Agenda a Chofnodion

Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Elizabeth Evans am nad oedd modd iddi fod yn bresennol am ei bod ar ddyletswydd arall ar ran y Cyngor.

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Gareth Davies, Peter Davies MBE a Mark Strong am nad oedd modd iddynt fod yn bresennol yn y cyfarfod.

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol na buddiant sy’n rhagfarnu.

3.

Materion Personol

Cofnodion:

a)            Estynnodd y Cynghorydd Rhodri Evans ei longyfarchiadau i Mr Gwynne Davies ar gael ei ethol yn Gyfarwyddwr Anrhydeddus Adran y Defaid yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru;

b)            Mynegodd y Cynghorydd Lyndon Lloyd ei werthfawrogiad o Mrs Mary Jones a roddodd 36 mlynedd o wasanaeth rhagorol i gynghorau sir Dyfed a Cheredigion, gan weithio ar y rheng-flaen yn y Gwasanaethau Cymdeithasol;

c)            Estynnodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn ei chydymdeimlad â’r Cynghorydd Euros Davies ar golli ei dad;

d)            Estynnodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn ei chydymdeimlad â Non Davies ar golli ei thad;

e)            Estynnodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn ei chydymdeimlad â Helen Harries ar golli ei gŵr;

f)             Nododd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn fod hwn wedi bod yn adeg anodd iawn i’r Cynghorydd Gareth Davies ar ôl colli ei fab.  Yr oedd wedi gofyn i’r Cynghorydd Ellen ap Gwynn fynegi ei ddiolch am yr holl gefnogaeth yr oeddent wedi’i derbyn.  Mae cronfa wedi ei sefydlu er cof am Daniel, sydd wedi codi £18,000 i elusen Papyrus sy’n cynnig cymorth i atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc;

g)            Nododd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn fod y Cynghorydd Mark Strong yn dal i fod yn yr ysbyty a’i fod yn gwella ac yn gwerthfawrogi’n fawr yr holl negeseuon o gymorth a gafodd;

h)            Estynnodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn groeso i James Starbuck, Cyfarwyddwr Corfforaethol, i’w gyfarfod cyntaf o’r Cyngor;

i)             Estynnodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn ei llongyfarchiadau i Nicola Davies ar gael ei phenodi yn Gadeirydd ar Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru;

Diolchodd y Cynghorydd Euros Davies i’r Cynghorydd Ellen ap Gwynn am ei geiriau caredig a’r negeseuon o gydymdeimlad a gafwyd

4.

Diweddariad ar lafar gan Arweinydd y Cyngor parthed COVID-19

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn ddiweddariad ar lafar ynghylch COVID-19 yng Ngheredigion.  Nododd fod 33 yn rhagor o achosion wedi eu riportio heddiw yng Ngheredigion, gan gyfrannu at gyfanswm o 10,580 o achosion yn y sir ers dechrau'r pandemig.  Mae’r gyfradd bresennol wedi gostwng i 209.1 am bob can mil gyda chyfradd positif o 21.7%.  Fodd bynnag, dim ond profion PCR sy’n cael eu riportio yn ddyddiol ar hyn o bryd ac nid oes angen prawf PCR dilynol ar bob prawf LFT positif. Mae data mewnol yn awgrymu fod y ffigurau ddwywaith yn fwy na’r hyn a riportir.

 

Mae’r achosion yn arbennig o gyffredin ymhlith plant oedran cynradd, sy'n rhoi pwysau ar ysgolion, ond roedd yn deall fod pob ysgol yng Ngheredigion wrthi’n gweithredu ar hyn o bryd.

 

Mae tri o gartrefi gofal y Cyngor yn y categori coch oherwydd achosion o COVID-19 ymhlith y staff, ac mae'r sefyllfa yn Ysbyty Bronglais wedi gwella ac mae'r ddwy ward a gafodd eu taro bellach wedi ailagor. Ddydd Llun roedd 112 o gleifion yn yr ysbytai o achos Covid ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ond nid oedd yr un o’r rhain yn yr uned gofal dwys.

