Agenda a Chofnodion

Cyngor - Dydd Iau, 23ain Medi, 2021 10.00 am

Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

a)     Ymddiheurodd y Cynghorwyr Steve Davies, Elaine Evans, Matthew Woolfall-Jones a Maldwyn Lewis am nad oeddent yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

a)      Datganodd y Cynghorydd Elizabeth Evans fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chofnod 11 isod, a gadawodd y cyfarfod yn ystod yr eitem hon.

b)      Datganodd Eifion Evans, Prif Weithredwr, fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chofnod 13 isod, yn unol â’r Cod Ymddygiad ar gyfer Awdurdodau Lleol, a gadawodd y cyfarfod yn ystod yr eitem hon.

3.

Materion Personol

Cofnodion:

a)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Paul Hinge Josh Tarling, sy’n cystadlu ym Mhencampwriaeth Beicio Iau y Byd ar hyn o bryd. Ddydd Mawrth fe wnaeth gystadlu yn y treial amser iau am y tro cyntaf, gan ennill y fedal arian. Bu hefyd yn cystadlu yn y digwyddiad Ewropeaidd bythefnos yn ôl gan ennill 2 fedal aur: un yn y Ras Cwrso Tîm ac un yn yr Omnium. Fe wnaeth hefyd ddal y crys melyn am 2 o'r tri diwrnod o rasio yn y gystadleuaeth 'Tour of Wales' Iau;

b)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Paul Hinge Finlay Tarling, aelod o Dîm Beicio Ieuenctid Cymru, am ennill y Ras Cwrso Tîm, y Ras Maddison a'r Ras Gylchdaith yn ystod y digwyddiad 3 diwrnod yng Ngemau Ysgol y DU;

c)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Paul Hinge Lowri Richards, aelod o Dîm Beicio Ieuenctid Cymru, am ennill y Ras Cwrso Tîm yng Ngemau Ysgol y DU;

d)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Paul Hinge Griff Lewis ar ennill ail gam y gystadleuaeth feicio ‘Tour of Wales’ Iau, ac am ennill y Bencampwriaeth Iau ym Mhencampwriaeth Criteriwm Cenedlaethol Cymru, gan ennill ei drwydded Categori 1;

e)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Paul Hinge Ieuan Andy Davies ar ennill y ras feicio ffordd 50+ ym Mhencampwriaeth Criteriwm Cenedlaethol Cymru yn y Rhyl;

f)      Llongyfarchodd y Cynghorydd Paul Hinge Gruff Lewis ar ennill y treial amser ym Mhencampwriaeth Genedlaethol Cymru yng Nghastell Newydd Emlyn, ac ef bellach yw Pencampwr Treial Amser Cenedlaethol Cymru. Llongyfarchodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn ef hefyd ar ennill y sbrint yn y Borth yn y ‘Tour of Britain’ a gynhaliwyd yn ddiweddar, a thalodd y Cynghorydd Dai Mason deyrnged iddo hefyd;

g)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn Gwenallt Llwyd Ifan ar ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol;

h)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn Lleucu Roberts ar ennill Gwobr Goffa Daniel Owen a'r Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol;

i)      Llongyfarchodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn Katie Hall, Cynorthwyydd Gofal Dydd o Dregaron ar ennill Gwobr Sêr Gofal Cymdeithasol am y gofal ardderchog y mae’n ei ddarparu i drigolion Bryntirion;

j)      Mynegodd y Cynghorydd Ceredig Davies ei gydymdeimlad â theulu Mr William Edwards, cyn Gynghorydd a fu farw yn ddiweddar;

k)    Mynegodd y Cynghorydd Ceredig Davies ei gydymdeimlad â theulu Mr John Davies a fu farw’n ddiweddar;

l)      Llongyfarchodd y Cynghorydd Ray Quant y Cynghorydd Dan Potter ar ennill Medal am 40 mlynedd o wasanaeth gwirfoddol gyda'r RNLI;

m)  Llongyfarchodd y Cynghorydd Ray Quant y Cynghorydd Marc Davies ar ennill Medal am 20 mlynedd o wasanaeth fel swyddog wrth gefn gyda’r gwasanaeth tân;

n)    Diolchodd y Cynghorydd Ray Quant i’r Gwasanaeth Tân a’r Awdurdod Heddlu am eu gwasanaeth rhagorol wrth ymateb i dân yn Y Borth. Diolchodd i’r Awdurdod Lleol am eu gwaith cyflym wrth drefnu i gau ffyrdd a dargyfeiriadau a threfnu llety wrth gefn, nad oedd ei angen yn ffodus, a diolchodd i James Davies am roi gwybod i’r gwasanaethau am y digwyddiad yn brydlon;

o)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Gareth Lloyd Dion  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Diweddariad ar lafar gan Arweinydd y Cyngor parthed COVID-19

