Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda
Cyswllt: Nia Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Steve Davies, Matthew Woolfall Jones, Maldwyn Lewis a Mark
Strong am nad oeddent yn gallu mynychu’r cyfarfod. |
|
Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiant personol na buddiant sy’n rhagfarnu |
|
Materion Personol Cofnodion: a)
Estynnodd y Cynghorydd Rhodri Evans
longyfarchiadau i Caryl Haf ar gael ei hethol yn Gadeirydd Clybiau Ffermwyr
Ifanc Cymru; b)
Estynnodd y Cynghorydd Rhodri Evans
longyfarchiadau i Lisa Bulman ar ennill y gystadleuaeth saethu colomennod clai
ar lefel ryngsirol. Yn sgil ei
llwyddiant yn y gystadleuaeth hon, bydd yn mynd yn ei blaen i gynrychioli
Cymru; c) Estynnodd y Cynghorydd Rowland Rees-Evans longyfarchiadau i Mrs Margaret Jones a fydd yn dathlu ei phen-blwydd yn gant oed yfory; d) Estynnodd y Cynghorydd Euros Davies longyfarchiadau i Sion Jenkins ar gael ei ethol yn Llywydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion. |
|
Diweddariad ar lafar gan Arweinydd y Cyngor parthed COVID-19 Cofnodion: Rhoddodd y Cynghorydd
Ellen ap Gwynn ddiweddariad ar lafar ynghylch sefyllfa COVID-19 yng
Ngheredigion. Nododd fod nifer yr
heintiadau yng Ngheredigion yn codi a bod cyfanswm o 4,993 achos wedi eu
cofnodi yn y sir er dechrau’r pandemig.
Mae’r gyfradd heintio yn
353.3 i bob can mil ar hyn o bryd, er hynny Ceredigion yw’r ardal â’r gyfradd
isaf yng Nghymru. Mae’r ardal sydd â’r
gyfradd uchaf yng Nghymru â chyfradd heintio o dros fil i bob can mil. Y gyfradd heintio gyfartalog yng Nghymru yw
651.9 i bob can mil. Mae nifer yr
heintiadau mewn siroedd cyfagos i Geredigion yn uchel iawn. Roedd 192 achos newydd yng Ngheredigion yn
ystod y ddau ddiwrnod diwethaf ac nid yw’r rheiny wedi eu cynnwys hyd yma yn
adroddiadau dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Atgoffwyd pawb bod angen i ni barhau i fod yn ofalus. O’r achosion newydd a gafwyd yng
Ngheredigion, roedd 71 ohonynt mewn ysgolion ac mae o leiaf un dosbarth mewn un
ysgol yn awr yn cael ei addysgu o bell.
Mae’r achosion yn uchel hefyd mewn dwy ysgol uwchradd ac un ysgol
gynradd. Mae 86 achos o
COVID-19 mewn ysbytMae COVID-19 wedi effeithio ar wasanaethau’r Cyngor, gydag
28 aelod o staff â’r haint COVID-19 ar hyn o bryd. Mae nifer hefyd yn hunanynysu oherwydd
achosion yn eu teuluoedd ac mae’r Grŵp Arweiniol wedi gorfod adleoli staff
er mwyn sicrhau cydnerthedd y gwasanaethau allweddol. Mae’r canolfannau
brechu wedi’u lleoli ar gampws Llanbadarn ac yng Nghwmcou. Yn ogystal, mae uned beribatetig yn cyflenwi
holl ardal Hywel Dda a gallai hon gael ei lleoli yn yr ardal hon. Mae canolfannau profi ar gael hefyd yng
Nghanolfan Rheidol, Aberystwyth ac ym Mhenmorfa, Aberaeron. ai ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac mae 5 o’r achosion hynny yn Ysbyty Bronglais. Mae 298,000 o bobl Cymru wedi derbyn dos cyntaf y brechlyn a 276,000 wedi derbyn yr ail ddos. Yn ogystal â hynny, mae llawer bellach wedi derbyn y brechlyn atgyfnerthu ac mae 2,0000 o bobl a chanddynt system imiwnedd wannach wedi derbyn eu trydydd brechlyn. Nodwyd mai Ceredigion sydd â’r ganran uchaf yng Nghymru o bobl 12-15 oed sydd wedi derbyn y brechlyn. |
|
Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd 23 Medi 2021 PDF 489 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 23 Medi 2021 yn rhai cywir. |
|
Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor a gynhaliwyd ar 27 Medi 2021 PDF 192 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau
bod cofnodion cyfarfod arbennig y Cyngor a gynhaliwyd ar 27 Medi 2021 yn rhai
cywir. |
|
Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Catherine
Hughes, Aelod Cabinet ar gyfer Porth Gofal, a nododd y cytunwyd ar adolygiad
systematig o’r holl strwythurau a’r meysydd gwasanaeth yn 2017, er mwyn sicrhau
bod gan bob un o’r gwasanaethau y capasiti a’r gallu i ddiwallu
blaenoriaethau’r cynlluniau a’r amcanion corfforaethol. Roedd y newid mawr, terfynol yn ymwneud ag
integreiddio gofal cymdeithasol a dysgu gydol oes yn dri gwasanaeth, Porth
Cymorth Cynnar, Porth Gofal a Phorth Cynnal a’r tri gwasanaeth hwn ynghyd â
Chyswllt Cwsmeriaid yn ffurfio’r pedwar prif faes sy’n rhan o’r Rhaglen Newid
Gydol Oes a Llesiant. Amlinellodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet ar gyfer Porth Cynnal
beth oedd yr amcanion a’r strategaeth sy’n sail i’r adolygiad, gyda phwyslais ar
ymagwedd ataliol, gadarnhaol a fyddai’n adeiladu ar gryfderau defnyddwyr ein
gwasanaethau, ein staff a’n sir.
