Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Blynyddol y Cyngor, Cyngor - Dydd Gwener, 14eg Mai, 2021 2.00 pm

Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau a materion personol

Cofnodion:

Ymddiheuriadau

 

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Lloyd Edwards, Maldwyn Lewis a Dan Potter am fethu â bod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Ymddiheurodd Claire Parmenter, Prif Gwnstabl Dros Dro, Heddlu Dyfed-Powys; yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Dewi Sant; y Cynghorydd Gwynfor Thomas, Cadeirydd Cyngor Sir Powys; Chris Davies, Prif Swyddog Tân; Mr Steve Moore, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda; a Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda hefyd am fethu â bod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Materion personol

 

a.    Llongyfarchodd y Cynghorydd Gareth Davies, Cadeirydd y Cyngor, Elin Jones ar gael ei hailethol i'r Senedd ac i'w rôl fel Llywydd;

b.    Llongyfarchodd y Cynghorydd Gareth Davies, Cadeirydd y Cyngor, Dafydd Llywelyn ar gael ei ailethol yn Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer ardal Heddlu Dyfed-Powys;

c.    Llongyfarchodd y Cynghorydd Ray Quant, ar ran y Grŵp Annibynnol, Elin Jones ar gael ei hailethol i’r Senedd ac i’w rôl fel Llywydd, Dafydd Llywelyn ar gael ei ailethol yn Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer ardal Heddlu Dyfed-Powys; Cynrychiolwyr rhanbarthol; a Mark Drakeford sy’n dychwelyd fel Prif Weinidog;

d.    Llongyfarchodd y Cynghorydd Ceredig Davies, ar ran Grŵp Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Elin Jones ar gael ei hailethol i'r Senedd ac i'w rôl fel Llywydd, Dafydd Llywelyn ar gael ei ail-benodi'n Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer ardal Heddlu Dyfed-Powys; a thalodd deyrnged i'r holl Gynrychiolwyr Rhanbarthol.

2.

Adolygiad o'r Flwyddyn yn y Swydd gan Gadeirydd y Cyngor

Cofnodion:

Nododd y Cynghorydd Gareth Davies fod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un anarferol a heriol dros ben. Nododd fod Cyngor Sir Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cydweithio'n eithriadol o dda drwy gydol y pandemig i sicrhau diogelwch ein trigolion, a chaiff hynny ei adlewyrchu yn y nifer gymharol isel o bobl sydd wedi cael eu heffeithio yma yng Ngheredigion. Fodd bynnag, ni wnaeth y Sir osgoi’r pandemig hwn yn llwyr, a thalodd deyrnged i'r rhai sydd wedi colli anwyliaid o ganlyniad i COVID-19.

 

Talodd y Cadeirydd deyrnged i holl staff y Cyngor am eu gwaith caled a'u hymroddiad, gyda llawer yn gweithio oriau hir ac yn mynd y tu hwnt i’r gofyn er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu’n ddidrafferth ac er mwyn sicrhau diogelwch trigolion Ceredigion.

 

Nododd, oherwydd yr amgylchiadau, ei bod yn ddigon posibl y byddai'n cael ei gofio fel y Cadeirydd na eisteddodd erioed yn ei gadair yn Siambr y Cyngor; na wisgodd ei gadwyn ond ar ddau achlysur, ac na chafodd gyfle erioed i gynrychioli'r Cyngor mewn unrhyw ddigwyddiadau ffurfiol. Nododd ei siom nad oedd wedi gallu cynrychioli'r Cyngor yn eisteddfod Tregaron yn 2020.

 

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Davies ei bod wedi bod yn anrhydedd cael bod yn Gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, a diolchodd i'r holl Aelodau am eu cydweithrediad. Diolchodd i'r Parchedig Andrew Loat a Swyddogion y Cyngor, a dymunodd yn dda i'r Cadeirydd newydd, yr Is-gadeirydd a'u Consortiau am y flwyddyn i ddod.

3.

