Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 3ydd Rhagfyr, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Neris Morgans 

Media

Eitemau
Rhif eitem

101.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

i.      Ymddiheurodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

ii.     Ymddiheurodd y Cynghorydd Ceris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

iii.    Ymddiheurodd James Starbuck, Cyfarwyddwr Corfforaethol am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

102.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Diolchwyd i bawb a oedd ynghlwm â’r tri chyfarfod a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf rhwng cynrychiolwyr y Cyngor Sir a chynrychiolwyr Cynghorau Tref a Chymuned.

103.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

104.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol y Cabinet ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd 2024 yn gywir.

 

Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion.

105.

Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd

Cofnodion:

Dim.

106.

Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu

Cofnodion:

Dim.

107.

Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda

Cofnodion:

Dim.

108.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Dysgu Gydol Oes ynghylch Strategaeth Iaith Ceredigion 2024-2029 pdf eicon PDF 14 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

i.        Nodi’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod yr Ymgynghoriad Cyhoeddus.

ii.       Cymeradwyo Strategaeth Iaith Gymraeg yn ddibynnol ar y newidiadau sydd wedi’u hamlygu yn y ddogfen derfynol (atodiad 2).

iii.     Nodi cynnwys yr Asesiad Effaith Integredig (atodiad 3).

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Sicrhau cydymffurfio gyda dyletswydd statudol yn unol ȃ gofynion Safonau’r Gymraeg, (Safon 145 a 146) i ddatblygu a chyhoeddi Strategaeth Iaith Gymraeg.

109.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Dysgu Gydol Oes ynghylch Cynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol pdf eicon PDF 104 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cadarnhau enwebu’r sawl a enwir yn yr adroddiad yn gynrychiolwyr o’r Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol yr Ysgolion perthnasol.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Enwebu cynrychiolwyr o’r Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol.

110.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Dysgu Gydol Oes ynghylch Ad-drefnu Ysgol Craig yr Wylfa, Ysgol Llanfihangel y Creuddyn, Ysgol Llangwyryfon ac Ysgol Syr John Rhys pdf eicon PDF 121 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.    Nodi na ellir gweithredu penderfyniad y Cabinet ar 3/9/24.

2.    Cymeradwyo bod penderfyniad y Cabinet ar 3/9/24 sef penderfyniadau C50, C51, C52 a C53 yn cael eu diwygio fel a ganlyn:

“bod y broses ymgynghori statudol i beidio â chynnal y ddarpariaeth yn Ysgol Craig yr Wylfa, Ysgol Llanfihangel y Creuddyn, Ysgol Llangwyryfon ac Ysgol Syr John Rhys o 31 Awst 2025”, yn cael ei thrin fel ymgynghoriad anffurfiol ar ad-drefnu a dyfodol yr ysgolion.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Nid yw peidio â chynnal yr ysgolion o 31 Awst 2025 yn opsiwn ac nid yw'r amserlen yn gyraeddadwy.

111.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Gofal ynghylch Polisi Taliadau Uniongyrchol gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 569 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

i.      Cymeradwyo Polisi Taliadau Uniongyrchol (Atodiad 1).

ii.     Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Bydd y polisi yn galluogi’r Cyngor i ymgymryd â’i ddyletswyddau o ran darparu taliadau uniongyrchol.

112.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ynghylch Terfynu Contract Tîm Gwaith Cymdeithasol a Reolir Innovate pdf eicon PDF 157 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo terfynu contract Innovate er mwyn ymgymryd ag opsiynau eraill i ddiwallu gwasanaethu arbenigol Gofal Plant a gynlluniwyd.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Y rheswm am y penderfyniad yw dod â’r contract i ben a gweithredu dewisiadau amgen mwy cost-effeithiol, yng ngoleuni cynnydd arfaethedig mewn pris y contract, ar gyfer parhau i ddarparu gwasanaeth diogel.

113.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ynghylch Siarter Rhianta Corfforaethol gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

i.      Argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo’r Siarter Rhianta Corfforaethol.

ii.     Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Sicrhau bod pob swyddog, comisiynydd, Aelod Etholedig a phartneriaid yr awdurdod lleol yn deall eu cyfrifoldebau rhianta corfforaethol. Rydym am ddarparu gwasanaethau sensitif, o ansawdd uchel sy'n hyrwyddo tegwch a thegwch i blant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal. Rydym am i'r plant hyn gael yr holl gyfleoedd bywyd y byddem yn eu cael i'n plant ein hunain. Mae angen i'r grŵp hwn o bobl dyfu i fyny heb stigma.