Rhoddodd Caroline Lewis, Cyfarwyddwr Corfforaethol, gyflwyniad a
rhannodd fideo a oedd yn rhoi amlinelliad o’r cynnydd o safbwynt y rhaglen a’r
cynllun gweithredu. Gofynnodd aelodau gwestiynau am oblygiadau cyllidol, recriwtio ac ymwneud y
gwasanaethau iechyd. Nodwyd y byddai
buddsoddi mwy ar atal yn golygu y byddai llai o bobl yn dod yn ddibynnol ar y
cymorth drutaf, dwysaf. Cydnabuwyd bod
recriwtio yn broblem genedlaethol ac mai nod yr ymagwedd arloesol hon oedd denu
pobl i gydnabod pa mor werthfawr oedd gwaith yn y maes hwn a’i fod yn
broffesiwn lle mae pwyslais hefyd ar ddatblygiad y gweithlu. Nodwyd bod yr awdurdodau lleol, byrddau iechyd
a’r trydydd sector yn gweithio gyda’i gilydd ac yn derbyn arian ar gyfer y
gwaith drwy fyrddau partneriaeth rhanbarthol.
Yn dilyn pleidlais, cafwyd PENDERFYNIAD unfrydol i gymeradwyo’r Strategaeth Gydol Oes a Llesiant 2021-2027 a’r Cynllun Gweithredu |
|
Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd y Cyngor
ac Aelod Cabinet dros Bolisi, Perfformiad a Phartneriaethau. Nododd y cynhaliwyd adolygiad blynyddol o’r
Amcanion Llesiant ym mis Mehefin 2021, gan roi ystyriaeth i effaith barhaus
pandemig COVID-19 ar ddarparu’r gwasanaeth.
Nododd y Cynghorydd Ellen ap
Gwynn y perfformiad gwych yn erbyn yr amcanion hyn, gan ddweud bod y set o
Amcanion sy’n bodoli ar hyn o bryd yn parhau yn addas i’r diben ac yn cynnig
ymateb mwy penodol i’r pandemig COVID-19, er mwyn diogelu a gwella llesiant
pawb yn awr ac yn y tymor hwy. Gofynnodd yr Aelodau beth oedd yr amserlen ar gyfer ailagor y cyfleusterau
hamdden a nofio a nodwyd bod peth oedi oherwydd problemau cael gafael ar
ddeunyddiau i gyflawni gwaith angenrheidiol. Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD cytuno ar yr Adroddiad
Blynyddol Drafft ar Amcanion Llesiant a Gwella 2020-2021 a chymeradwyo’r
Amcanion Llesiant ar gyfer 2022/23. |
|
Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Rhodri Evans,
Aelod Cabinet dros Economi ac Adfywio ac amlinellodd y sefyllfa o ran
ffosffadau yn Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Teifi a’r goblygiadau i’r Cynllun
Datblygu Lleol (CDLl). Nodwyd
bod y sefyllfa gyda’r ffosffadau wedi cael effaith ar y Cynllun Datblygu Lleol
sydd wedi ei gynllunio yn lle’r un presennol a rhoddodd werthusiad o’r opsiynau
sy’n agored i’r Cyngor, gan
gynnwys cynllun chwe thref; ymagwedd oddefol ac ymagwedd a oedd yn cynnwys
alinio gofodol. Nododd Aelodau eu bod yn anhapus gyda chamau gweithredu Dŵr Cymru a
Llywodraeth Cymru, gan ddatgan eu pryder y gallai fod cyfyngiadau cynllunio
pellach ar ardaloedd arfordirol. Nodwyd
bod y sefyllfa yn rhwystredig iawn, fodd bynnag byddai angen i’r Cyngor
fabwysiadu ymagwedd bragmataidd o ran yr amserlen ar gyfer cynhyrchu’r Cynllun
Datblygu Lleol. Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD
cytuno ar saib dros dro, am gyfnod amhenodol ar hyn o bryd, ar gyfer y Cynllun
Datblygu Lleol newydd, yn amodol ar gadarnhad Llywodraeth Cymru. |
|
Ystyried Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd 2020-21 PDF 750 KB Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cyngor gan y Cynghorydd Ceredig Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau
Democrataidd. Nododd fod Adroddiad
Blynyddol y Gwasanaethau Democrataidd yn cael ei ddefnyddio i amlygu’r gwaith y
mae Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn ei wneud, dangos sut mae’r Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd wedi gwneud gwahaniaeth a chefnogi gwelliannau
parhaus i Gynghorwyr. Diolchodd i’r Gwasanaethau Democrataidd a Swyddogion TGCh am eu cymorth a’u
holl waith caled er mwyn sicrhau bod y cyfarfodydd yn gallu cael eu cynnal o
bell a gofynnodd i’r Aelodau ystyried eu gofynion TGCh o fis Mai 2022
ymlaen. Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y Cyngor. |
|
Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cyngor gan Eifion Evans, y Prif Weithredwr, a
nododd fod y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi gwneud Gorchymyn ar
11 Hydref 2021 a oedd yn gosod argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth
Leol Cymru mewn deddf. Bydd y Gorchymyn hwn yn dod i rym ar y diwrnod sydd wedi
ei bennu ar gyfer ethol cynghorwyr sef 5 Mai 2022. Rhoddodd grynodeb
o’r newidiadau, gan gynnwys cwtogi ar nifer y Cynghorwyr o 42 i 38, lleihau
nifer y wardiau etholiadol o 40 i 34, cyfanswm o 18 newid i wardiau etholiadol
a 4 ward etholiadol aml-aelodaeth. Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y Cyngor. |