Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mercher, 17eg Gorffennaf, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Neris Morgans 

Media

Eitemau
Rhif eitem

20.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

i.      Ymddiheurodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

ii.     Ymddiheurodd James Starbuck, Cyfarwyddwr Corfforaethol am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

21.

Materion Personol

Cofnodion:

i.      Ymddiheurodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor ac Eifion Evans, Prif Weithredwr am yr anawsterau a brofwyd gan y Gwasanaeth Casgliadau Gwastraff yn ne'r sir. Cydnabuwyd bod heriau yn y gwasanaeth, a bod mesurau ar waith i fynd i'r afael â hyn.

ii.     Llongyfarchwyd y seiclwyr Josh Tarling a Stevie Williams ar gael eu dewis i gynrychioli Tîm Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd Paris 2024.

iii.    Cydymdeimlwyd â theulu Charles Arch a fu farw’n ddiweddar.

iv.   Cydymdeimlwyd â’r Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor a’r golli ei dad. Diolchodd yr Arweinydd i bawb am eu cefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn.

22.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

23.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol y Cabinet ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 119 KB

Cofnodion:

Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 3 Mehefin 2024 yn gywir.

 

Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion.

24.

Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd- "Save our Library! Achubwch ein Llyfrgell!" pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

25.

Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu

Cofnodion:

Dim.

26.

Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda

Cofnodion:

Dim.

27.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Gofal ynghylch Argymhelliad Tendr Cylch Caron pdf eicon PDF 6 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.    Cymeradwyo bod y Cyngor yn ymrwymo i'r Gweithredoedd Amrywiad y Cytundeb Cydweithio drafft (fel y’u cyflwynwyd yn Atodiad 1 o'r adroddiad) a rhoi awdurdod i'r Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Porth Gofal wneud mân newidiadau i'r Gweithredoedd Amrywiad.

2.    Cymeradwyo cynnwys y maes parcio a ddangosir gydag ymyl las yn y cynllun sydd ynghlwm (Atodiad 3) i’r adroddiad o fewn prif brydles safle Cylch Caron ar y telerau a nodir yn y Cytundeb Datblygu (Atodiad 2).

3.    Cymeradwyo Cytundeb Datblygu Cylch Caron (fel y'i cyflwynwyd yn Atodiad 2 o’r adroddiad).

4.    Dirprwyo awdurdod i’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Porth Gofal i wneud mân newidiadau i'r Cytundeb Datblygu (Atodiad 2).

5.    Cymeradwyo’r dogfennau tendro (Atodiad 4) ar y cyd gyda Bwrdd Prosiect Cylch Caron ac i barhau gyda’r broses tendro fel y cynigir.

6.    Nodi cais y Cabinet i'r Aelod Lleol fynychu Bwrdd Prosiect Cylch Caron fel arsyllydd a thrafod y cynnig gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn hwyluso penderfyniad y Cyngor i fwrw ymlaen â phrosiect Cylch Caron.

28.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ynghylch y Polisi Diogelu Corfforaethol pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Mabwysiadu'r Polisi Diogelu Corfforaethol (atodiad 1) fel y ddogfen ddiffiniol i sicrhau bod Ceredigion yn sefydliad diogel ac yn cydnabod ei gyfrifoldebau i ddiogelu plant ac oedolion sy’n wynebu risg.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

·       Mae'n hanfodol bod y Cyngor yn darparu fframwaith polisi i ddiogelu pobl sy'n cyflenwi gwasanaethau ar ran yr Awdurdod Lleol.

·       Mae'r Polisi Diogelu Corfforaethol diwygiedig yn defnyddio'r canllawiau a'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol.

29.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ynghylch y Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.    Cymeradwyo Polisi Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig (Atodiad 1).

2.    Cymeradwyo Polisi Ariannol y Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig (Atodiad 2).

3.    Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol Statudol i weithredu'r polisi a'r adolygiad newydd yn flynyddol.

4.    Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Alinio â Rheoliadau Gwarcheidwaeth Arbennig (Cymru) (Diwygio) 2018 a Chod Ymarfer Gwarcheidiaeth Arbennig ar arfer swyddogaethau'r gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig 2018.