114.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Fframwaith Deunyddiau Pecynnu a Chynhyrchion Arlwyo Cynaliadwy Cymru Gyfan pdf eicon PDF 146 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

I ddyfarnu llefydd ar Fframwaith Deunyddiau Pecynnu a Chynhyrchion Arlwyo Cynaliadwy Cymru Gyfan, a fydd yn rhedeg am gyfnod o dair blynedd (gydag opsiwn i’w ymestyn am flwyddyn arall) fel a ganlyn:

 

Lot

Pwrpas

Cyflenwr

Parth(au)

1

Rhestr Graidd - yr Anghenion Safonol

Safle 1af:

Tendrwr 1

Pob un o’r 24 Parth

1

Rhestr Graidd - yr Anghenion Safonol

Ail Safle:

Tendrwr 2

Pob Parth ar wahân i Barthau 7, 8, 9 a 22.

2

Cynnyrch Bach

Tendrwr 3

Pob un o’r 24 Parth

3

Partneriaid Arloesi

Tendrwr 1

Pob un o’r 24 Parth

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Cynhaliwyd proses dendro agored a oedd yn cydymffurfio â'r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus ac roedd pob cais a ddaeth i law wedi cael ei werthuso mewn modd teg a thryloyw. Dyma Fframwaith Cenedlaethol pwysig y mae Ceredigion wedi arwain arno. Gan fod y Fframwaith yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 bydd yn helpu i greu Cymru fwy cynaliadwy drwy drefn gaffael y sector cyhoeddus.

115.

EITEM EITHRIEDIG

Nid yw’r adroddiad (Atodiad 1) ar yr eitem uchod ar gael i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)(Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, yn unol ag Adran 100B(2) y Ddeddf ac ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd a’r wasg eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno.

 

Wrth ddelio â’r eitem hyn, gofynnir i’r Aelodau ystyried a ydynt am gau’r cyhoedd a’r wasg allan o’r Cyfarfod

Cofnodion:

Nid yw'r adroddiad sy'n ymwneud ag eitem 114 ar yr agenda, Atodiad 1, i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno, yn unol ag Adran 100B(2) o’r Ddeddf.

 

Gofynnwyd i'r Aelodau wrth ddelio â'r eitem, ystyried a ddylai'r eitem barhau i fod wedi'i heithrio ac a ddylid gwahardd y cyhoedd a’r wasg o'r Cyfarfod.

 

PENDERFYNIAD:

Ar ôl ystyried prawf budd y cyhoedd, y dylai'r eitem barhau i fod wedi'i heithrio.

Peidio gwahardd y cyhoedd a’r wasg o’r cyfarfod.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Ni thrafodwyd y ddogfen yn gyhoeddus.

116.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Sylfaen Treth y Cyngor a’r Dyddiadau ar gyfer Talu’r Praeseptau pdf eicon PDF 245 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.    Cymeradwyo mai Sylfaen Treth y Cyngor at ddibenion pennu Treth y Cyngor yw 34,421.81 yn unol â’r cyfrifiadau a nodir yn Atodiadau 1 a 2.

2.    Nodi mai Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer cyfrifo’r Grant Cynnal Refeniw yw 32,663.32.

3.    Cymeradwyo mai rhaglen y rhandaliadau ar gyfer taliadau praesept Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys ar gyfer 2025/26 fydd – 12 rhandaliad cyfartal i’w talu ar ddiwrnod gwaith olaf bob mis gan ddechrau ym mis Ebrill 2025.

4.    Cymeradwyo mai rhaglen y rhandaliadau ar gyfer taliadau praesept Cynghorau Tref a Chymuned Ceredigion ar gyfer 2025/26 fydd – 3 rhandaliad cyfartal ar ddiwrnod gwaith olaf mis Ebrill 2025, mis Gorffennaf 2025 a mis Hydref 2025.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Mae’n ofyniad cyfreithiol i’r Cyngor bennu sylfaen y dreth ar gyfer y flwyddyn i ddod.

117.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Cyllideb Refeniw Rheoladwy 24/25 – Perfformiad Ariannol – Chwarter 2 pdf eicon PDF 644 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

118.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Adroddiad Monitro’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Chwarter 2 pdf eicon PDF 258 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

119.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Adolygiad canol blwyddyn o Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2024/25 pdf eicon PDF 451 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

120.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ynghylch Adroddiad Rheoli Perfformiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 1 2024–2025 pdf eicon PDF 697 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

121.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ynghylch Adroddiad Diogelu Grwp Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS – Chwarter 1 2024/25 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

122.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cymorth Cynnar ynghylch Cofnodion Cyfarfod Cyngor Ieuenctid Ceredigion (18.10.24) pdf eicon PDF 10 MB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

123.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Pobl a Threfniadaeth ynghylch Adroddiad ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau 2024 ac Adroddiad Cydraddoldeb yn y Gweithlu 2024 pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

124.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Economi ac Adfywio ynghylch Adroddiad Blynyddol y Fforwm Mynediad Lleol pdf eicon PDF 528 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

125.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet

Cofnodion:

Dim.