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn ddiweddariad ar lafar mewn perthynas â COVID-19 yng Ngheredigion.

Nododd fod y ffigur heintio wedi cynyddu ers iddi adrodd i'r Cyngor ddiwethaf ym mis Mehefin o 12.4 i 376.9 fesul can mil o’r boblogaeth yng Ngheredigion, a bod y gyfradd ar gyfer Cymru gyfan wedi cynyddu o 22.5 i 559.9 fesul can mil o’r boblogaeth. Mae'r rhan fwyaf o achosion ymhlith disgyblion ysgolion, ac er nad oes ysgol yng Ngheredigion wedi cau, mae rhai staff mewn ysgolion cyfagos yng Nghaerfyrddin yn dysgu o bell, ac mae un ysgol ym Mhowys wedi gorfod cau. 

Bydd disgyblion rhwng 12 a 15 oed yn derbyn llythyr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn fuan yn eu gwahodd i gael eu brechu o 4 Hydref ymlaen, a byddant yn gallu mynd i naill ai Canolfan Brechu Torfol Llanbadarn neu Gwmcou. Mae myfyrwyr wedi dychwelyd i Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Campws Llambed, ac mae'r ddwy brifysgol yn monitro'r sefyllfa'n agos mewn perthynas ag achosion COVID-19.   

Mae'r Gwasanaeth Iechyd dan bwysau aruthrol ar hyn o bryd, fel yr adroddwyd. Yn ogystal, mae'r Gwasanaethau Gofal hefyd dan bwysau sylweddol, gyda mwy o alw am becynnau gofal a gostyngiad yn nifer y staff sydd ar gael o fewn y tîm canolog a chyda darparwyr contractau. Mae'r Cyngor yn hysbysebu am staff ychwanegol ar hyn o bryd, a gofynnodd yr Arweinydd, os oedd unrhyw un yn gwybod am rywun sy’n chwilio am yrfa ym maes gofalu, i’w hannog i wneud cais nawr gan fod angen brys am eu gwasanaeth.

Mae 7 cartref yn y categori coch ar hyn o bryd, ac mae’r achosion positif i gyd ymhlith y staff. Mae rhai lleoedd gwag yn y cartrefi gofal ar hyn o bryd, ond hyd nes y bydd Llywodraeth Cymru yn newid ei rheolau o ran galluogi pobl i fynd i rannau penodol o'r cartrefi sydd yn y categori coch, ni allwn gefnogi'r ysbytai i ryddhau cleifion o'r ysbyty. Gobeithiwn y gallwn ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru ar y mater hwn.

Mae'r llyfrgell symudol yn dal i fod ar gael ar gyfer gwasanaeth clicio a chasglu, ac mae llyfrgelloedd y dref yn dal i fod ar agor. Dim ond nifer cyfyngedig o bobl sy'n gallu mynd i mewn ar unrhyw adeg ac am gyfnod cyfyngedig yn unig, ac nid yw'r cyfrifiaduron ar gael ar hyn o bryd.

Mae’r gwaith o gau ffyrdd yn rhan o’r Parthau Diogel bellach wedi dod i ben. Bydd y Cyngor yn cynnal ymgynghoriad er mwyn casglu barn pawb ynghylch gweithredu ar strydoedd yn ystod yr haf, a fydd yn cynnwys y cyhoedd, busnesau etc. Mae llawer o'r busnesau wedi bod yn ddiolchgar am y cyfle i weithredu yn yr awyr agored ond mae angen i ni ddeall barn ystod eang o bobl.

 

5.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 17.06.2021 pdf eicon PDF 314 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod Cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2021 yn rhai cywir.