30.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Economi ac Adfywio ynghylch y Rhaglen Gweithgareddau Strategol / Rali Ceredigion – cefnogaeth CSC pdf eicon PDF 214 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cytuno i warantu hyd at £250mil ychwanegol ar gyfer digwyddiad Rali Ceredigion 2024, gydag unrhyw wariant yn erbyn y swm hwn i'w dystiolaethu’n briodol, ac wedi'i ariannu o'r Gronfa Hybu'r Economi, Cefnogi Busnesau a Galluogi Cyflogaeth, wrth gefn.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn cefnogi cyflwyno’r rhaglen weithgareddau yng Ngheredigion a galluogi cynnal Rali Ceredigion llwyddiannus yn 2024 fel rownd o’r Bencampwriaeth Rali Ewrop.

31.

EITEM EITHRIEDIG

Nid yw’r adroddiad (Atodiad 1) ar yr eitem uchod ar gael i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)(Amrywio)(Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, yn unol ag Adran 100B(2) y Ddeddf ac ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd a’r wasg eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno.

 

Wrth ddelio â’r eitem hyn, gofynnir i’r Aelodau ystyried a ydynt am gau’r cyhoedd a’r wasg allan o’r Cyfarfod.

 

Cofnodion:

Nid yw'r adroddiad sy'n ymwneud ag eitem 30 ar yr agenda, Atodiad 1, i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 5 (Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno, yn unol ag Adran 100B(2) o’r Ddeddf.

 

Gofynnwyd i'r Aelodau wrth ddelio â'r eitem, ystyried a ddylai'r eitem barhau i fod wedi'i heithrio ac a ddylid gwahardd y cyhoedd a’r wasg o'r Cyfarfod.

 

PENDERFYNIAD:

Ar ôl ystyried prawf budd y cyhoedd, y dylai'r eitem barhau i fod wedi'i heithrio.

Peidio gwahardd y cyhoedd a’r wasg o’r cyfarfod.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Ni thrafodwyd y ddogfen yn gyhoeddus.

32.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Dysgu Gydol Oes ynghylch Adroddiad Monitro Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2023-24 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

·       Derbyn a chymeradwyo’r Adroddiad Monitro Blynyddol Safonau’r Gymraeg Cyngor Sir Ceredigion 2023-24.

·       Cymeradwyo cyhoeddi’r adroddiad ar wefan corfforaethol y Cyngor yn unol â’r ddyletswydd statudol.

·       Cyflwyno’r adroddiad at sylw Comisiynydd y Gymraeg.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Dyletswydd Statudol Rheoliadau Safonau’r Gymraeg, yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

33.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Dysgu Gydol Oes ynghylch Cyflwyno Strategaeth Hybu'r Iaith Gymraeg pdf eicon PDF 13 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod Gorffennaf ac Awst 2024 ynghylch Strategaeth Ddrafft Hyrwyddo'r Gymraeg Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer 2024-29.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Mae Safon 145 yn gosod dyletswydd ar y Cyngor Sir i ddatblygu a chyhoeddi strategaeth 5 mlynedd sy’n esbonio sut mae’r Cyngor yn bwriadu hybu’r Gymraeg a hwyluso defnydd y Gymraeg o fewn yr ardal ehangach.

34.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion ynghylch Cynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol pdf eicon PDF 104 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cadarnhau enwebu’r sawl a enwir yn yr adroddiad yn gynrychiolwyr o’r Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol yr Ysgolion perthnasol.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Enwebu cynrychiolwyr o’r Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol.

35.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ynghylch Asesiad Perfformiad Panel - Cytuno ar Aelodaeth y Panel pdf eicon PDF 130 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo Aelodaeth arfaethedig y Panel.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Sicrhau cydymffurfiaeth â Rhan 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

36.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch y Rhaglen Gyfalaf Aml-flwyddyn - 2024/25-2026/27 pdf eicon PDF 473 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf Aml-flwyddyn ddiwygiedig ar gyfer y cyfnod rhwng 2024/25 a 2026/27, fel y’i hamlinellir yn Atodiad A.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf Aml-flwyddyn ddiweddaraf.

37.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Adroddiad Alldro Cyfalaf 2023/24 pdf eicon PDF 214 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

38.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Alldro'r Gyllideb Refeniw Reoladwy 23/24 pdf eicon PDF 302 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

39.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Perfformiad Rheoli'r Trysorlys 2023/24 pdf eicon PDF 404 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

40.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Grantiau a ddyfarnwyd o dan Gynllun Grantiau Cymunedol Ceredigion / Cronfa'r Degwm pdf eicon PDF 234 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

41.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ynghylch Canfyddiadau Adroddiad Cynnydd Ansawdd Aer 2023, yn unol â Rhan IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 - Rheoli Ansawdd Aer yn Lleol gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.

42.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet

Cofnodion:

Dim.