Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 3ydd Medi, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Neris Morgans 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

43.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

i.       Ymddiheurodd y Cynghorydd Gareth Davies y byddai'n gadael y cyfarfod yn gynnar.

ii.      Ymddiheurodd y Cynghorydd Elaine Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

iii.    Ymddiheurodd James Starbuck, Cyfarwyddwr Corfforaethol a Donna Pritchard, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth Gofal am nad oeddent yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

44.

Materion Personol

Cofnodion:

i.       Estynnwyd cydymdeimlad i deulu'r Cynghorydd Paul Hinge a fu farw'n ddiweddar. Talwyd teyrnged i'r Cynghorydd Paul Hinge am ei gyfraniad helaeth i wleidyddiaeth yng Ngheredigion. Estynnwyd cydymdeimlad diffuant i'w deulu.

ii.      Estynnwyd cydymdeimlad i deulu Rhian Thomas, cyn-gyfrifydd Grŵp yn y Gwasanaeth Cyllid sydd wedi marw yn ddiweddar.

Cafwyd munud o dawelwch i gofio amdanynt.

iii.    Estynnwyd cydymdeimlad hefyd i deulu Margaret Jones, artist nodedig sydd wedi marw yn ddiweddar.

iv.    Estynnwyd llongyfarchiadau i bawb a fu'n rhan o gynnal Rali Ceredigion lwyddiannus. Nodwyd bod y digwyddiad diweddar wedi cyfrannu'n helaeth at yr economi leol.

v.     Estynnwyd llongyfarchiadau i Wasanaethau Addysg yr awdurdod lleol am adroddiad rhagorol yn dilyn arolygiad cynhwysfawr gan Estyn, corff arolygu addysg genedlaethol.

vi.    Estynnwyd llongyfarchiadau hefyd i Gartref Gofal Preswyl Hafan y Waun a phawb a gymerodd ran wrth dderbyn adroddiad cadarnhaol yn dilyn yr arolygiad cyntaf gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ers newid perchnogaeth.

45.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

i.       Datganodd y Cynghorydd Keith Henson fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 55 a gadawodd y cyfarfod pan oedd y mater hwnnw’n cael ei drafod.

ii.      Datganodd y Cynghorydd Clive Davies fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 56 a gadawodd y cyfarfod pan oedd y mater hwnnw’n cael ei drafod. 

iii.    Datganodd y Cynghorydd Carl Worrall fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 55.

iv.    Datganodd Elin Prysor, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyfreithiol a Llywodraethu  fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 56, yn unol â'r Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol a gadawodd y cyfarfod pan oedd y mater hwnnw’n cael ei drafod.

46.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol y Cabinet ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 119 KB

Cofnodion:

Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2024 yn gywir.

 

Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion.

47.

Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd

Cofnodion:

Dim.

48.

Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu

Cofnodion:

Dim.

49.

Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda

Cofnodion:

Dim.

50.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion ynghylch Papur Cynnig o ran Ysgol Craig yr Wylfa pdf eicon PDF 8 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo’r cynnig i ddechrau ar y broses o gynnal ymgynghoriad statudol er mwyn dod i ben â’r ddarpariaeth yn Ysgol Craig yr Wylfa o 31 Awst 2025.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Cymeradwyo dechrau ar y broses o gynnal ymgynghoriad statudol ar y ddarpariaeth yn Ysgol Craig yr Wylfa.

51.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion ynghylch Papur Cynnig o ran Ysgol Llanfihangel y Creuddyn pdf eicon PDF 7 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo’r cynnig i ddechrau ar y broses o gynnal ymgynghoriad statudol er mwyn dod i ben â’r ddarpariaeth yn Ysgol Llanfihangel y Creuddyn o 31 Awst 2025.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Cymeradwyo dechrau ar y broses o gynnal ymgynghoriad statudol ar y ddarpariaeth yn Ysgol Llanfihangel y Creuddyn.

