Agenda a Chofnodion

Cyngor - Dydd Iau, 17eg Mehefin, 2021 10.00 am

Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

a)     Ymddiheurodd y Cynghorydd Alun Lloyd Jones am nad oedd modd iddo fod yn bresennol yn y cyfarfod oherwydd ymrwymiadau eraill yn ymwneud â’r Cyngor;

b)     Ymddiheurodd y Cynghorwyr Lloyd Edwards, Hag Harris a Gwyn James am nad oedd modd iddynt fod yn bresennol yn y cyfarfod.

c)      Ymddiheurodd Barry Rees am nad oedd modd iddo fod yn bresennol yn y cyfarfod oherwydd ymrwymiadau eraill yn ymwneud â’r Cyngor.

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

a)      Datganodd y Cynghorwyr Bryan Davies, Ifan Davies, Marc Davies, Meirion Davies, Rhodri Evans, Catherine Hughes, Maldwyn Lewis, Dai Mason a Dan Potter fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chofnod 6 isod, a gadawsant y cyfarfod yn ystod yr eitem hon;

3.

Materion Personol

Cofnodion:

a)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Paul Hinge Josh Hathaway, Iestyn Thomas a Ioan Lewis o Glwb Rygbi Aberystwyth a chwaraeodd i dîm rygbi dan 18 y Scarlets y diwrnod blaenorol;

b)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn dîm Pêl-droed Cymru ar ei berfformiad y noson flaenorol gan nodi bod Rhys Norrington-Davies o Dalybont yn aelod o’r garfan;

c)    Estynnodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn ei llongyfarchion i Osian Jones, Ysgol Ciliau Parc, enillydd y gystadleuaeth dan 12 oed i greu siant bêl-droed newydd i gefnogi tîm pêl-droed Cymru;

d)    Estynnodd Ellen ap Gwynn ei dymuniadau gorau i Kay Davies, Swyddog Gwasanaethau Democrataidd ar ei hymddeoliad;

e)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn y Cynghorydd Alun Williams ar ei benodiad yn Faer Aberystwyth;

f)     Llongyfarchodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn y Cynghorydd Catherine Hughes ar ei phenodiad yn Gadeirydd Cyngor Cymuned Tregaron;

g)    Llongyfarchodd Ellen ap Gwynn Meinir Mathias ar ennill ‘Gwobr y Bobl’ yr Academi Frenhinol Gymreig.

h)    Estynnodd Rhodri Evans ei longyfarchion i Ann Jones ar gael ei hethol yn Gadeirydd Cenedlaethol Sefydliad y Merched.

i)     Estynnodd y Cynghorydd Euros Davies ei ddymuniadau gorau i Rose Florence a ddathlodd ei phen-blwydd yn 103 oed yn ddiweddar;

j)     Llongyfarchodd y Cynghorydd Catherine Hughes yr Uned Ofalwyr ar drefnu Wythnos Ofalwyr lwyddiannus iawn.

k)    Llongyfarchodd Catherine Hughes ddisgyblion Ceredigion ar y gwobrau a enillwyd yn yr Eisteddfod T hynod lwyddiannus a gynhaliwyd o Langrannog yn ddiweddar.  Llongyfarchwyd yr Urdd hefyd am drefnu wythnos lwyddiannus o gystadlu.

l)     Estynnodd y Cynghorydd Lyndon Lloyd ei ddymuniadau gorau i’r cyn-Gynghorydd, Mr Huw Davies, am wasanaethu ar Gyngor Cymuned Beulah am 42 o flynyddoedd.

4.

Diweddariad ar lafar gan Arweinydd y Cyngor parthed COVID-19

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn ddiweddariad ar lafar mewn perthynas â COVID-19 yng Ngheredigion.

