Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Neris Morgans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: ii.
Ymddiheurodd
y Cynghorydd Rhodri Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau
Corfforaethol am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod oherwydd
ymrwymiadau eraill y Cyngor. iii.
Ymddiheurodd
James Starbuck, Cyfarwyddwr Corfforaethol am nad oedd yn gallu bod yn bresennol
yn y cyfarfod. |
|
Materion Personol Cofnodion: Cydymdeimlwyd â theulu Gwilym Tudur, sylfaenydd Siop y Pethe, Aberystwyth a
fu farw yn ddiweddar. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion: ii.
Datganodd
y Cynghorydd Alun Williams fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 167. iii.
Datganodd
y Cynghorydd Endaf Edwards fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 170 ac mewn
materion yn ymwneud â chyflogeion y Cyngor. |
|
Cofnodion: Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2024
yn gywir. Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion. |
|
Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1.
Nodi cynnwys yr adroddiad a'r adborth gan y Pwyllgor
Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus. 2.
Cymeradwyo Polisi Rheoli Harbyrau
Ceredigion (Atodiad A), yn amodol ar y newidiadau canlynol, fel y nodir yn yr
adroddiad: Tudalen 7: “6.2 Nid yw’r
ddau fath o angorfeydd Masnachol, ar ôl eu dyrannu, yn drosglwyddadwy i drydydd
parti heb gydsyniad ysgrifenedig y Cyngor ymlaen llaw. Bydd unrhyw
drosglwyddiadau yn unol â 18.2 y polisi hwn.” Tudalen 14: “Trosglwyddo
Angorfeydd a Chyfleusterau 18.1 Nid oes
dim hawliau trosglwyddo mewn perthynas ag Angorfeydd neu gyfleusterau Hamdden o
fewn Harbyrau a reolir gan Geredigion. 18.2 Mae
trosglwyddiadau sy’n ymwneud ag angorfeydd Masnachol yn amodol ar gydsyniad
ysgrifenedig y Cyngor ymlaen llaw, ni ddylid gwrthod cydsyniad o'r fath yn
afresymol. Bydd unrhyw gydsyniad a roddir yn amodol ar y cwch a neilltuwyd ar
hyn o bryd i'r angorfa yn aros ar yr angorfa ar ôl cwblhau'r trosglwyddiad. Lle rhoddir
cydsyniad, bydd y Cyngor yn codi ffi trosglwyddo angorfa ar yr ymgeisydd sy’n
cymryd yr angorfa (gweler ‘Ffioedd a Chostau’ cyfredol). Yn ogystal â’r ffi
trosglwyddo, bydd y ffioedd angori llawn sy’n berthnasol i’r cwch am y tymor
hefyd yn berthnasol (gweler ‘Ffioedd a Chostau’ cyfredol). Dim ond ar ôl cael
taliad llawn o'r ffioedd hyn y bydd y trosglwyddiad yn cael ei gwblhau.” Y rheswm dros y
penderfyniad: Mabwysiadu a
gweithredu Polisi Rheoli Harbyrau sy’n cefnogi ac yn
hwyluso’r gwaith o reoli’r harbyrau yn deg, yn gyson
ac yn dryloyw er budd holl ddefnyddwyr yr harbyrau. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cytuno i
ddyfarnu'r contract i'r Tendr Mwyaf Manteisiol yn Economaidd, yn amodol ar
gyfnod segur statudol o 10 diwrnod. Y rheswm dros y
penderfyniad: Sicrhau bod
gwastraff gweddilliol y sir yn cael ei waredu yn barhaus yn unol â
rhwymedigaethau statudol y Cyngor. |
|
EITEM EITHRIEDIG Nid yw’r adroddiadau (Atodiadau A a B) ar yr eitem uchod ar gael i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)(Amrywio)(Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, yn unol ag Adran 100B(2) y Ddeddf ac ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd a’r wasg eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno. Wrth ddelio â’r eitem hyn, gofynnir i’r Aelodau ystyried a ydynt am gau’r cyhoedd a’r wasg allan o’r Cyfarfod. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid yw'r adroddiad sy'n ymwneud ag eitem 160 ar yr agenda, Atodiad A a B, i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth
eithriedig fel y'i diffinnir ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
at Wybodaeth) 5 (Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried
yr eitem hon yn breifat, ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd eu
heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno, yn unol ag Adran 100B(2) o’r
Ddeddf. Gofynnwyd i'r Aelodau, wrth ymdrin â'r eitem, ystyried a ddylid gwahardd y
cyhoedd a’r wasg o'r Cyfarfod. PENDERFYNIAD: Y dylai'r eitem barhau i fod yn eithriedig. Peidio gwahardd y cyhoedd a’r wasg o’r cyfarfod. Y rheswm dros y penderfyniad: Ni thrafodwyd y ddogfen yn gyhoeddus. |
|
Nodi’r Adborth gan bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Gyllideb PDF 168 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Nodi’r Adborth
gan bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Gyllideb. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1.
Nodi mai Ardoll Tân 24/25 cymeradwy Awdurdod Tân
Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion yw £5.440m, sef
cynnydd o £584k (12%). Ar ôl darparu ar gyfer cyllid costau Pensiwn tybiedig
gan Lywodraeth Cymru, mae hyn yn cyfateb i gynnydd o 1.1% yn Nhreth y Cyngor i
drigolion Ceredigion. 2.
Cymeradwyo'r rhestr o Ffioedd a Chostau i fod yn
effeithiol o 01/04/24 fel yr amlinellir yn:
a) Atodiad 1
b) Atodiad 2
c) Atodiad 3
d) Atodiad 4 3.