52.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion ynghylch Papur Cynnig o ran Ysgol Llangwyryfon pdf eicon PDF 7 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo’r cynnig i ddechrau ar y broses o gynnal ymgynghoriad statudol er mwyn dod i ben â’r ddarpariaeth yn Ysgol Llangwyryfon o 31 Awst 2025.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Cymeradwyo dechrau ar y broses o gynnal ymgynghoriad statudol ar y ddarpariaeth yn Ysgol Llangwyryfon.

53.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion ynghylch Papur Cynnig o ran Ysgol Syr John Rhys pdf eicon PDF 7 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo’r cynnig i ddechrau ar y broses o gynnal ymgynghoriad statudol er mwyn dod i ben â’r ddarpariaeth yn Ysgol Syr John Rhys o 31 Awst 2025.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Cymeradwyo dechrau ar y broses o gynnal ymgynghoriad statudol ar y ddarpariaeth yn Ysgol Syr John Rhys.

54.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Pobl a Threfniadaeth ynghylch Polisïau Newydd Adnoddau Dynol gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

       Cymeradwyo’r Polisi Recriwtio Diogel.

       Cymeradwyo’r Cynllun Prynu Gwyliau Ychwanegol.

       Cymeradwyo’r Canllaw Teithio, Cynhaliaeth a Llety.

       Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

       Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth.

       Er mwyn cynorthwyo gweithgarwch recriwtio a chadw, iechyd a lles cyflogeion, ac effeithiolrwydd gweithredo.

55.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Gofal ynghylch Cartref Gofal Preswyl Cartref Tregerddan - Ymgynghoriad Cyhoeddus gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 438 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.     Nodi'r cefndir a'r rhesymeg dros ystyried trosglwyddo preswylwyr ac uno timau staff rhwng Cartref Tregerddan i Gartref Gofal Preswyl Hafan y Waun.

2.     Nodi canlyniadau proses yr ymgynghoriad a gynhaliwyd rhwng 22ain Ebrill 2024 a 15fed Gorffennaf 2024.

3.     Cymeradwyo trosglwyddo preswylwyr ac uno timau staff rhwng Cartref Tregerddan gyda Chartref Gofal Preswyl Hafan y Waun.

4.     Awdurdodi'r Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Porth Gofal i:

i.       Sicrhau bod amserlen yn cael ei llunio ar gyfer trosglwyddiadau’r preswylwyr rhwng cartrefi, mewn ffordd sydd

a.     yn cydbwyso'r angen i bob unigolyn a'i deulu gael amser priodol i wneud penderfyniadau yn erbyn yr angen cyffredinol am y broses gau,

b.     i'w rheoli o fewn amserlen sy'n lleihau ansicrwydd i’r preswylwyr, teuluoedd a staff.

5.     Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd o fewn Hafan y Waun gan gynnwys yr amgylchedd, y lleoliad ac i nodi cyfleoedd yn y dyfodol i reoli heriau'r gyllideb yn effeithiol.

56.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghylch Cynigion yr adolygiad ar y Meysydd Parcio Talu ac Arddangos oddi ar y stryd, Mehefin 2024 gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 450 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cytuno:

a)    bod swyddogion yn mynd ati i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion a gyflwynwyd gan y swyddogion i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus ar 11 Gorffennaf 2024, ond bod y cynnig i godi tâl ar ddeiliaid Bathodynnau Glas yn cael ei adael allan a bod y cynnig i godi tâl a geir yn Atodiad B yn cael ei fewnosod yn lle’r Tabl 2 a gyflwynwyd; a hefyd

b)    bod adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus cyn i’r Cabinet ystyried y cynigion a chytuno arnynt yn derfynol.

c)     Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

I sicrhau bod y disgwyliad o ran incwm - a gytunwyd gan y Cyngor fel rhan o’r broses o osod cyllideb 24/25 - yn cael ei gyflawni, gan symleiddio’r taliadau a’r trefniadau presennol.

