyngor a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2021 yn gywir.

7.

Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2020/21 - Diweddariad pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Ray Quant MBE, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu, Pobl a Threfniadaeth a Gwasanaethau Democrataidd, gyflwyno Datganiad Llywodraethu Blynyddol diweddaredig 2020/21 i’r Cyngor, gan nodi fod y Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft wedi’i gymeradwyo gan y Cyngor ar 18 Mawrth 2021 ac wedi’i adolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn gynharach heddiw.

 

Nododd fod dau fân newid wedi’u gwneud i Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol 2020/21 gan gyfeirio at ‘Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021’.  Nid yw Archwilio Cymru wedi argymell newidiadau ond gwnaethpwyd newidiadau i adlewyrchu’r camau sydd wedi’u cymryd a’u cwblhau erbyn hyn.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn unol ag argymhelliad Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r Cyngor, gymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol diwygiedig 2020/21.

 

8a

Adroddiad ISA260 Archwilio Cymru ar Ddatganiad Cyfrifon 2020/21 pdf eicon PDF 812 KB

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i’r cyfarfod i Eleanor Ansell o Archwilio Cymru.

 

Cyflwynodd Eleanor Ansell Adroddiad ISA260 ynghylch y Datganiad o Gyfrifon y Cyngor ar gyfer 2020/21, gan nodi bod y terfynau amser statudol wedi'u llacio gan Lywodraeth Cymru ac y byddai Cyngor Sir Ceredigion yn bodloni'r terfynau amser newydd hyn.

 

Nododd nad oes dim materion o bwys yn codi o'r archwiliad. Hefyd maen nhw wedi adolygu datganiad ariannol yr awdurdod harbwr ac nid oes dim materion o bwys yn codi o hwn ychwaith.  Diolchodd i'r staff am gydweithio'n dda gyda nhw a daeth i'r casgliad mai bwriad Archwilio Cymru oedd cyhoeddi barn ddiamod ar ôl archwilio cyfrifon eleni.

 

8b

Sylwadau Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio ar yr adroddiad

Cofnodion:

Dywedodd y Cynghorydd Elizabeth Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, fod y Pwyllgor Archwilio wedi ystyried Datganiad Cyfrifon 2020/21 yn fanwl yn gynharach y diwrnod hwnnw, a diolchodd i'r tîm gan nodi nad oedd modd cael gwell canlyniad na hyn.  Diolchodd i Archwilio Cymru am weithio gyda’r swyddogion mewn ffordd adeiladol, gan nodi na fu'n rhaid mynd i'r afael â materion ynglŷn ag Ystadau eleni, a diolchodd i'r Gwasanaeth am fynd i'r afael â’r materion blaenorol.

 

Estynnodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn ei llongyfarchiadau i bawb ar adroddiad rhagorol, yn enwedig mewn amgylchiadau mor anodd.

8c

Datganiad Cyfrifon 2020/21 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Mynegodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyllid a Chaffael a Gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd, ei ganmoliaeth o’r Datganiad Cyfrifon ac adroddiad ISA260 gan nodi fod yn rhaid i’r Cyngor gymeradwyo’r Datganiad Cyfrifon erbyn 30 Tachwedd 2021, yn unol â Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. 

 

Nododd fod yr alldro yn dangos fod y gyllideb wedi’i mantoli, na fu newid yn y Gronfa Gyffredinol o £6.1m nac yn lefel y Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd, ac mai bwriad yr Archwilydd Cyffredinol yw cyhoeddi adroddiad archwilio diamod parthed y Cyfrifon.  Diolchodd i'r staff i gyd a’r Archwilwyr am eu gwaith caled yn cyflwyno'r Datganiad Cyfrifon glân hwn tra oeddent yn ymdrin â chyfrifoldebau ychwanegol hefyd.

 

Nododd y Cynghorydd Elizabeth Evans ddiolchgarwch y busnesau bach am fod y Cyngor wedi prosesu grantiau gwerth £49 miliwn yn ddiymdroi. Hebddynt, byddai sawl busnes wedi methu.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo Datganiad Cyfrifon Cyngor Sir Ceredigion a Datganiad Cyfrifon Awdurdod Harbwr Ceredigion ar gyfer 2020/21.