I argymell i'r Cyngor Llawn, mewn perthynas â Phremiymau
Treth y Cyngor o 01/04/24:
a) 01/04/24, dylai
25% o’r holl arian a godir o bremiymau Treth y Cyngor ar Ail Gartrefi ac Eiddo
Gwag Hirdymor (net o ad-daliadau / costau Treth y Cyngor) gael ei glustnodi a’i
ddefnyddio i gefnogi’r Cynllun Tai Cymunedol, ar yr amod drwy’r amser na fydd
cyfanswm y cyllid a ddelir yn y Cynllun Tai Cymunedol yn fwy na £2.0m ac y bydd
unrhyw gyllid y tu hwnt i'r lefel hon mewn unrhyw flwyddyn benodol yn cael ei
ddefnyddio i gefnogi sefyllfa'r gyllideb gyffredinol.
b) O 01/04/24,
bydd 75% o’r holl arian a godir o bremiymau Treth y Cyngor ar Ail Gartrefi ac
Eiddo Gwag Hirdymor (net o ad-daliadau / costau Treth y Cyngor) yn cael ei gadw
a’i ddefnyddio i gefnogi sefyllfa’r gyllideb gyffredinol, er mwyn lleihau baich
Treth y Cyngor ar drigolion Ceredigion. 4.
I argymell i'r Cyngor Llawn, ar gyfer y Gyllideb 24/25:
a) Gofyniad y
Gyllideb ar gyfer 24/25 yw £193.572m, sy’n cynnwys yr holl gynigion ar gyfer
Lleihau’r Gyllideb a amlinellir yn Atodiad 5, ond gan eithrio Eitem 63 ynghylch
y Gwasanaeth Casglu Cynhyrchion Hylendid Amsugnol.
b) Mae lefel Treth
y Cyngor arfaethedig 24/25 at ddibenion y Cyngor Sir yn gynnydd o 11.10% (sef
1.1% mewn perthynas â chynnydd Ardoll yr Awdurdod Tân a 10.0% ar gyfer holl
Wasanaethau y Cyngor)
c) Byddai hyn yn
cyfateb i gynnydd Band D o £172.45 (sef £14.37 y mis / £3.32 yr wythnos). 5.
Cymeradwyo mai’r terfyn i’w gyflwyno ar gyfer gwastraff
gweddilliol o 01/04/24 ymlaen fyddai 3 bag du (dim mwy na 60 litr yr un) fesul
aelwyd breswyl fesul casgliad bob 3 wythnos. Y rheswm dros y
penderfyniad: Galluogi’r
gwaith o baratoi Cyllideb 2024/25 i barhau, fel y gellir paratoi papurau’r
Gyllideb a chyfrifiadau Treth y Cyngor ar gyfer cyfarfod y Cyngor Llawn ar
29/02/24. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1.
Nodi cynnwys yr adroddiad. 2.
I argymell i'r Cyngor Llawn:
a) cymeradwyo
Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer Benthyca a Buddsoddiadau ar gyfer
2024/25;
b) cymeradwyo
Polisi y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw ar gyfer 2024/25; a
c) bod y Cyngor yn
dirprwyo awdurdod i'r swyddog Adran 151, mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet
ar gyfer Cyllid a Chaffael, i ddiwygio Strategaeth Rheoli’r Trysorlys, a’r
Rhaglen Fuddsoddi, yn ystod y flwyddyn. Y rheswm dros y
penderfyniad: Pennu Strategaeth Rheoli Trysorlys a Pholisi
Isafswm Refeniw ar gyfer 2024/25. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1. Nodi cynnwys yr
adroddiad ymgynghori. 2. Cymeradwyo
cyhoeddi’r hysbysiad statudol. Y rheswm dros y
penderfyniad: Er mwyn
cymeradwyo’r ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad a chyhoeddi’r hysbysiad statudol
yn unol â gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion – 011/2018. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1. Nodi cynnwys yr
adroddiad ymgynghori. 2. Cymeradwyo
cyhoeddi’r hysbysiad statudol. Y rheswm dros y
penderfyniad: Er mwyn
cymeradwyo’r ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad a chyhoeddi’r hysbysiad statudol
yn unol â gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion – 011/2018. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1. Nodi cynnwys yr
adroddiad ymgynghori. 2. Cymeradwyo
cyhoeddi’r hysbysiad statudol. Y rheswm dros y
penderfyniad: Er mwyn
cymeradwyo’r ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad a chyhoeddi’r hysbysiad statudol
yn unol â gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion – 011/2018. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1. Nodi cynnwys yr
adroddiad ymgynghori. 2. Cymeradwyo
cyhoeddi’r hysbysiad statudol. Y rheswm dros y
penderfyniad: Er mwyn
cymeradwyo’r ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad a chyhoeddi’r hysbysiad statudol
yn unol â gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion – 011/2018. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cymeradwyo'r
enw Ysgol Dyffryn Aeron fel yr enw ar gyfer yr ysgol ardal newydd. Y
rheswm dros y penderfyniad: Cymeradwyo'r enw swyddogol. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cadarnhau enwebu’r sawl a enwir yn yr adroddiad yn
gynrychiolwyr o’r Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol yr Ysgolion perthnasol. Y rheswm dros y
penderfyniad: Enwebu cynrychiolwyr o’r Awdurdod Lleol ar Gyrff
Llywodraethol. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cymeradwyo’r Polisi, Strategaeth a Fframwaith
Rheoli Risg drafft. Y rheswm dros y
penderfyniad: Sicrhau bod y
Polisi, Strategaeth a Fframwaith Rheoli Risg yn gyfredol ac yn addas i'r diben. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet Cofnodion: Dim. |
|
Agenda Atodol - Cyllid a Chaffael - Asesiad Effaith Integredig ar gyfer Eitem 12 PDF 345 KB Cofnodion: Ystyriwyd yr eitem o dan eitem 163. |