57.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghylch Cynigion ynghylch Codi Tâl am Barcio ar y Stryd - Promenâd Aberystwyth gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 4 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

i.       Cefnogi cynnal proses ymgynghori ffurfiol o dan Reoliadau Gorchmynion Traffig (Gweithdrefn)(Cymru a Lloegr) 1996 (diwygiedig) ynglŷn â’r cynigion a gyflwynwyd ynghylch codi tâl am barcio ar hyd y Promenâd yn Aberystwyth.

ii.      Bod canlyniad yr ymgynghoriad yn cael ei adrodd gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus a’r Cabinet cyn y gwneir unrhyw benderfyniad ynghylch gweithredu’r cynnig.

iii.    Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Fel y gall y Cyngor reoli’n well y ddarpariaeth barcio ar hyd y Promenâd yn Aberystwyth gyda’r bwriad o gynyddu nifer y llefydd parcio sydd ar gael a sicrhau bod mwy o gerbydau yn mynd a dod.

58.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghylch Gwasanaeth y Gaeaf gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 893 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

i.       Cymeradwyo'r matrics asesu diwygiedig (Atodiad B).

ii.      Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn sicrhau bod yr Awdurdod yn parhau i fodloni ei ofynion mewn perthynas â hyd y llwybrau cynnal a chadw cyn-drin yn y gaeaf yn dilyn meini

prawf uchder.

59.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghylch Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Gwahardd a Chyfyngu Aros a Llwytho a Dadlwytho) 2019 (Felin-fach) (Gorchymyn Diwygio Rhif 12) 2024 pdf eicon PDF 952 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo gwneud y Gorchymyn a chyhoeddi’r Hysbysiad priodol yn y wasg i’r perwyl hynny.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Sicrhau diogelwch y ffyrdd ar bwys y mynediad i’r ysgol newydd.

60.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghylch Mabwysiadu 'Cae'r Henwas', Caerwedros pdf eicon PDF 794 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cytuno i gynnal gwaith priffyrdd Cae’r Henwas fel y manylir yn Atodiad A ar draul y cyhoedd a'i fabwysiadu gan y Cyngor.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn galluogi'r briffordd newydd i gael ei chynnal ar draul y cyhoedd er budd y cyhoedd/cymuned gyffredinol.

61.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghylch Trwyddedau Bargodi o dan adran 177 o Ddeddf Priffyrdd 1980 pdf eicon PDF 173 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo:

a)    bod Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol yn codi ffi o £500; a hefyd

b)    bod y Gwasanaethau Cyfreithiol yn codi ffi o £471;

 

am amser y swyddogion mewn perthynas â chyflwyno trwyddedau Bargodi o dan adran 177 o Ddeddf Priffyrdd 1980, mewn grym o 1/9/24 ymlaen.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Adennill costau.

62.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ynghylch y Cynllun Llety â Chymorth gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.     Cymeradwyo'r Polisi a’r Cynllun Llety â Chymorth.

2.     Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol Statudol weithredu polisi ac adolygu yn flynyddol.

3.     Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

I gyd-fynd â'r “Rheoliadau Gofal a Chymorth (Dewis o Lety) (Cymru) 2015".

63.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ynghylch Adroddiad Rheoli Perfformiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 3 2023 - 2024 pdf eicon PDF 686 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

64.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ynghylch Adroddiad Diogelu Grwp Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS - Chwarter 3 2023/24 pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

65.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Adroddiad Monitro'r Rhaglen Gyfalaf Chwarter 1 pdf eicon PDF 214 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

66.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Cyllideb Refeniw Reoladwy 24/25 - Perfformiad Ariannol - Chwarter 1 pdf eicon PDF 632 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

67.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Adroddiad Perfformiad Chwarterol Rheoli'r Trysorlys 2024/25 pdf eicon PDF 347 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

68.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet

Cofnodion:

Dim.