Agenda a chofnodion drafft

Cabinet - Dydd Mawrth, 21ain Ionawr, 2025 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Neris Morgans 

Media

Eitemau
Rhif eitem

138.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

i.       Ymddiheurodd y Cynghorydd Marc Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus y byddai’n gadael y cyfarfod yn gynnar.

ii.      Ymddiheurodd James Starbuck, Cyfarwyddwr Corfforaethol am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

139.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Estynnwyd cydymdeimlad i deulu’r Athro Geraint Jenkins sydd wedi marw yn ddiweddar.

140.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

i.       Datganodd y Cynghorydd Clive Davies fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 146 a gadawodd y cyfarfod pan oedd y mater hwnnw’n cael ei drafod. 

ii.      Datganodd y Cynghorydd Wyn Evans fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 147.

141.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol y Cabinet ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 88 KB

Cofnodion:

Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 7 Ionawr 2025 yn gywir.

 

Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion.

142.

Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd

Cofnodion:

Dim.

143.

Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu

Cofnodion:

Dim.

144.

Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda

Cofnodion:

Dim.

145.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Cyllideb Refeniw 25/26 a'r rhaglen Gyfalaf Aml-flwyddyn gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.     Nodi y bydd cynnydd arfaethedig cyllideb Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru yn creu pwysau costau o £301k ar Gyllideb 25/26 y Cyngor (sy'n cyfateb i gynnydd o oddeutu 0.6% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer trigolion Ceredigion).

2.     Argymell bod y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu’r Gyllideb yn ystyried yr opsiynau canlynol at ddibenion y Cyngor Sir ynghylch Gofyniad drafft ar Gyllideb 25/26 ac o ganlyniad y cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 25/26:

a)    Gofyniad drafft ar Gyllideb 25/26 o £209.109m, gan arwain at gynnydd yn Nhreth y Cyngor (ar gyfer elfen Cyngor Sir Ceredigion) o £13.94 y mis ar gyfer eiddo Band D (9.7%), a fyddai'n cynnwys darpariaeth ar gyfer buddsoddiad o £230k yn y Gwasanaeth Gorfodaeth Cynllunio a buddsoddiad o £481k yn y Gwasanaeth Casglu Gwastraff.

b)    Gofyniad drafft ar Gyllideb 25/26 o £209.234m, gan arwain at gynnydd yn Nhreth y Cyngor (ar gyfer elfen Cyngor Sir Ceredigion) o £14.24 y mis ar gyfer eiddo Band D (9.9%), a fyddai'n cynnwys darpariaeth ar gyfer buddsoddiad o £346k yn y Gwasanaeth Gorfodaeth Cynllunio a buddsoddiad o £481k yn y Gwasanaeth Casglu Gwastraff.

3.     Argymell pan gyhoeddir setliad terfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 25/26:

a)    Bod gwerth unrhyw grantiau penodol pellach a drosglwyddir i’r Grant Cynnal Refeniw yn cael eu cyfeirio i gyllideb y Gwasanaeth perthnasol, lle bo hynny'n briodol.

b)    Y dylai unrhyw newidiadau penodol eraill dargedu’r Gwasanaeth(au) sy’n cael eu heffeithio yn uniongyrchol, pan fo hynny'n briodol.

c)     Y byddai unrhyw fudd o Gyllido Gwaelodol yn y Setliad Terfynol yn cael ei ddefnyddio i leihau'r cynnydd i Dreth y Cyngor dangosol.

d)    Bod unrhyw newid(newidiadau) eraill i'r AEF yn cael eu trin drwy wneud addasiad i gyllideb y Grŵp Arweiniol.

4.     Nodi y bydd y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn cael ei diweddaru ar ôl Datganiad Ariannol nesaf y Canghellor (a ddisgwylir ar 26/03/25).

5.     Nodi rhaglen arfaethedig y Ffioedd a Thaliadau drafft a nodir yn Atodiad 8, ac y bydd y rhain yn cael eu hystyried yn ffurfiol gan y Cabinet ar 18/02/25.

6.     Nodi’r Rhaglen Gyfalaf Aml-Flwyddyn sydd yn Atodiad 10.

7.     Nodi’r Strategaeth Gyfalaf sydd yn Atodiad 11.

8.     Nodi y dylid ystyried unrhyw opsiynau newydd neu amgen ar gyfer Cyllideb ddrafft 25/26 yn ystod y cyfarfodydd i Graffu'r Gyllideb ac y byddai angen digon o amser ymlaen llaw ar y swyddog Adran 151 i fodelu’n llawn unrhyw effeithiau posibl ac i roi barn ar gadernid unrhyw gynnig (gynigion).

9.     Cyfeirio'r adroddiad Cabinet hwn at sylw’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar y Gyllideb, fel y gall y Cabinet ystyried eu hadborth ffurfiol ar 18/02/25, er mwyn i'r Cabinet wedyn wneud eu hargymhellion terfynol i'r Cyngor Llawn ar 03/03/25 ar y Gofyniad ar Gyllideb 25/26 a maint y cynnydd yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 25/26.

10. Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus mewn perthynas â Gorfodaeth Cynllunio.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Fel bod y gwaith o baratoi Cyllideb 2025/26 yn gallu mynd rhagddo.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 145.

146.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghylch Gorchymyn Arfaethedig Llefydd Parcio Oddi ar y Stryd Cyngor Sir Ceredigion 2025 gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 826 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1)    Nodi’r ymatebion a awgrymir i wrthwynebwyr (a ddiwygiwyd yn unol ag unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Cabinet).

2)    Cymeradwyo gweithredu’r Strwythur Codi Tâl Oddi ar y Stryd arfaethedig fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

3)    Cymeradwyo gwneud y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig angenrheidiol, heblaw am bod diffiniad Maes Parcio Gloster Row/Red Lion yn aros fel Maes Parcio Talu ac Arddangos fel y mae ar hyn o bryd.

4)    Cymeradwyo cyhoeddi Hysbysiad o Wneud yn y wasg i'r perwyl hwn.

5)    Nodi y bydd Strwythur Codi Tâl Oddi ar y Stryd yn dod i rym cyn gynted ag y bo modd ymarferol wneud hynny.

6)    Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Symleiddio a rhesymoli taliadau a threfniadau cyfredol a helpu i sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswydd i baratoi cyllideb gytbwys yn unol â'r disgwyliad incwm y cytunwyd arno gan y Cyngor fel rhan o'r broses Gosod Cyllideb ar gyfer 24/25 yn cael ei wireddu.

147.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghylch Cynigion i Godi Tâl am Barcio ar y Stryd – Promenâd Aberystwyth gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 670 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1)    Nodi’r ymatebion a awgrymir i wrthwynebwyr (wedi'u diwygio yn unol ag unrhyw benderfyniadau a wneir gan y Cabinet);

2)    Cymeradwyo’r gwaith o gyflwyno’r Model Codi Tâl arfaethedig ar gyfer Promenâd Aberystwyth fel y nodir yn yr adroddiad;

3)    Cymeradwyo Creu’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig angenrheidiol.

4)    Cymeradwyo Cyhoeddi hysbysiad Gwneud dilynol yn y wasg i'r perwyl hwn.

5)    Nodi y Codir Tâl am Barcio cyn gynted ag y bo modd yn ymarferol wedi hynny.

6)    Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Cyflwyno taliadau am barcio ar hyd y rhan o Bromenâd Aberystwyth sy’n mynd o Drwyn y Castell i Graig Glais, fel bod mwy o leoedd parcio ar gael ar lan y môr yn sgil cynyddu trosiant y cerbydau fydd yn parcio.

148.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghylch Cwblhau Ffordd Stad Nant Seilo, Penrhyncoch o dan y Côd ar gyfer Gwaith Stryd Preifat pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

I awdurdodi swyddogion i wneud y gwaith angenrheidiol i gwblhau ffordd y stad yn Nant Seilo.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

        Gwella diogelwch y ffordd a lles y trigolion.

        Fel y gall yr Awdurdod Priffyrdd Lleol ei mabwysiadu gan ddefnyddio’r Côd ar gyfer Gwaith Stryd Preifat.

149.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyfreithiol a Llywodraethu ynghylch Diwygio'r Polisi Chwythu'r Chwiban gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 863 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.     Cymeradwyo’r gwelliannau i’r Polisi Chwythu’r Chwiban fel y dangosir yn Atodiad 1.

2.     Nodi adborth y Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Sicrhau bod y Polisi Chwythu’r Chwiban yn gyfredol ac yn parhau i fod yn addas i’r diben.

150.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Gofal ynghylch Cylch Caron pdf eicon PDF 113 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo bod y Cyngor yn symud ymlaen â’r broses gaffael Deialog Cystadleuol ar gyfer Cynllun Cylch Caron yn lle’r tendr agored.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn hwyluso penderfyniad y Cyngor i fwrw ymlaen â phrosiect Cylch Caron.

151.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Dysgu Gydol Oes ynghylch Cynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cadarnhau enwebu’r sawl a enwir yn yr adroddiad yn gynrychiolwyr o’r Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol yr Ysgolion perthnasol.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Enwebu cynrychiolwyr o’r Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol.

152.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ynghylch Adroddiad Terfynol yr Asesiad Perfformiad Panel pdf eicon PDF 505 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad cadarnhaol a phrif gasgliad y Panel sef ‘Gan ystyried y galwadau uchel presennol ar wasanaethau a'r pwysau ariannol heriol iawn, mae Cyngor Sir Ceredigion yn awdurdod lleol sy'n cael ei redeg yn dda”.

153.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ynghylch Adroddiad Hanner Blwyddyn ynghylch Canmoliaeth a Chwynion – rhwng 1 Ebrill 2024 a 30 Medi 2024 gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 309 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

154.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet

Cofnodion:

Dim.