6.

Ystyried y cynnig canlynol a gyflwynwyd o dan Reol 10.1 Rheolau Gweithdrefnau’r Cyngor: pdf eicon PDF 366 KB

 

Cynigydd: Cynghorydd Ifan Davies                  

Eilydd: Cynghorydd Ray Quant

 

Noda’r Cyngor:

 

Mae’r Grŵp Annibynnol yn gofyn i Gyngor Sir Ceredigion alw ar Lywodraeth Cymru ddeddfu fel y bydd:

 

1.    Unrhyw gymhorthdal a geir yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy unrhyw gynlluniau gan y llywodraeth ar gyfer rheoli carbon:

 

a)    Yn cael ei gadw fel credyd carbon er budd economi Cymru a’r bobl,

 

b)    a bod gan bob Sir enillion canrannol o unrhyw gredyd a gynhyrchir yn y Sir dan sylw y gellir eu gosod yn erbyn gwasanaethau cyhoeddus a nwyddau o’r Sir honno,

 

c)    a hefyd, na ellir symbylu unrhyw werthiant neu les trydydd parti ar gredyd carbon y tu allan i Gymru oni bai bod Cymru yn garbon niwtral a lle y mae credyd o 10% dros ben.

 

 

 

 

 

 

 

 

Cofnodion:

Cynigydd: Y Cynghorydd Ifan Davies

Eilydd: Y Cynghorydd Ray Quant

 

Mae’r Cyngor yn nodi:

Mae’r Grŵp Annibynnol yn gofyn i Gyngor Sir Ceredigion alw ar Lywodraeth Cymru ddeddfu fel y bydd:

1. Unrhyw gymhorthdal a geir yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy unrhyw gynlluniau gan y llywodraeth ar gyfer rheoli carbon:

a) Yn cael ei gadw fel credyd carbon er budd economi Cymru a’r bobl,

b) a bod gan bob Sir enillion canrannol o unrhyw gredyd a gynhyrchir yn y Sir dan sylw y gellir eu gosod yn erbyn gwasanaethau cyhoeddus a nwyddau o’r Sir honno,

c) a hefyd, na ellir symbylu unrhyw werthiant neu les trydydd parti ar gredyd carbon y tu allan i Gymru oni bai bod Cymru yn garbon niwtral a lle y mae credyd o 10% dros ben.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Ifan Davies amlinelliad o'r sefyllfa bresennol gan nodi bod Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i Gymru fod yn garbon niwtral erbyn 2050 ac i'r sector cyhoeddus fod 95% yn garbon niwtral erbyn diwedd y degawd. Nodwyd, fodd bynnag, bod argyfwng yng nghefn gwlad Cymru ar hyn o bryd gan fod cwmnïau o wledydd eraill yn prynu ffermydd mewn ardaloedd gwledig ac yn plannu coed ar y fferm gyfan er mwyn cael mynediad at y grantiau rheoli carbon. Dywedodd y Cynghorydd Davies ei fod yn ymwybodol o bedair fferm sydd wedi cael eu prynu yn ddiweddar at y diben hwn, tair yn Sir Gâr ac un yng Ngheredigion. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Davies bod ffermwyr yn sylweddoli bod angen plannu coed ar eu ffermydd. Maent yn cael eu plannu ar dir o ansawdd gwael, ac mae gweddill y tir yn cael ei gadw ar gyfer cynhyrchu bwyd. Bydd y datblygiad diweddar hwn yn effeithio ar ein cymuned, ein diwylliant a'n hiaith Gymraeg. Ni fydd ein pobl ifanc yn gallu aros yma, a gellir cymharu hyn â boddi Tryweryn. Nid yw Cymru ar werth ar gyfer credydau carbon.

 

Mae angen i ni dynnu sylw Llywodraeth Cymru at y gwir berygl sy’n wynebu ardaloedd gwledig. Mae ein hôl troed carbon yng Ngheredigion yn dda iawn, ond canlyniadau anfwriadol y polisi yw, os caiff credydau eu trosglwyddo y tu allan i Gymru, na fyddwn yn gallu cynhyrchu cig, llaeth, caws a chynhyrchion bwyd eraill a bydd yn rhaid i ni fewnforio pethau o'r fath. 