 

Bydd Canolfannau Hamdden a Phyllau Nofio’r Cyngor oll ar agor o ddydd Llun ymlaen, gyda chyfyngiadau COVID ar waith gan gynnwys gwisgo mwgwd wrth symud o gwmpas a chyfyngu i'r awyr agored chwaraeon lle mae cyswllt ag eraill. Bydd angen i'r cyhoedd archebu lle ymlaen llaw a gofynnir iddynt dalu gyda charden.

 

Bydd llyfrgelloedd hefyd yn ailagor a rhoddir mynediad i gyfrifiaduron am hyd at awr a hynny gan archebu ymlaen llaw. Bydd modd i'r cyhoedd bori drwy'r llyfrau gan wisgo mwgwd a bydd yr Archifau ar agor drwy wneud apwyntiad.  Mae'r Amgueddfa a'r Siop bellach ar agor ar ddydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn rhwng 11am a 4pm.

 

Bydd y rheoliadau presennol yn parhau ar waith mewn Ysgolion tan hanner tymor ac yn cael eu hadolygu cyn bod pawb yn dychwelyd ar ôl hanner tymor.  Cynhaliwyd arholiadau mis Ionawr yn llwyddiannus a dywedodd y Gweinidog y bydd arholiadau'r Haf yn mynd yn eu blaen yn ôl yr arfer, gyda thrafodaethau yn digwydd ynglŷn â hyn. 

 

Mae'r Gwasanaeth Gwastraff yn ôl i'w gapasiti llawn o ran y staff ac mae'r anawsterau a gafwyd ar ddechrau'r mis wedi cael eu goresgyn ac mae'r gwasanaeth bellach yn ôl fel yr ydoedd.

 

5.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd 9 Rhagfyr 2021 pdf eicon PDF 309 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2021 yn gywir, ar yr amod y cadarnheir nad oedd y Cynghorydd Euros Davies yn bresennol ar ddechrau’r cyfarfod ond ei fod wedi ymuno â’r cyfarfod yn ddiweddarach.

6.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch y gofyniad i fabwysiadu Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor erbyn 31 Ionawr 2022 pdf eicon PDF 630 KB

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod o’r Cabinet dros Wasanaethau Cyllid a Chaffael a Diogelu’r Cyhoedd, gyflwyno’r adroddiad, yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, gan nodi bod yn rhaid i bob awdurdod lleol ym mhob blwyddyn ariannol ystyried a ydynt am adolygu neu newid eu cynllun presennol, ac os adolygir y cynllun, bod gofyn i’r awdurdod lleol ymgynghori ag unrhyw bersonau eraill yr ystyria’n debygol bod ganddynt ddiddordeb yng ngweithrediad ei gynllun.

 

Gofynnodd yr Aelodau a ellid darparu gwybodaeth am ganrannau'r bobl gymwys sy'n hawlio'r lwfans yn ôl disgresiwn, a gofynnwyd a ellid ymestyn y cynllun i gynnwys categorïau ychwanegol. Nodwyd mai Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol fyddai'r fforwm mwyaf priodol i adolygu'r data hwn.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD:

1.  nodi gwneud Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2022;

2.  mabwysiadu darpariaethau Rheoliadau’r Gofynion Rhagnodedig (2013) fel Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor yn 2022/23, yn amodol ar y disgresiwn lleol y mae’r Cyngor yn gallu ei arfer, fel y nodir isod:

(i)     parhau â’r gostyngiad o 100% uwchben y £10 statudol sy’n cael ei diystyru o safbwynt Pensiynau Anabledd Rhyfel, Pensiwn Rhyfel Gwragedd Gweddw a Phensiwn Rhyfel Gwŷr Gweddw, ar gyfer pensiynwyr a phobl oedran gweithio sy’n hawlio;

(ii)    nad yw’r cyfnodau talu estynedig ar gyfer pensiynwyr a phobl o oedran gweithio sy’n hawlio yn cael eu hymestyn y tu hwnt i’r pedair wythnos safonol a nodir ar hyn o bryd yn y Cynllun Rhagnodedig;

nad yw’r cyfnod ôl-ddyddio ar gyfer pensiynwyr a phobl o oedran gweithio sy’n hawlio yn cael ei ymestyn y tu hwnt i’r tri mis safonol a nodir yn y Cynllun Rhagnodedig.