Nododd fod yr amrywiolyn Delta yn achosi pryder yng Nghymru a ledled y DU a bod nifer yr achosion yn cynyddu. Cofnodwyd naw achos newydd yng Ngheredigion yn ystod yr wythnos ddiwethaf, sy’n gyfystyr â 12.4 i bob can mil. Mae’r gyfradd ar gyfer Cymru gyfan yn cyfateb i 22.5 i bob can mil, ac mae’n annhebygol y bydd y cyfyngiadau’n llacio cyn Gorffennaf; atgoffodd bawb o’r angen i ddilyn y rheoliadau cyfredol. Nodwyd, fodd bynnag, nad yw nifer yr achosion wedi cynyddu’n sylweddol yng Ngheredigion wedi gwyliau’r hanner tymor, o’i gymharu ag ardaloedd eraill.

 

Mae’r rhaglen frechu’n parhau’n effeithiol, ac yng Ngheredigion mae 67% wedi cael y brechlyn cyntaf a 40.4% wedi cael yr ail frechlyn.  Bellach mae pawb dros 18 oed wedi derbyn gwahoddiad i gael eu brechlyn ac o ran y sawl a oedd efallai wedi methu eu hapwyntiad gwreiddiol, mae cyfle o hyd iddynt fynd i gael eu brechu mewn sesiynau galw i mewn.  Ar hyn o bryd, mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn edrych ar y dystiolaeth sy’n ymwneud â sut i gymhwyso’r brechlyn i bobl ifanc o oed Ysgol Uwchradd, ond nid oes penderfyniad wedi’i wneud hyd yn hyn. 

 

Nododd bod Disgyblion wedi derbyn eu graddau a bennir gan ganolfannau, yn dilyn yr asesiadau, ac y bydd disgyblion yn cael cyfle i apelio yn erbyn y graddau hyn yn yr wythnosau nesaf.  Llongyfarchodd y disgyblion a diolchodd i’r staff gan nodi y byddai’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi, yn ôl yr arfer, yn ystod mis Awst. 

 

Mae mwy o ymweliadau wedi bod â Chartrefi Gofal drwy’r podiau a thu allan a gobeithir y bydd ymweliadau y tu mewn i’r adeilad yn gallu dechrau cyn bo hir.

 

Bu’r Parthau Diogel yn llwyddiannus ar y cyfan yn ystod yr hyn a oedd yn hanner tymor prysur.  Mae’r staff wedi gwrando ar y cyhoedd ac addaswyd y Parthau Diogel lle’n bosibl. 

 

Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn para tan fis Medi, wedi cyfrannu at y costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â COVID-19, ac rydym wedi penodi staff ychwanegol yn Gynorthwywyr Ymwelwyr yn ein trefi.  Mae grantiau busnes ar gael gan wasanaeth ‘Busnes Cymru’ yn ogystal â thrwy Gyngor Sir Ceredigion i’r busnesau hynny na fu’n bosibl iddynt ailagor.

 

Mae’r llyfrgelloedd wedi ailagor i’r cyhoedd drwy apwyntiad ac mae hi’n dal yn bosibl trefnu gwasanaeth clicio a chasglu. 

 

Mae rhai o’n Canolfannau Hamdden gan gynnwys Llanbedr Pont Steffan ac Aberaeron wedi ailagor.  Mae Gwasanaethau Hamdden ar gael yn ardal Aberystwyth yn Neuadd Chwaraeon Penglais tra bo gwaith cynnal a chadw’n cael ei wneud yng Nghanolfan Hamdden Plascrug.  Mae gwaith cynnal a chadw yn cael ei wneud hefyd ym Mhwll Nofio Llanbedr Pont Steffan.  Nodwyd bod pwll nofio Aberaeron ar agor hefyd ynghyd â Chanolfan Hamdden Llandysul.

 

Nodwyd hefyd y byddai cyfarfodydd misol yn cael eu cynnal i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynghylch COVID-19.

5.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd 14.05.2021 pdf eicon PDF 136 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd 14eg Mai 2021 yn rhai cywir.

6.

