Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 19eg Mawrth, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Neris Morgans 

Eitemau
Rhif Eitem

175.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

i.       Ymddiheurodd y Cynghorydd Gareth am ymuno a’r cyfarfod yn hwyr.

ii.      Ymddiheurodd y Cynghorydd Caryl Roberts, Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach am ymuno a’r cyfarfod yn hwyr.  

176.

Materion Personol

Cofnodion:

Dim.

177.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

178.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol y Cabinet ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 117 KB

Cofnodion:

Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2024 yn gywir.

 

Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion.

179.

Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd

Cofnodion:

Dim.

180.

Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu

Cofnodion:

Dim.

181.

Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda

Cofnodion:

Dim.

182.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion ynghylch Adroddiad yr ymgynghoriad ynghylch y cynnig i ddiwygio cyfrwng iaith y Dysgu Sylfaen a derbyn disgyblion 3 oed yn rhan amser yn Ysgol Gynradd Cei Newydd pdf eicon PDF 8 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.     Nodi cynnwys yr adroddiad ymgynghori.

2.     Cymeradwyo cyhoeddi’r hysbysiad statudol, yn amodol ar ddileu’r cyfeiriad at 'dderbyn disgyblion 3 oed yn rhan amser' o'r Hysbysiad Statudol (Atodiad C).

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn cymeradwyo’r ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad a chyhoeddi’r hysbysiad statudol yn unol â gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion – 011/2018.

183.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Economi ac Adfywio ynghylch y Bwriad i werthu asedau pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo mewn egwyddor y penderfyniad i werthu'r asedau canlynol:

1)    Tir ac Adeiladau Gerddi Derwen, Adpar

2)    Garej Glyndwr Road, Aberystwyth.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Cynhyrchu derbyniadau cyfalaf o asedau dros ben.

184.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Gofal ynghylch Opsiynau yn y dyfodol ar gyfer Cartref Gofal Preswyl Tregerddan, Bow Street pdf eicon PDF 404 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo parhau gyda'r gofyniad statudol i ymgynghori ar drosglwyddo'r gwasanaeth gofal preswyl o Gartref Tregerddan i Gartref Gofal Preswyl Hafan y Waun.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn parhau gyda'r argymhellion a'r arbedion posibl i’r gyllideb sydd ynghlwm wrth yr argymhelliad.

185.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cymorth Cynnar ynghylch Pwll Nofio a Neuadd Goffa Aberteifi pdf eicon PDF 233 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cytuno:

1.     Mewn egwyddor i'r ased a elwir yn Bwll Nofio a Neuadd Goffa Aberteifi gael ei drosglwyddo i berchnogaeth y Cyngor yn unol ag Adrannau 24(1) a (2)(c) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

2.     Bod y trosglwyddiad ased yn cael ei wneud i alluogi'r Cyngor i ddarparu gwasanaethau o safon sy'n cyfrannu at lesiant trigolion yn Ne’r sir.

3.     I gydnabod a nodi'r Materion Ariannol sydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad Eithriedig.

4.     I awdurdodi Swyddogion i weithio gydag Ymddiriedolwyr Pwll Nofio a Neuadd Goffa Aberteifi i fwrw ymlaen i drosglwyddo ased Pwll Nofio a Neuadd Goffa Aberteifi i berchnogaeth y Cyngor cyn gynted ag y bo modd, gan sicrhau bod yr holl gytundebau cyfreithiol angenrheidiol yn cael eu cwblhau er mwyn cyflawni hyn.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Diogelu lleoliad a chyfleuster sy'n strategol bwysig i ddarparu gwasanaethau iechyd a lles yn Ne'r sir.

186.

EITEM EITHRIEDIG

Nid yw’r adroddiad (Atodiad 1) ar yr eitem uchod ar gael i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)(Amrywio)(Cymru) 2007.

Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, yn unol ag Adran 100B(2) y Ddeddf ac ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd a’r wasg eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno.

 

Wrth ddelio â’r eitem hyn, gofynnir i’r Aelodau ystyried a ydynt am gau’r cyhoedd a’r wasg allan o’r Cyfarfod.

Cofnodion:

Nid yw'r adroddiad sy'n ymwneud ag eitem 185 ar yr agenda, Atodiad 1, i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 5 (Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno, yn unol ag Adran 100B(2) o’r Ddeddf.

 

Gofynnwyd i'r Aelodau wrth ddelio â'r eitem, ystyried a ddylai'r eitem barhau i fod wedi'i heithrio ac a ddylid gwahardd y cyhoedd a’r wasg o'r Cyfarfod.

 

PENDERFYNIAD:

Ar ôl ystyried prawf budd y cyhoedd, y dylai'r eitem barhau i fod wedi'i heithrio.

Peidio gwahardd y cyhoedd a’r wasg o’r cyfarfod.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Ni thrafodwyd y ddogfen yn gyhoeddus.