 

Nododd y Cynghorydd Ray Quant ei bod yn bleser eilio’r Cynnig hwn, gan nodi bod hwn yn ddatganiad strategol lefel uchel i Lywodraeth Cymru ar ran Cyngor Sir Ceredigion.

 

Yn ystod y drafodaeth, nododd yr Aelodau eu bod yn cefnogi'r Cynnig gan nodi y gallai prynu credydau carbon gael ei ystyried yn ffordd i gorfforaethau mawr ddadlwytho eu cyfrifoldebau, tra bod ein hunangynhaliaeth a'n gallu i ddiwallu ein hanghenion ein hunain yn cael ei leihau. Nododd yr aelodau fod Llywodraeth Cymru yn darparu grantiau i ffermwyr dyfu coed, a bod yr arian hwn yn cael ei roi i'r corfforaethau mawr hyn. Nododd yr aelodau hefyd y gallai credydau carbon dros ben ddenu busnesau i'r ardal. Nodwyd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Gwasanaethau Democrataidd ar Ddatganiad Amrywiaeth mewn Democratiaeth pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Bolisi, Perfformiad a Phartneriaethau, gan nodi bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi bod yn cymryd camau i hybu cydraddoldeb rhywiol ac amrywiaeth mewn democratiaeth leol a sicrhau bod y rhwystrau a'r heriau i ddenu cynghorwyr mwy amrywiol yn cael eu dileu. Gall y rhwystrau hyn gynnwys ymrwymiad amser ac amseroedd cyfarfodydd, diwylliant gwleidyddol a sefydliadol, gofal plant a chyfrifoldebau gofalu eraill, beirniadaeth gyhoeddus a cham-drin ar-lein, cydnabyddiaeth ariannol ac effaith ar gyflogaeth, a diffyg modelau rôl a deiliaid swyddi o gefndiroedd amrywiol.

 

Cytunodd Cyngor Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn unfrydol y dylai'r holl Awdurdodau Lleol gytuno i Ddatganiad Amrywiaeth mewn Democratiaeth gan roi ymrwymiad cyhoeddus clir i wella amrywiaeth, gan gytuno ar y Datganiad canlynol:

 

Mae'r Cyngor hwn yn ymrwymo i fod yn Gyngor Amrywiol. Rydym yn cytuno i wneud y canlynol:

       Rhoi ymrwymiad cyhoeddus clir i wella amrywiaeth mewn democratiaeth

       Arddangos diwylliant agored a chroesawgar i bawb, gan hybu’r safonau ymddygiad uchaf

       Ystyried amrywio amser cychwyn cyfarfodydd y cyngor a chytuno ar gyfnodau toriad i gefnogi cynghorwyr sydd ag ymrwymiadau eraill; a

       Nodi Cynllun Gweithredu o weithgarwch cyn etholiadau lleol 2022.

 

Cydnabu'r Aelodau fod diffyg amrywiaeth o fewn y Cyngor ar hyn o bryd, gan annog pobl o bob cefndir i sefyll yn yr etholiad nesaf. Roeddent hefyd yn cydnabod yr heriau a'r anhawster wrth berswadio unigolion i sefyll yn etholiadau'r Cyngor yn yr hinsawdd bresennol, a nodwyd y byddai'r Cyngor yn ceisio denu gwahanol garfanau drwy'r llwyfannau ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD:

(i)    cymeradwyo'r Datganiad Amrywiaeth fel y cytunwyd gan Gyngor Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fel a ganlyn:

Mae’r Cyngor hwn yn ymrwymo i fod yn Gyngor Amrywiol. Rydym yn cytuno i wneud y canlynol:

       Rhoi ymrwymiad cyhoeddus clir i wella amrywiaeth mewn democratiaeth

       Arddangos diwylliant agored a chroesawgar i bawb, gan hybu’r safonau ymddygiad uchaf

       Ystyried amrywio amser cychwyn cyfarfodydd y cyngor a chytuno ar gyfnodau toriad i gefnogi cynghorwyr sydd ag ymrwymiadau eraill; a

       Nodi Cynllun Gweithredu o weithgarwch cyn etholiadau lleol 2022.