7.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Gwasanaethau Democrataidd ar Aelodau Pwyllgorau'r Cyngor ar gyfer yr hyn sy'n weddill o Flwyddyn Fwrdeisdrefol 2021-2022 pdf eicon PDF 499 KB

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Ray Quant, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod o’r Cabinet dros y Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu, Pobl a Threfniadaeth a’r Gwasanaethau Democrataidd, gyflwyno’r adroddiad gan nodi, yn dilyn ymddiswyddiad y Cynghorydd Lloyd Edwards o Grŵp Gwleidyddol y Democratiaid Rhyddfrydol, fod y Cynghorydd Edwards bellach yn cynrychioli ei Ward fel Cynghorydd Annibynnol Di-grŵp.  Gyda chydsyniad Arweinydd Grŵp Gwleidyddol y Democratiaid Rhyddfrydol, cynigir bod y Cynghorydd Lloyd Edwards yn parhau ar y tri phwyllgor yr oedd yn aelod ohonynt ynghynt. Yn ôl anghenraid, fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn colli sedd ar bob un o’r Pwyllgorau hyn:

·         Pwyllgor Trwyddedu

·         Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

·         Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n Dysgu

 

Nodwyd er cywirdeb yn Atodiad A bod y Pwyllgor Moeseg a Safonau wedi penodi Caroline White yn Gadeirydd a John Weston yn Is-gadeirydd ac wedi penodi dau aelod newydd sef Caryl Davies ac Alan Davies yn lle Hywel Wyn Jones a Rif Winfield.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD cymeradwyo penodi aelodau Pwyllgorau'r Cyngor ar gyfer yr hyn sy'n weddill o Flwyddyn Fwrdeistrefol 2021-2022, ar yr amod y gwneir y diwygiadau a nodir.

 

8.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Gwasanaethau Democrataidd ar Nifer y Cynghorwyr ar bob Pwyllgor o fis Mai 2022 pdf eicon PDF 490 KB

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Ray Quant, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod o’r Cabinet dros y Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu, Pobl a Threfniadaeth a’r Gwasanaethau Democrataidd, gyflwyno’r adroddiad gan nodi y bydd nifer y Cynghorwyr yn gostwng o 42 i 38 o fis Mai 2022 ymlaen. Serch hynny, bydd y llwyth gwaith yn aros yr un fath, os nad yn cynyddu, yn ystod y cyfnod hwn.  O ganlyniad, sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen trawsbleidiol dan gadeiryddiaeth y Cynghorydd Ceredig Davies i adolygu aelodaeth pwyllgorau’r Cyngor. 

 

Nodwyd y byddai’r nifer ar gyflogau uwch yn parhau yn 17 ac o ganlyniad i nifer y swyddi sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn a ganiateir, ni fydd Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd na Chadeirydd y Pwyllgor Iaith yn cael cydnabyddiaeth ariannol.  Gofynnodd yr Aelodau am i hyn gael ei adolygu yn ystod y weinyddiaeth newydd o ystyried fod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cael ei gadeirio gan Aelod Lleyg o fis Mai 2022 ymlaen.  Hefyd cyfeiriodd yr Aelodau at gylch gwaith y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a allai gael ei adolygu yn ystod y weinyddiaeth newydd.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD yn unol ag argymhelliad y Grwpiau Gorchwyl a Gorffen i gymeradwyo'r canlynol, a fydd ar waith oddi ar 5 Mai 2022:

a)    Lleihau aelodaeth y Pwyllgor Trwyddedu (y Pwyllgor Statudol a’r Pwyllgor Anstatudol) o 15 i11;

b)    Lleihau aelodaeth y Pwyllgor Rheoli Datblygu o 21 i 15;

c)    Lleihau aelodaeth y pedwar Pwyllgor Trosolwg a Chraffu thematig o 17 i 13;

d)    Diwygio Cyfansoddiad y Cyngor o ganlyniad i’r uchod;

e)    Bod pob pwyllgor arall yn aros yr un peth.

 

9.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Gwasanaethau Democrataidd ar Ddisgrifiadau o Rolau Aelodau Etholedig pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Ray Quant, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod o’r Cabinet dros y Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu, Pobl a Threfniadaeth a’r Gwasanaethau Democrataidd, gyflwyno’r adroddiad gan nodi fod y Cyngor wedi mabwysiadu disgrifiadau generig cyntaf Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn 2012.  Mae’r disgrifiadau rôl hyn wedi cael eu hadolygu a’u diweddaru’n ddiweddar gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gan adlewyrchu’r newidiadau i ddeddfwriaeth. 

 

Cafodd y disgrifiadau diwygiedig o rolau eu hystyried gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfarfod ar 15 Hydref 2021, ac argymhellodd fod y Cyngor yn eu cymeradwyo.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r set ddiwygiedig o’r disgrifiadau generig o Rolau Aelodau yn Atodiad B yr adroddiad.

 

10.

Adroddiad y Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol gydag adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Nododd y Cynghorydd Catherine Hughes fod hwn yn adroddiad hanesyddol sy’n disgrifio perfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ceredigion yn ystod 2019 - 2020 yng nghyd-destun newidiadau mawr yn y gwaith. Oherwydd dyfodiad Covid-19 ym mis Mawrth 2020 bu i Lywodraeth Cymru ymestyn y cyfnod amser ar gyfer cwblhau’r adroddiad er mwyn i swyddogion ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau hanfodol, ac adlewyrchir hyn yn yr adroddiad.  Cwblhawyd yr adroddiad gan Donna Pritchard, Cyfarwyddwr Statudol dros dro y Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd hwnnw, a diolchodd i bawb am eu gwaith dyfal yn ystod y cyfnod.

 

Nododd y Cynghorydd Alun Williams fod y sefyllfa bresennol ledled Cymru yn anodd iawn gyda diffyg cyllid, diffyg staff a galwadau cynyddol ar system sydd eisoes dan bwysau. Mae'r adroddiad yn disgrifio rhychwant y gofal a ddarperir, a hwn fydd yr adroddiad diwethaf a gyflwynir yn ystod y weinyddiaeth hon. Mae gwaith y Gwasanaeth wrthi’n cael ei drosglwyddo i wasanaeth gydol oes sy'n canolbwyntio ar atal, gan ddefnyddio'r model arwyddion diogelwch sy'n dwyn ffrwyth yn raddol.  Diolchodd i’r Swyddogion am eu gwaith diwyd wrth fwrw ymlaen â’r trawsnewid a chynnal gwasanaethau ar adeg anodd iawn.

 

Roedd y Cynghorydd Bryan Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach, wedi cydnabod effaith COVID-19 ar y data, gan nodi bod yr adroddiad wedi cael ei groesawu gan y Pwyllgor.

 

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad gan nodi’r uchafbwyntiau gan gynnwys Wythnos Genedlaethol Diogelu, y rhaglen waith Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a’r arolygiadau a’r adborth cadarnhaol iawn gan Arolygiaeth Gofal Cymru, a groesawyd i gyd.

 

Diolchodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn i’r Swyddogion a’u staff i gyd am eu gwaith dros y ddwy flynedd drom ddiwethaf.

 

Nododd y Cyngor gynnwys yr adroddiad.