 

187.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cymorth Cynnar ynghylch Ail-ddynodi'r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth yng Ngheredigion gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.   Cymeradwyo:

    OPSIWN 1: Ail-ddynodi'r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol i gynnwys:

a.     Yr eiddo hynny lle mae 3 neu fwy o bobl yn byw ynddynt, gan ffurfio tair aelwyd unigol neu fwy yn y wardiau penodedig canlynol yn unig: Aberystwyth - Gogledd, Canolog, Penparcau, Rheidol a Bronglais; Llanbadarn Fawr – Padarn a Sulien, Y Faenor

 

A

 

b.     Trwyddedu pob eiddo sy'n bodloni'r meini prawf canlynol ar sail sirol gyfan:

       yr eiddo hynny lle mae 5 person neu fwy yn byw ynddynt, gan ffurfio dwy aelwyd unigol neu fwy, waeth beth yw nifer y lloriau, AC

       Tai Amlfeddiannaeth Adran 257 (Deddf Tai 2004) a grëwyd drwy newid adeiladau yn fflatiau lle nad oedd y trawsnewidiadau yn bodloni safonau Rheoliadau Adeiladu 1991 ac nad ydynt wedi cael eu gwella i'r safonau perthnasol wedi hynny.

2.     Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

I gydymffurfio â gofynion deddfwriaethol.

188.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cymorth Cynnar ynghylch Asesiad o'r Farchnad Dai Leol gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 4 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

i.       Cymeradwyo’r Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (Atodiad 1) yn dilyn diwedd y cyfnod ymgynghori a’i fabwysiadu.

ii.      Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Bodloni'r gofyniad statudol a'r dyddiad cau a bennwyd.

189.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ynghylch Cynllun Cydraddoldeb Strategol Ceredigion 2024-28 pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo Cynllun Cydraddoldeb Strategol Ceredigion 2024-28 (Atodiad 1).

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Bydd hyn yn datblygu nod y Cyngor i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon a meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rheini nad ydynt yng Ngheredigion.

190.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu ynghylch Trefniadau diwygiedig Tâl y Crwner 2024/2025 pdf eicon PDF 122 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1)    Cytuno’r raddfa gyflog ar gyfer 2024-2025 (1/4/24-31/3/25) fel a ganlyn:

 

Uwch Grwner rhan-amser:

i)        Cyflog Cadw o £22,200 y/f tuag at gadw gwasanaeth/tu allan i oriau arferol o 1 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2025.

ii)       Defnyddio’r gyfradd ddyddiol £489 i dalu cyflog blynyddol o £12,225 i’r Crwner (@25 niwrnod y flwyddyn gan gynnwys diwrnodau hyfforddiant).

 

Cyfanswm swm blynyddol o £34,425 y flwyddyn (ynghyd ag argostau).

 

iii)     Costau swyddfa/lwfans cefnogi busnes - £5,000 y/f.

 

2)    Cytuno’r raddfa gyflog ar gyfer 2024-2025 ar gyfer y Crwner Cynorthwyol:

       diwrnod llawn: £417;

       hanner diwrnod: £209.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

I gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol a Chylchlythyron y JNC, lleihau heriau a diogelu’r pwrs cyhoeddus.

191.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch y Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru 2024-25 pdf eicon PDF 309 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Mabwysiadu Ardrethi Annomestig - Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru 2024-25 fel Rhyddhad Ardrethi Annomestig Dewisol o dan Adran 47 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Cefnogi busnesau lleol drwy ddefnyddio arian grant sydd ar gael.

192.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch y Polisi Sicrwydd a Bondiau Corfforaethol pdf eicon PDF 472 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

</AI18>Cymeradwyo:

a)    Ychwanegu AM Best fel asiantaeth sgôr credyd i'r polisi

b)    Dirprwyo pwerau i'r Swyddog Adran 151 i;

  1. wneud mân newidiadau i’r Polisi Sicrwydd a Bondiau Corfforaethol
  2. dderbyn ‘gwarantwr’ arfaethedig lle na ellir caffael un gyda sgôr credyd addas gydag un o'r pedair asiantaeth statws credyd.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Darparu hyblygrwydd ychwanegol i gontractwyr/datblygwyr sy'n chwilio am ddarparwr 'bondiau' heb adael y Cyngor yn agored i unrhyw risg ychwanegol.

193.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Cyllideb Refeniw Reoladwy23/24 - Perfformiad Ariannol - Chwarter 3 pdf eicon PDF 444 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

194.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Adroddiad Monitro'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Chwarter 3 pdf eicon PDF 213 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

195.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Adroddiad Perfformiad Chwarterol Rheoli'r Trysorlys 2023/24 pdf eicon PDF 335 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

196.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cymorth Cynnar ynghylch Adroddiad Blynyddol Uned Gofalwyr Ceredigion 2022-2023 gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 5 MB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.

197.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ynghylch Adroddiad Rheoli Perfformiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 2 2023-2024 gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 643 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.

198.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ynghylch Adroddiad Diogelu Grwp Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS - Chwarter 2 2023/24 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

199.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet

Cofnodion:

Dim.