Gwerthfawrogiad y Cyngor am wasanaeth y Cadeirydd yn ystod Blwyddyn Fwrdeistrefol 2020/21

I’w gynnig gan y Cynghorydd Matthew Woolfall Jones

 

Cofnodion:

Talodd y Cynghorydd Matthew Woolfall-Jones deyrnged i'r Cadeirydd, y Cynghorydd Gareth Davies, am ddarparu gwasanaeth rhagorol yn ystod cyfnod arbennig o heriol, gan sicrhau tegwch a chyfle i bawb siarad, gan osod sylfeini cadarn ar gyfer y Cadeirydd nesaf.

4.

Ethol Cadeirydd y Cyngor ar gyfer y Flwyddyn Fwrdeistrefol ddilynol

I’w gynnig gan y Cynghorydd Ceredig Davies

I’w eilio gan y Cynghorydd Rowland Rees-Evans

 

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Ceredig Davies ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Rowland Rees-Evans a PHENDERFYNWYD yn unfrydol y dylid ethol y Cynghorydd Paul Hinge yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol ddilynol, sef 2021/22.

5.

Datganiad o Dderbyn y Swydd gan y Cadeirydd newydd a etholwyd

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Gadwyn i'r Cadeirydd newydd a gwnaeth ei ddatganiad o dderbyn y swydd. Cyflwynwyd Arwyddnod y Swydd i Gonsort y Cadeirydd, Mrs. Angharad Lewis.

6.

Anerchiad gan Gadeirydd y Cyngor

Cofnodion:

Diolchodd y Cynghorydd Paul Hinge i'r Cynghorydd Ceredig Davies a'r Cynghorydd Rowland Rees-Evans am eu cefnogaeth a'u geiriau caredig, a diolchodd i'w gyd-gynghorwyr am ymddiried ynddo i ymgymryd â rôl y Cadeirydd ar gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol ddilynol. Diolchodd i'r Cynghorydd Gareth Davies am ei waith diflino fel Cadeirydd yn ystod y flwyddyn anodd ddiwethaf, gan nodi ei bod wedi bod yn anrhydedd cael bod yn Is-gadeirydd iddo.

 

Diolchodd i Gynghorwyr Cymuned Tirymynach am eu hymroddiad, eu cyngor, eu gwybodaeth a'u hysbryd cymunedol, a oedd wedi gwneud ei rôl fel Cynghorydd Sir yn llawer haws ac yn werth chweil. Diolchodd i'w ferch Angharad am fod yn Gonsort iddo, ac i’r Parchedig Richard Lewis am gytuno i fod yn Gaplan iddo.

 

Nododd y Cadeirydd hefyd waith y rhai sydd wedi ac sy’n parhau i gefnogi personél y lluoedd arfog, eu teuluoedd a chyn-filwyr, a'r cymorth a ddarparwyd ganddynt i sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar wasanaethau pan fydd eu hangen arnynt drwy Gyfamod y Lluoedd Arfog. Cyfeiriwyd yn benodol hefyd at yr elusen Woody's Lodge sy'n darparu canolfan seibiant i'r rhai sy'n dioddef PTSD o ganlyniad i'w gwasanaeth yn Fferm Penlan, Penrhiw-pâl.

7.

Ethol Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer y Flwyddyn Fwrdeistrefol ddilynol

I’w gynnig gan y Cynghorydd Ray Quant MBE

I’w eilio gan y Cynghorydd Keith Evans

 

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Ray Quant MBE ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Keith Evans a PHENDERFYNWYD yn unfrydol y dylid ethol y Cynghorydd Ifan Davies yn Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer y flwyddyn Fwrdeistrefol ddilynol, sef 2021/22.

8.

Datganiad o Dderbyn y Swydd gan yr Is-gadeirydd newydd a etholwyd

Cofnodion:

Cyflwynwyd Arwyddnod y Swydd i’r Is-gadeirydd newydd a gwnaeth ei ddatganiad o dderbyn y swydd. Cyflwynwyd Arwyddnod y Swydd i Gonsort yr Is-gadeirydd, Mrs. Iona Davies.

9.

Caplan y Cadeirydd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi penodiad y Parchedig Richard Lewis yn Gaplan y Cadeirydd ar gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol ddilynol, sef 2021/22.

10.