(ii)   cymeradwyo bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, ar y cyd ag Arweinwyr y Grwpiau, yn cytuno ar gynllun gweithredu yn arwain at etholiadau lleol 2022 gyda’r bwriad o wella amrywiaeth mewn democratiaeth, ac yn ei gyflawni.

8.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Gwasanaethau Democrataidd ar Ddatganiad Caeredin pdf eicon PDF 661 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Bolisi, Perfformiad a Phartneriaethau yr adroddiad, gan nodi bod llythyr wedi dod i law gan Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn gwahodd Awdurdodau Lleol i ymuno â Llywodraeth Cymru i gefnogi 'Datganiad Caeredin: cynnwys rôl awdurdodau lleol a dinasoedd yn fwy o fewn y fframwaith bioamrywiaeth byd-eang ar ôl 2020 - gan sicrhau newid trawsnewidiol i natur dros y degawd nesaf’.

 

Mae Datganiad Caeredin yn nodi ymrwymiadau i weithredu'r fframwaith bioamrywiaeth byd-eang ar ôl 2020 yn lleol, gan sicrhau bod pobl sy'n byw mewn awdurdodau lleol ledled Cymru yn gallu byw mewn cytgord â natur a diogelu ecosystemau lleol gwerthfawr ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

 

Roedd yr aelodau'n cydnabod pwysigrwydd bioamrywiaeth ac ecosystemau lleol, ond roedd pryder bod diffyg manylder yn y llythyr gan y Gweinidog, ac nad oedd wedi ystyried canlyniadau anfwriadol megis yr effaith ar benderfyniadau cynllunio.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD cymeradwyo bod y Cyngor yn cofrestru i addo ei gefnogaeth i Broses a Datganiad Caeredin.

 

9.

Ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ar y Polisi a Gweithdrefnau Diwygiedig o ran Pryderon a Chwynion gan gynnwys adroddiad gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol pdf eicon PDF 5 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet ar gyfer Polisi, Perfformiad a Phartneriaethau, yr adroddiad i’r Cyngor, gan nodi bod Polisi a Gweithdrefnau’r Cyngor o ran Pryderon a Chwynion wedi’u diweddaru er mwyn ymgorffori’r newidiadau sefydliadol a gweithredol helaeth sydd wedi digwydd ers yr adolygiad diwethaf yn 2015, gan gynnwys canoli’r Gwasanaeth Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth, ac er mwyn sicrhau bod trefniadau’r Cyngor ar gyfer rheoli pryderon a chwynion corfforaethol yn cydymffurfio â’r gofynion a bennir gan yr Awdurdod Safonau Cwynion a gyflwynwyd o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019, rhoi awdurdod i'r Ombwdsmon ymchwilio heb atgyfeiriad gan achwynydd.

 

Mae’r gofynion hyn wedi’u cynnwys yn nogfen Gweithdrefnau Cwyno’r Cyngor, sy’n cynnwys darparu adroddiadau ddwywaith y flwyddyn i Bwyllgor y Cabinet o Aelodau Etholedig, a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu o leiaf ddwywaith y flwyddyn am berfformiad cwynion y Cyngor.

 

Diolchodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn i'r Swyddogion am eu gwaith wrth lunio'r adroddiad ac am ddiwygio'r polisi yn unol â hynny.

 

Nododd y Cynghorydd Ivor Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, fod y pwyllgor wedi adolygu'r adroddiad yn ei gyfarfod ar 7 Gorffennaf 2021, gan argymell ei fod yn cael ei gyfeirio at y Cyngor i'w gymeradwyo.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Polisi a’r Gweithdrefnau diwygiedig (2021) o ran Pryderon a Chwynion, a'u gweithredu a'u cyhoeddi.

10.

Ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu ar ddefnydd y Cyngor o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (RIPA) pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Ray Quant, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu, Pobl a Threfniadaeth a Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad, gan nodi bod Swyddfa'r Comisiynydd Pwerau Ymchwilio (IPCO) wedi cynnal adolygiad yn ddiweddar o'r ffyrdd y mae awdurdodau cyhoeddus yn trin data, gan gynnwys unrhyw ddata a gafwyd o dan Ddeddf Pwerau Ymchwilio 2016 a Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (RIPA) 2000.