Diweddariad ar y rhybudd o gynnig canlynol a gyflwynwyd ar 10 Rhagfyr 2020 yn unol â Rheol 10.1 o Reolau a Gweithdrefnau'r Cyngor pdf eicon PDF 731 KB

Cynigiwyd gan: Cyng. Mark Strong

Eiliwyd gan: Cyng. Ellen ap Gwynn

 

Noda’r Cyngor:

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn galw ar Llywodraeth Cymru i:

1.     ychwanegu cymal newydd i’r Ddeddf Gynllunio fel ei bod yn orfodol i wneud cais cynllunio cyn cael hawl i drosi  anedd yn  haf  neu uned gwyliau

2.     i addasur fframwaith bolisi i ganiatáu gosod trothwyon o ran uchafswm niferoedd o dai haf mewn unrhyw ardal

3.     ei gwneud yn orfodol i berchennog ail gartref ofyn am ganiatâd cynllunio cyn trosi ail gartref yn fusnes gwyliau neu AirBnB.

 

Cofnodion:

Cynigydd: Y Cynghorydd Mark Strong

Eilydd: Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn

Mae’r Cyngor yn nodi bod:

Cyngor Sir Ceredigion yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

1. ychwanegu cymal newydd i’r Ddeddf Gynllunio fel ei bod yn orfodol i wneud cais cynllunio cyn cael hawl i drosi tŷ annedd yn dŷ haf neu uned gwyliau.

2. addasu’r fframwaith polisi i ganiatáu gosod trothwyon o ran uchafswm niferoedd o dai haf mewn unrhyw ardal.

3. ei gwneud yn orfodol i berchennog ail gartref ofyn am ganiatâd cynllunio cyn trosi ail gartref yn fusnes gwyliau neu AirBnB.

 

Amlinellodd y Cynghorydd Mark Strong yr amgylchiadau a arweiniodd at y Rhybudd o Gynnig gan gadarnhau bod yr argymhelliad wedi’i ystyried a’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus a’r Pwyllgor Iaith, gan ganolbwyntio’n benodol ar gystadleuaeth annheg a’r angen i bobl ifanc yn ein cymunedau allu prynu cartrefi.

 

Nododd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn ei bod yn bleser eilio’r Cynnig hwn a diolchodd i’r staff am yr adroddiad llawn ar y sefyllfa a gyflwynwyd i’r ddau Bwyllgor. Nododd bod y Pwyllgor Iaith yn gwbl gefnogol i’r Cynnig hwn.

 

Nododd y Cynghorydd Euros Davies bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus hefyd wedi pleidleisio o blaid yr argymhellion.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Edwards welliant i’r Cynnig, i gynnwys ‘ar sail gymunedol’ ar ddiwedd ail bwynt y cynnig ac i roi ‘ac yn ôl-weithredol’ ar ddiwedd trydydd pwynt y cynnig.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Rowland Rees-Evans. Yn dilyn trafodaeth, fodd bynnag, tynnodd y ddau y cynnig o welliant i’r Cynnig yn ôl. 

 

Ystyriodd y Cyngor argymhelliad gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus bod cynnydd o 100% yn cael ei godi ar Dreth Gyngor cartrefi gwyliau yn y sir.

 

Gofynnodd Ellen ap Gwynn i Swyddogion gyflwyno adroddiad ar y goblygiadau o bennu treth o 100% ar eiddo o’r fath, a gohirio trafodaeth lawn ar hyn tan bod yr adroddiad hwnnw’n cael ei dderbyn.  Argymhellodd hefyd bod cronfa yn cael ei sefydlu i gynorthwyo pobl ifanc lleol i brynu cartrefi.

 

Nododd y Cynghorydd Ceredig Davies bod y Cyngor wedi cytuno o’r blaen y byddai unrhyw gyllid ychwanegol a dderbynnir drwy Bremiwn y Dreth Gyngor ar gartrefi gwyliau yn cael ei wario yn y cymunedau hynny, felly byddai angen i’r Cyngor ystyried unrhyw ddiwygiadau i’r polisi.  Ni ddylai fod yn ôl-weithredol.

 

Nododd y Cynghorydd Gareth Davies y dylai cynllunio ddod yn gyntaf.

 

Nododd y Cynghorydd Elizabeth Evans fod yr ardoll yn parhau ac y dylai’r adroddiad hefyd ystyried dadansoddiad o rentu preifat yng Ngheredigion.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD:

1.    Cytuno’r Rhybudd o Gynnig fel y nodwyd:

2.    nodi’r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus a’r Pwyllgor Iaith; a 

3.    bod Swyddogion yn paratoi adroddiad i’w ystyried gan y Cyngor ynghylch argymhelliad y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus bod cynnydd o 100% yn cael ei godi ar dreth gyngor cartrefi gwyliau yn y Sir. 