Anerchiad gan Arweinydd y Cyngor

Cofnodion:

Ailadroddodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn y llongyfarchiadau i Elin Jones, Aelod o’r Senedd, a diolchodd hefyd iddi hi a Ben Lake, Aelod Seneddol am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad yn ystod y cyfnod heriol diweddar.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn y Cynghorwyr Paul Hinge ac Ifan Davies ar gael eu hethol yn Gadeirydd ac yn Is-gadeirydd yn y drefn honno. Talodd yr Arweinydd deyrnged hefyd i'r Cynghorydd Gareth Davies am ei wasanaeth yn ystod ei flwyddyn fel Cadeirydd.

 

Anerchodd yr Arweinydd y Cyngor ar y prif faterion a oedd wedi effeithio ar y Cyngor yn ystod y flwyddyn flaenorol gan fyfyrio ar flwyddyn yn ystod pandemig COVID-19. Sefydlwyd y Grŵp Rheoli Aur o dan arweinyddiaeth y Prif Weithredwr, Eifion Evans, i fynd i’r afael â materion yn ymwneud â COVID-19; cynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Gweinidog Llywodraeth Leol, y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Gweinidog Addysg a llawer o rai eraill.

 

Diolchodd i dîm Technoleg Gwybodaeth y Cyngor am eu cefnogaeth i sicrhau bod staff yn gallu gweithio gartref a sicrhau y gellid cynnal cyfarfodydd y Cyngor yn rhithiol. Estynnwyd cydnabyddiaeth arbennig i staff y Gwasanaethau Cymdeithasol, ein cartrefi gofal, cartrefi gofal preifat a thimau gofal domestig a gydnabyddodd risg COVID-19 yn gynnar ac a sefydlodd canllawiau diogelwch i ddiogelu ein preswylwyr mwyaf bregus. Diolchodd i'r Gwasanaeth Ysgolion am ddarparu canllawiau clir ac am uwch-sgilio staff ysgolion i addysgu ar-lein, a'r timau Ymyrraeth Gynnar ac Atal a sicrhaodd bod bocsys bwyd a oedd yn cynnwys cynnyrch gan gyflenwyr lleol yn cael eu darparu i unigolion a oedd yn hunanynysu.  Nododd yr Arweinydd fod y Gwasanaeth Casglu Gwastraff wedi parhau drwy gydol y cyfnod, a'i fod yn cael ei werthfawrogi'n fawr, a diolchodd i'r Gwasanaethau Cyllid a weithiodd yn ddiflino gan ddosbarthu £50 miliwn mewn grantiau i fusnesau lleol.

 

Nododd yr Arweinydd mai un o uchafbwyntiau'r cyfnod oedd y gydnabyddiaeth a roddwyd i Barry Rees a Carwen Evans am sefydlu'r rhaglen tracio ac olrhain gyntaf yng Nghymru, y cydnabuwyd Barry Rees gydag MBE amdani. Estynnwyd gwerthfawrogiad i holl staff y Cyngor ar draws ystod o wasanaethau, dan arweiniad Eifion Evans sydd wedi gweithio'n ddiflino i gefnogi ymdrechion y Sir i amddiffyn trigolion Ceredigion rhag effeithiau COVID-19.

 

Nododd yr Arweinydd, er gwaethaf y pandemig, fod gwaith o ddydd i ddydd y Cyngor wedi parhau, gan nodi ei fod wedi cael blwyddyn arbennig ar gyfer gweithio mewn partneriaeth, yn enwedig gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, CAVO a Phrifysgol Aberystwyth. Yn ystod y flwyddyn, mabwysiadodd y Cyngor ei Strategaeth Economaidd ar gyfer 2021 - 2035; cytunodd i brynu tir ac asedau er mwyn adeiladu ysgol newydd yn Nyffryn Aeron; cymeradwyodd Strategaeth Trechu Tlodi; yn ogystal â rhaglen ar gyfer ymdrin â chlefyd coed ynn. Llofnodwyd Penawdau Telerau partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, gydag addewid o fuddsoddiad o £110 miliwn yn y rhanbarth dros 10 mlynedd.

 

I gloi, diolchodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn i Eifion Evans a'i staff am eu teyrngarwch a'u gwaith cydwybodol, diolchodd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10.

11.

Aelodaeth Pwyllgorau 2021/22 pdf eicon PDF 163 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau Aelodaeth Pwyllgorau'r Cyngor fel y'i cyflwynwyd yn y cyfarfod.