 

Mae Polisi Corfforaethol a Dogfen Weithdrefnau RIPA RHAN II Gwyliadwriaeth Gyfeiriedig, Ffynonellau Cuddwybodaeth Ddynol a Data Cyfathrebu wedi cael eu diweddaru, ac mae’r newidiadau hyn ynghyd â’r Polisi Cyfryngau Cymdeithasol RIPA drafft wedi cael eu hystyried gan Bwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu’r Cyngor ar 15 Medi 2021, a benderfynodd argymell bod y Cyngor yn eu cymeradwyo.

 

Diolchodd y Cynghorydd Ray Quant i Swyddogion am eu gwaith caled wrth baratoi'r dogfennau a'u cyflwyno i'r Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD:

1. Cymeradwyo’r newidiadau a wnaed i Bolisi RIPA’r Cyngor (yn unol ag Atodiad 1 yr adroddiad);

2. Cymeradwyo’r Polisi Cyfryngau Cymdeithasol RIPA drafft (yn unol ag Atodiad 2 yr adroddiad).

11.

Ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Economi ac Adfywio ar Ffosffadau ar Ardal Gadwraeth Afon Teifi pdf eicon PDF 396 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Rhodri Evans, yr Aelod Cabinet dros Yr Economi ac Adfywio, yr adroddiad gan amlinellu’r sefyllfa mewn perthynas â Ffosffadau o fewn Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Teifi a gofyn am Bwerau Dirprwyedig i benderfynu ar Geisiadau Cynllunio a fyddai'n effeithio'n andwyol ar integredd yr Ardal Cadwraeth Arbennig. Nodwyd y cyflwynwyd adroddiad i’r Cabinet ar 13 Gorffennaf 2021 ac fe’i cymeradwywyd. 

 

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ‘awdurdod cymwys’ o dan y Rheoliadau Cynefinoedd, ac felly mae’n ofynnol yn gyfreithiol i’r cyngor asesu effeithiau posibl prosiectau a chynlluniau ar safleoedd o bwysigrwydd rhyngwladol, sy’n cynnwys Ardal Cadwraeth Arbennig afon Teifi a dalgylchoedd. Lle mae 'Effaith Arwyddocaol Debygol', rhaid i'r cyngor gynnal 'Asesiad Priodol' er mwyn penderfynu, gyda sicrwydd gwyddonol, na fyddai dim 'Effaith Niweidiol ar Integredd' ar y safle dynodedig yn sgil y cynllun neu'r prosiect, naill ai ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad â chynlluniau a phrosiectau eraill.

 

Nodwyd bod gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol 45 o geisiadau na ellir eu penderfynu oherwydd y mater uchod, ac mae angen gwrthod y ceisiadau, ond ar hyn o bryd nid oes gan Swyddog Arweiniol Corfforaethol Yr Economi ac Adfywio'r pwerau dirprwyedig i wrthod, ac ar ben hynny ni all Aelodau Lleol ofyn bod ceisiadau'n cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Rheoli Datblygu i'w penderfynu, gan nad oes gwybodaeth ddigonol i gefnogi cynnig a byddai penderfyniad i gymeradwyo yn arwain at benderfyniad anghyfreithlon.

 

Nododd yr Aelodau eu pryderon ynghylch yr effaith ar geisiadau cynllunio a'r effaith ar fasnachwyr megis adeiladwyr, trydanwyr a phlymwyr; yr effaith ar ddatblygiadau pwysig megis Cylch Carol, y Canolfannau Lles a thai cymdeithasol;  y diffyg manylion a ddarparwyd gan Dŵr Cymru ynghylch y dull samplu; pryder y gellir ymestyn hyn i gynnwys ardaloedd arfordirol lle y gallai fod effaith ar yr amgylchedd morol; pryder ynghylch gwaith trin carthion preifat nad yw Dŵr Cymru wedi'i fabwysiadu a'r costau a drosglwyddir i breswylwyr a'r diffyg amserlen gan Lywodraeth Cymru ar gyfer darparu canllawiau ar sut y dylid gwneud y penderfyniadau hyn.