7.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffaeth ar Bolisi Isafswm Darpariaeth Refeniw 2021/22 pdf eicon PDF 606 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyllid a Chaffael a Diogelu’r Cyhoedd yr adroddiad gan nodi bod Swyddogion wedi cynnal adolygiad pellach yn ddiweddar mewn perthynas â mabwysiadu’r Dull Oes Ased ar gyfer codi ar yr Isafswm Darpariaeth Refeniw.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i’r wybodaeth gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 3ydd Mehefin 2021, a chytunodd y Pwyllgor i gefnogi’r Polisi Diwygiedig arfaethedig yn amodol ar adolygiadau cyfnodol.  Cytunodd Archwilio Cymru, a oedd yn bresennol yn y cyfarfod o’r Pwyllgor, hefyd â’r diwygiad hwn.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw ar gyfer 2021/22 fel y’i cyflwynir yn Atodiad A yr adroddiad.

 

8.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Economi ac Adfywio ar Gynllun Gweithredu Carbwn Sero-Net pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet ar gyfer Porth Cynnal a Chadeirydd y Grŵp Newid Hinsawdd a Rheoli Carbon yr adroddiad gan nodi bod y Cyngor, ar 20 Mehefin 2019, wedi ymrwymo i wneud Ceredigion yn Awdurdod Lleol carbon sero-net erbyn 2030 ac i ddatblygu cynllun clir ar gyfer llwybr tuag at fod yn sero-net o fewn 12 mis. 

 

Rhoddwyd ystyriaeth i’r wybodaeth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus ar 26ain Mai 2021, a chan y Cabinet ar 15fed Mehefin 2021.  Nodwyd bod y Cabinet wedi cymeradwyo’r adroddiad yn amodol ar ddileu’r cyfeiriad y gallai’r  Parthau Diogel gael eu gwneud yn barhaol, a chynnwys gorlifo afonol i’r Gofrestr Risgiau Corfforaethol.  Nodwyd hefyd y byddai cynrychiolydd o’r Grŵp Democratiaid Rhyddfrydol yn cael ei wahodd i fod yn bresennol yn y Grŵp Rheoli Carbon.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu Sero-net a’r Camau Gweithredu a nodir ynddo.

9.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyfreithiol a Llywodraethu ar Strategaeth Atal Twyll, Llygredd a Llwgrwobrwyo pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Ray Quant, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu, Pobl a Threfniadaeth a’r Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad gan nodi bod gan Gyngor Sir Ceredigion ddyletswydd i’r cyhoedd i ddiogelu arian a ddylai gael ei ddefnyddio er budd y cyhoedd ac i fynd i’r afael â’r risgiau mewn perthynas â thwyll. I’r diben hwn, mae’r Cyngor wedi diweddaru ei strategaeth.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i’r wybodaeth gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 3ydd Mehefin 2021, a chadarnhaodd y Cynghorydd Elizabeth Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio eu bod wedi cael sicrwydd bod pob peth yn ei le a bod y Pwyllgor wedi cymeradwyo cyflwyno’r strategaeth i’r Cyngor i’w chymeradwyo’n derfynol. 

 

Yn dilyn pleidlais yn eithriad PENDERFYNWYD cymeradwyo  Strategaeth ddiwygiedig y Cyngor ar Atal Twyll, Llygredd a Llwgrwobrwyo (i gynnwys Atal Gwyngalchu Arian).

10.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyfreithiol a Llywodraethu ar faint y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf eicon PDF 473 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Ray Quant, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu, Pobl a Threfniadaeth a’r Gwasanaethau Democrataidd, yr adroddiad gan nodi bod Adran 116 ‘Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn mynnu bod yn rhaid i draean o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fod yn Aelodau lleyg, ac y bydd y ddarpariaeth hon yn dod i rym ar 5ed Mai 2022.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i’r wybodaeth gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 24ain Chwefror 2021, a’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 21ain Mai 2021, a phenderfynwyd argymell i’r Cyngor y bydd y Pwyllgor yn y dyfodol yn cynnwys 3 aelod lleyg/annibynnol a 6 Chynghorydd Sir, a hynny o 6 Mai 2022.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD y bydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, o 5ed Mai 2022, yn cynnwys: 

·         6 x Aelod o’r Cyngor Sir 

·         3 x aelod lleyg annibynnol

Cyfanswm: 9.

