Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cod Ymddygiad ar Gyfer Aelodau

Cofnodion:

Anerchodd Elin Prysor, Swyddog Monitro, y Cyngor ynghylch y gofyniad statudol ar i bob Aelod wneud Datganiad Derbyn ac ymrwymo i gydymffurfio â’r Cod Ymddygiad, a chadarnhaodd bod pob Cynghorydd sy’n gwneud ei Ddatganiad Derbyn Swydd swyddogol wedi derbyn hyfforddiant cynhwysfawr ar Gôd Ymddygiad y Cyngor ddydd Llun 9fed Mai 2022.

 

Diben hyn yw eu galluogi i gyflawni eu swyddogaethau gan ddeall Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus, eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau o dan y Cod ynghyd â’r canlyniadau o fethu â chyflawni hyn.

2.

Datganiad o Dderbyn Swydd ac Ymrwymiad i gadw at y Cod Ymddygiad

Cofnodion:

Derbyniodd pob Aelod a oedd yn bresennol ei Ddatganiad Derbyn Swydd ar lafar a’r ymrwymiad i gydymffurfio â’r Cod Ymddygiad a oedd wedi’i lofnodi gan bob un a’i gydlofnodi gan y Swyddog Priodol.

3.

Croeso gan y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd, Paul Hinge, bob Cynghorydd a etholwyd o’r newydd, pob Cynghorydd etholedig a oedd yn dychwelyd a thalodd deyrnged i bob cyn Aelod o’r Cyngor gan ddymuno’r gorau iddynt ar gyfer y dyfodol.

4.

Materion Personol

Cofnodion:

a)    Estynnodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis ei gydymdeimlad didwyll i deulu Ifan John Jones, Ffostrasol a oedd wedi cyfrannu’n helaeth i’w gymuned;

b)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis Dîm Pêl–droed Ffostrasol ar ennill Cwpan Llun y Pasg Cynghrair Ceredigion;

c)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis Glwb Bowlio Rhydlewis a fydd yn cynrychioli Ceredigion yn y gynghrair;

d)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis Glwb Ffermwyr Ifanc Rhydlewis ar ddathlu ei 80fed blwyddyn ac am godi dros £4,000 tuag at Uned Cemotherapi Glangwili, tuag at Apêl Wcráin a thuag at y Clwb;

e)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Ifan Davies Sara Pugh, Ffair Rhos ar ei llwyddiant mewn gymnasteg ac ennill cystadleuaeth Tymblo Cymru;

f)      Llongyfarchodd y Cynghorydd Euros Davies Ysgol Dyffryn Cledlyn ar sicrhau Gwobr Aur y Siarter Iaith Gymraeg.

5.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Catrin M S Davies, Steve Davies, Mark Strong a Carl Worrall am fethu â bod yn bresennol yn y cyfarfod.

6.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Ni ddatganwyd buddiant personol neu fuddiant sy’n rhagfarnu.

 

7.

Derbyn hysbysiadau am greu Grwpiau ac Arweinyddion a swyddogion eraill y Grwpiau

Cofnodion:

Adroddodd y Swyddog Priodol bod hysbysiad wedi dod i law ynghylch cyfansoddiad y grwpiau gwleidyddol a ganlyn a ffurfiwyd o fewn y Cyngor yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990, fel a ganlyn:

 

Grŵp Plaid Cymru – The Party of Wales

Cynghorwyr Bryan Davies, Catrin M S Davies, Clive Davies, Gareth Davies, Gethin Davies, Rhodri Davies, Steve Davies, Amanda Edwards, Endaf Edwards, Eryl Evans, Keith Henson, Chris James, Ceris Jones, Maldwyn Lewis, Caryl Roberts, Mark Strong, Wyn Thomas, Matthew Vaux, Alun Williams a Carl Worrall (20)

 

Arweinydd y Grŵp: Cynghorydd Bryan Davies

Dirprwy Arweinydd y Grŵp: Cynghorydd Alun Williams

 

Grŵp Annibynnol

Cynghorwyr Euros Davies, Ifan Davies, Marc Davies, Gwyn Wigley Evans, Keith Evans, Rhodri Evans, Wyn Evans, Hag Harris, Gwyn James a Gareth Lloyd (10)

 

Arweinydd y Grŵp: Cynghorydd Gareth Lloyd

Dirprwy Arweinydd y Grŵp: Cynghorydd Rhodri Evans

 

Grŵp Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Cynghorwyr Meirion Davies, Elaine Evans, Elizabeth Evans, Paul Hinge, Geraint Hughes, Sian Maehrlein a John Roberts (7)

 

Arweinydd y Grŵp: Cynghorydd Elizabeth Evans

Dirprwy Arweinydd y Grŵp: Cynghorydd Paul Hinge

 

Aelod nad yw’n perthyn i Grŵp

Cynghorydd Hugh Hughes (1)

 

8.

Arweinydd y Cyngor

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Gareth Davies ac eiliwyd gan y Cynghorydd Keith Henson bod y Cynghorydd Bryan Davies yn cael ei ethol yn Arweinydd y Cyngor.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD yn unfrydol bod y Cynghorydd Bryan Davies yn cael ei ethol yn Arweinydd y Cyngor.

 

Diolchodd y Cynghorydd Bryan Davies i bawb am eu cefnogaeth gan nodi pwysigrwydd cydweithio ar draws y pleidiau er lles y Sir.

 

Llongyfarchodd y Cynghorwyr Elizabeth Evans a Gareth Lloyd y Cynghorydd Bryan Davies ar gael ei ethol yn Arweinydd gan ategu pwysigrwydd cydweithio er mwyn cynrychioli Ceredigion gyfan.

 

9.

Ethol darpar Gadeirydd y Cyngor ar gyfer 2022/23 i’w sefydlu yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor i’w gynnal am 2.00pm ddydd Gwener, 27 Mai 2022

Cofnodion:

Cynigiodd y Cynghorydd Rhodri Evans, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Keith Evans, bod y Cynghorydd Ifan Davies yn cael ei ethol yn Gadeirydd y Cyngor am y flwyddyn Gyngor nesaf.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol bod y Cynghorydd Ifan Davies yn cael ei ethol yn Gadeirydd Etholedig y Cyngor ar gyfer 2022/23 i’w sefydlu yn y Cyfarfod Blynyddol a gynhelir am 2.00pm ddydd Gwener, 27ain Mai 2022.

10.

Ethol darpar Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer 2022/23 i’w sefydlu yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor i’w gynnal am 2.00pm ddydd Gwener, 27 Mai 2022

Cofnodion:

Cynigiodd Bryan Davies ac eiliwyd gan y Cynghorydd Alun Williams bod y Cynghorydd Maldwyn Lewis yn cael ei ethol yn Is-gadeirydd y Cyngor am y flwyddyn Gyngor nesaf.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol bod y Cynghorydd Maldwyn Lewis yn cael ei ethol yn Is-gadeirydd Etholedig y Cyngor ar gyfer 2022/23 i’w sefydlu yn y Cyfarfod Blynyddol a gynhelir am 2.00pm ddydd Gwener, 27ain Mai 2022.