 

Nodwyd bod Arweinydd y Cyngor a'r Prif Weithredwr wedi cyfarfod â Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, ond ychydig iawn o wybodaeth oedd ar gael. Mae Russell Hughes-Pickering, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Yr Economi ac Adfywio, wedi sefydlu Bwrdd Rheoli Maetholion, a fydd yn cael ei gadeirio gan y Cynghorydd Rhodri Evans. Bydd y bwrdd hwn yn gallu ymchwilio i'r pryderon hyn yn fanwl.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD cymeradwyo rhoi Pwerau Dirprwyedig i Swyddog Arweiniol Corfforaethol Yr Economi ac Adfywio mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet i benderfynu ar geisiadau cynllunio lle mae ffosffadau yn broblem (yn unol â Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017), ac a dderbyniwyd ar ôl 1 Mehefin 2021. Byddai ceisiadau sy’n disgyn i’r categori hwn, ac a ddaeth i law cyn 1 Mehefin 2021, yn cael eu dal yn ôl hyd nes y ceir arweiniad clir ar gyfer penderfynu ar geisiadau.

12.

Ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu ar newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor pdf eicon PDF 9 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Ray Quant, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu, Pobl a Threfniadaeth a Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad gan nodi bod y newidiadau arfaethedig wedi cael eu hystyried a'u cymeradwyo gan y Gweithgor Trawsbleidiol, gan gynnwys:

·       Newidiadau sy’n ymwneud â’r Pwyllgor Moeseg a Safonau a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i adlewyrchu gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (‘Deddf 2021’);

·       Diwygiad i ffi’r Cyfansoddiad i adlewyrchu y caiff copïau o'r Cyfansoddiad eu darparu ar gyfer tâl sy'n cynrychioli dim mwy na chost darparu'r copi;

·       Diwygiadau i’r canllaw i’r Cyfansoddiad;

·       Cyfeiriad at Ddatganiad/Polisi Atal Caethwasiaeth y Cyngor

·       Esboniad a diwygiadau i ddirprwyaethau mewn perthynas â Channel a CONTEST;

·       Diwygiadau i’r dirprwyaethau i’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd i adlewyrchu newidiadau deddfwriaethol mewn perthynas ag anifeiliaid gwyllt a syrcasau teithiol, rheoliadau ysmygu, coed peryglus a sbwriel;

·       Cael gwared ag Ein Rhanbarth ar Waith (‘ERW’);

·       Diwygiadau ynghylch Rhybuddion o Gynnig y penderfynodd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd argymell i'r Cyngor eu cymeradwyo;

·       Diwygiadau i’r broses galw i mewn y penderfynodd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd argymell i'r Cyngor eu cymeradwyo;

·       Diwygiadau i egluro'r gweithdrefnau pleidleisio;

·       Diwygiadau sy'n ymwneud â Phwyllgorau Rheoleiddio sy'n cyfeirio at weithdrefnau pleidleisio;

·       Cyfeiriad at y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol;

·       Dirprwyaethau i Swyddog Arweiniol Corfforaethol Yr Economi ac Adfywio mewn perthynas â Ffosffadau mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig;

·       Diwygiad i Dai gan gynnwys cyflwyno a threfniadau dirprwyo Rheoliadau Effeithlonrwydd Ynni (Eiddo Rhent Preifat) (Cymru a Lloegr) 2015 a Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019;

·       Diwygiad i eiriad, gan ddileu’r cyfyngiad ar Swyddog Monitro Awdurdod Lleol i fod yn Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn unol â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021; i gael ei ddiwygio o fis Mai 2022;

·       Diwygiad i enw Porth Cymorth Cynnar;

·       Diwygiadau i’r dirprwyaethau i’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Cyswllt Cwsmeriaid i gadarnhau’r cyfrifoldeb ar gyfer cydnerthedd seiber;

·       Diwygiad i’r geiriad, gan ddisodli'r gair 'cyflog' â ‘taliad cydnabyddiaeth’ mewn perthynas â'r Prif Weithredwr yn unol â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a ddaeth i rym o 20 Mawrth 2021 ymlaen, a diwygio’r teitl o ‘Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig’ i ‘Prif Weithredwr’;

·       Diwygiad i adlewyrchu gofyniad i ymgynghori ar brosesau gwneud penderfyniadau a pherfformiad yn unol â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Nodwyd nifer o fân welliannau hefyd yn ymwneud â newidiadau o ran arddull a fformat, a chywiriadau i enwau pwyllgorau.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD:

1.  Nodi cynnwys yr adroddiad 

2. Cymeradwyo'r newidiadau i'r Cyfansoddiad, fel yr argymhellwyd gan Weithgor Trawsbleidiol Cyfansoddiad y Cyngor ac fel y'u rhestrir yng Nghynigion 1-20 yr Adroddiad; ac

3. Awdurdodi’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu/Swyddog Monitro i ddiweddaru Cyfansoddiad y Cyngor.

13.