11.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyfreithiol a Llywodraethu ar recriwtio dau Aelod Annibynnol ac apwyntio Cadeirydd ac Is-Gadeirydd i'r Pwyllgor Moeseg a Safonau pdf eicon PDF 396 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Ray Quant, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu, Pobl a Threfniadaeth a’r Gwasanaethau Democrataidd, yr adroddiad gan amlinellu’r broses recriwtio, a gofynnodd i’r Cyngor gymeradwyo’r penodiadau. 

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Paul Hinge yr Aelodau lleyg newydd, a’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD:

1.   cymeradwyo penodiad yr aelodau annibynnol a ganlyn i’r Pwyllgor Moeseg a Safonau:

· Caryl Davies;

· Alan Davies

o 27ain Medi 2021 hyd at 26ain Medi 2027.

2.    cymeradwyo’r enwebiadau a ganlyn: 

a)    Caroline White: Cadeirydd (20fed Mai 2021 – 30ain Gorffennaf 2023)

b)    John Weston: Is-gadeirydd (20fed Mai 2021 – 30ain Gorffennaf 2023).

12.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaetholr: Polisi, Perfformaid a Diogelu'r Cyhoedd parthed Cyfamod y Lluoedd Arfog pdf eicon PDF 684 KB

Cofnodion:

Cadeiriwyd yr eitem a ganlyn gan y Cynghorydd Gareth Davies.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Paul Hinge, Aelod Eiriolwr ar gyfer y Lluoedd Arfog, yr adroddiad gan nodi bod y Cyngor wedi llofnodi’r ‘Bartneriaeth Cyfamod Cymunedol’ o’r blaen, yn 2013.  Pwrpas y cynnig hwn yw gofyn i’r Cyngor ailddatgan ei ymrwymiad a bydd hefyd yn gweithredu i adnewyddu ymrwymiadau’r Cyngor i fesurau mwy priodol, a’i gydnabod yn ffurfiol yn genedlaethol.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD y byddai Cyngor Sir Ceredigion yn llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog ac yn coffáu’n gyhoeddus ym mis Medi/Hydref 2021 10fed Pen-blwydd y Cyfamod.

13.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Moeseg a Safonnau 20/21 pdf eicon PDF 945 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Mr Hywel Wyn Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Moeseg a Safonau  yr adroddiad gan nodi eu bod wedi ymdrin â nifer o geisiadau gan unigolion i gael eu hepgor o’r Cyngor a’r Cyngor Cymuned er mwyn iddynt gyfranogi mewn trafodaethau lle bo ganddynt fuddiant sy’n rhagfarnu.  Nododd hefyd eu gwaith wrth hyrwyddo dealltwriaeth o’r safonau y mae angen cadw atynt mewn bywyd cyhoeddus.

 

Nododd hefyd ei fod yn falch na fu’n rhaid iddo adolygu unrhyw atgyfeiriadau gan yr Ombwdsman neu ystyried unrhyw dorri Cod Safonau yn ystod y 10 mlynedd y bu’n aelod o’r pwyllgor hwn, a llongyfarchodd y Cynghorwyr ar hyn. 

 

Diolchodd i’r Swyddogion am eu gwaith a llongyfarchodd Caroline White ar ei phenodiad yn Gadeirydd a John Weston yn Is-gadeirydd.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD:

1.    nodi cynnwys yr adroddiad, ac

2.    ystyried cynnwys yr Adroddiad Blynyddol gan Gadeirydd y Pwyllgor Moeseg a Safonau 2020/21 (Atodiad A).

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mr Hywel Wyn Jones am ei amser ar y Pwyllgor Moeseg a Safonau ac am ei gyfnod fel Cadeirydd.