Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Neris Morgans
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion:
ii.
Ymddiheurodd
James Starbuck, Cyfarwyddwr Corfforaethol a Duncan Hall, Swyddog Arweiniol
Corfforaethol: Cyllid a Chaffael am nad oeddent yn gallu bod yn bresennol yn y
cyfarfod. |
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: i.
Ar
ran y Cabinet, mynegodd y Cynghorydd Catrin M S Davies ei chydymdeimlad â phob
un yr oedd yr achos cyfreithiol yn erbyn y cyn-bennaeth yng Ngwynedd, Neil
Foden, wedi effeithio arnynt. Gofynnodd y Cabinet am sicrwydd oddi wrth y
Swyddogion fod y prosesau diogelu priodol ar waith i sicrhau na fyddai’r un
peth yn digwydd yng Ngheredigion. Hefyd, gofynnodd y Cabinet am sicrwydd bod yr
awdurdod lleol yn bodloni gofynion adroddiad ‘Clywch’ a gyhoeddwyd gan Peter
Clarke. Amlinellodd Audrey Somerton-Edwards,
Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Swyddog Arweiniol
Corfforaethol: Porth Cynnal ac Elen James, y Prif Swyddog Addysg a Swyddog
Arweiniol Corfforaethol: Dysgu Gydol Oes yr amrywiol brosesau a oedd ar waith i
ddiogelu plant a phobl ifanc. Rhoddwyd sicrwydd bod yr awdurdod lleol yn cymryd
y camau priodol a bod llesiant plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth i bawb. ii.
Estynnwyd
llongyfarchiadau i Glybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion am ennill Eisteddfod
Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yng Nghaerfyrddin yn ddiweddar. iii.
Estynnwyd
llongyfarchiadau hefyd i Glwb Ffermwyr Ifanc Llangwyryfon am ennill Gwobr
Ysbryd Cymunedol Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru a Lloegr 2024. iv.
Diolchwyd
i’r Cynghorydd Raymond Evans am drefnu gwirfoddolwyr i wneud gwaith yng
Nghartref Gofal Preswyl Hafan y Waun. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion:
i.
Datganodd
y Cynghorydd Bryan Davies fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn
perthynas ag eitem 94 a gadawodd y cyfarfod pan oedd y mater hwnnw’n cael ei
drafod.
ii.
Datganodd
y Cynghorwyr Euros Davies a Keith Henson fuddiant personol mewn perthynas ag
eitem 94. |
|
Cofnodion: Cadarnhau
bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2024 yn gywir. Materion
yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion. |
|
Cofnodion: |
|
Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion: ·
Nodi cynnwys yr Adroddiad Dichonolrwydd. ·
Cymeradwyo’r cynnig i ddechrau ar y broses o
fabwysiadau Opsiwn 2, sef sicrhau trefniadau addas ar gyfer cyd-gynllunio’r
cwricwlwm Ôl-16, ar gyfer Medi 2026. ·
Cymeradwyo’r cynnig i gynnal ymchwiliad pellach i
Opsiwn 4, er mwyn rhoi ystyriaeth fanylach i sefydlu Canolfan Ragoriaeth (ar un
neu fwy o safleoedd addas). ·
Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau
sy’n Dysgu. Y rheswm dros y
penderfyniad: ·
Cymeradwyo ar ddechrau mabwysiadu Opsiwn 2, er mwyn
sicrhau trefniadau addas ar gyfer cyd-gynllunio’r cwricwlwm Ôl-16, ar gyfer
Medi 2026. ·
Cymeradwyo cynnal ymchwiliad pellach i Opsiwn 4, er
mwyn rhoi ystyriaeth fanylach i sefydlu Canolfan Ragoriaeth (ar un neu fwy o
safleoedd addas). |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cadarnhau enwebu’r sawl a enwir yn yr adroddiad yn gynrychiolwyr o’r
Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol yr Ysgolion perthnasol. Y rheswm dros y penderfyniad: Enwebu cynrychiolwyr o’r Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: i.
Enwebu Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru i agor
Ysgol Dyffryn Aeron yn swyddogol. ii.
Enwebu’r Cynghorydd Keith Evans, Cadeirydd Cyngor
Sir Ceredigion i agor y gwaith ehangu ac adnewyddu a wnaed yn Ysgolion Cynradd
ac Uwchradd Aberteifi a'r Cae Pob Tywydd yng Nghanolfan Hamdden Plascrug yn swyddogol. Y rheswm dros y penderfyniad: Cytuno i wahodd personau priodol i agor Ysgol Dyffryn Aeron yn swyddogol;
y gwaith ehangu ac adnewyddu a wnaed yn Ysgolion Cynradd ac Uwchradd Aberteifi
a'r Cae Pob Tywydd yng Nghanolfan Hamdden Plascrug. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1.
Argymell i'r Cyngor y dylid awdurdodi'r Swyddog
Arweiniol Corfforaethol - Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd o dan Ddeddf
Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 i ymgymryd â swyddogaethau Trwyddedu
Gweithdrefnau Arbennig. 2.
Cymeradwyo'r strwythur ffioedd arfaethedig mewn
perthynas â'r cynllun trwyddedu newydd ar gyfer triniaethau arbennig. Y rheswm dros y penderfyniad: ·
Bydd Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn gosod
dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol yng Nghymru i weinyddu a gorfodi'r
cynllun trwyddedu gweithdrefnau arbennig. ·
Sicrhau bod dirprwyaethau priodol ar waith fel y
gall swyddogion o fewn y gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd ddefnyddio pwerau
dirprwyedig i gyflawni eu dyletswyddau. ·
Er mwyn sicrhau y gall yr Awdurdod Lleol gyflawni'r
rhwymedigaeth statudol hon yn effeithlon, mae'n ofynnol mabwysiadu strwythur
ffioedd priodol a chynllun pwerau dirprwyedig. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad, y Llythyr blynyddol gan yr Ombwdsmon a’r adborth o’r
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau
Corfforaethol. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet Cofnodion: Dim. |