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar Adolygu cydnabyddiaeth ariannol swydd y Prif Weithredwr pdf eicon PDF 605 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Ray Quant, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu, Pobl a Threfniadaeth a Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad yn nodi bod Camau 1 a 2 ailstrwythuro'r Cyngor wedi cael eu cytuno gan y Cyngor yn 2018 a 2019. Nodwyd, o ganlyniad i'r ailstrwythuro hwn, fod 3 rôl yn llai ar lefel Uwch Reolwyr bellach. Mae Cam 3 yr ailstrwythuro yn mynd i’r afael â lefel cydnabyddiaeth ariannol y Prif Weithredwr drwy gyflwyno strwythur tâl newydd ac ystod pedwar pwynt er mwyn sicrhau ei bod yn gyson ag ystod cyflog holl Brif Swyddogion eraill y Cyngor. Nodwyd bod y cynigion wedi'u cyflwyno a'u cymeradwyo gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar 11 Mehefin 2021.

 

Diolchodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn i Caroline Lewis, Cyfarwyddwr Corfforaethol am arwain ar elfen olaf y broses ailstrwythuro, gan ddiolch hefyd i'r Prif Weithredwr a'r holl Uwch Swyddogion am yr holl waith ychwanegol a wnaed yn ystod y cyfnod heriol diweddar.

 

Nodwyd bod mesurau wedi'u rhoi ar waith i sicrhau y byddai strwythur cyflog deuol yn cael ei gynnal pe na bai Swyddog yn derbyn dyfarniad cyflog i sicrhau nad oedd y sefyllfa hon yn codi eto.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD:

1.    derbyn y cynnig i ddiwygio cydnabyddiaeth ariannol ac ystod cydnabyddiaeth ariannol swydd y prif swyddog fel y nodir uchod ac fel y cymeradwywyd gan y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol;

cymeradwyo gweithredu’r newidiadau i ystod cydnabyddiaeth ariannol swydd y Prif Weithredwr, a’u bod yn dod i rym o 1 Ebrill 2021.

14.

Ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Gwasanaethau Democrataidd ar Enwebu cynrychiolydd o'r Cyngor Sir ar Gyngor Iechyd Cymunedol Hywel Dda pdf eicon PDF 390 KB

Cofnodion:

Esboniodd y Cynghorydd Alun Williams ei resymau dros roi’r gorau i’r rôl hon, er mwyn parhau i ddarparu'r brechlyn COVID-19, a diolchodd i'r Cyngor Iechyd Cymuned lleol ac Aelodau eraill y Grŵp Gweithredol am eu holl waith caled. Nodwyd bod y grŵp hwn yn eiriolwyr dros gwynion cleifion ac yn gyfrifol am ddwyn Bwrdd Iechyd Hywel Dda i gyfrif. Yn ogystal â hyn, maent wedi gweithio'n galed i sicrhau bod sgrinio am ganser y coluddyn a chanser y fron yn cael ei ailgyflwyno, a nhw oedd y Bwrdd Iechyd cyntaf yng Nghymru i ddarparu i-Pads ar bob ward ysbyty.

 

Yn dilyn pleidlais, enwebwyd y Cynghorydd Gareth Davies i gynrychioli Cyngor Sir Ceredigion ar Gyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda.

15.

Ystyried Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 2020/21 pdf eicon PDF 630 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Rowland Rees-Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio, yr adroddiad i'r Cyngor gan nodi'r gwaith a wnaed yn ystod y flwyddyn.

 

Diolchodd i'r Swyddogion am eu gwaith caled trwy gydol y flwyddyn, a diolchodd i Aelodau'r Pwyllgor Archwilio am eu cyfraniad.

 

Nododd y Cyngor gynnwys yr adroddiad.